Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/11/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/11/2017
Effective from: 06/11/2017
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb am 2018/19 ar gyfer ei weithredu yn ystod y cyfnod o’r wythnos yn cychwyn 6 Tachwedd 2017 hyd at 29 Rhagfyr 2017.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/11/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/11/2017
Effective from: 06/11/2017
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Bod swm o £125k yn cael ei gynnwys yn y gyllideb derfynol i gyllido’r Tîm Ynys Ynni a bod y swm hwn yn cael ei gadw yn y gyllideb am y cyfnod y bydd angen y Tîm fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.
• Bod y grantiau sydd wedi eu hymgorffori yn y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) a'r cyllid ychwanegol ar gyfer cyfrifoldebau newydd yn cael eu dyrannu i'r cyllidebau priodol fel y caniatawyd ar gyfer hynny yn y gyllideb ddisymud yn unol â pharagraffau 5.4 a 5.5 yr adroddiad;
• Cadarnhau bod angen cyllideb wrth gefn o £600k i dalu unrhyw gostau tâl ychwanegol (fel y caniatawyd ar ei gyfer yn y gyllideb ddisymud). Adolygu gwerth y gronfa wrth gefn hon cyn penderfynu ar y cynigion ar gyfer y gyllideb derfynol (paragraff 6.1 yr adroddiad);
• Ymgynghori gyda’r cyhoedd ynghylch cynnydd ychwanegol o 1% yn y Dreth Gyngor uwchlaw’r cynnydd o 4% sydd wedi ei bennu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a bod y cyllid yn cael ei roi o’r neilltu i gyllido'r pwysau ychwanegol sydd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â pharagraff 6.5 yr adroddiad;
• Cymeradwyo’r gyllideb ddisymud o £132.337m ar gyfer 2018/19 ac y dylai hyn fod yn sail ar gyfer cyllideb refeniw 2018/19 (paragraff 7.1 yr adroddiad);
• Bod y swm a neilltuwyd i brosiectau tai drwy’r premiwm ar gyfer tai gwag ac ail gartrefi yn aros ar yr un lefel â 2017/18 yn unol â pharagraff 9.2 yr adroddiad);
• Y dylai'r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud digon o arbedion yn 2018/19 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb orfod defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac er mwyn sicrhau bod yr arbedion y mae angen eu gwneud yn 2019/20 yn gyraeddadwy (paragraff 9.6 yr adroddiad);
• Bod y Pwyllgor Gwaith yn ceisio barn y cyhoedd ar yr arbedion arfaethedig ac yn gofyn am awgrymiadau ar gyfer cynhyrchu incwm.
• Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn ei ymateb i’r datganiad ar y setliad refeniw dros dro yn gofyn am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y swm a fydd yn cael ei ddyrannu i Ynys Môn o’r £42m a’r £62m sydd wedi ei neilltuo ar gyfer Cymru gyfan ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol yn y drefn honno.
• Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi pryderon y Pwyllgor Gwaith ynghylch diffyg tryloywder mewn perthynas â’r gostyngiad mewn rhai grantiau cyfalaf a fydd yn cael sgil-effaith ar y gyllideb refeniw, e.e. gwastraff a thrafnidiaeth ynghyd â diffyg eglurder o ran y cynnydd yn y ddarpariaeth ar gyfer elfennau ysgol a gofal cymdeithasol y cyfeirir atynt uchod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 06/11/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 06/11/2017
Effective from: 06/11/2017
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cytuno bod Cyngor Sir Ynys Môn yn llofnodi Cynllun Rheoli a Chynllun Gweithredu Safleoedd Treftadaeth y Byd ar gyfer Cestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward 2018 i 2028 mewn perthynas â Chastell Biwmares.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
13.1 12C49P/DEL - Cais dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.
PENDERFYNWYD:-
· Darganfod yn y lle cyntaf a yw’r Cynghorydd Lewis Davies (cyn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac Aelod Lleol) yn fodlon cyfrannu at yr apêl ar ran y Cyngor ar y cyd â’r Cynghorydd John Griffiths.
· Y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cyfrannu at yr apêl ar y cyd â’r Cynghorydd John Griffiths os nad yw’r Cynghorydd Lewis Davies ar gael.
13.2 Gorchymyn Rheoli Traffig ar gyfer Niwbwrch a Phenlon.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig diwygiedig sydd yn yr adroddiad a mynd ati i gadarnhau’r Gorchymyn Rheoli Traffig a’r Cynllun yn seiliedig ar Adran 3.1 ac Atodiad 3 o’r Adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
12.1 46C168D/DA - Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys balconi ar dir yn Trearddur House, Bae Trearddur.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

10.1 28C472E Cais llawn ar gyfer codi 2 annedd (un yn cynnwys balconi) ar dir ger Cartref, Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais yn dilyn derbyn gohebiaeth a fydd angen sylw’r Swyddogion Cynllunio.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
8.1 19C842E/1/TR/ECON - Cais llawn ar gyfer codi gwesty newydd, isadeiledd cysylltiedig â gwaith gwrthglawdd ym Mharc Cybi, Caergybi.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar y trafodaethau pellach sydd i’w cynnal rhwng Swyddogion a’r Ymgeisydd mewn perthynas ag amodau ychwanegol i’w hatodi i’r cais.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
7.1 20C310B/EIA/RE - Cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer ac isadeiledd cysylltiedig a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddogion ar y sail nad ystyrir bod y cais yn ddigon eithriadol i ganiatáu gwyro oddi wrth bolisi ADN2 y Cynllun Datblygu.
(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).
7.2 38C180F/VAR - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 38C180D (cais amlinellol ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd) er mwyn caniatáu ymestyn yr amser i gyflwyno cais ar gyfer materion a gadwyd yn ôl yn Gilfach Glyd, Mynydd Mechell.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar sail bodolaeth y caniatâd cynllunio amlinellol presennol, cydnabyddiaeth bod y safle’n rhan o’r cyfrifiadau yn y Cynllun Datblygu a rhoi amod ar y caniatâd bod yn rhaid dechrau ar y gwaith o adeiladu’r annedd o fewn blwyddyn a bod y pethau hyn yn ystyriaethau digonol i wrthbwyso’r darpariaethau yn y Cynllun Datblygu.
(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am gymeradwyo’r cais).
7.3 45C482 - Cais llawn i godi tŵr monopol 20m o uchder ynghyd ag offer cysylltiedig ar dir i'r gogledd ddwyrain o Cae Gors, Niwbwrch.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.4 46C569A/ENF - Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw trac preifat ar dir ger Moryn, Bae Trearddur.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol mai dim ond yr ymgeisydd gaiff ddefnyddio’r llwybr preifat.
7.5 48C202A - Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir ger Penrallt Bach, Gwalchmai.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
Ni chafodd unrhyw geisiadau o’r fath eu hystyried yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
Cafwyd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1, 7.3, 7.4 and 7.5.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2017 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 01/11/2017
Effective from: 01/11/2017
Penderfyniad:
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref, 2017 fel rhai cywir.
YN CODI O’R COFNODION
10.4 28C373G - Cais llawn ar gyfer codi 3 o dai tref tri llawr sydd yn cynnwys balconi ac 3 annedd sydd yn cynnwys balconi ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir yn Ffordd yr Orsaf, Rhosneigr.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cytundeb Adran 106 i atal gweithrediad y caniatâd blaenorol a roddwyd ar y safle hwn bellach wedi’i ddelio ag ef drwy roddi amod ar y caniatâd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD mabwysiadu cofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2017.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Awdurdodi Swyddogion i gychwyn cyfnod ymgynghori cyhoeddus am gyfnod o 6 wythnos ynghylch Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar gyfer Gorsaf Niwcliar Newydd yn Wylfa ym mis Tachwedd, 2017.
· Cytuno bod y penderfyniad hwn yn un brys fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.5.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor fel na fydd modd galw’r penderfyniad i mewn am y rheswm a roddir yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Derbyn yr adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid ar gyfer 2016/17.
· Bod Aelodau Etholedig a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i chwarae rhan weithredol mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid a sicrhau bod gan yr holl denantiaid lais a rhan i’w chwarae mewn datblygiadau tai a chorfforaethol yn y dyfodol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Derbyn Llythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol AGGCC a nodi ei gynnwys.
· Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu mewn ymateb i’r Llythyr Adolygu Perfformiad Blynyddol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Bod argymhelliad yr adroddiad ar yr ymgynghori anstatudol yn ardal Seiriol yn cael ei weithredu.
· Awdurdodi Swyddogion y Gyfadran Dysgu Gydol Oes i fynd allan i ymgynghori’n statudol ar y cynigion dan sylw fel a ganlyn :
· Cau Ysgol Biwmares ac i rieni’r disgyblion sydd ar y gofrestr ar yr adeg pan fydd y Pwyllgor Gwaith yn gwneud y penderfyniad ddatgan eu dewis am naill ai Ysgol Llandegfan neu Ysgol Llangoed yn unol â’r polisi mynediad ysgolion.
· Adolygu dalgylchoedd presennol y dair ysgol gyda’r bwriad o weithredu unrhyw newidiadau pan fydd Ysgol Biwmares yn cau.
· Adnewyddu Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan; ac
· Ystyried ffederaleiddio Ysgol Llangoed ac Ysgol Llandegfan ar ddiwedd y broses hon.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
Penderfynwyd bod cyfnod o ymgysylltu yn cael ei gynnal yn lleol yn ardal Seiriol yn ystod Tachwedd, 2017 mewn perthynas â’r materion canlynol:
· Datblygu tai gofal ychwanegol yn ardal Seiriol er mwyn darparu o leiaf 39 o fflatiau hunan-gynhaliol yn unol â modelau darpariaeth a gymeradwywyd yn genedlaethol.
· Y safle sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y datblygiad hwn yw safle cyfredol Ysgol Biwmares naill ai wedi ei gyd-leoli gydag ysgol wedi’i haddasu neu fel yr unig ddefnydd ar gyfer y tir hwn.
· Bod y Cyngor yn mynd ar ôl opsiynau i gyllido’r datblygiad drwy’r Cyfrif Refeniw Tai fel bod y datblygiad yn cael ei ychwanegu at y stoc dai yn y sir gan ddarparu llety hanfodol ar gyfer pobl hŷn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
Penderfynwyd -
· Ail-gadarnhau egwyddorion y strategaeth gyfalaf a nodir ym mharagraff 3 yr adroddiad.
· Cadarnhau y bydd y cyllid ar gyfer rhaglen gyfalaf 2018/19 yn cael ei gyfyngu i gyfanswm y grant cyfalaf cyffredinol a’r benthyca â chymorth (fel y penderfynir gan Lywodraeth Cymru) a gwerth amcangyfrifiedig unrhyw dderbyniadau cyfalaf a dderbynnir.
· Cadarnhau bod yr ymrwymiadau prosiect cyfredol (Tabl 5 yr adroddiad) a’r cyllid ar gyfer adnewyddu/uwchraddio asedau cyfredol ar gyfer 2018/19 fel y gwelir yn Nhabl 6 yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys £250k yn ychwanegol i’w ryddhau yn 2018/19 o’r gronfa gyfalaf wrth gefn i’w ddyrannu i Brosiectau Buddsoddi i Arbed.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
Penderfynwyd cytuno i’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17 ac argymell ei fabwysiadu gan y Cyngor er mwyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn unol â’r disgwyliadau statudol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Flaen Raglen Waith am y cyfnod Tachwedd, 2017 i fis Mehefin, 2018 fel y’i chyflwynwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/10/2017 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 30/10/2017
Effective from: 30/10/2017
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2017, fel cofnod cywir.