Mr Rhys Davies

Profile image for Mr Rhys Davies

Gwybodaeth ychwanegol

·      Disgrifiad o Rôl Aelod o’r Pwyllgor Safonau

 

Yn enedigol o Fôn, aeth Rhys i astudio deintyddiaeth yng Nghaerdydd ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol David Hughes. Bu’n ddeintydd yn ei bractis yn Llangefni am dros 30 mlynedd, a hefyd cafodd gyfnod gyda’r gwasanaeth deintyddol cymunedol.

 

Mae bellach wedi ymddeol ond mae’n parhau i fyw ar yr ynys.

 

Yn y gorffennol, bu Rhys yn aelod o Gyngor Cynulleidfa'r BBC (Cymru), yn Ymddiriedolwr dros Ganolfan Lôn Abaty Bangor, yn Gadeirydd ar Y Gymdeithas Ddeintyddol, yn Ynad ar fainc Ynys Môn/Gwynedd ac yn aelod annibynnol o'r Cyngor Iechyd Cymunedol gan gadeirio Pwyllgor Lleol Dinbych.

 

Yn ddiweddar, cafodd Rhys ei benodi yn Aelod o Fwrdd Cynghori “Mwy na Geiriau”, corff sy’n adrodd i’r Gweinidog Iechyd, Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth cyswllt

E-bost:  RhysDavies@ynysmon.llyw.cymru

Apwyntiadau pwyllgor