Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 15 Chwefror 2005

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Mawrth, 15fed Chwefror, 2005

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 15 Chwefror, 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J A Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr John Byast, W J Chorlton, J M Davies,

C L Everett, Bryan Owen, R L Owen, R G Parry OBE,

W T Roberts, H N Thomas, E Schofield, John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Amgylcheddol)

Prif Swyddog Safonau Masnach (DR)

Uwch Swyddog Safonau Masnach (DO)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, D A Lewis Roberts,

Peter Rogers.

 

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

      

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

      

2

COFNODION

      

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2005 - tud 99 - 100 o’r Gyfrol hon

      

Yn codi :-

      

Cyfeiriodd y Cadeirydd at faterion a godwyd gan aelodau yn y cyfarfod cynt, ac yn bennaf yng nghyswllt swyddogaeth yr Aelod Lleol mewn Gwrandawiadau Apêl; yr angen i Ddatgan Diddordeb a hefyd i egluro pwy sy'n talu am apêl i'r Llys Ynadon a phwy sy'n talu unrhyw iawndal y gellid ei ddyfarnu, a nododd hefyd bod yr aelodau wedi cael gwybod yn y cyfarfod bod y Cyngor yn disgwyl rhagor o ganllawiau ar y materion hyn a rhai cysylltiedig a rhoes wahoddiad i'r swyddogion gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa i'r aelodau.

      

Dywedodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach bod canllawiau ar drefniadau'r gwrandawiadau apêl wedi'u rhyddhau i Loegr yn unig ar hyn o bryd ac yng nghyswllt swyddogaeth yr Aelod Lleol, roedd y canllawiau hynny yn datgan na ddylai aelodau wasanaethu ar banelau apêl trwyddedu/gwrandawiadau pwyllgor os oedd y cais yn dod o ward yr aelod dan sylw.  Bydd y canllawiau i Gymru yn cael eu hastudio'n ofalus unwaith y cânt eu cyhoeddi.

      

Yn y drafodaeth ddilynol ar y pwnc hwn, mynegwyd y farn na ddylai'r Aelod Lleol fod yn rhan o'r broses o benderfynu ar gais ond er hynny y gellid caniatáu iddo gyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad fel parti â diddordeb ac yn wir efallai y buasai o fantais i'r gwrandawiad petai'r Aelod Lleol yn gwneud hynny oherwydd ei wybodaeth leol.  Mewn ymateb i gwestiynau gan yr0 aelodau cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach nad yw'r awdurdod gan Swyddogion Trwyddedu yr Awdurdod Lleol i gyflwyno sylwadau ynghylch cais unigol, ac oni cheid unrhyw wrthwynebiad i gais penodol, yna bydd trwydded yn cael ei rhoddi.  Hefyd bydd y Swyddogion Trwyddedu yn gweithio'n agos iawn gyda'r Heddlu a'r Gwasanaethau Tân, y Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Gwasanaethau Cynllunio a'r Gwasanaethau Safonau Masnach sydd, fel awdurdodau â chyfrifoldeb, â'r hawl i gyflwyno sylwadau ynghylch cais.

      

Wedyn holodd yr Aelodau yng nghyswllt cyfansoddiad gwrandawiad apelio a holi hefyd pwy ddylai wrando ar apêl drwyddedu, pa un ai panel o 3 aelod neu Bwyllgor Trwyddedu llawn.  Yn gyffredinol credai'r Pwyllgor y buasai panel o 3 (Cadeirydd a dau aelod arall yn ôl dealltwriaeth rota) yn ddigon i ystyried apeliadau trwyddedu ac awgrymwyd y buasai'n ddoeth penodi aelod wrth gefn rhag ofn y buasai un o'r tri aelod y cytunwyd arnynt i'r Panel yn methu â mynychu gwrandawiad.  Cytunwyd bod angen rhoddi rhagor o sylw i'r mater hwn a hefyd i'r broses o benodi aelodau gwrth gefn / eilyddion.

      

Wedyn awgrymwyd, a chefnogwyd y syniad, bod gwybodaeth yng nghyswllt ceisiadau am drwyddedau newydd a cheisiadau i amrywio amodau trwyddedau yn cael ei rhannu ymhlith holl aelodau'r Cyngor Sir i wneud pawb yn ymwybodol o'r ceisiadau yn y wardiau unigol.  Ni wyddai'r Uwch Swyddog Safonau Masnach am unrhyw reswm pam na ellid gwneud hynny os oedd hynny'n ddymuniad gan y Cyngor Sir.

 

Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau y buasai sesiynau hyfforddiant yn cael eu trefnu yn y dyfodol agos a nododd y gellid, yn sgil yr hyfforddiant, egluro rhai pwyntiau a godwyd.  Felly awgrymodd bod aelodau yn nodi unrhyw faterion yr hoffent gael eglurhad arnynt a chodi y cyfryw faterion yn y cyfarfod o'r Pwyllgor yn dilyn yr achlysur hyfforddi.

      

3

RHEOLIADAU NEWYDD

 

      

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan yr Uwch Swyddog Safonau Masnach yn crynhoi'r Gorchmynion a'r Rheoliadau newydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn Ionawr, 2005 yng nghyswllt ceisiadau am drwyddedau, y trefniadau, gwrandawiadau a ffioedd.

 

      

 

Cyfeiriodd at Orchymyn 2005 dan Ddeddf Trwyddedu 2003 (ffioedd addasu Trosiannol) ac at Reoliadau 2005 dan Ddeddf Trwyddedu 2003 (Ffioedd) gan grybwyll bwriad y Llywodraeth i adolygu'r ffioedd ac ystyried a ydynt yn ddigon ai peidio i gwrdd â chostau'r awdurdodau trwyddedu; gofynnwyd beth ddigwyddai petai'r ffioedd a godid am geisiadau ddim yn ddigon i gwrdd â chostau'r awdurdod trwyddedu ac a fuasai'r llywodraeth, dan amgylchiadau o'r fath, yn rhoddi grant ychwanegol i'r awdurdod.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach y buasai'n fwy tebygol i'r Llywodraeth newid lefelau'r ffioedd i adlewyrchu'r costau, a hynny wrth gwrs yn golygu y gellid gostwng y ffioedd yn ogystal â'u codi.  

 

      

 

Penderfynwyd nodi'r wybodaeth yng nghyswllt y Rheoliadau diweddar dan y Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

      

 

4

Y DREFN AR GYFER CYFLWYNO CEISIADAU

 

      

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan yr Uwch Swyddog Safonau Masnach yn amlinellu'r trefniadau y bydd ymgeiswyr yn eu dilyn wrth gyflwyno cais dan Ddeddf Trwyddedu, 2003:

 

      

 

Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach at yr ystyriaethau pennaf fel a ganlyn:

 

      

 

4

Bydd y system drwyddedu yn hyrwyddo pedwar amcan trwyddedu allweddol, sef

 

      

 

Ÿ     rhwystro trosedd ac anhrefn;

 

Ÿ     diogelwch y cyhoedd;

 

Ÿ     rhwystro niwsans cyhoeddus;

 

Ÿ     diogelu plant rhag niwed.

 

 

 

Bydd raid i'r Cyngor ganiatáu trwyddedau onid yw cais yn tynnu'n groes i un o'r amcanion uchod.  Hefyd gall ychwanegu amodau i gefnogi'r amodau trwyddedu, e.e. camau i reoli swn.

 

 

 

4

Dan y system newydd cyflwynir pedwar math o drwydded -

 

      

 

     i.  bydd raid wrth drwydded i'r adeilad y cynhelir gweithgareddau trwyddedadwy ynddo;

 

     ii. bydd raid i bwy bynnag sy'n dymuno caniatáu gwerthu alcohol fel rhan o'i fusnes gael         trwydded bersonol;

 

     iii. bydd raid wrth dystysgrif adeilad clwb i bwrpas clwb preifat;

 

     iv. bydd raid darparu rhybudd achlysur dros dro i achlysuron y bydd llai na 500 yn eu mynychu  a'r achlysur unigol ddim yn parhau am ragor na 96 awr.

 

      

 

4

Rhoddir "hawliau traddodiadol" i rai sy'n dal trwydded ar hyn o bryd fel bod modd trosglwyddo i drwydded newydd a chânt ymgeisio am drwyddedau newydd o'r diwrnod cyntaf dynodedig, a'r dyddiad a bennwyd gan y Llywodraeth yw 7 Chwefror, 2005 a'r cyfnod yn parhau tan 6 Awst, 2005, ond ni ddaw unrhyw drwydded i rym tan yr 2 ddiwrnod dynodedig, dyddiad nad yw wedi'i bennu eto gan y Llywodraeth ond mae'n bu'r debyg mai Tachwedd, 2005 fydd hwnnw.  Bydd y rheini a chanddynt Drwyddedau Ynadon ar hyn o bryd yn gallu gwneud cais am drwydded bersonol heb orfod darparu tystiolaeth ynghylch record droseddol neu gymhwyster trwyddedu, oherwydd bod yr Ynadon Trwyddedu eisoes wedi penderfynu eu bod yn bobl 'addas a phriodol' i werthu alcohol.

 

4

Mae modd addasu pob trwydded gyfredol ar gyfer alcohol, adloniant cyhoeddus, theatrau, sinemâu a lluniaeth hwyr gyda'r nos, yn amodol ar gyfyngiadau i drwyddedau eiddo.  Mae caniatadau dan yr amgylchiadau hyn, i bob pwrpas, yn otomatig dan y broses hawliau traddodiadol a dim ond yr Heddlu fedr wneud sylwadau ar sail atal trosedd.  Bydd y rheini sy'n dal trwyddedau ac sy'n dymuno eu haddasu yn gorfod cynnwys eu trwyddedau cyfredol neu gopïau ardystiedig gyda'u cais.

 

4

Yn ogystal â'r trefniadau trosglwyddo, gellir derbyn ceisiadau hefyd i amrywio trwyddedau neu geisiadau newydd.  Dan yr amgylchiadau hyn, bydd raid i'r ymgeisydd hysbysebu ei gais yn yr adeilad ac mewn papur newydd lleol cyn pen 5 diwrnod gwaith.  Yn ogystal â'r awdurdodau cyfrifol (sy'n cynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân a rhai adrannau o'r cyngor - a fydd yn cael ceisiadau yn otomatig), gall partïon sydd â diddordeb, gan gynnwys pobl sy'n byw yng nghyffiniau'r eiddo a busnesau sydd yno, cymdeithasau trigolion a chymdeithasau masnach wneud sylwadau i'r Cyngor ynghylch caniatáu trwydded neu newid trwydded.  Gallant hefyd ofyn am adolygiad o'r drwydded.  Ar yr amod bod sylwadau yn berthnasol ac nad ydynt yn flinderus neu'n wamal, bydd y Pwyllgor Trwyddedu yn eu hystyried.  Bydd raid rhoddi sylw erbyn dyddiadau cau caeth, i geisiadau dan y Ddeddf.

 

4

Yn ystod y cyfnod trosglwyddo rhwng 7 Chwefror 2005 a'r 2il ddiwrnod Dynodedig (sy'n debygol o fod ym mis Tachwedd 2005), bydd y trefniadau newydd hyn yn rhedeg ochr yn ochr gyda'r system gyfredol.  O'r herwydd bydd unrhyw geisiadau newydd yn gofyn am drwydded ar unwaith i werthu alcohol neu am adloniant cyhoeddus hefyd angen gwneud cais am drwydded dan y cynlluniau cyfredol.

 

 

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch gwasanaeth goruchwylwyr wrth y drysau yn y clybiau ac mewn adeiladau adloniant etc ac a oedd raid eu trwyddedu; gofynnwyd hefyd a allai unigolion o'r tu allan i'r sir ymgeisio i bwrpas trefnu achlysur ar yr Ynys.  Wedyn gofynnwyd tybed a fuasai'n fuddiol i aelodau dderbyn arweiniad yng nghyswllt y math o amodau y mae'n bosib i'r Pwyllgor/Panel Trwyddedu fynnu arnynt.  

 

 

 

Mewn ymateb ac wrth egluro'r pwyntiau uchod dywedodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach bod y system i bwrpas trwyddedu goruchwylwyr drysau wedi'i throsglwyddo i'r Gymdeithas Diwydiannau Diogelwch ac nid oedd yn fater i'r Cyngor.  Gall unigolyn sy'n dymuno trefnu achlysur dros dro yn y Sir ymgeisio am rybudd achlysur dros dro yn amodol ar y sylwadau a geid ac a gâi eu clywed gan y Panel/Pwyllgor Trwyddedu.  Yng nghyswllt amodau roedd y Ddeddf Trwyddedu yn benodol iawn ar y pwynt ac yn dweud nad oes modd gorfodi amodau cyffredinol ar yr holl sefydliadau a bod raid ystyried pob cais0 fesul un.  

 

 

 

Penderfynwyd nodi y drefn y bydd raid i ymgeiswyr ei dilyn wrth gyflwyno cais dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

 

 

5     AMCANION TRWYDDEDU

 

      

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan yr Uwch Swyddog Safonau Masnach yn nodi'r pedwar amcan trwyddedu y cyfeiriwyd atynt dan gymal 4.1 yn yr eitem flaenorol.

 

      

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Safonau Masnach bod y pedwar amcan trwyddedu yn creu sail y mae'r awdurdod trwyddedu yn ei defnyddio i benderfynu beth sydd er budd y cyhoedd wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau.  Ni all awdurdod trwyddedu gyfyngu gweithgareddau trwyddedadwy onid oes angen gwneud hynny i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu hyn, ac mae pob amcan yr un mor bwysig â'i gilydd.

 

      

 

Rhaid i unrhyw sylwadau mewn perthynas â chaniatáu trwydded neu resymau am adolygu trwydded gyfredol ymwneud â hyrwyddo'r amcanion trwyddedu - nid oes yr un amcan trwyddedu arall ac o'r herwydd mae'r pedwar amcan yn ystyriaethau o bwys mawr bob amser.  

 

      

 

Wrth wneud cais am drwyddedu eiddo mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno rhaglen weithredu sy'n cynnwys datganiad ar y camau y mae'n bwriadu eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.  Hefyd mae'r amcanion trwyddedu yn sefydlu'r profion y mae awdurdod trwyddedu yn cyflawni ei ddyletswyddau yn eu herbyn ar gyfer y system drwyddedu newydd.  Yr amcan yw sicrhau bod pawb sy'n rhan o'r system drwyddedu yn canolbwyntio ar amcanion cyffredin sy'n hanfodol i gydbwysedd teg gwahanol ddiddordebau a lles cymunedau mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedadwy.

 

      

 

Penderfynwyd nodi'r pedwar Amcan Trwyddedu dan Ddeddf Trwyddedu, 2003.

 

 

 

6     HYFFORDDIANT

 

      

 

Cyflwynwyd - Adroddiad gan yr Uwch Swyddog Safonau Masnach yn amlinellu achlysuron hyfforddi i aelodau dan y Ddeddf Trwyddedu, 2003.

 

      

 

Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud wrth yr aelodau bod hyfforddiant penodol i aelodau'r Pwyllgor Trwyddedu wedi'i drefnu ar gyfer 11 Mawrth, 2005.  Câi'r achlysur ei arwain gan hyfforddwr allanol a fydd yn arbenigwr blaenllaw yn y maes.  Y swyddogaethau y canolbwyntir arnynt yw'r rhai hynny y bydd raid i aelodau'r Pwyllgor eu cyflawni yn ogystal â'r protocolau a'r trefniadau angenrheidiol.  Wedyn ar fore 18 Mawrth 2005 cynhelir y sesiwn hyfforddiant mewnol pryd y bydd y materion a gafodd sylw yn cael eu hadolygu a threfnir ffug wrandawiad fel bod aelodau yn medru chwarae rhan yn eu gwrandawiad eu hunain.  Cyfle yw hwn i'r aelodau fyfyrio ynghylch eu profiad a thrafod yn ystyrlon y materion hyn yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor yn ystod y pnawn 18 Mawrth, 2005 yn dilyn sesiwn hyfforddiant y bore.

 

      

 

Penderfynwyd nodi'r achlysuron hyfforddiant arfaethedig i aelodau dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ac a drefnwyd ar gyfer Mawrth, 2005.

 

      

 

7     DYDDIADAU ARFAETHEDIG I'R GWRANDAWIADAU

 

      

 

Cyflwynwyd a nodwyd - Y dyddiadau amodol a ganlyn a neilltuwyd i unrhyw wrandawiadau trwyddedu -

 

      

 

Dydd Mawrth, 5 Ebrill, 2005;  dydd Mercher, 20 Ebrill, 2005; dydd Mawrth, 10 Mai, 2005; dydd Mawrth, 24 Mai, 2005; dydd Mawrth, 7 Mehefin, 2005; dydd Mawrth, 21 Mehefin, 2005.

 

      

 

Wedyn cafwyd sylwadau ynghylch anawsterau sy'n codi'n aml wrth drefnu cyfarfodydd0 yn enwedig yng nghyswllt cael lleoliad addas a nodwyd bod angen rhoddi sylw i'r mater o sefydlu system benodol i bwrpas cydlynu o un man canolog restr o gyfarfodydd ac o ystafelloedd pwyllgor y Cyngor.

 

      

 

Cyfeiriwyd at y ffioedd a godir am y ceisiadau ac a ydynt yn ddigon ai peidio i gwrdd â chostau hyfforddi'r aelodau a nodwyd na ddylai'r costau hyfforddi dan y Ddeddf Trwyddedu fod yn gostau ychwanegol i'r Awdurdod.  Yn ychwanegol awgrymwyd y dylai Polisi Iaith yr Awdurdod fod yn berthnasol i'r holl waith dan y Ddeddf Trwyddedu a bod0 ymgeiswyr yn cael y cyfle i ddefnyddio eu dewis iaith; gofynnwyd a oedd y costau cyfieithu yn rhan o'r ffioedd.   Codwyd y materion hyn i bwrpas eu trafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ac yn dilyn y ddau achlysur hyfforddiant.

 

      

 

8     DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

 

      

 

Nodwyd y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu yn cael ei gynnal am 2:00 p.m. ar ddydd Gwener, 18 Mawrth, 2005.

 

      

 

      

 

     Y Cynghorydd John Arthur Jones

 

     Cadeirydd