Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 26/03/2021
Effective from: 26/03/2021
Penderfyniad:
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cefnogi a chymeradwyo y canlynol –
· Gwaith datblygu a gweithredu Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol newydd fel bod yr awdurdod yn gallu croesi’r bont i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.
· Mai'r Dirprwy Brif Weithredwr yw'r Uwch Berchennog Cyfrifol.
· Blaenoriaethu adnoddau ar ymrwymiadau'r awdurdodau lleol y cytunwyd arnynt yn y Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol (adran 3.2.1 yn yr adroddiad).
· Defnyddio cronfa gyfyngedig wrth gefn o £400,000 i greu capasiti/arbenigedd penodol i arwain y gwaith o ddatblygu a chydlynu camau cychwynnol datblygu a darparu.
· Recriwtio Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol i arwain ar ddatblygu a chyflawni.
· Sefydlu Gweithgor Newid Hinsawdd (gyda chynrychiolaeth wleidyddol) – grŵp cynghori, nad yw'n gwneud penderfyniadau, i wneud argymhellion a cheisiadau.
· Penodi 'Hyrwyddwr Newid Hinsawdd' ar y Pwyllgor Gwaith, a
· Bod y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn cael ei benodi’n Bencampwr Newid Hinsawdd y Pwyllgor Gwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2021 a 1 Mawrth 2021.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2019/20.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer
Chwarter 3, 2020/21 a nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu
rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i dderbyn y mesurau lliniaru a
amlinellir yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo argymhellion Cynlluniau Cyflawni a Chomisiynu Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2021-22, a thrwy hynny, sicrhau y byddir yn cydymffurfio â Thelerau ac Amodau'r Grant;
· Rhoi sêl bendith parthed y cyllid a ddyrennir i bob maes Gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl ac a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Grŵp Cynllunio Cymorth Tai aml-asiantaethol
· Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru, ar ran yr Aelod Portffolio Cyllid a’r Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, i gydnabod y cynnydd yn y dyraniad grant ac hefyd i bwysleisio pwysigrwydd derbyn sicrwydd hirdymor ynghylch parhad y grant ar y lefel yma fel y gellir gwneud darpariaeth briodol ar gyfer y bobl hynny y mae’r cyllid yn eu cynorthwyo ac er mwyn hwyluso gwaith cynllunio cyllidebol ac ariannol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn y dylid mabwysiadu'r Datganiad ar Bolisi Trwyddedu 2021-2026
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Symud ymlaen gyda gwerthiant cartref Ffridd gyda rhywfaint o dir a’r 42 erw sy’n weddill mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ac i farchnata’r safle i sicrhau’r incwm mwyaf posib ar y farchnad agored i’w werthu.
· Ymgymryd ag isafswm o 6 wythnos o hysbysiad yn y wasg leol am Hysbysiad Penderfyniad yn nodi penderfyniad y Cyngor i waredu’r safle, a
· Ail-fuddsoddi unrhyw dderbyniadau cyfalaf a dderbynnir o waredu'r safle yng nghyfleuster hamdden Plas Arthur.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru, fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru, fel sylfaen ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2021/22.
· Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd fel y nodwyd yn Nhabl 2 yn yr adroddiad.
· Yn yr un modd ag Awdurdodau eraill, rhoi’r awdurdod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Swyddogaeth Adnoddau ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Oedolion o’r cyllidebau cyfredol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 22/03/2021
Effective from: 22/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o fis Ebrill i fis Tachwedd 2021, fel y’i cyflwynwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 16/03/2021
Effective from: 15/03/2021
Penderfyniad:
Bu i Mr Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ddatgan diddordeb personol nad yw’n rhagfarnu o ran eitem 2 ar yr agenda gan fod ei dad-yng-nghyfraith yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Talwrn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/03/2021 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 15/03/2021
Effective from: 15/03/2021
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, sef i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn.