Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dogfennau , 3 Medi 2008

Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion
Dydd Mercher, 3ydd Medi, 2008

PWYLLGOR CYNLLUNIO A GORCHMYNION

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3 Medi, 2008.  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd T.H. Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr  W.J. Chorlton, E.G. Davies, Lewis Davies,

Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones,

Clive McGregor, R.L. Owen, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, John P. Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW :

 

Cynllunio :

 

Pennaeth Rheoli Datblygu,

Cynorthwywr Cynllunio (DO).

 

Priffyrdd :

 

Prif Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) (JRWO),

Swyddog Rheoli Datblygu (RE)

 

Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol (RWJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd R.Ll. Jones - Aelod Portffolio (Cynllunio)

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel y cawsant eu cofnodi dan yr eitemau perthnasol.

 

3

COFNODION

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 30 Gorffennaf, 2008 yn amodol ar ddiwygiad i eitem 6.2 - The Lodge, 17 Bay View Road, Benllech.  Nododd y Cynghorydd Durkin y dylai’r Saesneg ddarllen “that he was concerned and that the application should be dealt with now” ac nid gohirio.

 

4

YMWELIAD Â SAFLE

 

Cyflwynwyd a chadarnhawyd, fel un cywir, adroddiad ar yr Ymweliad â Safle Cynllunio ar 6 Awst, 2008.

 

 

5

CEISIADAU A OHIRIWYD

 

 

 

5.1

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

11/C/8U/1 CAIS LLAWN AR GYFER CODI 30 UNED BRESWYL YNGHYD Â CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR TU CEFN I PARC TRECASTELL,  PORTH LLECHOG, AMLWCH

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl argymhelliad y swyddog.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 21 Tachwedd, 2007.  Mae gwybodaeth ychwanegol (Datganiad Iaith Gymraeg ac Asesiad Ecolegol) yn cael ei ddisgwyl.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswm a roddwyd.

 

 

 

5.2

CAIS ECONOMAIDD

 

 

 

23/C/103C/ECON NEWID DEFNYDD O ANNEDD I GANOLFAN AILSEFYDLU A DYSGU (DOSBARTH C2) YN BRYN GOLEU, CAPEL COCH

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorwyr Clive McGregor a Kenneth P. Hughes yn y cais hwn.   Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol i’r Pwyllgor ar 30 Gorffennaf, 2007 oherwydd cryn ddiddordeb lleol gydag argymhelliad i ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 6 Awst, 2008.  

 

 

 

Oherwydd materion yn ymwneud â pherchnogaeth y trac sydd yn darparu mynediad i’r safle, cyflwynwyd Tystysgrif Perchnogaeth B ynghyd â chynllun lleoliad diwygiedig.   Mae’r broses o

 

ailymgynghori a hysbysu’r cymdogion wedi dechrau o ganlyniad i hyn.

 

 

 

Yma nododd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod asiant yr ymgeisydd wedi ein gwadd i weld sefydliad tebyg yn Rhos Erchan, Aberystwyth.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd W.J. Chorlton, unwaith y bydd yr holl broses ymgynghori wedi’i chwblhau, mai mater i’r Swyddogion oedd cynghori a oedd angen ymweld ag Aberystwyth ai peidio.

 

 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rheswn a roddwyd.

 

 

 

5.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

34/C/179G CYNLLUNIAU DIWYGIEDIG MANWL AR GYFER CODI UN ANNEDD WEDI EU CANIATAU GYNT O DAN GANIATAD CYNLLUNIO 34C179F/DA AR DIR GER TYN Y GAMFA, PONC Y FRON, LLANGEFNI

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel bod yr aelodau’n gyfarwydd â’r safle cyn gwneud eu penderfyniad.

 

 

 

5.4

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

36/C/89H CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI SWYDDFEYDD, MAN ARDDANGOS A CHYFLEUSTERAU WARWS GYDAG ANNEDD I’R PERCHNOGION AR DIR GER PLAS Y COED, LLANGRISTIOLUS

 

 

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel bod yr aelodau’n gyfarwydd â’r safle cyn gwneud eu penderfyniad.

 

 

 

5.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

41/C/9U NEWID DEFNYDD TIR AR GYFER LLEOLI 56 O UNEDAU STORIO YNGHYD AG ADEILADU CANOPI YN STAR TRADING CENTRE, STAR

 

 

 

Gan y Cynghorydd Selwyn Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio. Ym mhwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yr 2il Gorffennaf, 2008, gofynnodd yr aelodau i’r adran briffyrdd ailedrych ar y cais a’u hargymhelliad yng ngoleuni datblygiadau diweddar ger y fynedfa gerbydol i’r stad manwerthu.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod gohebiaeth wedi dod i law oddi wrth asiant yr ymgeisydd yn gofyn i’r Pwyllgor ddelio gyda’r cais heddiw.  Yn yr ohebiaeth cyfeiriwyd at ohirio yn y broses o ddelio gyda’r cais a nododd y swyddog eu bod yn ystyried cymryd camau pellach yn erbyn yr Awdurdod a chrybwyllodd hefyd iawndal.

 

 

 

Ar ôl cynnal trafodaethau gyda’r cwmni a gododd y wal dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) eu bod bellach yn fodlon gostwng uchder y wal i’r lefel flaenorol.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod modd delio gyda’r cais bellach dan Amod Grampian er mwyn sicrhau bod y wal ger y fynedfa yn cael ei thynnu i lawr er mwyn gwella gwelededd a gallai y mater hwn fod yn amod ar ganiatâd cynllunio.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Eric Jones (yr aelod lleol) nad oedd wedi paratoi tystiolaeth ar gyfer y cais oherwydd tybio y câi ei ohirio.  Ond ychwanegodd yr hoffai weld y wal yn cael ei gostwng cyn ystyried y cais.  

 

 

 

Pryderu oedd y Cynghorydd O Glyn Jones bod y safle dan sylw yn barc siopau a bod yma newid defnydd o siopau i safle diwydiannol.  Roedd ganddo bryderon ynghylch diogelwch a’r fynedfa a hynny er gwaethaf gostwng uchder y wal.  Ategu pryderon y Cynghorydd O G Jones a wnaeth y Cynghorydd E G Davies.

 

 

 

Adeg ymweld â’r safle dywedodd y Cynghorydd W J Chorlton bod unedau storio arno’n barod ac mai’r mater gerbron oedd cuddio’r lle a thwtio’r safle.  Ar yr ymweliad â’r safle roedd y Pwyllgor yn gytûn gyda’r cynigion cuddio ond y pryder pennaf oedd uchder y wal.  Petai’r wal yn cael ei gostwng i lefel yr Adran Briffyrdd teimlai nad oedd modd gwrthod y cais.

 

 

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Rheoli Datblygu bod apêl wedi’i chyflwyno ym mis Hydref 2005 ynghylch y safle a bod yr Arolygydd Cynllunio wedi ystyried effaith yr unedau storio ar yr amgylchedd ac ni chredai bod y defnydd yn amhriodol ac nid oedd wedi codi materion priffyrdd chwaith.  Sylwodd y Swyddog bod y cais hwnnw a fu gerbron yr Arolygydd Cynllunio yn gais am 80 uned storio a bod amod ynghlwm wrth y ddarpariaeth hon yn dweud na fydd yno ragor na 56 o unedau ar y safle.  Yn olaf dywedodd bod hawliau apêl petai’r cais yn cael ei wrthod.

 

 

 

Gan fod nifer yr unedau storio yn dod i lawr o 80 i 56 gofynnodd y Cynghorydd O Glyn Jones a oedd yr unedau storio hyn yn fwy na’r rhai blaenorol.  Yn ei ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn dangos yn glir yn lle y câi’r unedau storio eu gosod a bod rhaid eu cadw dan ganopi.  Bydd maint y canopi yn rheoli y math o unedau fydd yn cael eu storio ar y safle.

 

 

 

Gan y Cynghorydd W J Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad ac argymhelliad o ganiatáu gan y swyddog gyda’r amod bod y wal ger y fynedfa yn cael ei gostwng cyn rhyddhau caniatâd cynllunio a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Kenneth P Hughes.

 

 

 

Unwaith eto soniodd y Cynghorydd Hefin W Thomas am ei bryderon ynghylch uchder y wal ger y fynedfa ac y gellid cynnwys amod yn ymwneud â maint y wal.  Ond mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd mai dyma yn union yr oedd y Swyddogion yn dymuno ei wneud, rhoddi caniatâd ond gydag amod i gyfyngu ar uchder y wal.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu y cais yn amodol ar amod Grampian er mwyn gostwng uchder y wal yn y fynedfa i’r safle.

 

 

 

(Rodd y Cynghorydd E.G. Davies am gofnodi nad oedd wedi pleidleisio).

 

6

CEISIADAU YN CODI

 

 

 

6.1

CEISIADAU’N TYNNU’N GROES

 

 

 

17/C/413 CODI ANNEDD NEWYDD YNGHYD AG ADDASU’R FYNEDFA I GERBYDAU TU CEFN I MOR AWEL LLANDEGFAN

 

 

 

Cafodd y cais ei gyflwyno yn wreiddiol i’r Pwyllgor ar 9 Ebrill, 2008 ar ofyn yr aelod lleol.  Yn y cyfarfod fe benderfynwyd gohirio’r cais er mwyn disgwyl am safbwyntiau pellach ar y cynnig gan yr Awdurdod Priffyrdd.  Yn dilyn gwaith ymchwilio gan yr Awdurdod Priffyrdd canfuwyd nad oedd unrhyw anghytuno mawr ynglyn ag arolwg traffig yr ymgeisydd ac fe wnaed cais am fwy o wybodaeth am y lleiniau gwelededd.  Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig i’r fynedfa a’r lleiniau gwelededd a nododd yr ymgeisydd ei fod yn fodlon symud y fynedfa a symud polyn trydan a hynny er mwyn gwella’r llain gwelededd.

 

 

 

Er bod y cais yn groes i Gynllun Lleol Ynys Môn roedd cefnogaeth iddo dan y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Ar 30 Gorffennaf, 2008 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a chafwyd yr ymweliad ar 6 Awst, 2008.

 

 

 

Credai’r Cynghorydd E G Davies bod y traffig sy’n mynd heibio i’r safle penodol hwn yn symud ar gyflymder rhy uchel a nododd bod yr ymgeisydd wedi crybwyll y bydd yn newid y fynedfa i’r safle.  Ond dim ond ychydig o lathenni yn unig yw’r symud meddai’r Cynghorydd Davies ac ni fydd hynny’n gwneud unrhyw wahaniaeth i’r gwelededd o’r safle.  Ger y safle roedd dau dy a’r ffordd ar allt ac o’r herwydd mae’n beryglus iawn tynnu allan o’r ffordd.  Cafwyd cynnig ganddo i wrthod y cais.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd R L Owen yn defnyddio’r ffordd hon yn rheolaidd a chytunodd gyda’r aelod lleol a chyfeiriodd at gerbydau yn goryrru ar y briffordd.  Yn ôl y Cynghorydd Owen buasai caniatáu’r cais yn niweidiol i’r ardal oherwydd gorddatblygu llecyn prydferth iawn.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd H W Thomas bod y safle y tu mewn i ardal 30 mya, ac o’r herwydd roedd hi’n anodd iddo wrthwynebu.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd W J Chorlton bod y cynnig hwn yn mynd i wella’r fynedfa a bod yr ardd yn ddigon mawr i godi ty arni.  Os oedd pobl yn goryrru ar y ffordd yna roedd angen gwneud rhywbeth yn ei gylch ond nid trwy rwystro’r datblygiad hwn.

 

 

 

Soniodd y Cynghorydd J A Roberts bod arolwg trafnidiaeth wedi’i gynnal gan yr ymgeisydd a hefyd gan yr Awdurdod Priffyrdd a chredai bod y cais yn haeddu cefnogaeth.

 

 

 

Roedd y Cynghorydd O Glyn Jones wedi sylwi ar yr ymweliad â’r safle bod ceir yn parcio ar yr ochr draw i’r ffordd a hynny’n gwneud y fynedfa arfaethedig yn beryglus dros ben.  Eiliodd y cynnig gan y Cynghorydd E G Davies i wrthod y cais.

 

 

 

Gan y Cynghorydd W J Chorlton cafwyd cynnig i ganiatáu a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd J Arwel Roberts.

 

 

 

Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

 

 

Derbyn adroddiad ac argymhellion y swyddog a chaniatau’r cais : Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Lewis Davies, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, T.J. Jones, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas.

 

 

 

Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog : Y Cynghorwyr E.G. Davies,

 

B. Durkin, O. Glyn Jones, Clive McGregor, R.L. Owen,Selwyn Williams.

 

 

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorydd J.P. Williams.  

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a  chaniatáu’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

 

 

6.2

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

 

 

30/C/26D NEWID AMOD (03) AR GAIS RHIF 30C26C ER MWYN GALLUOGI CYNYDDU’R NIFER O DRIGOLION O 4 I 7 YNG NGHYSWLLT CARTREF GOFAL YN LODGE, 17 BAY VIEW ROAD, BENLLECH

 

 

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan Y Cynghorydd John Penri Williams a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.   Cafodd y cais ei ohirio yn y pwyllgor diwethaf er mwyn caniatáu i Beirianwyr yr Adran Briffyrdd egluro pa lythyr y cyfeiriwyd ato yn eu hymateb i’r ymghynghoriad.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod apêl wedi’i chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio a hynny oherwydd methu â phenderfynu ar y cais mewn pryd ac felly nid oedd cyfle i’r Awdurdod hwn wneud penderfyniad ar y cais.  O’r herwydd tybiwyd bod y cais wedi’i wrthod.  Roedd y Swyddog eisiau gwybod beth oedd dymuniad y Pwyllgor yng nghyswllt dull yr Adran o ddelio gyda’r apêl.

 

 

 

Nododd y Cynghorydd W J Chorlton bod un o Adrannau’r Cyngor yn cymeradwyo’r cais er ei fod ef yn cael anhawster oherwydd y penderfyniad y maent wedi’i wneud.  Os oedd y Pwyllgor am fynd yn groes i benderfyniad gan Adran arall yna roedd y cais hwn yn mynd i fethu.

 

 

 

Mewn ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod apêl wedi’i chyflwyno ac o’r herwydd ni allai’r Pwyllgor ganiatáu na gwrthod y cais bellach.  Yr unig beth y gallai’r Pwyllgor ei wneud oedd cyflwyno sylwadau a rhoddi canllawiau i’r Swyddogion yng nghyswllt sut i ddelio gyda’r apêl.  Nid oedd y Cynghorydd Chorlton yn cytuno gyda’r Swyddogion ac ychwanegodd y byddan nhw, yr awdurdod yn rhoi cleientau yn y cartref gofal.

 

      

 

     Cefnogi’r Cynghorydd Chorlton a wnaeth y Cynghorydd Durkin gan ychwanegu na chafwyd unrhyw gyfarwyddyd y câi’r cais hwn ei gyflwyno i apêl am fethu â gwneud penderfyniad arno a’r cyngor a roddwyd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf oedd gohirio’r cais ac roedd ef yn pryderu ynghylch hynny.  Ychwanegodd na chredai bod y cais yn un y methwyd â gwneud penderfyniad arno gan fod sylw wedi’i roi iddo ddau fis ynghynt pan benderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais ond daethpwyd ag ef yn ôl i’r Pwyllgor diwethaf ar ôl cyflwyno rhybudd 31 diwrnod.  Gan y Cynghorydd Durkin cafwyd eglurhad ar y cefndir a soniodd bod caniatâd wedi’i roddi yn 2003 i newid defnydd o’r eiddo er mwyn darparu cartref gofal i 4 preswylydd a chartref i’r teulu a newid y categori defnydd o annedd C3 i sefydliad preswyl C2. Ar y pryd nodwyd bod hanes y safle mor berthnasol fel bod raid rhoddi amodau ynghlwm wrth y caniatâd i rwystro dwysau’r defnydd a rhwystro dwysau unrhyw ddefnydd arall dan gategori dosbarth C2 ac yn bwysicach na dim, er mwyn amwynder fel nad oedd mwy na 4 preswylydd plws teulu’r perchennog yn byw yn y ty ar unrhyw un adeg benodol.

 

      

 

     Aeth ymlaen i nodi bod gofyn i’r Pwyllgor yn awr ystyried diwygio’r amod amwynder a chaniatáu gwneud defnydd mwy dwys o’r sefydliad.  Ond buasai cymeradwyaeth yn rhoi’r neges anghywir i’r preswylwyr yn yr ardal, sef bod y Cyngor yn rhoddi llai o bwys heddiw ar amwynder nag yn 2003.  Er mwyn hyrwyddo llecynnau parcio, a lleddfu pryderon yr Adain Briffyrdd, roedd yr ymgeisydd wedi creu 7 o lecynnau parcio newydd yn ffrynt yr eiddo ac wedi darparu man croesi i gerbydau a chyrbin isel ar hyd y cyfan o led yr eiddo, hyd o 29 metr i gyd.  Roedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi rhoddi caniatâd i’r ymgeisydd wneud hyn, ond gyda rhybudd y buasai’n rhaid trefnu i gael caniatâd cynllunio dilys yn gyntaf, caniatâd a oedd yn angenrheidiol cyn gostwng lefel y cyrbin.  P’run bynnag, ni chaniateir cyrbin isel ar hyd y cyfan o ffrynt eiddo ac yma gyferbyn â chyffordd, mae’n creu peryglon gwirioneddol i gerddwyr ac i yrrwyr cerbydau, mae’n andwyo cymeriad naturiol y lle ac amwynder yr holl ardal.

 

      

 

     Canfuwyd nad oedd yr ymgeisydd hwn wedi cyflwyno’r datganiad dyluniad a mynedfa angenrheidiol i’r Awdurdod Cynllunio gyda’r cais ac o’r herwydd roedd hynny’n gwneud y cais gwreiddiol yn annilys ac ni ddylid bod wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor na hyd yn oed ddelio gyda’r cais dan bwerau dirprwyol.  Cynigiodd y Cynghorydd Durkin bod y Pwyllgor yn glynu wrth ei benderfyniad gwreiddiol ac yn caniatáu i unrhyw apêl fynd yn ei blaen.

 

      

 

     Yma ychwanegodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod yr aelod lleol wedi crybwyll 3 rheswm a roes y Pwyllgor dros wrthod y cais hwn h.y. prinder amwynderau, nodwedd ddieithr a dim digon o le parcio.  Wedyn soniodd bod rhywun wedi cysylltu ynghylch cofnodion y cyfarfod diwethaf lle dywedwyd ‘nododd y Rheolwr Rheoli Cynllunio - roedd yna hefyd hawl i apelio ac roedd wedi siarad gyda’r asiant oedd yn cynrychioli’r ymgeisydd ac roedd posibilrwydd cryf y byddent yn mynd i apêl pe bai’r cais yn cael ei oedi ymhellach.”   Roedd datganiad wedi’i wneud yn y cyfarfod diwethaf meddai’r Pennaeth Rheoli Datblygu ynghylch y posibilrwydd cryf yr âi’r ymgeisydd i apêl ynghylch y cais hwn.  Bellach gwyddom y bydd yr apêl yn canolbwyntio ar y tri rheswm a roes y Pwyllgor dros wrthod.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd J Arwel Roberts cafwyd cynnig i gadarnhau penderfyniad y Pwyllgor cynt a gwrthod y cais am y rhesymau a roddwyd.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd B Durkin.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i lynu wrth benderfyniad blaenorol y Pwyllgor a gwrthod y cais yn unol â rhesymau a nodwyd yn y cyfarfod a’r rhesymau hyn fydd conglfaen achos yr Awdurdod yn yr apêl. 

 

      

 

6.3

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     30C350MCAIS LLAWN AR GYER SYMUD Y MAES PARCIO, CREU MYNEDFA NEWYDD, CODI 16 UNED GWYLIAU A GOSOD GWAITH TRIN DWR CARTHION PREIFAT AR DIR CWRS GOLFF  STORWS WEN, BRYN-TEG

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 30 Gorffennaf, 2008, ac fe gafwyd hyn ar 6 Awst, 2008.  

 

      

 

     Nododd y Pennaeth Rheoli Datblygu y câi y cais hwn sylw dan yr amodau twristiaeth sy’n ymddangos dan Bolisi 8 yn y Cynllun Lleol a than Bolisi TO2 yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Roedd y polisïau hynny yn gefnogol i ddatblygiad integredig gyda’r maes golff a’r bwyty.  Roedd y cais yn golygu codi 16 o unedau gwyliau - sef 4 teras a 4 uned ym mhob teras; arnynt bydd toeau llechi a rendr gorffenedig o liw. Yr argymhelliad oedd caniatáu yn amodol ar lofnodi cytundeb dan adran 106 yn cyfyngu’r defnydd o’r unedau i letyau gwyliau.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams bod y gymuned leol yn edrych ar y cais hwn o ddau gyfeiriad - roedd y bobl sy’n gweithio ar y maes Golff yn credu bod y datblygiad yn mynd i ddiogelu dyfodol y safle.  Roedd 6 ohonynt yn gweithio ar y maes Golff a neb eisiau gweld y lle yn cau.  Ychwanegodd bod caniatâd eisoes wedi’i roddi i ddymchwel rhai o’r adeiladau allanol a chodi 4 uned newydd.  Ond roedd yr adeiladau newydd hyn, sialetau ac unedau - yn dai tair llofft nid sialetau; roedd yr 16 o unedau ychwanegol ym marn y bobl leol yn cyfateb i orddatblygu’r safle ac yn mynd i newid cymeriad y pentref.  

 

      

 

     Gan mai pentref yw Bryn-teg bydd caniatâd yn cael ei roddi i dai unigol yn unig.  Roedd polisi ar wahân yng nghyswllt yr angen am unedau o safon uchel ond credai ef bod y polisi hwn yn tynnu’n groes i bolisi ardaloedd gwledig.  Credai’r Cynghorydd Williams bod y cynnig hwn yn cyfateb i orddatblygu’r safle.

 

      

 

     Sylwodd y Cynghorydd John P Williams bod sawl amod wedi’i grybwyll yn yr adroddiad ond nid oedd yn hapus gydag Amod 6 yn datgan fel hyn ‘caiff yr adeilad ei ddefnyddio ar gyfer llety gwyliau yn unig ac ni chaiff ar unrhyw adeg ei ddefnyddio yn adeilad preswyl parhaol.’   Roedd ef ag amheuon ynghylch rhoddi amod ychwanegol yn nodi ‘dros dro’ yma.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd H W Thomas pa bryd y cyflwynwyd y cais i’r Adran Gynllunio ac yn ei ymateb dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu i’r cais gwreiddiol ddod i mewn ym mis Tachwedd 2007 ond yn y cyfamser cafwyd cynlluniau ychwanegol.  Hefyd sylwodd y Cynghorydd Thomas bod cais wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor benderfynu arno yn ôl dymuniad yr aelod lleol.  Dywedodd y Swyddog bod aelod newydd wedi’i ethol yn etholiadau’r Cyngor Sir ym Mai i’r ardal hon a bod trafodaethau yn parhau gyda’r aelod hwnnw.

 

      

 

     Gofynnodd y Cynghorydd J Arwel Roberts a oedd yr adran briffyrdd yn hapus gyda’r cyfleusterau parcio a chyda’r cais hefyd.  Cafwyd ymateb gan yr Uwch Beiriannydd ((Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) yn dweud bod digon o fannau parcio ar y safle i’r cais hwn a hefyd i’r clwb golff.

 

      

 

     Gan y Cynghorydd W J Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd John P Williams.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais : Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, E.G. Davies, Lewis Davies, O. Glyn Jones, T.H. Jones, Clive McGregor, R.L. Owen,  J. Arwel Roberts, J. P. Williams, Selwyn Williams.

 

      

 

     Atal ei bleidlais : Y Cynghorydd B. Durkin

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniátau’r cais gyda’r amodau’r adroddiad, a chan gynnwys Cytundeb dan Adran 106.

 

      

 

6.4

CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     34/C/510B/ECON DYMCHWEL YR ADEILADAU PRESENNOL YNGHYD Â CHODI ARCHFARCHNAD NEWYDD A CHREU MYNEDFA NEWYDD A FFORDD LINIARAU YN ‘FARM AND PET PLACE’, LÔN Y FELIN, LLANGEFNI

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan Y Cynghorydd Selwyn Williams a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.    Daeth y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd bod safle’r cais yn ymwneud â thir ym mherchenogaeth y Cyngor, sef maes parcio a allai fod yn ffordd o roi mynediad i’r datblygiad. Fe ymwelodd Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio â’r safle ar 15  Mai, 2008.

 

      

 

     Nododd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod trafodaethau wedi’u cynnal rhwng yr Adain Briffyrdd ac Asiant yr ymgeisydd ynghylch materion priffyrdd.  Bellach roedd y rheini ar ben a gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais ynghyd ag argymhelliad i ganiatáu gydag amodau.

 

      

 

     Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) bod yr ymgeisydd wedi penderfynu newid y fynedfa i’r safle a bellach daw o’r Stad Ddiwydiannol a heibio i Siop Lidl.  Un fynedfa fydd hon i’r ddwy siop.  Y bwriad yw cau’r fynedfa i ffordd Penyrorsedd o’r Stad Ddiwydiannol ac agor lôn newydd fydd yn mynd heibio i safle y Ganolfan Waith / Budd-daliadau i faes parcio’r Cyngor.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd Fflur M Hughes am ei phryderon ar y cychwyn, ac fel aelod lleol, oherwydd bod dwy siop mor agos i’w gilydd yn gwerthu bwyd ac effaith hynny ar ganol y dref.  Ond yn y cyfamser roedd etholwyr yr aelod lleol wedi cael cyfle i fynegi cefnogaeth i’r gystadleuaeth rhwng dwy archfarchnad er mwyn gostwng prisiau bwyd ar adeg pan yw’r rhagolygon economaidd yn ddu a phrisiau bwyd yn codi.  Aeth y Cynghorydd Hughes yn ei blaen i ddweud ei bod bellach yn hapusach gyda’r fynedfa a hefyd gyda’r materion priffyrdd a bod cytundeb ar gyfaddawd rhwng asiant yr ymgeisydd a’r awdurdod priffyrdd.  Hefyd roedd yn croesawu gwell cyswllt rhwng canol y dref a’r archfarchnad arfaethedig.  Gan y Cynghorydd W J Chorlton cafwyd cynnig i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniatáu’r cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hefin W Thomas.

 

      

 

     Petai’r Pwyllgor yn caniatáu’r cais dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu y bydd raid rhoddi amod ynghlwm wrth y caniatâd i gau ffordd Penyrorsedd cyn dechrau defnyddio’r adeiladau y rhoddir caniatâd iddynt yma.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniátau’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.   

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

6.5

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     40/C/28G CAIS I ADNEWYDDU CANIATAD CYNLLUNIO RHIF 40C28D AM GANIATAD AMLINELLOL AR GYFER CODI 4 TY TERAS GYDA MODURDAI AR WAHÂN A CHREU MYNEDFA NEWYDD AR DIR GER WHEEL AND ANCHOR, MOELFRE

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 30 Gorffennaf, 2008, ac fe gafwyd hyn ar 6 Awst, 2008.

 

      

 

     Nodwyd bod yr aelod lleol wedi methu â dod i’r cyfarfod i drafod y cais.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y swyddog a chaniáu ‘r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.

 

      

 

6.6

GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

     41/C/113B CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD AR DIR GYFERBYN À REFAIL FAWR, STAR

 

      

 

     Cafwyd datganiad o ddiddordeb yn y cais hwn gan Y Cynghorydd John Penri Williams a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.   Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.  Penderfynwyd ymweld â’r safle ar 30 Gorffennaf, 2008, ac fe gafwyd hyn ar 6 Awst, 2008.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn yn un amlinellol i godi un annedd ar dir ger Refail Fawr, Star a gyferbyn â bwthyn deulawr.  Ar achlysur o’r blaen rhoddwyd caniatâd cynllunio yn groes i argymhelliad y swyddogion i’r gorllewin o’r safle ond ar ôl i’r adeiniau cynllunio a phriffyrdd roddi sylw i’r mater roedd yma argymhelliad o ganiatáu.

 

      

 

     Soniodd y Cynghorydd Eric Jones am y gwrthwynebiad cryf gan bobl Star a’r Cyngor Cymuned i’r cais gan ychwanegu bod y preswylwyr wedi paratoi datganiad i’w ddarllen yn y cyfarfod.  Nododd bod deiseb ac arni 64 o enwau yn gwrthwynebu ac wedi’i chyflwyno i’r Cyngor Cymuned a darllenodd y Cynghorydd Jones y datganiad i’r Pwyllgor gyda’r neges hon:-

 

      

 

     “ ..................... the development would have a detrimental social and economic impact to the residents of Star.  The application has had an impact on the sale of a property opposite the site.  Greatest risk of approving this application is ribbon development.  Policy 50 notes that an application can be accepted as long as the proposal forms a reasonable minor extension to the existing developed part of the settlement and would not constitute an undesirable intrusion into the landscape or harm the character and the amenities of the locality.  The proposed application is in a field which is not part of the existing settlement, there is only one house in this field and allowing further development would increase the clearly definable boundaries of the hamlet.  With respect to the second part of policy, if this application is for the same scale and mass of the existing property in the field, then it would be clearly undesirable intrusion into the landscape......  There are a number of children in the hamlet that use this road, by granting this application it would increase the risk of injury to road users due to increased traffic.  Within the hamlet of Star there are 20 properties of different styles and size for sale, this is increased to 76 within a radius of 1 mile.  It is clearly there is no need to increase the number of dwellings available in Star. “

 

      

 

     Wedyn tynnodd y Cynghorydd Jones sylw’r Pwyllgor at ran 6 yr adroddiad sy’n dyfynnu Polisi 50 - ‘Pentrefi Rhestredig’ - lle dywed Cynllun Lleol Ynys Môn na fydd caniatâd cynllunio’n cael ei roddi fel arfer i anheddau sengl mewn pentrefi / treflannau neu ar y cyrion onid yw’r meini prawf rhestredig wedi’u bodloni.  Mae Star yn bentref rhestredig a dywed y meini prawf fel a ganlyn :- “bod y bwriad yn amlwg o fewn, neu’n ffurfio estyniad bychan rhesymol, i’r rhan honno o’r pentref neu’r bentrefan sydd wedi’i ddatblygu eisoes, ac na fyddai’n golygu ymwthiad anaddas i’r tirlun neu’n achosi niwed i gymeriad a mwynderau’r cyffiniau.”  Gan fod yr annedd a godwyd yn ddiweddar yn agos iawn i safle’r cais gerbron roedd y cynnig yn estyniad derbyniol i bentref Star.  Ond ychwanegodd y Cynghorydd Jones, ac atgoffa’r Pwyllgor, bod yr annedd ger y safle wedi cael caniatâd yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

      

 

     Pryderon pennaf pobl Star, meddai’r aelod lleol, oedd cael rhagor o geisiadau yn y dyfodol oherwydd rhoddi caniatâd i’r cais gerbron.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Hefin W Thomas bod y datblygiad y drws nesaf i’r cais hwn wedi’i ganiatáu gan y Pwyllgor yn groes i argymhellion swyddogion a bod hwnnw bellach, yn amlwg, wedi sefydlu cynsail.  Gan y Swyddogion cafwyd argymhelliad cryf i wrthod y cais blaenorol ger y safle hwn ond heddiw roedd argymhelliad i ganiatáu’r cais gerbron.  Ni fedrai’r Cynghorydd Thomas ddeall sut y daeth swyddogion i’r casgliad hwn ac ni fedrai ddeall chwaith pan na roddwyd cytundeb Adran 106 i wahardd rhagor o waith datblygu ar y safle.  Cafwyd ganddo gynnig i wrthod y cais a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd W J Chorlton.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

      

 

     Gwrthod y cais : Y Cynghorwyr W.J. Chorlton,  E.G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, O. Glyn Jones, Clive McGregor, J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, Selwyn Williams.

 

      

 

     Y rhain oedd y rhesymau dros wrthod :-

 

      

 

     1. Ymwthio i’r tir agored

 

     2. Nid yw’n cydymffurfio gyda’r Polisi ynghylch Datblygiad Rhubanaidd

 

     3. Niwed i’r Gymuned      

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.

 

      

 

7     CEISIADAU ECONOMAIDD

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau economaidd i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

8     CEISIADAU AM DAI FFORDDIADWY

 

      

 

     Doedd dim ceisiadau am dai fforddiadwy i’w hytyried gan y cyfarfod hwn.

 

      

 

9     CEISIADAU’N TYNNU’N GORES

 

      

 

9.1

19/C/452D CAIS AMLINELLOL AR GYFER DATBLYGIAD TAI AR DIR YN CANADA GARDENS, CAERGYBI

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld â’r safle fel bod yr aelodau’n gyfarwydd â’r safle cyn gwneud eu penderfyniad.

 

      

 

9.2

24/C/268 CAIS AMLINELLOL AR GYFER CODI ANNEDD YNGHYD À  CHREU MYNEDFA GERBYDOL NEWYDD AR DIR GER GWELFOR, CERRIG-MÀN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu gyda’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu caniatáu’r cais.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniátau’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

9.3

30C293C ADNEWYDDU CANIATÁD RHIF 30C293B AR GYFER CODI ANNEDD GYDA  CHARTHION YN MYND I GARTHFFOS GYHOEDDUS YN BWLCH GWYN, BWLCH, TYN-Y-GONGL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan ei fod yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu gyda’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei ganiatáu.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniátau’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.      

 

      

 

10     GWEDDILL Y CEISIADAU

 

      

 

10.1      11C41E CAIS LLAWN AR GYFER CODI 2 ANNEDD, DWY YSTAFELL WELY YN UN YNGHYD À CHREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AC I GERDDWYR AR DIR YN  MONA LODGE, STRYD MONA, AMLWCH

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol sydd â phryderon ynglyn â gorddatblygu, a pharcio ar ochr y ffordd.  Mae’r aelod yn ystyried y byddai’r safle yn addas ar gyfer 1 annedd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniátau’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.   

 

      

 

10.2

17C122J CREU MYNEDFA NEWYDD I GEIR AR DIR GER PEN-LAN/IS-COED, LLANDEGFAN

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Ers codi’r annedd newydd, Pen-lan, yng nghardd Is-coed dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y ddau eiddo wedi rhannu’r fynedfa oedd yno.  Bellach y bwriad oedd creu mynedfa newydd i Is-coed a hynny er mwyn sicrhau mynedfa ar wahân i’r ddau eiddo a rhoddid amod ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd cynllunio i gau, yn barhaol, y llwybr presennol rhwng Is-coed a Phen-lan.  Ni chafwyd unrhyw bryderon yn sgil ymgynghori gyda’r Adain Briffyrdd a chafwyd ganddynt argymhelliad i ganiatáu gydag amodau.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn adroddiad y swyddog a chaniátau’r cais am y rhesymau a roddwyd gydag amodau y manylwyd arnynt.   

 

      

 

10.3

28C360E CAIS DIWYGIEDIG AR GYFER CODI 3 O DAI TREF YNGHYD À CHODI 6 GAREJ YN BRYN, STATION ROAD, RHOSNEIGR

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno gan fod dyluniad wedi’i newid ar gyfer codi teras o 3 thy tref yn ffryntio ar Station Road.  Mae cynllun o 3 thy tref yn lle’r hen adeiladau oedd yn mynd â’u pen iddynt ar y safle, eisoes wedi’i ganiatâu.

 

      

 

     Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Datblygu at ohebiaeth oddi wrth asiant yr ymgeisydd yn dweud ei fod yn fodlon cyfaddawdu ar ddyluniad yr annedd ac yn fodlon ceisio datrys unrhyw anhawster. Nododd bod y Swyddogion Cynllunio priodol mewn ymgynghoriad gyda’r Asiant ac awgrymodd y dylid gohirio ystyried y cais am fis.  Ond yn y cyfamser awgrymodd y dylid ymweld â’r safle er mwyn cael golwg ar y materion sy’n creu pryderon a sut, hefyd, y mae’r datblygwr yn bwriadu eu datrys.  

 

      

 

     Fel aelod lleol roedd y Cynghorydd Fowlie yn dymuno nodi nad ofynnodd am ymweliad.

 

      

 

     PENDERFYNWYD ymweld a’r safle fel bod yr aelodau’n gyfarwydd â’r safle cyn gwneud eu penderfyniad.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

10.4      44C269 CAIS AMLINELLOL i GODI ANNEDD A DARPARU TANC SEPTIG NEWYDD AR DIR GER GORSLWYD FAWR, RHOS-Y-BOL

 

      

 

     Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor benderfynu arno ar gais yr aelod lleol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais yn cael ei ystyried o dan ddarpariaethau Polisi 50 o Gynllun Lleol Ynys Môn.  Mae’r polisiau yn caniatáu codi anheddau sengl ar safleoedd ‘mewnlenwi’ neu safleoedd derbyniol eraill sydd yn union gyfagos i’r rhan ddatblygedig o’r pentref a’r clwstwr gwledig, ond dim ond os na fydd y datblygiad yn achosi niwed i gymeriad y grwp neu unrhyw ymwthiad gweledol niweidiol i mewn i’r tirlun o’i gwmpas, a chyda’r amod nad ei y tu hwnt i anghenion tai y pentref.  

 

      

 

     Aeth ymlaen i ddweud bod y swyddog yn argymell gwrthod y cais hwn - nid ei ganiatáu fel y dywed fersiwn Saesneg yr adroddiad.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones ei fod yn dymuno rhannu, ymhlith yr aelodau, fap yn dangos ffiniau datblygu pentref Rhos-y-bol a chytunodd y Cadeirydd i hynny.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd Jones bod y safle dan sylw union ger y ffiniau datblygu ac wedyn aeth ymlaen i ddyfynnu Polisi 50, sef ‘ bod datblygiadau yn dderbyniol ar gyrion neu union ger y ffiniau’.   Aeth ymlaen i gyfeirio at y prif ystyriaethau cynllunio yn yr adroddiad fel a ganlyn ‘mae safle’r cais yn ffurfio rhan o gae amaethyddol yn gyfagos i gwrtil Gorslwyd Fawr.  ‘Tra bo Rhos-y-bol yn cael ei nodi fel anheddiad rhestredig nid ystyrir bod y cynnig hwn yn ffurfio estyniad derbyniol i’r pentref gan nad ydym o’r farn y gellir dweud bod y safle yn un sydd yn union gyfagos i’r rhan ddatblygedig o’r pentref, gan ei fod wedi’i leoli rhyw 150m o’r briffordd.’ Ond hwn oedd y pwynt yr oedd yr aelod yn dymuno ei wneud - bod y datblygiad union ger y llinell ddatblygu.

 

      

 

     Aeth y Cynghorydd ymlaen i ddweud bod y teulu hwn yn un lleol ac yn dymuno magu teulu ifanc yn yr ardal.  Eu dymuniad oedd codi ty mwy yn y lleoliad penodol hwn.  Hefyd roedd y Cyngor Cymuned yn gefnogol, a dim gwrthwynebiad o’r gymuned leol ac roedd amodau gan yr awdurdod priffyrdd ynghylch traffig.  Ymhellach ar hyd y ffordd hon dywedodd bod dwy annedd wedi derbyn caniatâd cynllunio a hynny trwy addasu adeiladau amaethyddol.  O’r herwydd roedd modd rhoddi caniatâd dan Bolisi 50.  

 

      

 

     Gan y Cynghorydd John P Williams cafwyd cynnig i ymweld a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd H W Thomas.  Ond gwrthodwyd y cynnig i ymweld o 6 i 7.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd E G Davies bod Polisi 50, yn ei farn ef, yn cynnig darpariaeth i ganiatáu annedd ar y safle gerbron a chynigiodd roddi caniatâd.

 

      

 

     Roedd gan y Cynghorydd O Glyn Jones bryderon ynghylch y cais ac roedd yn dymuno gweld y map yr oedd yr aelod lleol yn ei ddosbarthu ond roedd Polisi 50 yn caniatáu datblygiad o’r fath ac aeth ymlaen i eilio’r cynnig.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn :-

 

      

 

     Caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog : Y Cynghorwyr E.G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin, Jim Evans, Kenneth P. Hughes, Clive McGregor, O. Glyn Jones, Selwyn Williams.

 

      

 

     Derbyn adroddiad y swyddog a gwrthod y cais : Y Cynghorwyr T.H. Jones,  J. Arwel Roberts, H.W. Thomas, John P. Williams.

 

      

 

     Y rhain oedd y rhesymau dros ganiatáu :

 

      

 

     1.  Cydymffurfio gyda Pholisi 50

 

     2.  Union ger y ffiniau

 

     3.  Nid yn groes i bolisi

 

      

 

     Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor cafodd y cais ei ohirio’n otomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm dros wrthod y cais.

 

      

 

11

CEISIADAU A DDIRPRWYWYD

 

      

 

     Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiad Pennaeth y Gwasanaeth Cynllunio yng nghyswllt ceisiadau dirprwyedig oedd wedi’u penderfynu ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn.

 

      

 

12

APELIADAU

 

      

 

     Nid oedd yr un apêl gerbron y cyfarfod hwn.

 

      

 

13     OTHER MATTERS

 

      

 

13.1      46C448B/EIA  CAIS LLAWN I WNEUD GWAITH GWELLA AR YR ARFORDIR A DARPARU MAES PARCIO YN NHREARDDUR

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoli Datblygu ar ran y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio mewn perthynas â’r cais uchod. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei baratoi mewn ymateb i benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 4 Mehefin, 2008 i bwrpas ychwanegu at y caniatád cynllunio oedd eisoes wedi ei roddi yr union eiriau y gofynnodd yr Aelodau amdanynt yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 3 Hydref, 2007.  Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ers i’r mater gael ei ystyried ddiwethaf gan y Pwyllgor.

 

      

 

     Adroddodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y Pwyllgor wedi penderfynu ar 4 Mehefin, 2008 :-

 

      

 

     “peidio â derbyn adroddiad y swyddog a bod swyddogion yn diwygio amod 11 yn y caniatâd cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor ar 3 Hydref, 2007.”

 

      

 

      

 

     Aeth y Swyddog yn ei flaen i ddweud bod goblygiadau i’r awdurdod petai’r Aelodau’n glynu wrth benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 4 Mehefin 2008 a hynny oherwydd rhagor o wybodaeth a ddaeth oddi wrth yr ymgeisydd yn ystod y broses o ystyried sut i weithredu ar benderfyniad 4 Mehefin, 2008.

 

      

 

     Yng nghyswllt y materion cyfansoddiadol cyfeiriodd y Swyddog at Gyfansoddiad y Cyngor sef

 

     “pwerau’r Pwyllgor hwn i ystyried unrhyw fater gyfeirir iddo gan y swyddog priodol sy’n dewis peidio ymarfer eu pwerau dirprwyedig”.  Yr unig ffordd i’r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio sicrhau cydymffurfiad gyda phenderfyniad 4 Mehefin, 2008 oedd trwy Orchymyn yn diwygio’r caniatâd dan Adran 97 y Ddeddf.  Nid oedd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio am orfodi Gorchymyn o’r fath.

 

      

 

     Dyma’r amod a roddwyd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio perthnasol a ryddhawyd ar 19 Hydref, 2007:-

 

      

 

     “Rhaid i’r datblygiad a ganiateir yma gael ei wneud yn hollol unol â’r Datganiad Amgylcheddol, y ffurflenni a’r lluniadau geir yng nghais cynllunio rhif 46C488B/EIA dyddiedig 20 Gorffennaf, 2007 a 30 Gorffennaf, 2007 ac fel bydd angen ei gymeradwyo o dan yr amodau a osodwyd, ond y bydd uchder y wal amddiffyn rhag y môr gorffenedig fel a ddangosir wedi ei farcio rhwng pwyntiau A a B ar y cynllun sydd ynghlwm wrth y caniatâd hwn yn cael ei chddi 100mm yn uwch na’i hucheder fel sy’n cael ei ddangos ar y rhestr o ddyluniadau a gymeradwywyd.”  

 

      

 

     Roedd transcript cyfarfod 3 Hydref, 2007 yn cadarnhau bod y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor yn cynnwys amod fel bod y gwaith, ar ôl ei gwblhau, yn bodloni safonau Asiantaeth yr Amgylchedd o ddigwyddiad 1:200 a chydymffurfio hefyd gyda gofynion DEFRA yng nghyswllt Newid Hinsawdd.  Yn groes i beth a ddywedwyd nid oedd yr un gair am ‘stormydd’ neu ‘stormydd eraill’ yn ystod cyfarfod Hydref.  Yn y cyfarfod hwnnw, dygodd y Cynghorydd Hefin Thomas sylw at y ffaith bod DEFRA wedi mabwysiadu safbwynt newydd yng nghyswllt Newid yn yr Hinsawdd a bod uchder arfaethedig y wal yn 3.7 metr a hynny’n cynnig diogelwch 1:100 mlynedd tra bo uchder 3.8 metr yn cynnig diogelwch 1:200 mlynedd.  Dygodd un o aelodau’r Pwyllgor Cynllunio ar y pryd, y cyn Gynghorydd J A Jones, sylw at bwysigrwydd uchder y wal ac aeth ymlaen i ddyfynnu o lythyr a oedd yn cynnwys y geiriau a ganlyn “especially as the difference between the 1:100 year and the 1:200 year events is only 100 millimetres”.

 

      

 

     Bu rhagor o drafodaeth yn y Pwyllgor hwn ar 2 Gorffennaf,  2008 pan oedd cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 4 Mehefin gerbron.  Yn y Pwyllgor hwnnw nodwyd yn yr adroddiad beth oedd rhesymau’r Swyddogion am roddi amod ynghlwm yng nghyswllt uchder y wal fôr arfaethedig.  Yn groes i sylwadau rhai Aelodau yn y cyfarfod hwnnw, ceisiodd y Swyddogion ganolbwyntio ar bwnc yr amod a gosodwyd amod oedd yn adlewyrchu dymuniadau’r Aelodau.  Cyflwynwyd y newid yn yr ysbryd gorau, nid, ar unrhyw gyfrif, i bwrpas tanseilio dymuniadau’r Aelodau.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod neges y Swyddogion bob amser yn berffaith glir ac mai cynllun oedd hwn i amddiffyn yr arfordir ac nid lleihau llifogydd.  Ni all y Cyngor newid natur y cais ac eglurwyd i’r Aelodau i’r cyfarfod ar 3 Hydref, 2007 mai cynllun oedd hwn i ddal ein tir (h.y. atal rhagor o erydiad neu o ddifrod i’r arfordir) a gofynnwyd i’r aelodau ddelio gyda’r cais fel y cafodd hwnnw ei gyflwyno.

 

      

 

     Mae’r gwaith adeiladu sy’n cael ei wneud ar y cynllun wedi’i ddiwygio a bwriedir ychwanegu  100mm at uchder y wal yn unol â dymuniad yr Aelodau a’u dealltwriaeth nhw o’r gwahaniaeth rhwng 1:100 a 1:200 mlynedd.  

 

      

 

     Ar ôl i’r Aelodau wneud y penderfyniad ar 4 Mehefin, 2008, cafwyd trafodaethau i ystyried sut yn hollol i weithredu ar gais yr Aelodau.  Nid yw’n bosib datrys pethau trwy ailysgrifennu’r rhybudd gwreiddiol o benderfyniad a ryddhawyd o’r swyddfa ar 19 Hydref, 2007.  Eglurwyd yn yr adroddiad i’r Pwyllgor beth oedd goblygiadau cydymffurfio gyda gofynion peirianyddol darparu ar gyfer Storm 1:200 mlynedd ac effaith hynny ar dir ymhell y tu draw i ffiniau pwyntiau A a B a nodwyd yn amod 11 ac a nodwyd hefyd yn y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cynllun.  Bydd cydymffurfio gyda ‘Digwyddiad Storm’ 1:200 yn tanseilio’r cyfan o’r cynllun gyda’r posibilrwydd y bydd raid tynnu’r caniatâd a roddwyd yn ôl.

 

      

 

     Gyda’r cefndir hwn credwyd bod modd i’r Awdurdod fynd ar drywydd y mater yn un o’r ffyrdd a ganlyn :-

 

      

 

     Dull 1

 

      

 

     Diwygio’r caniatâd cynllunio dan Adran 97 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

      

 

     Dull 2

 

      

 

     Llofnodi cytundeb dan Adran 106 yn cadarnhau bod yr Awdurdod yn cytuno i wneud y gwaith sy’n angenrheidiol dan yr amod ac fel a nodwyd yn y Pwyllgor Cynllunio.  Fodd bynnag, ni all y Cyngor wneud cyfamod gyda’i hun (fel yr awdurdod cynllunio lleol a hefyd yr ymgeisydd/perchennog y tir) oherwydd mai un person ydyw o fewn y gyfraith.

 

      

 

     Dull 3

 

      

 

     Cyflwyno’r cais dan Adran 73 i ddiwygio’r amod gwreiddiol sydd yn y rhybudd o ganiatâd er mwyn cynnwys yr amod a nodwyd yn y Pwyllgor Cynllunio.

 

      

 

     Dull 4

 

      

 

     Peidio â newid geiriad amod 11 - sef y geiriad oedd yn y rhybudd o benderfyniad a yrrwyd allan.  

 

      

 

     Ond mae dulliau 1-3 yn codi materion o bwys, fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

      

 

     Ar ôl y cyfarfod a gafwyd ar 4 Mehefin, 2008 gofynnodd y swyddogion i ymgynghorwyr arbenigol yr Ymgeisydd am ragor o eglurhad ac yn sgil hynny cafwyd y sylwadau a ganlyn :-

 

      

 

Ÿ

mae’r gwaith adeiladu sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd yn rhoddi i ni yr ateb ymarferol gorau sy’n addas y tu mewn i gyllideb synhwyrol.  Er bod hyn yn bodloni meini prawf digwyddiad 1:200 ar gyfer lefel y llanw uchel dan amgylchiadau tawel, prin y buasai’n bodloni digwyddiad 1:200 llanw uchel pan fo storm.

 

 

 

Ÿ

ond i asesu gofynion Digwyddiad Storm 1:200 buasai’n rhaid i’r Ymgeisydd ofyn am gyngor ymgynghorydd arbenigol i wneud y symiau a ganlyn :-

 

 

 

Ÿ

modelau manwl i’r tonnau ar gyfer y cyfan o’r bae (a’r model yn wahanol iawn i ddau ben y traeth) ar gost a amcangyfrifir yn £10k i £15k.

 

 

 

Ÿ

Adroddiad Gwerthuso Prosiect diwygiedig i Lywodraeth Cynulliad Cymru - un manylach o lawer na’r Gwerthusiad gwreiddiol a oedd yn defnyddio symiau maniwal yn hytrach na modelau o’r tonnau, a buasai’n rhaid wrth fodel ar gyfer dadansoddiad manwl.

 

 

 

Ÿ

clandriad cynhyrchu tonnau dau ddimensiwn newydd a hynny’n cynnwys dau ben y cynllun presennol h.y. pen Ffordd Ravenspoint a phen y Bad Achub, ynghyd â’r Lasinwen.

 

 

 

Ÿ

Datganiad Amgylcheddol diweddaraf.

 

 

 

Ÿ

symiau am y tonnau’n torri drosodd.

 

 

 

Ÿ

symiau dyluniad diwygiedig i’r cynllun.

 

 

 

     Amcangyfrifir bod costau’r gwaith dylunio yn o leiaf £50k a chymerai o leiaf 4 mis i’w gyflawni.  Buasai costau ychwanegol cynllun Digwyddiad Storm 1:200 yn sylweddol ac nid oes modd amcangyfrif beth fydd y costau heb wneud dyluniad newydd - yn fras gallai fod o gwmpas £2 filiwn, petai modd prynu’r tir angenrheidiol.

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu nad oedd gofynion y Pwyllgor Cynllunio wedi’u trafod eto gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru sef pennaf noddwyr y cynllun hwn ar y cyd gyda’r Awdurdod hwn (75% a 25% yn y drefn hon).  Cyfyd  y cwestiwn a ydyw unrhyw newidiadau i’r cynllun presennol yn mynd i greu goblygiadau i’r Awdurdod yn y dyfodol.  Y tebygrwydd yw, petai sylw manwl yn cael ei roddi i Ddigwyddiad Storm 1:200 y buasai’n rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru wedyn orfod atal y gwaith sy’n cael ei wneud, gofyn am ddyluniad newydd, ac adroddiad yn asesu’r prosiect a hynny’n costio £50k.  Hyd yma mae  Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi derbyn mân newidiadau i’r Cynllun ond amhosib dweud beth fuasai’r ymateb i newid mor fawr â hwnnw a gynigiwyd gan y Pwyllgor Cynllunio ar 4 Mehefin, 2008.

 

      

 

     Credai’r Cynghorydd H W Thomas bod yr adroddiad yn gamarweiniol, a hynny oherwydd sawl peth nad oedd yn ffeithiol gywir.  Ychwanegodd bod y Swyddogion bob amser wedi pwysleisio mai cynllun oedd hwn i ddibenion amddiffyn yr arfordir - nid lliniaru llifogydd.  Dylai bod y rhybudd cyhoeddus yn hysbysebu’r cais yn rhybudd i amddiffyn yr arfordir a lliniaru llifogydd - hwn oedd y rhybudd a ryddhawyd gan yr Adran i bwrpas ymgynghori gyda’r cyhoedd arno.  Wedyn cyfeiriodd at feini prawf y costau ar gyfer digwyddiad 1:200 mlynedd a chyfeiriodd at gostau y model manwl o’r tonnau o gwmpas £10k i £15k .  Gofynnodd pwy oedd wedi penderfynu ar y ffigwr hwnnw.  Roedd y cynllun i gyd werth £3m ac i amddiffyn tai ym Mae  Trearddur rhag llifogydd.  Roedd yn cwestiynu ‘a ydych yn credu bod cost y cynllun yn rhy fawr?’  Hefyd yn yr adroddiad dywedwyd y costiai £2m arall i ddarparu’r amddiffyniad angenrheidiol, ond yn seiliedig ar ffigyrau pwy?  Yn yr adroddiadau nodir mai un ffordd yn unig oedd gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio o orfodi cydymffurfiad gyda phenderfyniad y Pwyllgor ym Mehefin - sef trwy Orchymyn yn diwygio’r caniatâd.  Cododd y problemau hyn yn y lle cyntaf, pan roddwyd y caniatâd yn Hydref / Tachwedd y llynedd, a phetai hwnnw heb ei ryddhau a ddim wedi dod yn ôl i’r Pwyllgor, gan ddilyn y Cyfansoddiad, ni fuasem yn y sefyllfa hon rwan.  Ond rhaid derbyn bod y cytundeb wedi’i ryddhau.  Cadarnhawyd hwnnw gan Swyddogion, a hynny heb gytundeb y Pwyllgor.  Roedd yn hollol groes i’r hyn y gofynnodd yr Aelodau amdano yn y Pwyllgor cynt.  Hefyd ychwanegodd mai’r ymgeisydd yn yr achos hwn yw’r Awdurdod Lleol, a bod swyddogion o’r awdurdod hwn yn delio gyda’r cais gan yr Awdurdod ac yn ceisio bwlio’r Aelodau i gael eu dymuniad.

 

      

 

     Roedd y cais yn achosi pryderon mawr i’r Cynghorydd W J Chorlton oherwydd bod Swyddogion yn ceisio bwlio’r aelodau i newid eu penderfyniad.  Nododd bod y Pwyllgor blaenorol a’r un hwn hefyd wedi gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y ffeithiau a roddwyd iddo gan Swyddogion.  Nododd bod y Swyddogion yn dal i ddweud na ddywedwyd yr un gair am stormydd.  Hon yw’r ddadl ynghylch y gair stormydd, ai dwr llonydd yw hwn, neu ai dwr stormydd, petai hynny heb ei grybwyll ni fuasem yn dadlau’r achos heddiw.  Pam yr ydym wedi cael 4 i 5 cyfarfod ac yn dal i ddadlau ar yr un mater oherwydd mae’n rhaid cael hwn yn iawn.  Nid yw’n bosib newid y penderfyniad yng nghyswllt adeiladu oherwydd bod y gwaith yn digwydd ar hyn o bryd, mae’r penderfyniad wedi’i wneud, a’r adeiladu’n uwch neu beidio, mae o yno.  Rydym wedi cael ein camarwain gan Swyddogion ynghylch beth sy’n digwydd, ac mae gan y Cynghorwyr hawl sylfaenol i wneud penderfyniad, pa un a ydyw hwnnw’n gywir neu anghywir - mae’n amherthnasol - gallant ddod yn ôl a dweud wrthym ein bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir ond ni ddigwyddodd hynny; maent wedi newid eu penderfyniad y tu ôl i ddrysau caeedig.  Nid ydynt hyd yn oed wedi dod â’r mater yn ôl i ddweud eu bod wedi newid y penderfyniad.  Gofynnodd y Cadeirydd cynt (y Cynghorydd J Arwel Roberts) am adroddiad a dyna pryd y cyfaddefodd y Swyddogion iddynt wneud camgymeriad.  Does ganddynt mo’r hawl i newid y penderfyniad; rhaid dod â fo yn ôl i’r Pwyllgor i’w drafod, a rhaid iddynt gyflwyno rheswm y tu cefn i’r newid.  Roedd y gair ‘storm’ wedi’i gynnwys, dim ots gen i pa dapiau y buoch yn gwrando arnyn nhw, rydwyf wedi bod mewn 5 o gyfarfodydd a’r gair ‘storm’ yn cael ei defnyddio drosodd a throsodd. Mae’r penderfyniadau wedi’u gwneud ein bod yn newid y gair i ‘storm’ fel bod pobl Trearddur yn ddiogel yn eu tai ac yswiriant digonol yn ei le.  Dyw’r cwmniau yswiriant ddim yn fodlon talu ar ‘dwr llonydd’.  Pan ddylech chi adeiladu wal, a chwithau wedi hysbysebu i atal storm, ar gyfer dwr llonydd.  Roedd y mater yn glir iawn ar y posteri yn hysbysebu’r cais - roedd y rhybudd yn cynnwys atal stormydd.

 

      

 

     Wedyn soniodd y Cadeirydd iddo dderbyn transcript o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd flwyddyn yn ôl ac nid oedd y gair ‘storm’ yn digwydd unwaith yn y transgript.  Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Chorlton na chafodd gopi o dranscript o’r tâp a gofynnodd a oedd y tâp hwnnw yn dal i fod ar gael ac mewn ymateb dywedodd y Cadeirydd ei fod.

 

      

 

     Mynegi siom a wnaeth y Cynghorydd J Arwel Roberts am fod y Pwyllgor yn dal i drafod y cais a gofynnodd pa mor aml yr oedd rhaid i’r Pwyllgor ofyn i Swyddogion roddi amod ynghlwm wrth gais - nid yw hynny wedi digwydd yma.  Roedd y Swyddogion a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynllunio) wedi cyfaddef bod yr Aelodau wedi’u camarwain.  Heddiw rydym yn cael 4 Opsiwn gwahanol, a’r Pwyllgor heb gael golwg arnynt o’r blaen.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes nad oedd yn Aelod  o’r awdurdod pan drafodwyd y cais gyntaf ond dywedodd bod raid iddo gyflwyno sylw ar y gair ‘newid’ a bod hwnnw’n hanfodol i’r adroddiad.  Felly nododd bod y Swyddogion yn cydnabod bod newid wedi digwydd i benderfyniad y Pwyllgor.  Aeth ymlaen i ddweud yr hoffai weld penderfyniad unfrydol, a bod newid penderfyniadau’r Aelodau yn annerbyniol.

 

      

 

     Roedd y Cynghorydd O Glyn Jones yn ofni o glywed Aelodau’n defnyddio’r gair ‘bwlio’ gan Swyddogion.  Ychwanegodd ei fod yn bresennol yn y cyfarfodydd yn Hydref a Thachwedd y llynedd, ei fod wedi darllen y transgript, ac nad oedd yno yr un gair am ‘storm’.  Nododd mai ef a gynigiodd yr argymhelliad ym mis Hydref y llynedd a’i fod yn glynu wrth y penderfyniad ac yn cynnig bod y Pwyllgor yn derbyn Opsiwn 4.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd John P Williams.

 

      

 

     Dywedodd y Cynghorydd H W Thomas i’r cais hwn gael ei hysbysebu fel Amddiffyn yr Arfordir nid Lleddfu Llifogydd.   Gofynnodd o ble yn hollol y daeth yr 1:200 a ddyfynnwyd gan Aelodau yn y cyfarfod ar 3 Hydref,  2007.  Mi ddywedaf wrthych o lle y daeth hwn, daeth o ddogfen oedd ar gael i ni yn Hydref 2007 a’r peiriannydd yn dweud yn glir bod DEFRA ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gofyn i ni edrych ar hwn yn y lle cyntaf  Cafwyd cynnig y Cynghorydd Thomas i lynu wrth benderfyniad 4 Mehefin, 2008 a bod swyddogion yn diwygio amod 11 y caniatâd cynllunio.

 

      

 

     Roedd y bleidlais fel a ganlyn:-

 

      

 

     Glynu wrth benderfyniad y Pwyllgor bod swyddogion yn diwygio amod 11 y caniatâd cynllunio: Y Cynghorwyr W.J. Chorlton, Kenneth P. Hughes, J. Arwel Roberts,

 

     H.W. Thomas.

 

      

 

     Derbyn adroddiad y Swyddog a derbyn Opsiwn 4 ynddo:  Y Cynghorwyr E.G. Davies, Lewis Davies, Barrie Durkin,  Jim Evans, O. Glyn Jones, T.H. Jones, Clive McGregor,        R.L. Owen, John P. Williams, Selwyn Williams.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn adroddiad y Swyddog a’r argymhellion ynddo.

 

      

 

13.2

49C255 CYNLLUNIAU LLAWN i GODI 9 ANNEDD AC ALTRO’R FYNEDFA SYDD YNO GERBYDAU, TORRI RHAI COED.  

 

       49C255B CYNLLUNIAU LLAWN i DDYMCHWEL ANNEDD A CHODI 4 ANNEDD A DARPARU MYNEDFA i GERBYDAU YN COEDLYS, FFORDD LLUNDAIN, Y FALI

 

      

 

     Dywedodd y Pennaeth Rheoli Datblygu bod y cais hwn wedi cael sylw yn y cyfarfod ar 16 Mai, 2008 pan benderfynwyd caniatáu’r ceisiadau yn amodol ar wneud cytundeb Adran 106 yn cysylltu’r ddau gais er mwyn sicrhau darpariaeth o dai fforddiadwy.  

 

     Nid oedd y naill gais na’r llall, ar bennau eu hunain, yn sbardun i’r angen am dai fforddiadwy ond roedd yr ymgeisydd am i’r ddau gais gael eu hystyried gyda’i gilydd ac felly roedd modd cynnwys darpariaeth tai fforddiadwy.

 

      

 

     Mae’r sefyllfa yn awr wedi newid gan i gais 49C255B am y 4 annedd gael ei dynnu’n ôl.  Nid yw’r cais sydd ar ôl, rhif 49C255 am 9 annedd yn dod o fewn y trothwy ar gyfer darparu tai fforddiadwy.  Fodd bynnag, mae’r datblygwyr yn parhau i fod yn berchennog y safle cyfan. Mae’r ymgeisydd wedi cynnig y canlynol:-

 

      

 

     Fod cwrtil ac adeiladau’r ty presennol elwir yn Coedlys yn parhau i gael ei ddefnyddio ac i bwrpas un annedd i fyw ynddi gyda chwrtil ategol, am byth, neu onid yw’r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi caniatâd cynllunio, os gwneir cais, am ddatblygiad arall addas neu newid defnydd.”

 

      

 

     Yng ngoleuni’r uchod, ystyrir bod sawl opsiwn ar gael:-

 

      

 

     Opsiwn 1 - Diwygio’r cytundeb Adran 106 fel ag y mae’r ymgeisydd yn ei awgrymu uchod.

 

      

 

     Opsiwn 2 - Diwygio’r cytundeb Adran 106 i sicrhau y bydd unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol ar weddill y safle yn cynnwys tai fforddiadwy.

 

      

 

     Opsiwn 3 - Dilyn blaenoriaethau’r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ar dai fforddiadwy yn seiliedig ar yr holl dir sydd ym mherchenogaeth yr ymgeisydd.

 

      

 

     Nodwyd yr ystyrir Opsiwn 1 yn dderbyniol ar y sail bod yr awdurdod cynllunio lleol, ar y cychwyn, wedi derbyn nad oedd y trothwy tai fforddiadwy’n cael ei sbarduno.  Yn ychwanegol i hyn, os bydd ceisiadau pellach yn dilyn yn y dyfodol, ni fydd yn rhagfarnu’r awdurdod cynllunio lleol rhag asesu’r sefyllfa ynglyn â’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yng ngoleuni’r amgylchiadau fydd yn bodoli ar y pryd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD nodi y bydd y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio), dan bwerau dirprwyol yn rhyddhau caniatâd cynllunio 49C255 ar ôl cwblhau cytundeb dan Adran 106 fel a ganlyn:-

 

      

 

     “(1) yr unig ddefnydd y caniateir ei wneud o’r eiddo yw i ddibenion un annedd a chwrtil.

 

      

 

     (2) ac eithrio yr hyn a ddywedir yng nghymal (1) uchod, ni chaniateir defnyddio’r eiddo           i unrhyw ddiben arall (fel y diffinnir hynny dan Adran 55 y Ddeddf) fydd angen                caniatâd cynllunio penodol dan Ran III y Ddeddf.”

 

      

 

      

 

     Agorwyd y cyfarfod am 1:00 p.m., a daeth i ben am 3:25 p.m.

 

      

 

     Y CYNGHORYDD T H JONES

 

     CADEIRYDD