Manylion lleoliad

Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

I gyrraedd yr ystafell: Gyda char o’r A55

Wrth deithio i’r Ynys ar yr A55 dilynwch yr arwyddion am Gaergybi ac arhoswch ar y lôn fawr nes eich bod yn cyrraedd y tro am Langefni a’r B5114 (cyffordd 6).

Wrth agosáu at Langefni ar y B5114, ar ffiniau’r dref, cymerwch droiad i’r dde am y Stad Ddiwydiannol. Fel yr ydych yn mynd i lawr y bryn, trowch i’r chwith yn y gylchfan a daliwch ymlaen am hanner milltir. Ewch yn syth dros y cylchfan bychan. Mae’r troad am feysydd parcio’r cyngor ar y chwith ar ôl Hyfforddiant Môn Training. Mae rhai llefydd wedi’i neilltuo ar gyfer y cyhoedd.

Gwnewch eich ffordd i’r mynediad sydd yn nhu blaen yr adeilad, ble mae croesawfan os bydd angen rhagor o gymorth

Ar droed o ganol y dref

O’r cloc yng nghanol y dref: ewch drwy’r maes parcio ger neuadd y dref. Ewch i’r chwith ar draws y bont fechan dros yr Afon Cefni. Trowch i’r dde a cherddwch ar hyd y llwybr i gyfeiriad swyddfeydd y cyngor.

Am ragor o wybodaeth gofynnwch wrth y dderbynfa.

Pa mor hygyrch yw’r swyddfeydd?

Mae’r swyddfeydd ar dri lefel ond darperir lifft ar gyfer y cyhoedd.

Pa gyfleusterau sydd ar gael?

Ceir toiledau cyhoeddus ar gael ynghyd a thoiledau anabl a chyfleusterau newid baban ar bob llawr.

Mapiau Lleoliad:  Sut i ddod o hyd i Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni

Cyfeiriad: 
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
LL77 7TW