Panel Adolygu Tal a Graddfeydd dogfennau , 17 Ionawr 2007

Panel Adolygu Tal a Graddfeydd
Dydd Mercher, 17eg Ionawr, 2007

PANEL ADOLYGU TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2007.  

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd H. Eifion Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, R.L. Owen, H.W. Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr D.R. Hughes, Bryan Owen.

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ionawr, 2007.

(tud 43 - 46 y Cofnodion hyn)

 

3

‘CANLYNIAD ARFARNU SWYDDI’ - CYNGOR SIR SWYDD STAFFORD

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, ddogfen gan Gyngor Sir Swydd Stafford ar 'Ganlyniad Arfarnu Swyddi'.

 

'Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) o'r farn y byddai'r ddogfen yn ddefnyddiol  i'r Panel yn yr ystyr ei bod yn dangos sut yr oedd un Cyngor Sir wedi delio gyda'r broses arfarnu swyddi.

 

Nododd y Cadeirydd y dylid ystyried bandiau strwythur tâl ehangach oherwydd iddo sylwi bod Cyngor Sir Swydd Stafford yn cynnig 11 o raddfeydd strwythur tâl o gymharu â'r 180 a ddefnyddir yn yr Awdurdod hwn ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb PENDERFYNWYD nodi'r ddogfen er gwybodaeth.

 

4

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol :-

 

 

 

“ Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 cafodd y wasg a'r cyhoedd eu cau allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau isod, oherwydd y tebygolrwydd y câi  gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 1 Atodlen 12A y Ddeddf honno.

 

 

 

5

DATGANIAD AR Y SEFYLLFA DRAFOD

 

 

 

Cyflwynwyd - y datganiad ar y sefyllfa cyn-trafod a gyflwynwyd gan y Rheolwyr i'w drafod gyda'r undebau llafur cydnabyddedig.

 

 

 

 

 

Dywedodd y  Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) fod y Cyngor Sir, wrth gynnal trafodaethau ynghylch strwythurau tâl i'r dyfodol a threfniadau cysylltiedig, yn ailgadarnhau ei ymrwymiad i'r egwyddorion arweiniol a nodir yng Nghytundeb Cenedlaethol 1997 ar Dâl ac Amodau Gwasanaeth.  O'r cychwyn cyntaf yn 1997/98 mae'r Cyngor Sir wedi ymwneud â'r holl waith hyd yma mewn ysbryd o gydweithrediad a didwylledd.  Mae'r Cyngor Sir yn cynnig y saith egwyddor allweddol isod ar gyfer y trafodaethau sydd ar y gweill :-

 

 

 

Ÿ

sicrhau cydraddoldeb rhywiol trwy gyflwyno strwythur tâl a graddfeydd newydd nad yw'n rhagfarnu ar gyfer pawb y mae'r Cytundeb Cenedlaethol yn berthnasol iddynt;

 

 

 

Ÿ

sicrhau strwythur tâl a graddfeydd cystadleuol a fydd yn caniatáu i'r Cyngor Sir recriwtio a chadw gweithwyr a chanddynt y cymwysterau a'r profiad addas;

 

 

 

Ÿ

sicrhau strwythur tâl a graddfeydd sy'n fforddiadwy ac yn ariannol gynaliadwy yn y tymor hwy;

 

 

 

Ÿ

sicrhau strwythur tâl a graddfeydd sy'n amlwg yn dangos gwerthfawrogiad o gyfraniadau ar lefel yr unigolyn, lefel tîm a lefel y sefydliad ac sy'n annog gweithwyr i ennill sgiliau a gwybodaeth;

 

 

 

Ÿ

yn cydredeg gyda'r broses arfarnu swyddi, adolygu a sicrhau, lle mae hynny'n briodol, set o amodau a lwfansau priodol, cost-effeithiol ac nad ydynt yn rhagfarnu;

 

 

 

Ÿ

fel rhan o'r pecyn cyffredinol o gynigion, cytuno ar agwedd newydd / ddiwygiedig tuag at drefniadau gweithio i annog hyblygrwydd a chefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith;

 

 

 

Ÿ

gyda'r undebau llafur, darganfod beth yw lefel y diddordeb mewn cyflwyno cynllun o fanteison hyblyg o fewn ein trefniadau ac ystyried ymarferoldeb cynllun o'r fath.

 

 

 

Dywedodd y Swyddog fod y Cytundeb Cenedlaethol yn nodi nifer o elfennau unigol  y dylid rhoddi sylw iddynt mewn adolygiad tâl.  'Roedd matrics a gafodd ei gynnwys yn yr adroddiad yn nodi'r elfennau hynny ynghyd ag arwydd o asesiad y Cyngor Sir o'r sefyllfa gyfredol.

 

 

 

Trafododd y Panel yr adroddiad mewn manylder a gofynnodd bod y mân-newidiadau isod yn cael eu gwneud i'r matrics fel a ganlyn:-

 

 

 

(9)   Cynigion ynghylch bonws neu Wobrwyon Perfformio eraill

 

(12) Yr adnoddau y mae eu hangen ar gyfer yr adolygiad tâl ac amcangyfrif o'u cost - ychwanegu manylion darpariaeth reolaidd.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytunwyd i anfon y ddogfen i'r Panel Trafod i'w  thrafod gyda'r Undebau Llafur.  

 

 

 

 

 

6

TÎM TRAFOD - CYTUNDEB

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y ceisir cytundeb ynghylch pwy  fydd yn cynrychioli rheolwyr ar y Tîm Trafod.  Nododd na allai ef, fel y Swyddog Adran 151, fod yn rhan o'r tïm.

 

 

 

Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD mai'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) a'r Rheolwr Staff fydd yn cynrychioli'r rheolwyr ar y tîm trafod ynghyd â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Panel hwn.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7........AMSERLEN ARFAETHEDIG

 

 

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd, mewn egwyddor, yr amserlen arfaethedig ar gyfer yr Adolygiad Tâl a Graddfeydd.

 

 

 

8

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

 

 

 

CYTUNWYD y cynhelir cyfarfodydd nesaf y Panel hwn ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

 

 

23 Chwefror, 2007

 

22 Mawrth, 2007

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD H. EIFION JONES

 

CADEIRYDD