|
|
Cafwyd trosolwg gan Mr John Moore o'r dull arfarnu a
ddefnyddiwyd gan Grwp Hay mewn perthynas â maint swyddi a
threfn restrol ar gyfer cyflogau rheng gyntaf ac ail reng.
Rhoddwyd arweiniad i'r Panel hefyd ynghylch
cymariaethau gyda chyflogau ar y farchnad agored (cyflog sail
sector cyhoeddus) fel sylfaen amddiffynadwy ar gyfer penderfynu ar
strwythur tâl/ graddfeydd a lefelau tâl i'r
dyfodol.
|
|
|
|
|
|
Dygodd y Rheolwr-gyfarwyddwr sylw Mr John Moore at y
ffaith bod gwaith y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio) wedi ei
gontractio allan bellach ac y dylid diwygio eu hadroddiad o'r
herwydd.
|
|
|
|
|
|
Rhoddodd yr Aelodau sylw manwl i gasgliadau Grwp Hay
a PHENDERFYNWYD:-
|
|
|
Ÿ
|
Gofyn i Grwp Hay adrodd yn ôl i'r
Rheolwr-gyfarwyddwr cyn gynted ag y bo modd ar ffigyrau wedi eu
haddasu i adlewyrchu'r farchnad ranbarthol fel y gall y Panel hwn
eu hystyried yn y cyfarfod nesaf gyda golwg ar ddefnyddio'r
wybodaeth honno ar gyfer modelau costio.
|
|
|
Ÿ
|
Gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr yn y cyfamser
werthuso'r drefn restrol a ddarparwyd gan Hay ar gyfer swyddi uchel
reolwyr ac adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Panel
hwn.
|
|
|
|
|
5
|
SWYDD Y PENNAETH GWASANAETH (ADDYSG)
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)
- er bod y Panel hwn wedi cytuno yn y cyfarfod ar 3 Ionawr,
2007 i uwchraddio cyflog y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ni wnaed
unrhyw geisiadau am y swydd wedi iddi gael ei hysbysebu'n
ddiweddar.
|
|
|
|
|
|
Yn y cyfarfod hwnnw ar 3 Ionawr, dywedwyd y byddai disgwyl
i ddeilydd y swydd fod â phrofiad o reoli mewn ysgol,
dealltwriaeth glir a manwl o bob agwedd ar y cwricwlwm, materion
cyllid a staff mewn perthynas ag ysgolion ynghyd â sgiliau
rheoli uwch ac addysg gadarn.
|
|
|
|
|
|
Ar yr amod bod y Pwyllgor hwn yn cymeradwyo, awgrymodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol y dylid gweithredu fel a ganlyn i ymateb
i'r diffyg ceisiadau am y swydd:-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Ailhysbysebu swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) gydag
"ychwanegiad i adlewyrchu'r farchnad"
|
|
|
Ÿ
|
Bod sylw yn cael ei roi i ddiwyg a natur yr hysbyseb ar
gyfer y swydd
|
|
|
Ÿ
|
Bod rhagor o sylw yn cael ei roi i fanylion y swydd gyda
golwg ar dynnu'r cyfeiriad at brofiad mewn ysgol a'i newid i
brofiad o'r Gwasanaeth Addysg yn gyffredinol.
|
|
|
|
|
|
Ar ôl sylw manwl PENDERFYNWYD cytuno i'r camau uchod a gynigiwyd gan y
Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden).
|
|
|
|
|
6
|
HYFFORDIANT MÔN TRAINING - MATERION
STAFFIO
|
|
|
|
|
|
Adroddwyd - o fewn yr adolygiad a wnaed o'r gyfundrefn yn
2001, rhoddodd y Cyngor sylw i strwythur Hyfforddiant
Môn a gwnaed rhai newidiadau a oedd yn adlewyrchu newidiadau
sylweddol mewn dyletswyddau a chyfrifoldebau yn y blynyddoedd yn
dilyn ad-drefnu. Un o'r newidiadau a wnaed oedd rôl
newydd ar gyfer swydd "Cydgysylltydd". 'Roedd y strwythur a
gymeradwywyd yn adolygiad 2001 yn cynnwys wyth swydd cydlynydd, pob
un gyda chyfrifoldebau oedd yn union yr un fath ond wedi eu
cysylltu i ffrwd hyfforddi wahanol. Fe gafodd nawfed swydd ei
chymeradwyo ond ni fyddai'n cael ei llenwi hyd nes y byddai meysydd
hyfforddiant newydd wedi cael eu datblygu fel y gellid gwarantu'r
swydd.
|
|
|
|
|
|
Fel rhan o'r adolygiad hwnnw fe roddwyd i'r cydlynwyr oedd
yn eu swyddi ddau increment hyd nes y byddid wedi cwblhau'r
adolygiad cyflogau a graddfeydd. Pe bai swydd newydd yn cael
ei sefydlu cyn cwblhau'r adolygiad, 'roedd y Cyngor wedi penderfynu
y byddai angen, i bwrpas recriwtio, nodi graddfa "amcangyfrif
gorau".
|
|
|
|
|
|
Yn fwy diweddar fe wnaed penderfyniad i lenwi'r swydd wag
ac yn unol â chanllawiau'r Cyngor pennwyd graddfa cyflog 5/6 i
bwrpas recriwtio. 'Roedd y sawl a benodwyd yn unigolyn
profiadol iawn gyda'r holl sgiliau ac fe gynigiwyd uchafswm y
raddfa - sef un pwynt increment yn uwch
|
|
|
|
na'r hyn a oedd yn cael ei dalu i'r rhai oedd ar y
cytundeb interim.
|
|
|
|
|
|
Canlyniad sefyllfa o'r fath fu i her gael ei chyflwyno
trwy dribiwnlys. Llwyddwyd i ddatrys y mater gyda chymorth
ACAS trwy ailglandro cyflog yr hawliwr i'w wneud yn gyfartal â
chyflog y gweithiwr a benodwyd yn ddiweddar.
|
|
|
|
|
|
O ganlyniad i'r achos hwn 'roedd eraill yn yr un grwp o
staff wedi cofrestru hawliadau o fewn ystod o raddfeydd
ffurfioldeb.
|
|
|
|
|
|
'Roedd y gwaith clandro yng nghyswllt cyflogau yn dangos y
byddai'n costio oddeutu £14,500 i gywiro'r mater cyflog
cyfartal i'r grwp hwn o staff.
|
|