Panel Adolygu Tal a Graddfeydd dogfennau , 23 Chwefror 2007

Panel Adolygu Tal a Graddfeydd
Dydd Gwener, 23ain Chwefror, 2007

PANEL ADOLYGU TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, 2007.  

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd H. Eifion Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, B Owen, R.L. Owen, H.W. Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden),

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol),

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor.

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd D.R. Hughes.  

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

 

 

Mr John Moore (Grwp Hay)

 

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Mr John Moore (Grwp Hay )

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden) a'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)  yn Eitem 4 y cofnodion hyn ac nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod unrhyw drafodaeth na phleidlais arni.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2007 fel rhai cywir.

(Cofnodion 06.03.2007, tud 58 - 60)

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Panel hwn ar ganlyniad y trafodaethau a gafwyd hyd yma gyda'r Undebau Llafur ynghylch strwythurau tâl i'r dyfodol a threfniadau cysylltiedig.

 

3

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

“ Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 cafodd y wasg a'r cyhoedd eu cau allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau isod, oherwydd y tebygolrwydd y câi  gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 1 Atodlen 12A y Ddeddf honno."

 

4

ARFARNU SWYDDI

 

 

Cafwyd trosolwg gan Mr John Moore o'r dull arfarnu a ddefnyddiwyd gan Grwp Hay mewn perthynas â maint swyddi a threfn restrol ar gyfer cyflogau rheng gyntaf ac ail reng.  Rhoddwyd arweiniad i'r Panel  hefyd ynghylch cymariaethau gyda chyflogau ar y farchnad agored (cyflog sail sector cyhoeddus) fel sylfaen amddiffynadwy ar gyfer penderfynu ar strwythur tâl/ graddfeydd a lefelau tâl i'r dyfodol.

 

 

 

Dygodd y Rheolwr-gyfarwyddwr sylw Mr John Moore at y ffaith bod gwaith y Pennaeth Gwasanaeth (Archwilio) wedi ei gontractio allan bellach ac y dylid diwygio eu hadroddiad o'r herwydd.

 

 

 

Rhoddodd yr Aelodau sylw manwl i gasgliadau Grwp Hay a PHENDERFYNWYD:-

 

Ÿ

Gofyn i Grwp Hay adrodd yn ôl i'r Rheolwr-gyfarwyddwr cyn gynted ag y bo modd ar ffigyrau wedi eu haddasu i adlewyrchu'r farchnad ranbarthol fel y gall y Panel hwn eu hystyried yn y cyfarfod nesaf gyda golwg ar ddefnyddio'r wybodaeth honno ar gyfer modelau costio.

 

Ÿ

Gofyn i'r Rheolwr-gyfarwyddwr yn y cyfamser werthuso'r drefn restrol a ddarparwyd gan Hay ar gyfer swyddi uchel reolwyr ac adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Panel hwn.

 

 

 

5

SWYDD Y PENNAETH GWASANAETH (ADDYSG)

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)  - er bod y Panel hwn wedi cytuno yn y cyfarfod ar 3 Ionawr, 2007 i uwchraddio cyflog y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) ni wnaed unrhyw geisiadau am y swydd wedi iddi gael ei hysbysebu'n ddiweddar.

 

 

 

Yn y cyfarfod hwnnw ar 3 Ionawr, dywedwyd y byddai disgwyl i ddeilydd y swydd fod â phrofiad o reoli mewn ysgol, dealltwriaeth glir a manwl o bob agwedd ar y cwricwlwm, materion cyllid a staff mewn perthynas ag ysgolion ynghyd â sgiliau rheoli uwch ac addysg gadarn.

 

 

 

Ar yr amod bod y Pwyllgor hwn yn cymeradwyo, awgrymodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y dylid gweithredu fel a ganlyn i ymateb i'r diffyg ceisiadau am y swydd:-

 

 

 

Ÿ

Ailhysbysebu swydd y Pennaeth Gwasanaeth (Addysg) gydag "ychwanegiad i adlewyrchu'r farchnad"

 

Ÿ

Bod sylw yn cael ei roi i ddiwyg a natur yr hysbyseb ar gyfer y swydd

 

Ÿ

Bod rhagor o sylw yn cael ei roi i fanylion y swydd gyda golwg ar dynnu'r cyfeiriad at brofiad mewn ysgol a'i newid i brofiad o'r Gwasanaeth Addysg yn gyffredinol.

 

 

 

Ar ôl sylw manwl PENDERFYNWYD cytuno i'r camau uchod a gynigiwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden).    

 

 

 

6

HYFFORDIANT MÔN TRAINING - MATERION STAFFIO

 

 

 

Adroddwyd - o fewn yr adolygiad a wnaed o'r gyfundrefn yn 2001,  rhoddodd y Cyngor sylw i strwythur Hyfforddiant Môn a gwnaed rhai newidiadau a oedd yn adlewyrchu newidiadau sylweddol mewn dyletswyddau a chyfrifoldebau yn y blynyddoedd yn dilyn ad-drefnu.  Un o'r newidiadau a wnaed oedd rôl newydd ar gyfer swydd "Cydgysylltydd".  'Roedd y strwythur a gymeradwywyd yn adolygiad 2001 yn cynnwys wyth swydd cydlynydd, pob un gyda chyfrifoldebau oedd yn union yr un fath ond wedi eu cysylltu i ffrwd hyfforddi wahanol.  Fe gafodd nawfed swydd ei chymeradwyo ond ni fyddai'n cael ei llenwi hyd nes y byddai meysydd hyfforddiant newydd wedi cael eu datblygu fel y gellid gwarantu'r swydd.

 

 

 

Fel rhan o'r adolygiad hwnnw fe roddwyd i'r cydlynwyr oedd yn eu swyddi ddau increment hyd nes y byddid wedi cwblhau'r adolygiad cyflogau a graddfeydd.  Pe bai swydd newydd yn cael ei sefydlu cyn cwblhau'r adolygiad, 'roedd y Cyngor wedi penderfynu y byddai angen, i bwrpas recriwtio, nodi graddfa "amcangyfrif gorau".  

 

 

 

Yn fwy diweddar fe wnaed penderfyniad i lenwi'r swydd wag ac yn unol â chanllawiau'r Cyngor pennwyd graddfa cyflog 5/6 i bwrpas recriwtio.  'Roedd y sawl a benodwyd yn unigolyn profiadol iawn gyda'r holl sgiliau ac fe gynigiwyd uchafswm y raddfa - sef un pwynt increment yn uwch

 

na'r hyn a oedd yn cael ei dalu i'r rhai oedd ar y cytundeb interim.

 

 

 

Canlyniad sefyllfa o'r fath fu i her gael ei chyflwyno trwy dribiwnlys.  Llwyddwyd i ddatrys y mater gyda chymorth ACAS trwy ailglandro cyflog yr hawliwr i'w wneud yn gyfartal â chyflog y gweithiwr a benodwyd yn ddiweddar.

 

 

 

O ganlyniad i'r achos hwn 'roedd eraill yn yr un grwp o staff wedi cofrestru hawliadau o fewn ystod o raddfeydd ffurfioldeb.  

 

 

 

'Roedd y gwaith clandro yng nghyswllt cyflogau yn dangos y byddai'n costio oddeutu £14,500 i gywiro'r mater cyflog cyfartal i'r grwp hwn o staff.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Cymryd camau i gywiro'r mater tâl cyfartal mewn perthynas â'r Cydlynwyr trwy ddefnyddio proses COT3 ACAS.

 

Ÿ

Bod costau cywiro'r mater cyflog cyfartal yn cael eu talu'n gorfforaethol o'r arian a neilltuwyd ar gyfer materion cyflogau a graddfeydd.

 

 

 

 

 

 

 

                         Daeth y cyfarfod i ben am hanner dydd.

 

 

 

Y CYNGHORYDD H. EIFION JONES

 

CADEIRYDD