Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/12/2019
Effective from: 04/12/2019
Penderfyniad:
13.1 FPL/2018/42 - Cais llawn i godi 8 o anheddau marchnad a 2 o anheddau fforddiadwy, creu mynedfa newydd a ffordd i gerbydau ynghyd â gwaith thirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â chytundeb Adran 106.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/12/2019
Effective from: 04/12/2019
Penderfyniad:
12.1 DEM/2019/2 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.2 DEM/2019/3 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Bryn Glas Close, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.3 DEM/2019/4 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai (tri bloc ar wahân) ar dir yn Ffordd Corn Hir a Pennant, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.4 DEM/2019/5 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Ffordd Lligwy, Moelfre, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.5 DEM/2019/6 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Craig y Don, Amlwch.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.6 DEM/2019/7 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Hampton Way, Biwmares.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.7 DEM/2019/8 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Maes Llwyn, Amlwch.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.8 DEM/2019/9 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Maes Hyfryd, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.9 DEM/2019/10 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn New Street, Biwmares.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.10 DEM/2019/11 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Pencraig, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.11 DEM/2019/12 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Tan yr Efail, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.12 DEM/2019/13 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Thomas Close, Biwmares.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.13 DEM/2019/15 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Maes yr Haf, Caergybi.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.14 DEM/2019/16 - Cais i bennu os oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer dymchwel y modurdai ar dir yn Pencraig Mansion, Llangefni.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais am y rhesymau a roddwyd.
12.15 FPL/2019/289 – Cais llawn ar gyfer codi ffens 2.4 metr o uchder am gyfnod dros dro yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.16 FPL/2019/234 - Cais llawn ar gyfer diwygio'r mynedfa bresennol i gerbydau (wedi ei ganiatáu gynt dan ganiatâd cynllunio rhif 15C48K/FR) ynghyd ag estyniad i'r cwrtil (ôl weithredol) yn Cae Eithin, Malltraeth.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol i sicrhau mai dim ond un mynedfa fydd yn cael ei defnyddio.
12.17 TOP/2019/17 - Cais i wneud gwaith ar 1 goeden a thorri pump o goed sydd wedi eu gwarchod gan Orchymyn Diogelu Coed yng Nghronfa Ddŵr Porthaethwy.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddog wedi i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben.
12.18 FPL/2019/204 – Cais llawn ar gyfer codi 27 o dai fforddiadwy ynghyd â chreu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig yn Ponc y Rhedyn, Benllech.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â chytundeb Adran 106 mewn perthynas â’r gofynion o ran tai fforddiadwy a llecynnau agored.
12.19 FPL/2019/249 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr hen dŷ tafarn, codi 14 o anheddau gyda 2 ohonynt yn rhai fforddiadwy, altro’r mynedfeydd presennol, creu ffordd fynediad fewnol, llefydd parcio cysylltiedig, gosod
tanc LPG ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled yn Y Bedol, Tyn Rhos, Penysarn.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/12/2019
Effective from: 04/12/2019
Penderfyniad:
11.1 FPL/2019/250 - Cais llawn ar gyfer cael gwared ag adeilad y swyddfa bresennol ynghyd â chodi swyddfa ac adeilad lles newydd yn GD Jones Fuel Oil, Stad Ddiwydiannol Gaerwen, Gaerwen.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/12/2019
Effective from: 04/12/2019
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

7.1 OP/2019/5 - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr adeiladau presennol ynghyd â chodi 52 annedd fforddiadwy gyda datblygiadau cysylltiedig ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ar dir ger Huws Grey, Stryd y Bont, Llangefni
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac i ddirprwyo i Swyddogion yr hawl i ryddhau’r penderfyniad unwaith bod mecanwaith (cytundeb cyfreithiol/taliadau/cyfuniad o’r ddau) mewn lle i sicrhau y bydd modd cael y taliadau sy’n ofynnol dan ymrwymiad cynllunio cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio.
7.2 FPL/2019/226 - Cais llawn ar gyfer codi 3 chaban gwyliau, creu trac mynediad newydd, diwygio mynedfa bresennol ynghyd â gosod gwaith paced ar gyfer trin carthffosiaeth ar dir yn Fronwen, Niwbwrch.
PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/12/2019
Effective from: 04/12/2019
Penderfyniad:
Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu trafod yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/12/2019
Effective from: 04/12/2019
Penderfyniad:
Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.8.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/12/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/12/2019
Effective from: 04/12/2019
Penderfyniad:
Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2019
Effective from: 25/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau’n derfynol y cynnig i ffederaleiddio Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2019
Effective from: 25/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi’r cynnig o £491,330 o arian cyfalaf ar gyfer 2019/20.
• Cymeradwyo prosiectau ar y tir ger Peboc a hen Ysgol y Parc fel cynlluniau blaenoriaeth.
• Os bydd rhaid defnyddio cyfran neu’r cyfan o’r grant fel rhan o’r cyllid ar gyfer dymchwel hen Ysgol y Parc a Llyfrgell Caergybi, yna gellir defnyddio swm cyfatebol o dderbyniad cyfalaf yn 2020/21 i gwblhau’r gwaith o ail-ddatblygu’r tir tu cefn i Peboc (os yw’r cynllun hwnnw wedi cychwyn yn 2019/20).
• Dirprwyo’r awdurdod i’r Dirprwy Brif Weithredwr a’r Deilydd Portffolio perthnasol i ddatblygu’r ddau brosiect i’r cyfnod gweithredu a chytuno i gyflawni cynlluniau cyfalaf cymwys eraill os na ddefnyddir yr arian i gyd ar y ddau brosiect blaenoriaeth.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2019
Effective from: 25/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fydd yn cael ei ddefnyddio gan Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2020/21, sef 30,927.17. (Rhan E6 o Atodiad A i’r adroddiad)
• Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o’r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2020/21 (Rhan E5 o Atodiad A i’r adroddiad)
• Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2020/21 fydd 31,532.53, ac fel a nodir yn nhabl 3 yr adroddiad am y rhannau hynny o’r ardal a restrir ynddo.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2019
Effective from: 25/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol -
• Y sefyllfa a nodir o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2019/20.
• Yr alldro rhagdybiedig ar gyfer 2019/20.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2019
Effective from: 25/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
• Nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf yn Chwarter 2 2019/20.
• Cymeradwyo dyrannu £75,000 yn ychwanegol tuag at gynllun cyfalaf Neuadd y Farchnad yn unol â pharagraff 3.1.1 yr adroddiad.
• Cymeradwyo £90,000 o fenthyca digefnogaeth i uwchraddio offer ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur yn unol â pharagraff 3.3.1 yr adroddiad.
• Cymeradwyo £20,000 o gyllid cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun Lliniaru Llifogydd ym Mhentraeth yn unol â pharagraff 3.1.2 yr adroddiad.
• Cymeradwyo £8,000 o gyllideb cyfatebol ychwanegol ar gyfer cynllun cae 3G yng Nghanolfan Hamdden David Hughes yn unol â pharagraff 3.3.2 yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2019
Effective from: 25/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2019/20.
• Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.
• Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH.
• Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2019/20 yn Atodiad D.
• Nodi’r modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2019/20 yn Atodiadau DD, E ac F.
• Cymeradwyo’r defnydd o Gronfa Wrth Gefn Pensiynau Ysgolion i gyllido’r tâl gwyliau sy’n ddyledus i staff llanw ysgolion ac sy’n dyddio’n ôl i Ragfyr, 2015 ar gost amcangyfrifiedig o £94k ar hyn o bryd ynghyd ag argostau, sef cyfanswm oddeutu £110k yn fras.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2019
Effective from: 25/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Derbyn y Cerdyn Sgorio am Chwarter 2 2019/20 gan nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol fel y’u crynhoir yn yr adroddiad, a
• Chefnogi’r mesurau lliniaru fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2019
Effective from: 25/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Ragfyr, 2019 hyd at Gorffennaf, 2020 fel y’i chyflwynwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/11/2019 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 25/11/2019
Effective from: 25/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Hydref, 2019 fel rhai cywir.