Panel Adolygu Tal a Graddfeydd dogfennau , 7 Awst 2008

Panel Adolygu Tal a Graddfeydd
Dydd Iau, 7fed Awst, 2008

PANEL TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Awst 2008

 

YN BRESENNOL:

 

Ieuan Williams (Cadeirydd)

Y Cynghorwyr Jim Evans, K. Evans, W. I. Hughes, H. Eifion Jones.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr-gyfarwyddwr

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)

Rheolwr Personel

Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor

 

 

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ieuan Williams ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw fater a allai ymwneud â chyflogaeth ei gefnder yn yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2008 fel rhai cywir.

(Tudalennau 116 i 121 y Gyfrol hon).

 

Yn codi o'r cofnodion :-

 

(a)  Eitem 5 - Y Cefndir i'r Adolygiad a Rôl y Panel

 

Mynegodd y Cynghorydd Keith Evans anesmwythyd ynghylch y ffaith ei fod yn aelod newydd o'r Panel ond yn gwybod fawr ddim am yr holl waith a wnaed gan y Panel blaenorol.  Roedd yn bryderus ynghylch y grym a drosglwyddwyd o’r Cyngor Sir i'r Panel hwn a'r ffaith y byddai angen i'r Panel hwn ddyfarnu mewn rhai sefyllfaoedd nad oedd ef fel Aelod yn gyfarwydd â nhw.  Yn ogystal, nid oedd neb wedi ymgynghori ag ef ynghylch a oedd yn dymuno gwasanaethu ar y Panel hwn.  O'r herwydd roedd yn teimlo'n anesmwyth ynghylch a allai fod yn gyfrannwr effeithiol a phriodol i drafodaethau'r Panel hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd H. E. Jones bod y Cynghorwyr W. I. Hughes a Jim Evans hefyd yn aelodau newydd o'r Panel a'u bod hwythau yn yr un sefyllfa.  Fodd bynnag, roedd yn synnu bod y Cynghorydd Evans wedi mynegi ei bryderon yn y cyfarfod ac nad oedd wedi eu codi ymlaen llaw gyda'i grwp.

 

Dywedodd y Cadeirydd hefyd ei fod yn synnu nad oedd y Cynghorydd Evans wedi codi'r mater gydag ef o'r blaen ac awgrymodd, yn dilyn y cyfarfod heddiw, y dylai ef fel Cadeirydd, ynghyd â’r Cynghorydd Evans ac Arweinydd y Cyngor, gael trafodaeth ynghylch cefndir y penodiad.

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cynghorydd Evans pe bai aelod unigol o staff yn teimlo ei fod/bod yn cael cam yn y broses ac yn cyflwyno hawliad, gallai'r ffaith nad yw'r aelodau newydd mewn cystal sefyllfa i ddelio gyda'r mater oherwydd diffyg gwybodaeth gefndir fod yn ffactor pwysig yn rhesymeg y sawl sy'n cyflwyno'r hawliad.

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cadeiryd bod proses apelio ysgrifenedig a bod trefniadau arbennig i ddelio gydag achosion o'r fath.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd H. E. Jones mai gwaith y Panel hwn oedd edrych ar y darlun mawr ac nid ar y sgorau unigol. Ei rôl oedd penderfynu ar yr hyn sy'n fforddiadwy i'r Cyngor ac a oes modd sefydlu strwythur tâl priodol.

 

 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Personel at y ffaith na fyddai unrhyw apeliadau yn cael eu cyflwyno i aelodau'r Panel hwn.

 

 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) o ran cydbwysedd gwleidyddol y gallai'r Pwyllgor hwn wneud penderfyniad ffurfiol i gynyddu’r nifer o aelodau ar y Panel.  Byddai'n rhaid iddo wedyn gymryd hynny i  ystyriaeth wrth baratoi ei adroddiad ar gydbwysedd gwleidyddol i gyfarfod y Cyngor Sir ym mis Medi.

 

 

 

(b)  Eitem 8 - Taliadau Ychwanegol Penodol - Rheoleiddio

 

 

 

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

 

 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r isod :-

 

 

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 1, Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni. "

 

 

 

Dywedodd y Rheolwr Personel bod y Swyddog Monitro, ar ôl gweld cofnodion y cyfarfod diwethaf, wedi mynegi ei phryder ynghylch geiriad penderfyniad 8.2. (trefniadau y tu allan i oriau).  Dywedwyd yn y cyfarfod y byddai rhybudd o 3 mis i'r unigolyn hwn yn ddigonol.  Fodd bynnag, yr hyn na ddaeth drosodd yn y cyfarfod oedd yr angen i drafod gyda'r unigolyn.  Pe bai'r tâl yn newid, yna roedd pecynnau arferol yr Awdurdod yn dod i rym yn ogystal â phecyn gwarchod os oedd y cyflog yn gostwng.

 

 

 

Roedd y Swyddog Monitro yn bryderus ynghylch y ffordd yr oedd y cofnod wedi ei eirio oherwydd y gallai unigolyn ddod ag achos yn erbyn yr Awdurdod.  Awgrymodd y dylid newid y geiriad er mwyn rhoi i'r Rheolwr-gyfarwyddwr yr awdurdod i drafod gyda'r unigolyn ynghylch pam yr oedd angen gwneud unrhyw newidiadau, i wrando ar sylwadau'r unigolyn, i weld a oedd ffordd ymlaen ac yna adrodd yn ôl i'r Panel hwn am benderfyniad.

 

 

 

PENDERFYNWYD, yn dilyn cyngor y Swyddog Monitro, cytuno i’r geiriad diwygiedig isod ar gyfer penderfyniad 8.2 o gyfarfod y Panel hwn ar 10 Gorffennaf 2008 fel a ganlyn :-

 

 

 

8.2  Cadarnhau'r lwfans a roddwyd hyd yma i'r Pennaeth Gwasanaeth am drefniadau y tu allan i oriau, a rhoddi awdurdod i'r Rheolwr-gyfarwyddwr ymgynghori gyda'r Pennaeth Gwasanaeth ynghylch yr angen i'r Pennaeth Gwasanaeth barhau fel rhan o'r rota wrth gefn.  Byddai'r Rheolwr-gyfarwyddwr yn cyflwyno adroddiad ar ei anghenion ar gyfer cynnal y gwasanaeth y tu allan i oriau i gyfarfod o'r Panel Tâl a Graddfeydd yn y dyfodol.

 

 

 

3

DIWEDDARIAD YNGHYLCH CYNNYDD A'R MATERION A NODWYD ERS Y CYFARFOD DIWETHAF

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) - Bod y Pro-fforma ar yr amserlen a dosbarthwyd yn y cyfarfod yn delio gyda'r broses ar gyfer arfarnu staff dan reolau'r 'Llyfr Gwyrdd'.

 

 

 

Roedd y pro-fforma mewn fformat gwahanol i'r hyn yr oedd yr aelodau wedi ei weld o'r blaen ac roedd yn crynhoi'r cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â chyhoeddi'r sgorau terfynol.  Roedd yr amserlen hon wedi ei hadolygu'n drwyadl ers cyfarfod diwethaf y Panel o gofio'r sylwadau a wnaed gan y Panel ac mewn mannau eraill.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at y ffaith fod y materion isod wedi eu cwblhau yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni :-

 

 

 

Ÿ

Adolygiad gan Benaethiaid Gwasanaeth

 

Ÿ

Adolygu'r Sgorau

 

Ÿ

Sicrhau Safon y Sgorau

 

 

 

 

 

 

 

Ÿ

Cyfarfodydd Penaethiaid Gwasanaeth gydag Uchel Ymgynghorydd Allanol

 

Ÿ

Llofnodi bod y gwaith sgorio wedi ei gwblhau.

 

 

 

Ar 24 Mehefin llofnododd y Bwrdd Prosiect y gwaith sgorio a derbyniodd bod y broses wedi ei chwblhau,ond gan nodi y byddai angen, efallai, roi sylw i unrhyw gwestiynau hwyr neu anghysondebau difrifol yn y sgorau erbyn y dyddiad cau sef 5 Medi 2008.

 

 

 

Y meddalwedd Modelu Tâl oedd y gronfa ddata a oedd yn dal yr holl wybodaeth mewn perthynas â staff a'u swyddi, eu hen gyflogau a'u sgorau.  Trwy gydol o broses cafwyd anhawster o ran cysoni pob eitem o wybodaeth a oedd ar gael ynghylch pob aelod o'r staff.  Un o'r problemau a gafwyd oedd bod y gronfa ddata yn symud yn barhaol oherwydd bod staff yn trosglwyddo o un swydd i'r llall ac roedd hi'n anodd cadw trac o'r symudiadau hyn.  Roedd gwaith felly wedi bod yn cael ei wneud ar lanhau data ac roedd gwaith gwirio terfynol yn cael ei wneud gyda'r nod o gwblhau'r ymarfer erbyn diwedd y mis hwn.

 

 

 

O ran Modelu Tâl, roedd y swyddogion yn ymwybodol o'r sgorau terfynol ac roeddent bellach yn gallu modelu'r cyflogau yn fanylach.  Roedd y Grwp Modelu Tâl yn goruchwylio'r gwaith ar ochr y rheolwyr ac roedd gan ochr yr Undebau hefyd hawl i archwilio'r gwaith modelu.  Roedd yn rhagweld y byddai angen i'r Panel hwn gyfarfod yn yr wythnos gyntaf ym mis Medi i drafod opsiynau, manylion ynghylch pwy sy'n ennill a cholli, trefniadau gwarchod cyflog ac ati ar gyfer trafodaeth wedyn gyda'r Undebau o 12 Medi 2008.  Trefnwyd cyfnod o fis wedyn i'r Undebau gyflwyno eu hymateb a byddai hwnnw'n cael sylw wedyn gan y Panel.

 

 

 

Roedd yn ystyried bod y garreg filltir o 12 Medi 2008 ar gyfer rhoi manylion i staff yn un bwysig iawn.  Byddai'n rhaid i'r Undebau hefyd gynnal pleidlais ymysg gweithwyr ynghylch a oeddent yn fodlon derbyn y pecyn.  

 

 

 

Cyhoeddi deunydd oedd rhan nesaf yr amserlen a chyfeiriwyd at y gwaith gweinyddol yr oedd angen ei wneud er mwyn cynhyrchu llythyr i’r holl weithwyr yn nodi eu sgorau terfynol.  Byddai llyfrynau hefyd ar gyfer y staff ynghyd â sesiynau gwybodaeth i egluro'r broses i'r staff cyn iddynt dderbyn y llythyrau.

 

 

 

Soniodd y byddai'n rhaid i'r Panel hwn gael trafodaethau yn ystod wythnos gyntaf mis Medi ynghylch Tâl a Graddfeydd ac ynghylch yr hyn a gynigiwyd i'r Undebau.

 

 

 

Roedd Asesiad Effaith Cydraddoldebau yn weithdrefn ffurfiol yr oedd raid ei dilyn ynghylch y strwythur tâl arfaethedig o bersbectif cydraddoldeb.  Byddai'n rhaid i hyn ddigwydd rhwng Medi a Hydref 2008.  Byddai gweddill yr amserlen yn cael ei chadarnhau ar gyfer cyhoeddi trefn ranc newydd, y broses apelio a materion cyflog.

 

 

 

Dywedodd y Cynghorydd H. E. Jones ei bod hi'n bwysig cwrdd â'r garreg filltir gyntaf, h.y. derbyn y gronfa ddata gan y Pennaeth Gwasanaeth erbyn y dyddiad y cytunwyd arno, sef 29 Awst 2008.  Fel arall byddai gweddill y rhaglen yn llithro.

 

 

 

Yn ei ymateb dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oedd yn rhagweld unrhyw broblemau o ran cael sylwadau ond roedd profiad yn awgrymu mai datrys gwahaniaethau oedd yn cymryd amser.

 

 

 

Holodd y Cynghorydd H. E. Jones a fyddai'r Panel hwn yn cael cyfle i ystyried y Modelu Tâl ?

 

 

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) y byddai gan y Panel, y Bwrdd Prosiect, yr Undebau a'r Tîm Rheoli oll gyfle i wneud hynny.

 

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd H. E. Jones at faterion gwarchod cyflog a oedd wedi codi yn ddiweddar yn y Llys Apêl.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd y ffaith bod y Cyngor hwn yn cynnig gwarchodaeth am bedair blynedd yn golygu y byddai llai o arian ar gael i dalu am y strwythur tâl newydd.  Yn amodol ar arweiniad cyfreithiol, roedd yn ystyried y gallai fod yn opsiwn i edrych ar ostwng y cyfnod gwarchod tâl.

 

 

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fod y cyfnod gwarchod tâl am 4 blynedd yn rhan o drefniadau Adnoddau Dynol yr Awdurdod hwn.  Roedd yr Undebau yn disgwyl y byddai'r Awdurdod yn glynu wrth y polisi hwn.  Fodd bynnag, nid oedd modd cymryd yn ganiataol na fyddai'r polisi yn newid. Efallai na fyddai'r Awdurdod yn gallu fforddio'r polisi gyda'r cyllid a oedd ar gael a gall hwn fod yn fater ar gyfer trafodaethau pellach.

 

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd H. E. Jones a fyddai modd i'r Panel hwn gael manylion ynghylch telerau setliad Cyngor Gwynedd gyda'r Undebau?  Roedd yn ystyried y byddai hynny'n fuddiol i drafodaethau'r Panel.

 

 

 

Dywedodd y Cadeiryd bod y rhan fwyaf o'r gwaith anodd wedi ei gwblhau a gofynnodd am gynnal trafodaethau rhwng yr Undebau er mwyn bwrw ymlaen gyda'r mater hwn yn gyflym er budd y staff.

 

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) bod y Bwrdd Prosiect wedi gofyn i'r Undebau egluro eu hamserlen.  Ni chafwyd ymateb hyd yma ond efallai bod hynny o ganlyniad i'r amser a gymerwyd gan yr Undebau i ddelio gyda'r gweithredu diwydiannol yn ddiweddar.

 

 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r swyddogion am wybodaeth i gyfarfod nesaf y Panel hwn ynghylch sut yr oedd y strwythur modelu tâl ar gyfer Cyfarwyddwyr Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth yn mynd yn ei flaen.

 

 

 

Awgrymodd y Rheolwr-gyfarwyddwr y dylid cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Panel hwn, ynghyd â phapurau cysylltiedig, i gyfarfod nesaf y Panel hwn er mwyn rhoi'r wybodaeth gefndirol berthnasol yn y cyswllt hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

Gofyn i'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) roi manylion i'r Panel hwn ynghylch y setliad rhwng Cyngor Gwynedd a'r Undebau.

 

 

 

Ÿ

Gofyn i swyddogion roi'r wybodaeth diweddaraf i gyfarfod nesaf y Panel hwn ynghylch strwythur modelu tâl arfaethedig ar gyfer cyflogau swyddi rheng gyntaf ac ail reng, a chynnwys fel gwybodaeth gefndir, gofnodion y cyfarfod o'r Panel hwn a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2007 a'r arweiniad a roddwyd i'r Panel ynghylch cymariaethau gyda chyflogau'r farchnad (cyflogau sylfaen y sector cyhoeddus).

 

 

 

Ÿ

Bod manylion yr opsiynau Modelu Tâl yn cael eu cyflwyno i’r cyfarfod o’r Panel hwn ym mis Medi.

 

 

 

Ÿ

Fel y gofynnwyd yng nghyfarfod diwethaf y Panel hwn, gofyn i'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) adrodd yn ôl i'r Panel hwn ynghylch materion sy'n gysylltiedig â thaliadau wrth gefn, materion ôl-dâl a chostau teithio.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2:40pm

 

 

 

Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS

 

CADEIRYDD