Mrs Gill Murgatroyd

Profile image for Mrs Gill Murgatroyd

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Gill yn Gymrawd Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu a chanddi nifer o flynyddoedd o brofiad fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn y maes Tai Cymdeithasol. Gweithiodd yn y gorffennol hefyd fel Cyfarwyddwr ei busnes ymgynghori AD a Datblygiad Sefydliadol ei hun ac mewn rolau AD uwch yn y sector cyhoeddus a’r sector breifat gan gynnwys ym meysydd Gwasanaethau Ariannol, y diwydiant Modurol, Ynni/Cyfleustodau, Adwerthu ac Amddiffyn.

Mae Gill yn aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Conwy, Cyngor Sir Fflint ac Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae hi hefyd yn Aelod o Banel Rheoleiddio ac yn Gadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru, yn Aelod Lleyg ar y Pwyllgor Ymchwiliol Rheoleiddio Nyrsio a Bydwreigiaeth ac yn Aelod Panel Annibynnol ar Dribiwnlysoedd Apeliadau Heddlu a Gwrandawiadau Camymddygiad Heddlu yng Nghymru. Bu hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer dau sefydliad elusennol lleol ac yn aelod o Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer Athrawon.

Mae Gill yn byw yn Llandudno ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau cerdded yn y mynyddoedd ac o amgylch arfordir Gogledd Cymru.

Gwybodaeth cyswllt

E-bost:  gillmurgatroyd@ynysmon.llyw.cymru

Apwyntiadau pwyllgor