|
|
|
|
Adroddwyd y disgwylir i ddeilydd y swydd feddu ar brofiad
rheolaethol mewn ysgol, dealltwriaeth fanwl a chlir o bob agwedd
o’r cwricwlwm, cyllid a materion personel ysgolion ynghyd
â sgiliau rheoli lefel uwch a chymwysterau addysgol
cadarn.
|
|
|
|
|
|
Mae cyflog presennol y swydd ar y raddfa £45,606 -
£50,187 a bernir nad yw’r cyflog hwn yn ddigonol i ddenu
ymgeiswyr cymwys o ystyried y disgwyliadau ar y swydd ac
mae’n cymharu’n llai ffafriol na staff ysgolion y sir
fydd yn troi at y Pennaeth Gwasanaeth Addysg am
arweiniad.
|
|
|
|
|
|
Argymhellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y dylai swydd y
Pennaeth Gwasanaeth Addysg gael ei uwchraddio i £50,178 -
£55,178 fel cam interim er mwyn denu ymgeiswyr. Bydd
angen parhau i asesu’r swydd dan y trefniadau corfforaethol i
arfarnu swyddi o fewn yr Awdurdod a byddai’r hysbyseb yn
egluro fod y swydd bresennol, a’r raddfa a briodolir iddi yn
dal i fod dan adolygiad.
|
|
|
|
|
|
Nododd ymhellach er y derbynnir fod delio gyda'r swydd hon
ar ei phen ei hun yn mynd ar draws y broses arfarnu swyddi
corfforaethol, gofynnwyd i’r Panel ystyried trin y swydd yn
eithriad i’r drefn ar sail yr amgylchiadau arbennig
sy’n bodoli a’r rhagdybiaeth na fyddai’r raddfa
bresennol, o ystyried sefyllfa’r ‘farchnad’, yn
denu ystod digonol o ymgeiswyr cymwys i’r Cyngor Sir ystyried
eu penodi.
|
|
|
|
|
|
Yn dilyn ystyriaeth manwl PENDERFYNWYD :-
|
|
|
|
|
5.1
|
uwchraddio cyflog y swydd Pennaeth Gwasanaeth
Addysg i £50,178 - £55,178 oherwydd amgylchiadau arbennig
y swydd.
|
|
|
|
|
5.2
|
nodi bod cyflog y swydd ar sail dros dro hyd
nes y cwblheir y broses arfarnu swyddi.
|
|
|
|
|
|
|
|
EITEM YCHWANEGOL A YSTYRIWYD GAN Y PANEL
|
|
|
|
|
|
|
6
|
PANEL ADOLYGU CYFLOGAU A GRADDFEYDD
|
|
|
|
|
|
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir a gafwyd ar 14
Rhagfyr, 2006, penderfynwyd sefydlu Panel Adolygu Cyflogau a
Graddfeydd oherwydd y disgwylir i'r Cyngor gytuno ar strwythur
tâl a chyflogau unedig i'r holl staff erbyn 1 Ebrill 2007.
Mae'r ymarfer wedi bod yn ymwneud â phroses arfarnu
swyddi ers rhai blynyddoedd gyda'r nod o gwrdd â'r gofynion
hyn.
|
|
|
|
|
|
Symudwyd ymlaen gyda’r gwaith ar y broses arfarnu
swyddi a bydd hynny yn darparu rhestr fesul ranc o swyddi i
ddibenion eu trosglwyddo i’r strwythur cyflogau newydd a
hefyd cynhaliwyd gweithdai ar y cyd rhwng rheolwyr a’r
undebau llafur i edrych ar faterion sy’n berthnasol i
ddatblygu strwythur cyflogau newydd a materion eraill megis
gwobrau/amodau gwasanaeth.
|
|
|
|
|
|
'Roedd yn bryd i’r Cyngor agor trafodaethau
gyda’r undebau llafur cydnabyddedig ar y cynigion terfynol i
siâp y strwythur cyflogau newydd a hefyd ar nifer o faterion
cysylltiedig ac ar gynllun gweithredu a rhaid i’r holl waith
hwn gael ei gwblhau cyn cyflwyno strwythur cyflogau
newydd.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Swyddog bod y Panel wedi ei sefydlu i
:-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
ystyried dyluniad i’r strwythur cyflogau ac ystyried
materion cysylltiedig eraill a darparu cyfarwyddyd i’r rheini
fydd yn cynrychioli’r Cyngor Sir yn y trafodaethau fel bod
modd adlewyrchu sylwadau a dymuniadau aelodau’r Cyngor yn
gyffredinol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bydd y Panel hwn yn glust i’r trafodwyr yn ystod y
trafodaethau manwl ac yn gyfrwng i gyflwyno barn y Cyngor dan
amgylchiadau pryd y bydd hi’n amlwg yn anymarferol galw
cyfarfodydd o’r Cyngor Sir llawn.(Ni ragwelir y bydd y Panel
hwn yn mynd i drafodaethau uniongyrchol - yn hytrach bydd yn cynnig
cymorth a chyngor i’r rheini sy’n rhan o’r
trafodaethau. Ond bydd raid i’r Panel wneud
penderfyniad buan ar bwy fydd yn y trafodaethau manwl gyda’r
undebau llafur).
|
|
|
|
|
|
Ar ran y Cyngor Sir mae gan y Panel hwn yr awdurdod i
:-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cymeradwyo unrhyw strwythur cyflogau diwygiedig ac unrhyw
amodau cysylltiedig a gynigir yn y trafodaethau.
|
|
|
Ÿ
|
penderfynu ar hawliadau yng nghyswllt y materion hynny a
fu’n destun trafodaethau.
|
|
|
Ÿ
|
gwneud penderfyniadau amodol ar faterion perthnasol -
materion nad oes modd eu gohirio a disgwyl am gwblhau trafodaethau
a phrosesau cysylltiedig.
|
|
|
|
|
|
Nodwyd mae Cylch Gorchwyl y Panel yw :-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cadarnahu dyluniad y strwythur cyflogau y bwriedir ei
ddefnyddio y tu mewn i’r Cyngor.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cyflwyno sylwadau ar faterion megis :-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
y lwfansau a’r taliadau arbennig y bwriedir eu newid
neu eu dileu trwy gyfrwng trafodaethau;
|
|
|
Ÿ
|
ystwythder yn y trefniadau gweithio a allai fod yn rhan
o’r pecyn cyffredinol o gynigion;
|
|
|
Ÿ
|
unrhyw arbedion effeithiolrwydd a allai fod yn rhan
o’r trafodaethau ar fabwysiadu a chyflwyno strwythur cyflogau
newydd;
|
|
|
Ÿ
|
unrhyw gynigion i bwrpas cyflwyno gwobrau yn seiliedig ar
berfformiad neu dulliau eraill o gynnig anogaeth y tu mewn
i’r strwythur cyflogau newydd;
|
|
|
Ÿ
|
unrhyw gynigion y tu mewn i gyd-destun cyffredinol cynnig
gwobrau i weithwyr - darpariaeth arall yn hytrach na
thâl.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cyfarfod yn ôl y galw (ac mae’n debyg y bydd
raid cyfarfod ar fyr rybudd) i ystyried a chynnig cyfarwyddyd
i’r trafodwyr pan fo’r rheini angen cyfarwyddyd
o’r fath i ddibenion trafodaethau gyda’r undebau
llafur.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cymeradwyo’r amserlen a’r cynllun gweithredu
arfaethedig.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
cymeradwyo’r argymhellion terfynol ar ôl
cwblhau trafodaethau’n llwyddiannus ar y strwythur cyflogau a
materion cysylltiedig.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
ystyried a phenderfynu ar unrhyw hawliadau a all godi yn
sgil trafodaethau neu yn sgil y strwythur cyflogau cydnabyddedig
neu unrhyw newidiadau cysylltiedig i’r amodau.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
ystyried a phenderfynu ar unrhyw fater yng nghyswllt
tâl a graddfeydd - materion y bydd raid eu penderfynu cyn
gweithredu ar y strwythur cyflogau diwygiedig a
chydnabyddedig.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Pennaeth Gwasanaeth ymhellach bydd y Panel angen
rhywfaint o gefnogaeth a chyngor pan fo’n cynnal
trafodaethau. Buasai’n briodol i’r
Rheolwr-gyfarwyddwr ddarparu cefnogaeth allweddol a darparu cyngor
i’r Panel - ef yw Pennaeth Gwasanaeth Tâl yr Awdurdod ac
mae’n annibynnol yng nghyswllt y materion mawr a phwysig y
bydd raid i’r Panel eu hystyried. I bopeth ac eithrio
cyflogau swyddi rheng gyntaf ac ail reng, bydd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol (Cyllid) a’r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) ar gael i gynnig cyngor i’r Panel.
|
|
|
|
|
|
Nododd ymhellach y dylai'r Panel gynnwys Mr John Moore o
Grwp Hay mewn perthynas â chyflogau swyddi rheng gyntaf ac ail
reng i roi cyngor ar gymharu cyflogau'r swyddi hynny gyda
chyflogau'r farchnad. Mae gwasanaethau Mr Gareth Roberts
hefyd ar gael i'r Panel, sef ymgynghorydd annibynnol sydd wedi
gweithio gyda'r Cyngor ar strwythur tâl i'r dyfodol a materion
cysylltiedig.
|
|
|
|
|
Gofynnodd yr Aelodau pa gynnydd a wnaed gyda'r
broses arfarnu swyddi gan bwysleisio y dylid symud y broses yn ei
blaen. Nododd y Cadeirydd y dylid cyflwyno i gyfarfod nesaf y
Panel hwn amserlen a chylch gorchwyl i gyflogwyr.
|
|
|
|
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforaethol) fod y cynllun arfarnu swyddi i fod i ddod i rym ar 1
Ebrill, 2007. Fodd bynnag, cydnabuwyd yn genedlaethol na fydd
y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn llwyddo i gwrdd â'r dyddiad
hwn. Nododd hefyd fod yr Undebau Llafur yn delio gydag
arfarnu swyddi yn genedlaethol yn hytrach nag yn rhanbarthol yn
sgil achos tribiwnlys Cyngor Sir Middlesborough ac y gallai hynny
arafu'r broses.
|
|
|
|
Trafodwyd y Panel sy'n delio'n benodol â
thrafodaethau gyda chynrychiolwyr Undebau Llafur. Dywedodd y
Rheolwr-gyfarwyddwr ei fod yn ystyried y dylai'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol (Cyllid) a'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau
Corfforatethol) fod yn rhan o'r Panel hwn. 'Roedd aelodau'r
Panel hwn yn credu y dylid penodi cynrychiolydd aelodau etholedig i
wasanaethu ar y Panel sy'n trafod gyda'r Undebau Llafur.
|
|
|
|
Yn dilyn rhagor o drafodaethau
PENDERFYNWYD:-
|
|
|