Panel Adolygu Tal a Graddfeydd dogfennau , 21 Medi 2007

Panel Adolygu Tal a Graddfeydd
Dydd Gwener, 21ain Medi, 2007

PANEL ADOLYGU CYFLOGAU A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi, 2007.  

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd H. Eifion Jones (Cadeirydd)

 

Y Cynghorwyr J. Arwel Edwards, T.H. Jones.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr,

Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid),

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorwyr D.R. Hughes, R.L. Owen, Hefin W. Thomas.

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Awst, 2007.

(tud 1 - 2 y Cofnodion hyn)

 

3

CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-

 

“ Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Lleol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ri rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 1 Atodlen 12A y Ddeddf.”

 

4

ADRODDIAD TERFYNOL AR YR ADOLYGIAD O GYFLOGAU A GRADDFEYDD GAN GYNNWYS CYNNIG AR Y LLINELL GYFLOG

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) mai bwriad yr adroddiad oedd rhoddi i’r Panel y wybodaeth a’r canllawiau angenrheidiol a fyddai’n sylfaen i’w drafodaethau terfynol gyda’r undebau llafur mewn perthynas â chyrraedd cytundeb ar strwythur cyflogau a graddfeydd newydd a thelerau ac amodau cysylltiedig.

 

 

 

Er bod trafodaethau’n debygol o barhau mewn perthynas â materion penodol dros yr ychydig fisoedd nesaf, bwriedir cynnal trafodaethau terfynol ddiwedd y mis hwn ar y prif benawdau y mae angen cytundeb yn eu cylch.  Nododd hefyd er bod y trafodaethau cyfredol yn canolbwyntio ar y gweithwyr hynny sy’n rhan o’r Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol, roedd ymrwymiad ar yr un pryd i adolygu cyflogau swyddogion rheng gyntaf ac ail reng a bod angen i’r Panel gadw hynny mewn cof.

 

 

 

Rhoes y  Pennaeth Gwasanaeth amlinelliad o’r cefndir i’r adolygiad o gyflogau a graddfeydd, y broses arfarnu swyddi a oedd yn hanfodol i’r broses adolygu a’r system ar gyfer dod o hyd i’r ‘llinell gyflog mwyaf addas’ a oedd yn arwydd o’r strwythur cyflogau delfrydol i adlewyrchu trefn ranc y sgorau o ganlyniad i’r broses arfarnu swyddi.  Y sialens allweddol i’r awdurdod oedd sicrhau set dderbyniol o raddfeydd cyflog a oedd yn adlewyrchu canlyniadau’r broses arfarnu swyddi, wedi eu haleinio gyda’r strwythur cyflog yn seiliedig a’r fedrusrwydd y cytunwyd iddo eisoes gan y Panel, a oedd yn fforddiadwy ac a oedd yn dangos bod y Cyngor yn cwrdd â’i gyfrifoldebau statudol yn nhermau strwythur tâl a oedd yn gadarn o safbwynt cydraddoldeb.

 

 

 

Atgoffwyd y Panel am y canllawiau y cytunwyd arnynt mewn perthynas â’r meini prawf a’r egwyddorion hynny y dylid seilio strwythurau a lefelau cyflog arnynt ynghyd â’r dadansoddiad a gyflwynwyd yn gynharach mewn perthynas â lefelau cyflog y farchnad waith yn gyffredinol.

 

 

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) y materion hynny a oedd yn ymwneud â fforddiadwyaeth a’r gwaith sydd angen ei wneud i sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei defnyddio i fodelu’r strwythur newydd arni yn gadarn.  Roedd fforddiadwyaeth y model yn sensitif i nifer o elfennau yn y strwythur graddio ac nid y llinell gyflogau yn unig; golyga hyn nad oedd yn ymarferol cytuno i elfennau unigol o’r strwythur tâl a graddfeydd heb roi sylw i’r elfennau eraill hefyd.

 

 

 

Cafodd Aelodau’r Panel drafodaeth fanwl ar y gwaith modelu cyflogau ynghyd â rhai o’r opsiynau a oedd wedi dod i’r amlwg hyd yma, cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb ar y rhain a materion cysylltiedig er mwyn egluro’r sefyllfa a’r feddylfryd ynghyd â’r dulliau posibl o ddelio gyda’r mater allweddol o’r cyllid sydd ar gael i gyflwyno strwythur cyflogau newydd.  Daethpwyd i’r casgliad bod raid ystyried y pecyn cyfan er mwyn seilio’r cynnig terfynol arno ar gyfer ei drafod.

 

 

 

Gofynnodd y Pennaeth Gwasanaeth am farn y Panel ar rôl aelodau etholedig fel cadeiryddion Panelau Apêl mewn amgylchiadau lle yr oedd angen elfen o annibyniaeth a lle nad y Cytundeb Cenedlaethol yn rhagweld trefniadau apêl y tu allan i’r sefydliad.  Roedd Aelodau’r Panel yn gyndyn i argymell trefn o’r fath i’w cyd-aelodau etholedig ac roeddynt o’r farn y dylai’r drefn barhau ar lefel Swyddogion.

 

 

 

Yn dilyn trafodaethau pellach, PENDERFYNWYD :-

 

 

 

4.1

disgwyl am ganlyniadau’r gwaith manwl ar fodelu’r pecyn cyflogau a graddfeydd arfaethedig a’i gyflwyno i’r Panel, gydag opsiynau ar gyfer trafodaethau, cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

 

 

4.2

gofyn am wybodaeth gan awdurdodau cyfagos ynglyn â’r modd y mae nhw’n bwriadu delio gydag apeliadau ynghyd â rôl yr aelodau etholedig mewn Panelau Apêl.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD H. EIFION JONES

 

CADEIRYDD