Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/06/2019
Effective from: 05/06/2019
Penderfyniad:
Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus mewn perthynas â chais 7.3.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/06/2019
Effective from: 05/06/2019
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Mai, 2019 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/06/2019
Effective from: 05/06/2019
Penderfyniad:
7.1 FPL/2019/13 - Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a storio peiriannau a bwyd ynghyd ag adeiladu trac mynediad llain caled ar dir ger Mast Teleffon, Nebo
PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r cais i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ac i roi’r awdurdod i’r Swyddog lunio amodau o ran tirlunio’r safle a’r fynedfa iddo.
7.2 FPL/20/2018/57 – Cais llawn ar gyfer codi 46 o anheddau ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Parc Tyddyn Bach, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol A106 yn cael ei lofnodi mewn perthynas â’r ddarpariaeth tai fforddiadwy, llecynnau agored a’r cynllun ar gyfer moch daear fel a nodir yn yr adroddiad.
7.3 FPL/2018/52 – Cais llawn ar gyfer codi ystafelloedd newid a thŷ clwb newydd ar gyfer Clwb Rygbi Caergybi yng Nghlwb Rygbi Caergybi, Ffordd Bryn y Môr, Y Fali.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod amod ychwanegol yn cael ei gynnwys, sef bod cynllun goleuadau’n cael ei gyflwyno a’i gymeradwyo cyn eu gosod ar y safle.
7.4 FPL/2-19/31 – Cais llawn ar gyfer addasu adeilad allanol yn uned ar gyfer ei gosod ar gyfer gwyliau ynghyd â gosod tanc septig newydd yn Tŷ Mawr, Pentraeth.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd tybir bod yr uned wyliau’n cydymffurfio gyda pholisïau cynllunio ac y daw â buddion economaidd.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i’r Swyddogion ddarparu adroddiadau ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatáu’r cais.
7.5 FPL/2019/51 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir yn lle storio agored ar gyfer cerrig sy’n gysylltiedig â prif ddefnydd yr ymgymerwyr angladdau ar dir gyferbyn â Preswylfa, Y Fali.
PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion gydag amodau ychwanegol mewn perthynas â thirlunio’r safle a bod deunydd mandyllog yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llif dŵr wyneb.
7.6 14C257 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a’r system ddraenio gyda’r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor.
PENDERFYNWYD ail-gadarnhau’r penderfyniad i ganiatáu’r cais yn croes i argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol A106 yn cael ei lofnodi mewn perthynas â’r meini prawf ‘cyswllt lleol’ y mae’r ymgeisydd yn cydymffurfio â nhw yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/06/2019
Effective from: 05/06/2019
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/06/2019
Effective from: 05/06/2019
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/06/2019
Effective from: 05/06/2019
Penderfyniad:
12.1 FPL/2019/40 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd siop golff (Dosbarth Defnydd A1) yn fwyty (Dosbarth Defnydd A3) ynghyd â gosod simnai allanol a ffliw echdynnu a chreu ardal decin y tu allan yng Nghlwb Golff Llangefni, Llangefni.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
12.2 FPL/2018/42 – Cais llawn ar gyfer codi 8 o anheddau pris marchnad a 2 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a lôn newydd ynghyd â gwaith tirlunio meddal a chaled ar dir ger Stad Llain Delyn, Gwalchmai.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.3 25C121H – Cais llawn ar gyfer codi 4 annedd a mynedfa i gerbydau yn Safle Maryfore, Llanerchymedd.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau sydd wedi’i cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod cytundeb cyfreithiol A106 yn cael ei lofnodi mewn perthynas â’r ddarpariaeth tai fforddiadwy a’r cyfraniad addysg.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/06/2019
Effective from: 05/06/2019
Penderfyniad:
11.1 HHP/2019/116 – Cais llawn ar gyfer codi garej yn Plas Newydd, Llanddeusant.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
11.2 HHP/2019/121 – Cais llawn ar gyfer altro ac ehangu Tŷ Rhos, Llanfaethlu.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddogion wedi i’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol ddod i ben.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/06/2019
Effective from: 05/06/2019
Penderfyniad:
10.1 FPL/2019/70 – Cais llawn ar gyfer codi annedd sy’n cynnwys balconi ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir ger Glyndaf, Rhoscefnhir.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
10.2 FPL/2019/43 – Cais llawn ar gyfer codi annedd a garej ynghyd â gosod tanc septig yn Tyn Lôn, Llangwyllog.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/06/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/06/2019
Effective from: 05/06/2019
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.