|
|
Aeth y Trysorydd yn ei flaen i nodi fod amod grant yn
mynnu ar gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Ymddiriedolaeth
Elusennol. Am na chafodd un o'r swyddogion datblygu
rhanbarthol ei benodi tan y mis diwethaf fe ddylid cael adroddiad
blynyddol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.
|
|
|
|
|
|
Aeth ymlaen i ychwanegu iddo dderbyn gohebiaeth gan y
Comisiwn Elusennau ynghylch y cynllun a'r rheini'n holi'n benodol
sut oedd penodi swyddog yng nghyflogaeth y Cyngor yn llwyddo i
gyflawni amcanion elusennol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Nododd iddo ymateb i'r ymholiad trwy gyfeirio at yr hanes a'r
rhesymeg y tu ôl i'r cynllun ac roedd y Comisiwn yn fodlon
gyda'r ymateb.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
4.2
|
disgwyl am yr Adroddiad Blynyddol i gyfarfod nesaf y
Pwyllgor hwn ar y cynllun.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd ar y sefyllfa
ddiweddaraf a hefyd ynghlwm wrth yr adroddiad darparwyd copi o
adroddiad monitro gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol
Amlwch.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd mai cais oedd hwn am gyllid cyfatebol
i gyllido astudiaeth ar y posibiliadau yng nghyswllt datblygu Porth
Amlwch a Mynydd Parys yn atyniad o bwys mawr i ymwelwyr. Ym
mis Tachwedd 2001 roedd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol
Amlwch wedi cyflwyno cais i'r Gronfa Loteri Treftadaeth am grant
tuag at brosiect y Copper Kingdon. Neilltuodd yr
Ymddiriedolaeth Elusennol grant cyfatebol am £113k.
|
|
|
|
|
|
Daeth y cais yn ôl i'r Panel Adolygu Strategaeth ym
mis Ebrill 2003 yn gofyn am newid y pecyn cyllidol er mwyn cyllido
Cynllun Rheoli Cadwraethol a Chynllun Busnes. Rhoes y Panel
ei gefnogaeth i'r cais am ran gyntaf y gwaith ar y Cynllun Rheoli
Cadwraethol a chytuno hefyd i ryddhau £50,000 tuag at gyfanswm
£118,000 ar ran y flwyddyn gyntaf. Roedd y Panel yn
disgwyl gweld canlyniadau'r gwaith hwn cyn rhyddhau'r gweddill o'r
£113,800.
|
|
|
|
|
|
Yn ei adroddiad dywedodd y Trysorydd bod yr adroddiad
monitro gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch -
adroddiad a oedd ynghlwm - yn dweud bod y gwaith bron wedi ei
gwblhau ar y Cynllun Rheoli Cadwraethol ac y buasai copïau
ohono ar gael yn llyfrgelloedd lleol yr Ynys. Nodwyd bod hwn
yn amod y mynnwyd arno gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol fel nod i
hyrwyddo datblygiad addysgol ac fel ffordd o oleuo hanes lleol yr
ardal.
|
|
|
|
|
|
Hefyd ychwanegodd y Trysorydd y buasai'r Cynllun Busnes ar
gael ym mis Chwefror, 2005. Nododd yma y dylai'r
Ymddiriedolaeth Elusennol dderbyn y Cynllun Busnes cyn ystyried
rhyddhau balans y grant, sef £48,000. Ychwanegodd y bydd
Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch yn gofyn am grant
cyfatebol sylweddol eto i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol os ydyw'r
prosiect hwn am dyfu ac ehangu.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd ar y pwnc uchod ac
amgaewyd, gyda'r adroddiad, gopi o adroddiad monitro gan Menter
Môn.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd fod Monadfyw/Monased yn ddau brosiect
gan Menter Môn ac yn perthyn i'w gilydd ac o'r herwydd yn cael
eu monitro gyda'i gilydd. Roedd Menter Môn yn gweithio
mewn partneriaeth gyda Camre Cymru ar godi lefel entrepreneuriaeth
ac aeddfedrwydd pobl ifanc o ardaloedd difreintredig ym Môn.
Bydd hyn yn cyfrannu tuag at feithrin hyder, datblygu sgiliau
a pharatoad ar gyfer gwaith - pethau a gynhwyswyd yn y cais
gwreiddiol.
|
|
|
|
|
|
O edrych ar yr adroddiad monitro a gyflwynwyd gan Menter
Môn nododd y Trysorydd bod llithriad amlwg wedi digwydd
ynghylch costau refeniw prosiect Monadfyw. Awgrymodd y dylid
caniatau i'r llithriad symud ymlaen am gyfnod o 12 mis.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Cadeirydd bod angen rhoddi cyhoeddusrwydd i'r
prosiectau hyn ac i gyfraniad yr Ymddiriedolaeth Elusennol.
Awgrymodd y dylai'r Ymddiriedolaeth Elusennol ystyried logo penodol
fel bod modd adnabod yr Ymddiriedolaeth.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
6.1
|
caniatau i lithriad prosiect Monadfyw symud ymlaen am
gyfnod o 12 mis.
|
|
|
|
|
6.2
|
argymell i'r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn eu bod yn
ystyried mabwysiadu 'logo' penodol fel modd i adnabod yr
Ymddiriedolaeth Elusennol a chodi ei phroffil.
|
|
|
|
|
7
|
CANOLFAN SGILIAU AMLWCH
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd ar y
pwnc.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Trysorydd i'r cynllun hwn gael ei gymeradwyo gan
y Panel Adolygu Strategaeth ar 21 Mai 2004. Roedd y cynllun
yn dibynnu ar ddenu grant ESF gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
(Y Swyddfa).
|
|
|
|
|
|
Nododd iddo dderbyn cais ar 15 Medi, 2004 i lofnodi
tystysgrif y Swyddfa yn tystio bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn
cefnogi'r cynllun gyda swm penodol. Roedd hi'n amlwg bod y
cynllun a gyflwynwyd i'r Swyddfa yn wahanol i'r cynllun a
ddisgrifiwyd yng nghyfarfod yr Ymddiriedolaeth Elusennol ym mis
Mai. Yn benodol roedd cyfanswm cost y cynllun wedi syrthio o
£325k i £224k er bod cymorth yr Ymddiriedolaeth Elusennol
yn dal i fod yn £50k a hynny'n cyfateb i gynnydd canrannol o
15% i 22%. Roedd nifer y buddiolwyr wedi codi o 20 i
45.
|
|
|
|
|
|
Ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Panel Adolygu
Strategaeth ac ar ôl ystyried penderfyniad yr Ymddiriedolaeth
Elusennol a hefyd ar ôl derbyn eglurhad Hyfforddiant Parys
Training ar y newidiadau, credai'r Trysorydd y buasai'r
Ymddiriedolaeth Elusennol wedi caniatau'r newidiadau petai wedi
cael y cyfle i wneud hynny. Llofnodwyd tystysgrif y Swyddfa
yn amodol ar dderbyn cadarnhad yr Ymddiriedolaeth Elusennol y
gallai hi gefnogi'r cais diwygiedig.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD cefnogi y camau a gymerodd y Trysorydd,
ac a nodwyd uchod, yng nghyswllt y cynllun hwn.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf gan y
Trysorydd yng nghyswllt y cynllun uchod i sefydlu rhaglen o gyrsiau
byrion a chyrsiau achrededig hwy i aelodau o grwpiau cymunedol ac i
rai yn cynorthwyo grwpiau cymunedol.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Trysorydd bod Coleg Harlech (WEA) dal i ddisgwyl
am y penderfyniad terfynol ar yr asesiad er mwyn cychwyn ar y
cynllun.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
|
|
|
|
|
|