Mr Trefor Owen

Profile image for Mr Trefor Owen

Teitl: Co-opted Independent Member

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Trefor yn Gymrawd (Ymdd.) o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig, gyda bron i 40 mlynedd o brofiad fel Gwas Sifil yn gwasanaethu Llywodraeth EM, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Mae wedi gweithio mewn rolau uwch arweinyddiaeth, datblygu polisi, cyflwyno gweithredol a rheoli rhaglenni. Roedd hyn yn cynnwys gwaith blaenllaw i ddatganoli a sefydlu trefniadau newydd ar gyfer coedwigaeth yng Nghymru a'r Alban.

Mae Trefor wedi dychwelyd i fyw yn Ynys Môn, ac yn mwynhau gwirfoddoli gyda Gwylwyr y Glannau EM,  cerdded Llwybr Arfordirol Ynys Môn, teithio a threulio amser gyda'i deulu.

 

Apwyntiadau pwyllgor