Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2020
Effective from: 15/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2020 fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2020
Effective from: 15/06/2020
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2020
Effective from: 15/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2019/20 sy’n destun archwiliad, a
· Cymeradwyo cario £12.109m drosodd i 2020/21 ar gyfer tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cario drosodd i 2020/21. Y gyllideb gyfalaf diwygiedig ar gyfer 2020/21 yw £41.368m.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2020
Effective from: 15/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd Cam Cynigydd a Ffefrir y Weithdrefn Deialog Cystadleuol o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
· Cymeradwyo cyflawni, cyflenwi a pherfformio’r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru yn Hydref 2020 i hwyluso cyflawni ystod o wasanaethau seilwaith ynghyd â chyflawni cyfleusterau addysg a chymunedol.
· Cymeradwyo’r Cytundeb Partneriaeth Strategol a grynhowyd yn Atodiad 2 o’r adroddiad er mwyn gweithredu argymheliad 2 uchod, yn amodol ar argymhelliad 4 isod -
· Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro –
· I gymeradwyo telerau terfynol y Cytundeb Partneriaeth Strategol a gymeradwywyd yma a all fod yn anghenrheidiol am resymau sy’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gwblhau unrhyw faterion sydd heb eu penderfynu, a
· Chymeradwyo unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy’n ategol i’r Cytundeb Strategol yma.
· Nodi y caiff Cytundeb Partneriaeth Strategol ei gyflawni fel gweithred a’i ardystio yn unol ag Erthygl 14.5 y Cyfansoddiad.
· Cymeradwyo penodi y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn “Gynrychiolydd y Cyfranogwr” i eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol (BPS).
· Nodi wrth gytuno i’r Cytundeb Partneriaeth Strategol nad oes gofyn iddo benderfynu bwrw ymlaen ag unrhyw brosiect penodol, ac nad oes unrhyw beth o fewn y SPA sy’n ymrwymo’r Cyngor i wneud ymrwymiad o’r fath. Bydd unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â phrosiect penodol yn fater i’r Pwyllgor Gwaith benderfynu arno yn y dyfodol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2020
Effective from: 15/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Gorffennaf, 2020 hyd at Chwefror, 2021 gyda’r newid ychwanegol a gyflwynwyd yn y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2020
Effective from: 15/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am y flwyddyn ariannol 2019/20.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2020
Effective from: 15/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r Cynllun Busnes 2020-2050 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ac yn arbennig cyllideb y CRT ar gyfer 2020-21 sydd wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
· Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai am 2020/21 fel y nodir yn y Gyllideb Gyfalaf.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2020
Effective from: 15/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Derbyn yr adroddiad ac ymateb y Cyngor i’r argyfwng hyd yma.
· Cadarnhau y dylai’r UDA adrodd ar gynnydd ar faterion llacio’r datgloi a’r gwaith Adfer i’r ddau Fwrdd Rhaglen sefydlog. Yn ogystal, ymestyn aelodaeth y byrddau i gynnwys y 4 arweinydd grwp.
· Awdurdodi Swyddogion i baratoi diweddariad ar y paratoadau a’r gwaith Adfer i’w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/06/2020
Effective from: 15/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol amodol yr Awdurdod ar alldro 2019/20.
· Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir yn Atodiad C yr adroddiad.
· Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â sefyllfa’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.
· Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2019/20 yn Atodiad D yr adroddiad
· Nodi monitro costau asiantaeth ac ymgynghoriaeth ar gyfer 2019/20 yn Atodiadau DD, E ac F yr adroddiad.
· Rhyddhau £85k o’r balansau cyffredinol i sicrhau bod cyllid digonol ar gael i wneud y gwaith paentio ar Bier Biwmares.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 12/06/2020
Effective from: 12/06/2020
Penderfyniad: