Panel Adolygu Tal a Graddfeydd dogfennau , 7 Mai 2010

Panel Adolygu Tal a Graddfeydd
Dydd Gwener, 7fed Mai, 2010

PANEL ADOLYGU TÂL A GRADDFEYDD

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mai, 2010

 

PRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Ieuan Williams - Cadeirydd

 

Y Cynghorwyr Jim Evans, H. Eifion Jones, Raymond Jones.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid),

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol),

Rheolwr Personel (RLH),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Y Cynghorydd W.I. Hughes.

 

 

 

 

1

YMDDIHEURIADAU

 

Derbyniwyd yr ymddiheuriad a nodir uchod.

 

2

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan nac aelod na swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

3

CAU ALLAN Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“ Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.”

 

4

ADOLYGIAD TÂL A GRADDFEYDD

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) ei fod wedi derbyn gohebiaeth gan Mr. Geoff Edkins, Trefnydd Rhanbarthol, Unsain yn dweud nad oedd UNSAIN wedi rhyddhau’r hawl i gynnal pleidlais ymysg aelodau Cangen Ynys Môn ar y cynigion Statws Sengl.  

 

Amlinellodd y Swyddog i’r Pwyllgor :-

 

Ÿ

Y risgiau o safbwynt cyfraith cyflogaeth;

 

Ÿ

Y risgiau i’r berthynas rhwng gweithwyr ac ysbryd y staff;

 

Ÿ

Y bygythiad o safbwynt cadw staff;

 

Ÿ

Ymatebion yr Undeb;

 

Ÿ

Y costau o safbwynt ariannol ac yn nhermau adnoddau eraill.

 

 

 

Anfonwyd adroddiad at Aelodau’r Panel yn amlinellu’r opsiynau posibl sydd ar gael i’r awdurdod.

 

 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD :-

 

 

 

Ÿ

cymeradwyo Opsiwn 9 mewn egwyddor, fel yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio ar gyfer yr Awdurdod.

 

 

 

Ÿ

rhoi’r awdurdod i’r Swyddogion drafod goblygiadau’r Opsiwn sy’n cael ei ffafrio gyda Chyfreithwyr y Cyngor (Geldards).

 

 

 

Ÿ

bod cyfarfod o’r Panel yn cael ei gynnal yn dilyn y drafodaeth ar yr Opsiwn sy’n cael ei ffafrio fel a nodir uchod.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD IEUAN WILLIAMS

 

CADEIRYDD