Mrs. Denise Harris Edwards

Profile image for Mrs. Denise Harris Edwards

Teitl: Cyf-etholwr

Gwybodaeth ychwanegol

Aelod lleyg o’r Pwyllgor Safonau

 

Yn wreiddiol o Fôn, fe addysgwyd Denise Harris-Edwards yng Nghymru ac ysgol ferched yng Nghaerlyr.

 

Mae hi wedi gweithio i Coleg Llandrillo Cymru fel Cydlynydd Bwyta’n Iach ac yn darlithio a dysgu yn y gymuned. Mae hefyd yn gweithio yn y sector gyhoeddus fel Ymgynghorydd Addysg Oedolion ac mae ganddi gymhwyster I Raddedigion mewn Addysg a Hyfforddi.

 

Yn y gorffennol mi oedd hi’n gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Ynys Môn ac wedi gwirfoddoli gyda Chyngor Ar Bopeth - fu’n cynnwys cynnig cynrychiolaeth tribiwnlys - Cymorth I Ferched ac amryw o elusennau eraill.