Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.

Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.

Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

03/03/2021 - Materion Eraill ref: 2280    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

Nid ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.


03/03/2021 - Gweddill y Ceisiadau ref: 2279    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

 

2.1  FPL/2021/1 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad rhestredig i fod yn 4 fflat llety cymdeithasol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau ym Mhlas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig, ar ôl cytuno ar fesurau lliniaru derbyniol i roi sylw i wrthwynebiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

12.2  LBC/2021/1 - Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer trosi adeilad rhestredig sydd wedi’i adael i fod yn 4 fflat llety cymdeithasol, dymchwel rhan o’r adeilad a chodi estyniad yn ei le ynghyd â gwaith allanol a mewnol ym Mhlas Alltran. Ffordd Turkey Shore, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cyfeirio’r cais at Lywodraeth Cymru am Ganiatâd Adeilad Rhestredig.

 

12.3  FPL/2020/164 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allanol i lety gwyliau ynghyd â gwaith addasu ac ehangu ym Mwthyn Penmon, Biwmares

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol am y rhesymau a roddwyd.

 


03/03/2021 - Development Proposals Submitted by Councillors and Officers ref: 2278    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

11.1  FPL/2021/7 – Cais llawn ar gyfer cadw a chwblhau’r sied amaethyddol ynghyd â gosod ffos gerrig ar dir yn Prysan Fawr, Bodedern

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle ar gais yr aelod lleol am y rhesymau a roddwyd.

 


03/03/2021 - Departure Applications ref: 2290    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 


03/03/2021 - Affordable Housing Applications ref: 2277    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 


03/03/2021 - Ceisiadau Economaidd ref: 2276    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

Nid ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 


03/03/2021 - Applications Arising ref: 2275    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

7.1  FPL/2020/195 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu gan gynnwys ardal wedi'i decio, gwaith cysylltiedig a mesurau lliniaru yn Sea Shanty Café, Lon St. Ffraid, Trearddur

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais ac ar ôl i’r cyfnod ymgynghori statudol ddod i ben, awdurdodi’r Swyddog i weithredu ar y dystysgrif berchnogaeth ddiwygiedig, Asesiad Canlyniadau Llifogydd atodol a Datganiad ar yr Iaith Gymraeg.

 

7.2  FPL/2019/217 – Cais llawn ar gyfer codi 17 o anheddau fforddiadwy, adeiladu dwy fynedfa newydd ar gyfer cerbydau a 3 mynedfa amaethyddol newydd, gosod gorsaf bwmpio ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Craig y Don a Cherry Tree Close, Benllech

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a gynhwysir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3  VAR/2020/66 – Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (10) (Sgrin gwydr aneglur) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2019/134 (Codi 8 fflat) yn yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniad blaenorol i wrthod y cais.

 


03/03/2021 - Applications that will be Deferred ref: 2274    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

 6.1  FPL/2020/247 – Cais llawn ar gyfer codi 9 annedd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Stad Y Bryn, Llanfaethlu

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn yr adroddiad.


03/03/2021 - Siarad Cyhoeddus ref: 2273    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

Roedd siaradwyr cyhoeddus yn bresennol mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.3.

 


03/03/2021 - Ymweliad Safleoedd ref: 2272    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

Nid ystyriwyd unrhyw ymweliadau safle yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 


03/03/2021 - Cofnodion ref: 2270    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2021 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 03/03/2021

Effective from: 03/03/2021

Penderfyniad:

Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021 yn gofnod cywir ar ôl gwneud un cywiriad ar Dudalen 5 – cais 7.2 – ‘Cyfeiriodd y Cynghorydd K P Hughes ....... Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gan y Cyngor hwn ac ni fydd cyfleoedd i adolygu'r cynllun yn bosibl am nifer o flynyddoedd ...’:-

 

·           Dileu’r geiriau ‘......... nifer o flynyddoedd’

·           Cynnwys ‘..... cyn belled â gwneud newidiadau i’r cynllun, nid ydym wedi cyrraedd yr amser i alluogi ni i wneud hynny’.


01/03/2021 - Fees and Charges 2021/22 ref: 2286    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2021/22 fel a amlinellwyd yn y llyfryn a gyflwynwyd.


01/03/2021 - Community Based Non-residential Social Care Services – 2021/2022 Fees and Charges ref: 2284    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

 

·         Taliadau am wasanaethau Teleofal fel y nodir yn Nhabl A yr adroddiad

Haen 1 bydd pawb yn talu £49.41.

Haen 2 a 3 bydd pawb yn talu £98.42

 

·         Taliadau am wasanaethau Teleofal fel y nodir yn Nhabl B yr adroddiad

Gwasanaeth a Chynnal a Chadw £117.54

Gwasanaeth yn Unig £75.97

Costau Gosod Untro £47.00

 

·         Cyfradd taliadau uniongyrchol ar £11.89 yr awr

 

·         Parhau i godi tâl o £10 am weinyddu ceisiadau Bathodyn Glas ac am fathodynau newydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

·        Cynyddu’r ffi am brynu gwasanaethau gofal dydd i mewn gan gartrefi annibynnol 3% i £35.21

 


01/03/2021 - Final Proposed Capital Budget 2021/22 ref: 2289    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2021/22 –   

                                                                                       £

Cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2020/21              4.000m

Adnewyddu/Amnewid Asedau                               4.137m

Prosiectau Cyfalaf Untro

(Prosiectau Blaenoriaeth)                                       0.780m

 

 Prosiectau Cyfalaf Untro (Yn amodol bod

 cyllid ar Gael)                                                           0.325m                                          

 

Ysgolion 21ain Ganrif                                               6.600m

Cyfrif Refeniw Tai                                                 20.313m

 

Cyfanswm Rhaglen gyfalaf a argymhellir

ar gyfer 2021/22                                                    36.155m

 

Cyllidir gan –

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                                       2.163m

Benthyca â Chymorth Cyffredinol                        2.158m

Balansau Cyffredinol                                              0.291m

Balansau Cyffredinol (Os oes cyllid digonol

ar gael)                                                                    0.325m

Benthyca â Chymorth

Ysgolion 21ain Ganrif                                              2.897m

Benthyca Di-gymorth

Ysgolion 21ain Ganrif                                              0.498m

CRT wrth gefn a Gwarged

yn y Flwyddyn                                                      15.639m

Benthyca Digefnogaeth CRT                                2.000m

 

Grantiau Allanol                                                     6.184m

Cynlluniau a ddygwyd

Ymlaen 2020/21            

(Grantiau Allanol)                                                  4.000m

 

Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2021/22                        36.155m


01/03/2021 - Capital Strategy and Capital Programme 2021/22 to 2023/24 ref: 2288    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau ac argymell bod y Cyngor llawn yn cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021/22 – 2023/24 fel y mae wedi’i dangos yn Atodiadau 1 a 2 o’r adroddiad.

 


01/03/2021 - Medium Term Financial Strategy and Budget 2021/22 ref: 2287    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd 

 

  • Nodi'r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb ac ystyried yr adborth a gafwyd, fel yr amlinellir yn Adran 3 o Atodiad 1 ac Atodiad 2.
  • Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor, fel y dangosir yn Adran 9 o Atodiad 1 ac Atodiad 3;
  • Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai'r Cyngor fod yn gweithio tuag at sicrhau balansau cyffredinol o £7.3m ar y lleiaf;
  • Nodi'r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir hwy yn Adran 7 o Atodiad 1;
  • Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir o £147.420m a chynnydd o 2.75% yn lefel y Dreth Gyngor yn sgil hynny (£35.91 - Band D) i gyfarfod o’r Cyngor llawn, gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, gan gynnwys praeseptau a godir gan Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 9 Mawrth 2021;
  • Gwneud addasiadau ar gyfer unrhyw wahaniaethau rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol trwy ddefnyddio'r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol sydd wedi'i chynnwys yng nghyllideb 2021/22, neu drwy wneud cyfraniad i / o arian wrth gefn cyffredinol y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys;
  • Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno'r cynigion terfynol i'r Cyngor;
  • Cytuno y gellir defnyddio'r gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol;
  • Gofyn i'r Cyngor awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o'r balansau cyffredinol os yw'r gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol wedi'i hymrwymo'n llawn yn ystod y flwyddyn;

·         Dirprwyo grym i'r Swyddog Adran 151 ryddhau cyllid o'r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol, sef hyd at £50k ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni cheir cymeradwyo unrhyw eitem sy'n fwy na £50k heb gytundeb y Pwyllgor Gwaith ymlaen llaw;

·         Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn aros ar 35% ac yn parhau i fod yn 100% ar gyfer cartrefi gwag.

 

(Bu’r Cynghorydd Ieuan Williams ddatgan diddordeb personol yn yr eitem ac ni gymerodd ran yn y bleidlais yn dilyn hynny).

 


01/03/2021 - Local Authority Homes for Older People – Setting the Standard Charge ref: 2285    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

  • Bod y ffi safonol ar gyfer cartrefi gofal yr Awdurdod am y flwyddyn 1 Ebrill, 2021 i 31 Mawrth, 2022 yn cael ei osod ar £786.50 yr wythnos.

·         Gohirio cynyddu’r ffioedd i gost llawn y gwasanaeth am flwyddyn arall, a   

·         Bod y ffi llawn a godir fesul preswylydd yr wythnos ar gyfer cartrefi’r Awdurdod yn cael ei osod ar £754.36 yr wythnos. 

 

 


01/03/2021 - Treasury Management Strategy Statement 2021/22 ref: 2283    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

  • Derbyn a nodi’r Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2021/22 heb nodi unrhyw sylwadau i’w hystyried gan y Cyngor llawn.

 

  • Nodi’r cynnydd yn y terfynau trafodion yn Atodiad 8 (fel y nodwyd ym mhwynt 4 o’r adroddiad).

 


01/03/2021 - Housing Revenue Account Budget Monitoring - Quarter 3, 2020/21 ref: 2282    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol –

 

  • Y sefyllfa a amlinellir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter 3 2020/21.

 

  • Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2020/21.

 


01/03/2021 - Capital Budget Monitoring - Quarter 3, 2020/21 ref: 2281    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2020/21 yn chwarter 3.

 


01/03/2021 - Revenue Budget Monitoring - Quarter 3, 2020/21 ref: 2271    Argymhellion wedi cymeradwyo

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Gwaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/03/2021

Effective from: 01/03/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

  • Nodi'r sefyllfa a ddisgrifir yn Atodiadau A a B yr adroddiad o ran perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2020/21.
  • Nodi'r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21 y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.
  • Nodi sefyllfa'r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.
  • Nodi'r sefyllfa mewn perthynas â'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2020/21 yn Atodiad D yr adroddiad.
  • Nodi monitro costau asiantaethau ac ymgynghori ar gyfer 2020/21 yn Atodiadau DD, E ac F yr adroddiad.