Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 25 Gorffennaf, 2018 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
Ni chafodd unrhyw fater arall ei ystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
12.1 12LPA1003F/FR/CC – Cais llawn ar gyfer gosod dwy bibell mewn cysylltiad â gwaith lliniaru llifogydd Biwmares yn y Lawnt Fowlio, Biwmares
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
12.2 42C6N – Cais llawn ar gyfer gosod 15 bwthyn gwyliau, creu mynedfa newydd i gerbydau a llwybr cerdded ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Nhan y Graig, Pentraeth
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.3 42C188E/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer codi uned llety gwyliau newydd yn 4 Tai Hirion, Rhoscefnir
Penderfynwyd ymweld â safle’r cais yn unol â chais yr aelod lleol am y rheswm a roddwyd.
12.4 45C489/LB – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith mewnol ac allanol i'r bythynnod yn Ynys Llanddwyn, Niwbwrch
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
Ni chafodd unrhyw fwriad datblygu ei ystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
10.1 21C38H/VAR – Cais dan Adran 73A i ddiwygio amodau (10) (dŵr budr a dŵr wyneb) a (11) (Cynllun Rheoli a Chynnal a Chadw) caniatâd cynllunio rhif 21C38G/VAR (codi pedair annedd) er mwyn cyflwyno gwybodaeth o fewn tri mis yn lle dau fis yn hen safle Canolfan Busnes Daniel, Llanddaniel
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
10.2 28C257D/VAR – Cais dan Adran 73 i ddiwygio amod (11) (cynlluniau a gymeradwywyd) caniatâd cynllunio rhif 28C257C (dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi annedd newydd) fel y gellir diwygio dyluniad yr annedd ynghyd â newid amodau (02) (system ffosydd cerrig dŵr wyneb), (09) (dim dŵr wyneb i ddraenio i’r briffordd) a (10) (Cynllun Rheoli Traffig) fel y gellir ystyried y wybodaeth fel rhan o'r cais yma ar dir ger Bryn Maelog, Llanfaelog
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
Ni chafodd unrhyw gais am dŷ fforddiadwy ei ystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
Ni chafodd unrhyw gais economaidd ei ystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
7.1 19C232E/FR – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi gwesty ac uned defnydd masnachol (Dosbarth A3) newydd yn ei le yn 55 Stryd y Farchnad, Caergybi
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad.
7.2 23C301C - Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol i anecs i’w ddefnyddio fel llety gofalwr ym Mhen y Garreg, Talwrn
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 36C193P/ENF - Cais llawn ar gyfer cadw dau gynhwysydd storio ynghyd â lleoli 10 cynhwysydd storio ychwanegol ar dir yng Nghefn Uchaf, Rhostrehwfa
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad a hefyd ar yr amod y câi amod (02) ei ddiwygio mewn perthynas â thirlunio yn y ffordd a amlinellir.
7.4 39LPA1046/CC – Cais llawn ar gyfer creu cyfleuster Parcio a Theithio ynghyd a chreu mynedfa newydd i gerbydau â datblygiad cysylltiedig ar dir ger Tŷ Tafarn y Four Crosses, Porthaethwy
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad ysgrifenedig y swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ac amodau ychwanegol mewn perthynas â gwaith lliniaru ecolegol a chynnal y pwll gwanhau, ac yn amodol hefyd ar gytundeb adran 106.
7.5 41LPA1041/FR/TR/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man aros dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Groesffordd Star, Star
Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog am y rheswm bod y bwriad yn mynd yn groes i Bolisi TAI 19, maen prawf 4 yng nghyswllt lefelau sŵn.
Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf fel bod y Swyddogion yn cael y cyfle i baratoi adroddiad am y rheswm dros wrthod y cais.
7.6 38C310F/EIA/ECON – Wylfa Newydd, Cemaes
Ystyriwyd y cais hwn gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yng nghyfarfod cynharach y Pwyllgor y bore hwnnw.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
6.1 17C181C – Cais llawn ar gyfer codi sied anifeiliaid, codi clamp silwair, gosod llecyn caled ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiedig, creu mynedfa gan gynnwys bwnd tirlunio yn Fferam Uchaf, Llansadwrn
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog am y rhesymau a roddwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau â safleoedd cynllunio a gynhaliwyd 22 Awst, 2018 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 05/09/2018
Effective from: 05/09/2018
Penderfyniad:
7.6 38C310F/EIA/ECON - Gwaith paratoi a chlirio’r safle ar gyfer datblygu gorsaf bŵer Wylfa Newydd, yn cynnwys y gweithgareddau canlynol: clirio'r safle (gan gynnwys clirio a rheoli llystyfiant, tynnu ffensys, waliau, giatiau, ffiniau caeau, strwythurau presennol (gan gynnwys adeiladau), prysg, coed a nodweddion eraill sydd ar y tir); gwaith sefydlu'r safle (gan gynnwys gosod croesfan newydd ar draws ffordd fynediad gorsaf bŵer bresennol Magnox, ffurfioli pwyntiau croesi presennol i gerbydau ar draws Ffordd Cemlyn, ffurfioli llwybrau i gerbydau, gosod ffens adeiladu o amgylch perimedr y safle, sefydlu ardaloedd gosod, compowndiau storio deunyddiau, compowndiau adeiladu ac adeiladau lles/swyddfa dros dro cysylltiedig, meysydd parcio, cyswllt llwybr troed cysylltiedig rhwng prif gompownd y safle a maes parcio cyn Glwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa, lle i storio tanwydd, ffensys diogelwch, a nodweddion diogelwch a draenio); gwaith gwella'r tir (gan gynnwys sefydlu compownd prosesau adfer a ffensys cysylltiedig, storio deunyddiau wedi'u prosesu/wedi'u trin, sefydlu traciau mynediad cysylltiedig, draenio, cloddio a thrin priddoedd sy'n debygol o fod yn
halogedig, a thrin a thynnu rhywogaethau estron goresgynnol); dargyfeirio a/neu gau Ffordd Cemlyn dros dro gyda mynediad at Dy Croes (Maes Parcio’r Pysgotwyr) yn cael ei reoli; gwaith cysylltiedig arall a chynllun adfer i ddychwelyd y safle i gyflwr derbyniol os na fydd datblygiad gorsaf bŵer Wylfa Newydd yn mynd rhagddo yn Wylfa Newydd, Cemaes
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar gwblhau Cytundeb A106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd).