Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. dogfennau , 9 Tachwedd 2004

Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr.
Dydd Mawrth, 9fed Tachwedd, 2004

PWYLLGOR ADFYWIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar   9 Tachwedd 2004

 

YN BRESENNOL:

 

Y Mri. J. M. Davies, J. Arwel Edwards, Keith Evans, C. Ll. Everett, P. M. Fowlie, D. R. Hughes, R. Ll. Hughes, Thomas H. Jones, G. O. Parry M.B.E., D. Lewis-Roberts, J. Arwel Roberts, Peter S. Rogers, John Rowlands, Hefin W. Thomas, W. J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Y Trysorydd

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

1

CADEIRYDD

 

Etholwyd Mr. C. Ll. Everett yn Gadeirydd a diolchodd ef i bawb am ddangos ymddiriedaeth ynddo.

 

Nododd y Cadeirydd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol a gyfarfu ar 8 Gorffennaf 2004 wedi penderfynu sefydlu Pwyllgor Adfywio yn lle yr hen Banel Adolygu Strategaeth, ac ar y Pwyllgor newydd 16 o aelodau i ystyried a goruchwylio cynlluniau adfywio.  Rhagwelai'r Trysorydd y buasai'r Pwyllgor yn cyfarfod ddwy waith y flwyddyn.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Penodwyd Mr. D. A. Lewis-Roberts yn Is-Gadeirydd.

 

3

DATGAN DIDDORDEB

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. C. Ll. Everett ynghylch eitem 6 - Mônadfyw/Mônased gan ei fod wedi ymgeisio am grant dan y cynllun hwn yn rhinwedd ei swydd fel Clerc Cyngor Tref Caergybi.

 

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. D. R. Hughes yn eitem 4 - Swyddogion Datblygu Rhanbarthol gan ei fod yn gweithio i Medrwn Môn a hefyd yn eitem 5 - Copper Kingdom gan ei fod yn aelod o un o'r Pwyllgorau sy'n ymwneud â'r cynllun.  Gadawodd Mr. Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau hyn.

 

Gan Mr. W. J. Williams cafwyd datganiad o ddiddordeb yn eitem 4 - Swyddogion Datblygu Rhanbarthol gan ei fod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Menter Môn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

4

SWYDDOGION DATBLYGU RHANBARTHOL

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd ar y pwnc.

 

Dywedodd i'r cynllun hwn, yn wreiddiol, gael ei gymeradwyo dan enw Medrwn Môn fel yr ymgeisydd oedd am benodi a chyflogi'r swyddogion rhanbarthol.  Cawsant anawsterau recriwtio ac yn y pen draw dim ond un a benodwyd ganddynt.  Yn dilyn trafodaethau yn y Panel Adolygu Strategaeth cytunwyd i wahodd Adain Datblygu Economaidd y Cyngor Sir i barhau gyda gweddill y cynllun ar yr amod bod y swyddog a benodid yn cael ei neilltuo yn gyfan gwbl i'r prosiect hwn.  Cytunwyd hefyd i ymestyn cyfnod y cynllun o fewn yr arian a glustnodwyd yn wreiddiol iddo.

 

Bellach daethpwyd i gytundeb gyda'r Adain Datblygu Economaidd ar reoli'r cynllun ac eglurwyd y proffil gwariant i'r Pwyllgor.

 

 

Aeth y Trysorydd yn ei flaen i nodi fod amod grant yn mynnu ar gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Ymddiriedolaeth Elusennol.  Am na chafodd un o'r swyddogion datblygu rhanbarthol ei benodi tan y mis diwethaf fe ddylid cael adroddiad blynyddol yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

 

 

Aeth ymlaen i ychwanegu iddo dderbyn gohebiaeth gan y Comisiwn Elusennau ynghylch y cynllun a'r rheini'n holi'n benodol sut oedd penodi swyddog yng nghyflogaeth y Cyngor yn llwyddo i gyflawni amcanion elusennol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Nododd iddo ymateb i'r ymholiad trwy gyfeirio at yr hanes a'r rhesymeg y tu ôl i'r cynllun ac roedd y Comisiwn yn fodlon gyda'r ymateb.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

4.1

nodid'r adroddiad.

 

 

 

4.2

disgwyl am yr Adroddiad Blynyddol i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn ar y cynllun.

 

 

 

5

COPPER KINGDOM

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd ar y sefyllfa ddiweddaraf a hefyd ynghlwm wrth yr adroddiad darparwyd copi o adroddiad monitro gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd mai cais oedd hwn am gyllid cyfatebol i gyllido astudiaeth ar y posibiliadau yng nghyswllt datblygu Porth Amlwch a Mynydd Parys yn atyniad o bwys mawr i ymwelwyr.  Ym mis Tachwedd 2001 roedd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch wedi cyflwyno cais i'r Gronfa Loteri Treftadaeth am grant tuag at brosiect y Copper Kingdon.  Neilltuodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol grant cyfatebol am £113k.

 

 

 

Daeth y cais yn ôl i'r Panel Adolygu Strategaeth ym mis Ebrill 2003 yn gofyn am newid y pecyn cyllidol er mwyn cyllido Cynllun Rheoli Cadwraethol a Chynllun Busnes.  Rhoes y Panel ei gefnogaeth i'r cais am ran gyntaf y gwaith ar y Cynllun Rheoli Cadwraethol a chytuno hefyd i ryddhau £50,000 tuag at gyfanswm £118,000 ar ran y flwyddyn gyntaf.  Roedd y Panel yn disgwyl gweld canlyniadau'r gwaith hwn cyn rhyddhau'r gweddill o'r £113,800.

 

 

 

Yn ei adroddiad dywedodd y Trysorydd bod yr adroddiad monitro gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch - adroddiad a oedd ynghlwm - yn dweud bod y gwaith bron wedi ei gwblhau ar y Cynllun Rheoli Cadwraethol ac y buasai copïau ohono ar gael yn llyfrgelloedd lleol yr Ynys.  Nodwyd bod hwn yn amod y mynnwyd arno gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol fel nod i hyrwyddo datblygiad addysgol ac fel ffordd o oleuo hanes lleol yr ardal.

 

 

 

Hefyd ychwanegodd y Trysorydd y buasai'r Cynllun Busnes ar gael ym mis Chwefror, 2005.  Nododd yma y dylai'r Ymddiriedolaeth Elusennol dderbyn y Cynllun Busnes cyn ystyried rhyddhau balans y grant, sef £48,000.  Ychwanegodd y bydd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch yn gofyn am grant cyfatebol sylweddol eto i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol os ydyw'r prosiect hwn am dyfu ac ehangu.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

6

MONADFYW/MONASED

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd ar y pwnc uchod ac amgaewyd, gyda'r adroddiad, gopi o adroddiad monitro gan Menter Môn.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd fod Monadfyw/Monased yn ddau brosiect gan Menter Môn ac yn perthyn i'w gilydd ac o'r herwydd yn cael eu monitro gyda'i gilydd.  Roedd Menter Môn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Camre Cymru ar godi lefel entrepreneuriaeth ac aeddfedrwydd pobl ifanc o ardaloedd difreintredig ym Môn.  Bydd hyn yn cyfrannu tuag at feithrin hyder, datblygu sgiliau a pharatoad ar gyfer gwaith - pethau a gynhwyswyd yn y cais gwreiddiol.

 

 

 

O edrych ar yr adroddiad monitro a gyflwynwyd gan Menter Môn nododd y Trysorydd bod llithriad amlwg wedi digwydd ynghylch costau refeniw prosiect Monadfyw.  Awgrymodd y dylid caniatau i'r llithriad symud ymlaen am gyfnod o 12 mis.  

 

 

 

Nododd y Cadeirydd bod angen rhoddi cyhoeddusrwydd i'r prosiectau hyn ac i gyfraniad yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Awgrymodd y dylai'r Ymddiriedolaeth Elusennol ystyried logo penodol fel bod modd adnabod yr Ymddiriedolaeth.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

6.1

caniatau i lithriad prosiect Monadfyw symud ymlaen am gyfnod o 12 mis.

 

 

 

6.2

argymell i'r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn eu bod yn ystyried mabwysiadu 'logo' penodol fel modd i adnabod yr Ymddiriedolaeth Elusennol a chodi ei phroffil.

 

 

 

7

CANOLFAN SGILIAU AMLWCH

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd ar y pwnc.

 

 

 

Nododd y Trysorydd i'r cynllun hwn gael ei gymeradwyo gan y Panel Adolygu Strategaeth ar 21 Mai 2004.  Roedd y cynllun yn dibynnu ar ddenu grant ESF gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (Y Swyddfa).

 

 

 

Nododd iddo dderbyn cais ar 15 Medi, 2004 i lofnodi tystysgrif y Swyddfa yn tystio bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn cefnogi'r cynllun gyda swm penodol.  Roedd hi'n amlwg bod y cynllun a gyflwynwyd i'r Swyddfa yn wahanol i'r cynllun a ddisgrifiwyd yng nghyfarfod yr Ymddiriedolaeth Elusennol ym mis Mai.  Yn benodol roedd cyfanswm cost y cynllun wedi syrthio o £325k i £224k er bod cymorth yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn dal i fod yn £50k a hynny'n cyfateb i gynnydd canrannol o 15% i 22%.  Roedd nifer y buddiolwyr wedi codi o 20 i 45.

 

 

 

Ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Panel Adolygu Strategaeth ac ar ôl ystyried penderfyniad yr Ymddiriedolaeth Elusennol a hefyd ar ôl derbyn eglurhad Hyfforddiant Parys Training ar y newidiadau, credai'r Trysorydd y buasai'r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi caniatau'r newidiadau petai wedi cael y cyfle i wneud hynny.  Llofnodwyd tystysgrif y Swyddfa yn amodol ar dderbyn cadarnhad yr Ymddiriedolaeth Elusennol y gallai hi gefnogi'r cais diwygiedig.

 

 

 

PENDERFYNWYD cefnogi y camau a gymerodd y Trysorydd, ac a nodwyd uchod, yng nghyswllt y cynllun hwn.

 

 

 

8

CYMUNEDAU MÔN

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf gan y Trysorydd yng nghyswllt y cynllun uchod i sefydlu rhaglen o gyrsiau byrion a chyrsiau achrededig hwy i aelodau o grwpiau cymunedol ac i rai yn cynorthwyo grwpiau cymunedol.

 

 

 

Nododd y Trysorydd bod Coleg Harlech (WEA) dal i ddisgwyl am y penderfyniad terfynol ar yr asesiad er mwyn cychwyn ar y cynllun.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

C. LL. EVERETT

 

CADEIRYDD