Pwyllgor Trwyddedu dogfennau , 10 Mai 2005

Pwyllgor Trwyddedu
Dydd Mawrth, 10fed Mai, 2005

PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   10 Mai 2005

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones (Cadeirydd)

Y Cynghorydd D. Hadley (Is-Gadeirydd)

 

Y Cynghorwyr John Byast, W. J. Chorlton, C. L. Everett, J. Arwel Edwards, O. Glyn Jones, R. L. Owen, G. O. Parry, MBE, J. Arwel Roberts, W. T. Roberts, John Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Amgylcheddol)

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ)

Uwch Swyddog Safonau Masnach (DR)

Uchel Swyddog Safonau Masnach (DO)

Swyddog Pwyllgor (ATH)

 

 

 

YMDDIHEURIAD:

 

Y Cynghorydd H. Noel Thomas

 

 

 

 

 

1

CADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd J. Arthur Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Etholwyd y Cynghorydd Denis Hadley yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.

 

3

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

4

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfod cynt y Pwyllgor Trwyddedu a gyfarfu ar 5 Ebrill, 2005 fel rhai cywir.  (Tudalen 66 Cyfrol Cofnodion y Cyngor Sir 3 Mai, 2005)

 

5

FERSIWN DDRAFFT O DREFNIADAU GWRANDAWIADAU Y PWYLLGOR TRWYDDEDU

 

Cyflwynwyd i'r Pwyllgor eu hystyried y fersiwn ddrafft o drefniadau Gwrandawiadau y Pwyllgor Trwyddedu.

 

 

 

Cafwyd y sylwadau a ganlyn gan yr aelodau ar  y fersiwn ddrafft o'r trefniadau :

 

 

 

5.1

Yng nghyswllt paragraff 2.3, lle dywedir y bydd cworwm yr Is-Bwyllgor Trwyddedu yn dri aelod a bod raid i'r tri fod yn bresennol trwy'r gwrandawiad, ond nodwyd petai un o'r tri yn gorfod gadael am ba reswm bynnag e.e. galwadau amrywiol etc. yn ystod y gwrandawiad yna buasai'n fuddiol cael darpariaeth yn y trefniadau fel bod y ddau aelod sydd ar ôl yn medru parhau gyda'r gwrandawiad ar ôl cael cytundeb yr holl bartïon perthnasol a fo'n bresennol.

 

 

 

Yma ychwanegodd yr Uchel Swyddog Safonau Masnach na welai ef pam na fedrai'r gwrandawiad, ar ôl ei agor, barhau gyda dau aelod petai'r holl bartïon yn cymeradwyo hynny. Fodd bynnag, ni allai aelod sy'n gadael y gwrandawiad yn ystod y trefniadau ddychwelyd.

 

 

 

 

 

 

 

5.2

Yng nghyswllt paragraff 2.4, bwriadwyd ychwanegu'r geiriau "i'r aelodau" at frawddeg olaf y paragraff fel bod honno'n darllen "Ni fydd y rhain yn rhan o'r gwrandawiad ond byddant ar gael i ddarparu cyngor i'r aelodau".

 

5.3

Yng nghyswllt paragraff 5.1 a'r hawl i fynychu a chael cynrychiolaeth, awgrymwyd y dylid llunio diffiniad i'r term parti er mwyn egluro pwy y mae'r term yn ymwneud â fo yng nghyd-destun mynychu a chael cynrychiolaeth mewn gwrandawiad.  Yn ychwanegol awgrymwyd a chytunwyd i ychwanegu, at baragraff 1.3 y fersiwn Saesneg o'r trefniadau, y geiriau" All parties to include..." (Introduction and Application).  Bydd y fersiwn Gymraeg gyfatebol yn darllen "Sicrhau fod pawb, gan gynnwys ....., yn cael gwrandawiad teg".

 

5.4

Yng nghyswllt paragraff 5.4 y fersiwn Saesneg, cynigiwyd newid y gair "relevant" am "accepted" fel bod y frawddeg gyntaf yn darllen "Representations or requests for review will only be accepted if they relate to one or more of the four licensing objectives".  Bydd y fersiwn Gymraeg gyfatebol yn darllen "Ni fydd gwrthwynebiadau na cheisiadau am arolwg yn cael eu derbyn oni fyddant yn ymwneud ag un neu â rhagor nag un o'r pedwar amcan trwyddedu".

 

5.5

Yng nghyswllt paragraff 6.3 y fersiwn Saesneg, cynigiwyd rhoddi'r gair "questions" yn lle "problems" ym mrawddeg olaf y paragraff fel bod y frawddeg honno'n darllen "The Sub-Committee maybe accompanied by the Committee Officer and the Legal Advisor who will be available to assist the Sub-Committee with any legal questions, but will not participate in any decision making of the Sub-Committee".  Bydd y fersiwn Gymraeg gyfatebol yn darllen "Gall y Swyddog Pwyllgor a'r Cynghorydd Cyfreithiol fod yn bresennol yn yr Is-Bwyllgor ac ar gael i'w gynorthwyo gydag unrhyw gwestiwn cyfreithiol allai godi ond ni fyddant yn rhan o unrhyw benderfyniad a wna'r Is-Bwyllgor".

 

5.6

Yng nghyswllt paragraff 8.14 y fersiwn Saesneg, cynigiwyd rhoddi'r gair "will" yn lle "may" yn yr ail frawddeg.  Wedyn bydd yn darllen "The Sub-Committee will withdraw to a private room to do this".  Bydd y fersiwn Gymraeg gyfatebol yn darllen "I gyflawni hyn bydd yr Is-Bwyllgor yn encilio i ystafell breifat" [i benderfynu ar y mater gerbron] a thrwy hynny sicrhau cysondeb gydag ystyr y paragraff dilynol 8.15.

 

5.7

Yng nghyswllt paragraff 8.15 y fersiwn Saesneg, cynigiwyd y dylid rhoddi y gair "assisted" yn lle "informed" fel bod y frawddeg yn darllen "The Chairperson will ask the Legal Advisor to inform the parties of any legal advice given during the Sub-Committee's private discussion that has assisted their decision.".  Yn y fersiwn Gymraeg bydd y geiriau "... i'w cynorthwyo...." yn cael eu hychwanegu fel bod rhan olaf 8.15 yn darllen "...ac a ddefnyddiwyd i'w cynorthwyo i gyrraedd penderfyniad".

 

5.8

Yng nghyswllt paragraff 12.1 diwygio'r Gymraeg i gyfleu'r Saesneg ddiwygiedig fel bod y frawddeg yn darllen "Ni all yr un aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu fod ar Is-Bwyllgor sy'n cynnal gwrandawiad i gais yn y ward y mae'n ei chynrychioli neu y mae'n byw ynddi".

 

5.9

Yng nghyswllt paragraff 12.2 yn ymwneud â hawliau Aelodau Wardiau i gyflwyno gwrthwynebiadau, gofynnwyd cwestiwn ynghylch y gofyniad bod aelod dros ward sy'n cyflwyno gwrthwynebiad ar ran preswylydd neu fusnes yng nghyffiniau'r eiddo yn gorfod dweud yn glir pwy y mae yn ei gynrychioli gan resymu bod rhai unigolion, o bosib, wrth gyflwyno gwrthwynebiadau yng nghyswllt cais, yn dymuno aros yn ddienw.  Gofynnwyd a oedd modd cynnwys darpariaeth yn y trefniadau fel bod modd i aelod ward ddatgelu, yn gyfrinachol i swyddog, enw unigolyn neu unigolion a gynrychiolir.

 

 

 

Yma ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd darpariaeth yn y system i'r rheini sy'n gwrthwynebu cais aros yn ddienw - rhaid i'r ymgeisydd wybod pwy sy'n gwrthwynebu fel bod modd ymateb i'r gwrthwynebiad.

 

 

 

5.10

Yng nghyswllt paragraff 16.1, lle mae darpariaeth i'r Is-Bwyllgor Trwyddedu ddiwygio neu amrywio unrhyw ran o'r trefniadau neu eu rhoddi o'r neilltu yng nghyswllt unrhyw achos penodol petai o'r farn bod hynny'n angenrheidiol i sicrhau tegwch i'r partïon a/neu i sicrhau rhoddi sylw priodol i'r cais gerbron, gwrthwynebodd rhai aelodau gynnwys y ddarpariaeth hon a hynny am ddau reswm - yn gyntaf y dylai'r Pwyllgor Trwyddedu llawn gytuno ar unrhyw newidiadau i'r trefniadau ac yn ail fod caniatáu i'r Is-Bwyllgor ddiwygio'r trefniadau yn tanseilio cysondeb pethau, oherwydd wedyn gellid newid y trefniadau o'r naill wrandawiad i'r llall a hynny'n dibynnu ar sylwadau yr aelodau a fo'n gwasanaethu ar yr Is-Bwyllgor ar unrhyw adeg benodol.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd bod raid cael elfen o ddisgresiwn wrth ddelio gyda gwrandawiadau unigol a bod rhaid rhoddi'r hawl i'r Is-Bwyllgor roddi o'r neilltu, diwygio neu amrywio'r trefniadau petai hynny'n angenrheidiol i sicrhau gwrandawiad teg a phriodol mewn achosion penodol.

 

 

 

Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol at amgylchiadau a allai godi lle buasai'r Is-Bwyllgor yn gorfod diwygio'r trefniadau - dywed y trefniadau bod yn rhaid i'r Is-Bwyllgor roddi ei resymau am unrhyw benderfyniad i ddiwygio ac y caiff y rhesymau eu cofnodi.  Roedd y trefniadau, fel y cawsant eu cyflwyno, yn darparu fframwaith cyffredinol i gynnal gwrandawiadau y mae ynddynt ddisgresiwn i ddiwygio'r trefniadau mewn achosion penodol.

 

 

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Trefniadau Trwyddedu Drafft yn amodol ar gyflwyno'r newidiadau a amlinellir ym mharagraffau 5.1 - 5.8 uchod.

 

 

 

 

 

Y Cynghorydd J. Arthur Jones

 

Cadeirydd