Mr Iorwerth Roberts

Profile image for Mr Iorwerth Roberts

Gwybodaeth ychwanegol

·      Disgrifiad o Rôl Aelod o’r Pwyllgor Safonau

 

Yn dilyn gweithio yn y diwydiant adeiladu fel goruchwyliwr a rheolwr, am dros 30 mlynedd, cyn ymddeol roedd Mr Roberts yn cael ei gyflogi fel Tiwtor Achrededig yn adran adeiladu canolfan hyfforddiant leol. Yn ei rôl, roedd Mr Roberts yn ymwneud â chynnal sesiynau cynefino gyda hyfforddeion i’r ganolfan hyfforddiant ac fe’i cymeradwywyd yn Aseswr C.I.T.B a Sefydliad y Ddinas a’r Urddau.

 

Dyfarnwyd Tystysgrif Addysg iddo ym 1993 a daeth yn Aelod o’r Sefydliad Hyfforddiant a Datblygu ym 1994.

 

Ers ei ymddeoliad, gwasanaethodd Mr Roberts fel Ynad ar Fainc Ynys Môn a gwasanaethodd ei gymuned leol fel aelod o Gyngor Cymuned Bryngwran ers 1997 ac, ers y 22 mlynedd diwethaf, bu’n Gadeirydd y Cyngor Cymuned.

 

Roedd Mr Roberts hefyd yn aelod o Atal Trosedd Môn rhwng 2008 a 2013 ac ar hyn o bryd mae’n aelod cyngor cymuned Un Llais Cymru.

 

Cafodd Mr Roberts ei ddewis i fod yn gynrychiolydd cyngor cymuned ar y Pwyllgor Safonau, gan gael ei benodi’n ffurfiol gan y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr 2017, yn dilyn proses ethol yn cynnwys 40 o gynghorau tref a chymuned ar yr Ynys. Cafodd ei ethol am ail dymor yn 2022.

Gwybodaeth cyswllt

E-bost:  iorwerthroberts@ynysmon.llyw.cymru

Apwyntiadau pwyllgor