Defnyddiwch yr opsiynau chwilio ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth ynglyn รข phenderfyniadau diweddar sydd wedi'i cymeryd gan gyrff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y cyngor.
Neu gallwch chwilio drwy'r dudalen a wnaed gan yr Arweinydd blaenorol.
Rydym hefyd yn rhestru Penderfyniadau Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Penderfyniadau Gweithredol a wnaed gan y Deilydd Portffolio, Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

Cyflwynwyd a chadarnhawyd y cofnodion blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2020.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
7.1 FPL/2019/253 – Cais llawn ar gyfer trosi adeiladau allanol i ddau uned gwyliau sydd yn cynnwys addasu ag ehangu ynghyd a gosod paced trin carthffosiaeth yn Penfor, Porth Swtan
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, ynghyd ag amodau ychwanegol mewn perthynas â pharcio ceir ar y safle a bod cynllun rheoli traffig adeiladu yn cael ei gyflwyno a’i gymeradwyo cyn i waith ddechrau ar y datblygiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
12.1 HHP/2019/301 –Cais ôl-weithredol ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys ardal terras, pwll nofio, Ystafell gemau ynghyd a codi sied domestic yn Tan y Fron, Pentraeth
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 FPL/2019/341 – Cais llawn ar gyfer codi 26 annedd (3 fforddiadwy), addasu mynedfa presennol i gerbydau ynghyd a chreu gwaith cystylliedig yn Ysgol Gynradd Llaingoch, Ffordd Ynys Lawd/South Stack Road, Caergybi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â:-
· chyfraniad ariannol tuag at Orchymyn Rheoli Traffig a gwelliannau i’r briffordd cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio;
· cyfraniad ariannol tuag at ddarpariaeth anheddau fforddiadwy cyn rhyddhau’r caniatâd cynllunio;
· bod pwerau wedi’u dirprwyo yn cael eu rhoi i Swyddogion ddiwygio’r amodau cynllunio gan gymryd i ystyriaeth y cynlluniau diwygiedig/gwybodaeth ychwanegol a sylwadau’r ymgynghorai statudol ar y manylion hyn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
6.1 19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol â’r rhesymau a nodwyd ac argymhelliad y Swyddog.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.1 a 12.2.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 19 Chwefror, 2020.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
11.1 FPL/2020/3 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn cynnwys anecs ynghyd a ymestyn cwrtil yn Parciau, Llanddaniel
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/03/2020 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 04/03/2020
Effective from: 04/03/2020
Penderfyniad:
10.1 VAR/2019/92 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (08) o ganiatâd Cynllunio rhif 33C265 (Trosi adeilad allanol) er mwyn diwygio’r dyluniad yn Glan Morfa, Gaerwen
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi cynnwys yr adroddiad eglurhaol.
• Cymeradwyo’r Arferion Rheoli Trysorlys Diwygiedig (ARhT) sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad 2 yr adroddiad ac argymell yr ARhT i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 10 Mawrth, 2020.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd derbyn a nodi’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2020/21 ac anfon y Datganiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi’r polisi cyffredinol ynglŷn â chronfeydd wrth gefn a balansau a fabwysiadwyd ar 1 Mawrth 2016, fel y nodir hynny yn Atodiad A;
• Cymeradwyo'r newid i'r polisi cyffredinol ar gronfeydd wrth gefn a balansau a fabwysiadwyd ar 1 Mawrth 2016, fel y nodir hynny yn Atodiad A;
• Pennu isafswm balansau cyffredinol o £7.11m ar gyfer 2020/21 yn unol ag asesiad y Swyddog Adran 151;
• Cynllunio am gynnydd yn y balansau cyffredinol dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd er mwyn sicrhau fod lefel gwirioneddol y cronfeydd wrth gefn yn cyrraedd y lefel sylfaenol. Cyflawnir y cynnydd yma drwy gyllidebu am wargedau blynyddol a gynllunnir;
• Cadarnhau parhad y cronfeydd wrth gefn presennol a glustnodwyd;
• Cymeradwyo trosglwyddo cronfeydd wrth gefn Morgeisi Gofalwyr Maeth a System Rheoli Polisïau o’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i’r Cronfeydd wrth gefn Cyffredinol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
• Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter 3 2019/20.
• Y canlyniad a ragwelir ar gyfer 2019/20.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2019/20 yn Chwarter 3.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2020/21 i 2022/23 ar gyfer cymeradwyaeth y Cyngor Llawn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd argymell y Rhaglen Gyfalaf ganlynol ar gyfer 2020/21 i’r Cyngor Llawn –
£
Cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2019/20 5,829
Adnewyddu/Amnewid Asedau 6,192
Prosiectau Cyfalaf Unwaith ac am Byth
Newydd 2,174
Mân-ddaliadau a gyllidir o dderbyniadau
Cyfalaf 100
Ysgolion yr 21ain Ganrif 2,755
Cyfrif Refeniw Tai 20,255
Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf Argymhellir
ar gyfer 2020/21 37, 305
Cyllidir drwy:
Grant Cyfalaf Cyffredinol 2,165
Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol 2,364
Benthyca â Chefnogaeth a ddygwyd ymlaen
o 2019/20 1,034
Derbyniadau Cyfalaf 245
Arian Cyfalaf Wrth Gefn 500
Benthyca â Chefnogaeth – Ysgolion yr
21ain Ganrif 721
Benthyca Digefnogaeth – Ysgolion yr
21ain Ganrif 1,145
Arian Wrth Gefn y CRT a gwarged
y flwyddyn 14,228
Benthyca Digefnogaeth CRT 250
CRT a ddygwyd ymlaen o 2019/20 3,117
Grantiau Allanol 5,782
Cyllid y Cyngor a ddygwyd ymlaen
o 2019/20 5,754
Cyfanswm Cyllid Cyfalaf ar gyfer 2020/21 37,305
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi’r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb a’r atborth a gafwyd ynddynt fel yr amlinellir yn Adran 2, Atodiad 1 ac yn Atodiad 2;
• Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor gan gynnwys y cyllid diwygiedig mewn ymateb i’r pwysau ar y gyllideb a’r arbedion arfaethedig fel y dangosir nhw yn Adran 8, Atodiad 1 ac yn Atodiad 3 gyda’r eithriad o gynyddu ffioedd parcio ceir mewn safleoedd trefol a fydd yn aros yr un peth heblaw am y raddfa 50c a ddiddymir gan wneud isafswm cost o £1.
• Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor fod yn gweithio i sicrhau bod o leiaf £7.1m yn y balansau cyffredinol;
• Nodi’r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed fel y cânt eu hamlinellu yn Adran 6, Atodiad 1;
• Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir o £142.146m a chynnydd yn lefel y Dreth Gyngor felly o 4.5%, (£56.16 – Band D), gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, yn cynnwys y Praeseptau i Heddlu Gogledd Cymru a’r Cynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 10 Mawrth, 2020;
• Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor;
• Cytuno y bydd unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol yn gallu tynnu ar gyllid o’r gyllideb gyffredinol ar gyfer digwyddiadau annisgwyl;
• Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb ar gyfer digwyddiadau annisgwyl wedi’i hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn;
• Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 y pŵer i ryddhau hyd at £50k o’r gronfa digwyddiadau annisgwyl ar gyfer unrhyw un eitem. Ni chaniateir cymeradwyo unrhyw eitem dros £50k heb gael caniatâd ymlaen llaw gan y Pwyllgor Gwaith;
• Cymeradwyo bod y Premiwm Treth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn parhau i fod yn 35% ac yn parhau i fod yn 100% ar gyfer tai gwag.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru fel sylfaen ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2020/21 (Atodiad 1).
• Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd fel y nodwyd yn Nhabl 2;
• Yr un modd ag Awdurdodau eraill, rhoi’r awdurdod i’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyllid ymateb i unrhyw geisiadau gan Gartrefi i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Adnoddau a’r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol o’r cyllidebau cyfredol. Oni fedrir dod i gytundeb, bydd y mater yn mynd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Er bod y Cyngor yn cydnabod y costau sy’n gysylltiedig â gofal preswyl, nid yw cost gwirioneddol darparu’r gwasanaeth wedi ei adlewyrchu yn y tâl a godir ar drigolion.
• Yn unol â’r cynigion arbedion a wneir i ddiddymu’r cymhorthdal a roddir i rai sy’n hunangyllido rhwng 2019-20 a 2021-22 bod y cynnydd ar gyfer y rhai hynny sy’n cyfrannu tuag at gost gofal yn cael ei osod ar 3% ynghyd â chyfran pob defnyddiwr o draean y cymhorthdal a roddir i’r rhai sy’n hunangyllido.
• Bod y ffi ar gyfer 2020-21 felly yn cael ei osod ar £722.21 (£664.11 + 3% + (1/2 x £76.35).
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
• Y taliadau Gofal Cartref a amlinellir yn Nhabl 1 yr adroddiad.
• Y taliadau ar gyfer Gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl 4 yr adroddiad.
Haen 1 – bydd pawb yn talu £47.97
Haen 2 a 3 – bydd pawb yn talu £95.55
• Y Taliadau Teleofal blynyddol fel yr amlinellir yn Nhabl 5 yr adroddiad
Gwasanaethau a Chynnal a Chadw-£114.12
Gwasanaethau yn unig - £73.76
Costau Gosod unwaith ac am byth - £45.63
• Cyfradd o £11.65 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol
• Cynnal y taliad o £10 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodyn Glas a bathodynnau yn lle rhai sydd wedi eu colli neu eu dwyn fel yr amlinellwyd.
• Cynyddu’r ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol 3% i £34.18
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 02/03/2020 - Pwyllgor Gwaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad.: 02/03/2020
Effective from: 02/03/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd nodi’r canlynol –
• Y sefyllfa a amlinellir yn atodiadau A a B yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2019/20;
• Y crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir arnynt yn Atodiad C;
• Y sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglen buddsoddi i wario yn Atodiad CH;
• Y sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2019/20 yn Atodiad D;
• Y modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2019/20 yn Atodiadau DD, E ac F.