PWYLLGOR TRWYDDEDU |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2005 |
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyn cychwyn ar y Rhaglen ar gyfer y cyfarfod, cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Amgylcheddol) y Swyddogion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac estynnodd wahoddiad i'r Uwch Swyddog Safonau Masnach annerch yr Aelodau. |
|
Amlinellodd y Swyddog y cefndir i Ddeddf Trwyddedu 2003 a'i heffaith ar y Cyngor Sir. Rhoddodd i'r Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'r sefyllfa ar hyn o bryd ynghylch y Rheoliadau a'r Canllawiau Trwyddedu. Rhagwelir y daw'r Ddeddf Trwyddedu newydd i rym ar 7 Chwefror 2005, fodd bynnag, mae'n bosib y bydd peth oedi ac mae'r Swyddogion yn cadw llygad ar y sefyllfa. Am gyfnod o chwech i naw mis o'r dyddiad gweithredu bydd dwy system yn rhedeg dan yr hyn a elwir yn Drwydded Trosglwyddo. Mae'r Ddeddf newydd yn cynnwys darpariaeth lle rhoddir trwydded ar gyfer yr adeilad a thrwydded bersonol i'r sawl sy'n gwerthu alcohol. |
|
Mae'r Ddeddf yn rhoddi i'r rheini a chanddynt drwydded y cyfle i wneud cais i amrywio eu trwyddedau cyfredol ac o'r tua 450 o drwyddedau a gyhoeddir, rhagwelir y bydd rhwng 80 - 90% yn debygol o wneud cais i amrywio'r drwydded. Rhaid penderfynu ar bob cais cyn pen dau fis i ddyddiad cyflwyno cais llawn. Pwysleisiodd y Swyddog pa mor bwysig oedd swyddogaeth Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a chyfeiriodd at faich gwaith disgwyliedig mawr ar gyfer Aelodau sy'n penderfynu ar apeliadau. |
|
Dangoswyd DVD i'r Aelodau a oedd yn rhoi enghraifft o sut y gellid cynnal Panel Apeliadau a rhoddwyd cyfle i'r Aelodau wedyn holi'r Swyddog ar nifer o faterion. |
|
Rhoddodd y Swyddog sicrwydd i'r Aelodau y bydd hyfforddiant digonol yn cael ei ddarparu ar sail barhaus, yn dechrau yn gynnar ym mis Mawrth. Wrth gwrs, mater i'r Pwyllgor fydd penderfynu a fydd y Pwyllgor Trwyddedu llawn yn gwrando pob apêl ynteu a fydd y Pwyllgor yn dymuno penodi Panel o 3 Aelod (Cadeirydd ynghyd â dau aelod ar sail rota) i ystyried yr apeliadau. Trafodwyd rôl yr Aelod Lleol ac yn arbennig yr angen i Ddatgan Diddordeb. |
|
Fel ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd y Swyddog bod yr Adran yn disgwyl am Ganllawiau gan y Llywodraeth ac y byddai'n rhoi gwybod i'r Aelodau ynghylch y materion isod wedi cael eglurhad arnynt yn y Canllawiau gan y Llywodraeth:- |
|
|
|
|
|
|
|
Etholwyd y Cynghorydd John Arthur Jones yn Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu. Wrth dderbyn,y Gadeiryddiaeth, diolchodd y Cynghorydd Jones i'r Aelodau am eu hyder ynddo gan gydnabod a derbyn lefel yr ymrwymiad yr oedd ei angen ar gyfer y swydd. |
|
|
|
|||
Etholwyd y Cynghorydd David Lewis Roberts yn Is-Gadeirydd a diolchodd i'r Aelodau am ei ethol i'r swydd. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Diolchodd yr Aelodau i'r Swyddog am y cyflwyniad gan groesawu'r sicrwydd a roddwyd y byddai hyfforddiant yn dechrau yn y dyfodol agos. Cadarnhaodd y Cadeirydd y bydd y materion a godwyd yn y sesiwn holi ac ateb yn cael sylw ac y dylid dwyn pwysau ar y Llywodraeth i gyhoeddi canllawiau pendant ar gyfer Aelodau a hynny ar fyrder a chyn gweithredu'r Ddeddf. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Cadarnhawyd y cynhelir y cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu ar ddydd Mawrth, 15 Chwefror 2005 am 2.00 p.m. |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
Y CYNGHORYDD JOHN ARTHUR JONES |
|||
CADEIRYDD |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|