Panel Adolygu Tal a Graddfeydd dogfennau , 22 Mawrth 2007

Panel Adolygu Tal a Graddfeydd
Dydd Iau, 22ain Mawrth, 2007

PANEL CYFLOGAU A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2007.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd H Eifion Jones - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr J Arwel Edwards, R L Owen, H W Thomas.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)(Ar gyfer Eitem 3)

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd D R Hughes

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Dr Rob Atenstaedt - Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru)

 

 

Rhoes y Cadeirydd groeso i Dr Rob Atenstaedt i'r cyfarfod.  Nododd y Rheolwr-gyfarwyddwr bod Dr Atenstaedt yn dod o'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a'i fod yn cymryd drosodd fel Rheolwr Gweithredol dros Iechyd Cyhoeddus Lleol (Môn a Gwynedd).  Fel rhan o'i hyfforddiant a'i ddatblygiad, gofynnodd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i Dr Atenstaedt gael cysgodi'r Rheolwr-gyfarwyddwr fel y gall arsylwi gwaith yr awdurdod lleol.

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, 2007.

(tud 34 - 37 y Cofnodion hyn)

 

YN CODI O'R COFNODION

 

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol:-

 

 

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni."

 

 

 

2.1

Y Diweddaraf ar y Trafodaethau gyda'r Undebau Llafur

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) y cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd trafod hyd yma gyda Swyddogion yr Undebau Llafur gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Panel yn bresennol fel sylwedyddion mewn perthynas â datblygu cynigion ar gyfer cyflogau a strwythur graddio mwy modern ar gyfer y sefydliad.

 

 

 

Yn dilyn y gweithdai a gynhaliwyd yn gynharach a'r trafodaethau cychwynnol gyda'r Undebau Llafur, rhoddwyd cynnig ymlaen ynghylch dull a oedd, fe ymddengys, yn cwrdd â dyheadau'r aelodau etholedig a'r Tîm Rheoli ac a oedd yn gweddu'n dda gyda'r gwerthoedd a'r diwylliant o reoli perfformiad a oedd yn cael eu meithrin yn y sefydliad.  Ymhellach, nodwyd bod yr Undebau Llafur yn ffafrio'r cynnig yn amodol ar rai mesurau gwarchod.  

 

Sefydlwyd Grwp Tasg a Gorffen i ystyried trefniadau gweithio eraill mwy hyblyg a ddylai, petaent yn cael eu cytuno ar y cyd, ffurfio rhan o becyn cyffredinol o gynigion a fyddai wedyn yn cael eu hargymell i'r Panel.  

 

 

 

Nododd y Cadeirydd ei fod o o'r farn y bu iddo ef a'r Is-Gadeirydd elwa o'r cyfarfod gyda'r Undebau Llafur a bod y trafodaethau yn mynd yn eu blaenau'n rhesymol.

 

 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaeth y bydd 'Llythyr Newyddion' yn cael ei gylchredeg i'r staff yn y dyfodol agos i amlinellu'r cynnydd a wnaed ar yr holl bynciau a drafodwyd yn y cyfarfod gyda'r Undebau Llafur.

 

 

 

Cyfeiriwyd at ystyried rhai lwfansau a thaliadau.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod y rhain yn destun trafodaethau ar wahân a oedd wedi'u cofnodi ar wahân ac a oedd yn rhoddi sylw i faterion oedd ddim wedi'u datrys yn llawn ar hyn o bryd yn unol â'r cytundeb statws sengl lleol 1998.

 

 

 

2.2

Ffigyrau'r Farchnad Leol

 

 

 

Cyflwynwyd a nodwyd y ffigyrau marchnad wedi'u diwygio gan Grwp Hay ar gyfer ardal Gogledd Cymru/y Gogledd Orllewin fel y gofynnwyd amdanynt yn y cyfarfod diwethaf o'r Panel.

 

 

 

Rhoes y Rheolwr-gyfarwyddwr gyflwyniad manwl i'r Pwyllgor ar gymariaethau tâl rhanbarthol yng nghyswllt swyddi Uchel Reolwyr.  Fel y gellid symud ymlaen gyda'r model tâl a chostau, roedd angen canllawiau ar uchafswm y lefel cyflog - roedd yr isafswm eisoes wedi cael ei nodi yn y golofn cyflogau cenedlaethol.

 

 

 

Yn codi o'r trafodaethau manwl ar y cyflwyniad, cytunwyd ar lefel cyflogau a oedd yn cynrychioli cynnydd o 5% uwchlaw'r uchafswm cyfredol (ac eithrio cyflog y Rheolwr-gyfarwyddwr).  Byddai hyn yn darparu ffigwr cychwynnol ar gyfer trafodaethau gyda'r Undebau Llafur.

 

 

 

2.3

Trefn Restrol ar gyfer swyddi'r Uchel Reolwyr

 

 

 

Rhoes y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) gefndir cryno i'r trefniadau rhestrol a ddarparwyd gan Hay ar gyfer swyddi'r Uchel Reolwyr.  Roedd hi'n debygol y byddai rhai Swyddogion ail haen yn anfodlon gyda'u sgorau o safbwynt yr ymarfer arfarnu swyddi.  Fodd bynnag, nodwyd y byddai gan swyddogion o'r fath yr un cyfle i apelio i banel apeliadau yn erbyn eu 'sgorau' yn yr un modd a phob gweithiwr arall yn y Cyngor Sir.  

 

 

 

Codwyd cwestiynau ynghylch rheolau a gweithdrefnau'r panel apeliadau.  Roedd yr Aelodau o'r farn y gallai apêl arwain at ganlyniad 'dau ffordd' h.y. gallai sgorau apelwyr godi neu ostwng ac roedd am i hynny gael ei egluro yn y canllawiau ar gyfer y broses Apeliadau.  Nododd y Pennaeth Gwasanaeth ei bod hi'n amhosibl rhagweld faint o apeliadau fyddai'n cael eu cofrestru yn dilyn cyhoeddi'r sgorau arfarnu swyddi terfynol.

 

 

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl, PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

3

AMSERLEN

 

 

 

(Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) yn bresennol ar gyfer yr eitem hon yn unig).

 

 

 

Cyflwynwyd - yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer yr Adolygiad o'r Cyflogau a'r Graddfeydd yn cynnwys yr amserlen ar gyfer cwblhau'r broses arfarnu swyddi.

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y byddai tabl sgorau'r ymarfer arfarnu swyddi a'r cyflogau diwygiedig ar gyfer swyddi yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd.  Soniodd am y gwaith sicrhau ansawdd oedd ar ôl i'w wneud ac roedd yn rhagweld y byddai'r gwaith yn dod i ben ym mhen yr ychydig wythnosau nesaf.  

 

 

 

Yn dilyn trafodaethau manwl PENDERFYNWYD nodi'r amserlen arfaethedig.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD H EIFION JONES

 

CADEIRYDD