Mr Brace Griffiths

Profile image for Mr Brace Griffiths

Gwybodaeth ychwanegol

Rwyf yn frodor o Fôn ac wedi byw a gweithio yng ngogledd Cymru ar hyd fy oes, fwy neu lai.

Rwyf newydd ymddeol ac roeddwn yn arfer gweithio fel Uwch Reolwr Polisi yn Adran Economaidd Llywodraeth Cymru. Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, roeddwn yn gweithio i Lywodraeth y DU.

Rwyf yn Aelod Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Y tu allan i’r gwaith, rwyf wedi gweithio mewn rolau gwirfoddol ers nifer o flynyddoedd. Ar hyn o bryd rwyf yn aelod o Llais, sef sefydliad annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gynrychioli barn pobl sy’n derbyn gofal iechyd a chymdeithasol. Mae Llais wedi disodli’r Cyngor Iechyd Cymuned y bûm yn aelod ohono am 11 mlynedd. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus o gael treulio cyfnod fel Cyfarwyddwr a Chadeirydd Menter Môn ac Agoriad, sydd wedi’u lleoli ym Mangor.

Mae gen i ferch a thri o wyrion, sydd hefyd yn byw ar Ynys Môn.

Mae fy niddordebau’n cynnwys rygbi, gwella fy ngwybodaeth am hanes lleol a theithio.

Gwybodaeth cyswllt

E-bost:  BraceGriffiths@ynysmon.llyw.cymru

Apwyntiadau pwyllgor