|
|
|
5
|
SWYDDOGION DATBLYGU ARDAL
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd ar gynnydd gyda'r
Fframwaith Datblygu Ardal o'i dechreuad yn 2002 ynghyd ag esiamplau
o ganlyniadau allweddol yn deillio o weithgareddau'r
Swyddogion.
|
|
|
|
|
|
Nododd mai'r Swyddogion Datblygu yw'r pwynt cyswllt cyntaf
i grwpiau a thrigolion o fewn yr ardal y maent yn gweithio.
Mae eu hardaloedd daearyddol wedi'u diffinio yn unol ag
ardaloedd dalgylch Ysgolion Uwchradd yr Ynys. Mae'r Grwp
Llywio Datblygu Ardal (gyda chynrychiolaeth Swyddogion o Uned
Datblygu Economaidd y Cyngor Sir, Menter Môn, Medrwn
Môn a'r ADC), yn darparu cyfarwyddyd strategol i'r Swyddogion
Datblygu ac yn gwerthuso effaith y gweithgareddau. Darperir
adroddiadau chwarterol gan y Swyddogion Datblygu Ardal i'r Grwp
Llywio. Mae system fonitro newydd wedi'i rhoi yn ei
lle.
|
|
|
|
|
|
Er gwaethaf problemau dechreuol gyda recriwtio'r pump
Swyddog Datblygu Ardal, mae'r pump i gyd yn awr yn eu swyddi.
Fel canlyniad uniongyrchol, fe lansiwyd y Fframwaith Datblygu
Ardal yn swyddogol yn Sioe Môn. Hefyd fe ddyrannwyd
£5,000 y flwyddyn gan yr Uned Ddatblygu Economaidd i bob un
o'r ddau Swyddog a gyllidir gan yr Ymddiriedolaeth i hwyluso
datblygiad prosiect. Roedd y swyddog o fewn Medrwn Môn
wedi defnyddio'r £5,000 hwn yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Nid oedd y Swyddog arall sy'n seiliedig yn ardal Amlwch wedi
defnyddio yr arian gan mai dim ond am chwe mis y mae wedi bod yn ei
swydd. Nid yw'r arian hwn ar gael i Swyddogion a gyllidir gan
Menter Môn/UE yn gweithredu yn ardal dalgylch Llangefni a
Bodedern nac i'r swyddog sydd yng Nghaergybi.
|
|
|
|
|
|
Mae'r pecyn cyllido newydd ar gyfer y Swyddog sydd yng
Nghaergybi yn cynnwys tua £60,000/ cyllideb refeniw blynyddol
all gael ei ddefnyddio i hwyluso gweithgareddau adfywio yn ymwneud
â refeniw yng nghanol y dref. Yn ychwanegol mae
£5,000 y flwyddyn wedi'i ddyrannu gan yr Uned Datblygu
Economaidd i bob un o'r swyddogion a gyllidir gan yr
Ymddiriedolaeth i'r un pwrpas. Nid oes gan y ddau swyddog
arall gyllideb hwyluso. Mae'r cyllid ar gyfer y ddwy swydd
sydd wedi'u cysylltu i brosiect Ewropeaidd yn cael eu gweinyddu gan
Menter Môn ac maent yn dod i ben ym Mawrth 2006. Rydym
yn chwilio am ffynonellau i gyllido'r swyddi hyn ymhellach.
Mae sicrhau cyllid ychwanegol yn hanfodol os yw'r fframwaith
i barhau ac i ddatblygu i fod yn gerbyd darparu cryfach a mwy
dynamig.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd yn ymwneud
â'r uchod.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd - yn dilyn penderfyniadau cynharach
yr Ymddiriedolaeth Elusennol, fod cymeradwyaeth i gyllido
£65,000 tuag at :-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth y Deyrnas Gopr;
|
|
|
|
|
Ÿ
|
ddatblygu Cynllun Busnes ddylai yn ei dro helpu i ystyried
y dichonolrwydd o ddatblygu ymhellach a chynnal ceisiadau pellach
am gyllid.
|
|
|
|
|
Mae'r Cynllun Rheoli Cadwraeth yn ddogfen
sylweddol o ddiddordeb hanesyddol a gwyddonol ac fe ellir ei
ystyried fel allbwn ynddo'i hun i fodloni'r amcanion elusennol.
Roedd copi ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol, ond nid
yw ar gael eto yn y llyfrgelloedd cyhoeddus (amod o'r cyllido).
Mae'r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi penderfynu cyn hyn y
bydd raid cwblhau hyn cyn rhyddhau cyllid pellach.
|
|
|
|
Mae'r Cynllun Busnes (oedd yn cael ei ddisgwyl
ar y cychwyn ddiwedd 2004/2005 cynnar) hefyd yn ddogfen sylweddol.
Mae'n amlwg bod datblygu prosiect y Deyrnas Gopr ymhellach yn
brosiect uchelgeisiol fydd angen cyfraniad sawl partner ac ariannu
cyhoeddus sylweddol tuag at gostau refeniw a chyfalaf. Mae'r
Cynllun Busnes yn canolbwyntio'i sylw ar ddatblygu Porth Amlwch fel
cyrchfan. Mae'n amlwg fod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys
Môn oherwydd ei fod yn berchen y tir ar ochr orllewinol Porth
Amlwch yn gorfod bod yn un o'r partneriaid datblygu. Byddai
unrhyw benderfyniad i ryddhau'r tir hwn, ac ar ba dermau, yn gorfod
cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn.
|
|
|
|
Byddai datblygu'r tir fel y bwriedir gan
brosiect y Deyrnas Gopr yn unol ag amcanion yr Ymddiriedolaeth
Elusennol, trwy ei fod yn gweld y tir fel lle i'w fwynhau gan
fuddiolwyr yr Ymddiriedolaeth ac nid fel buddsoddiad. Os yw'r
prosiect i fynd ymhellach, bydd raid ystyried pwy yw sponsor y
prosiect - Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch yn ei
ffurf bresennol, neu rhyw gorff arall, a'i berthynas gyda
phartneriaid prosiect arall.
|
|
|
|
Nododd y Swyddog bod Ymddiriedolaeth
Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch wedi gofyn i'r Ymddiriedolaeth
Elusennol ystyried rhyddhau'r balans o £48,800 a glustnodwyd
ar y dechrau ar gyfer y prosiect hwn. Os caiff hwn ei wario
ar yr astudiaeth dichonolrwydd, fel gyda phob gwaith dichonolrwydd,
fe fydd risg, os na fydd y prosiect yn ddichonadwy, ac felly ni
cheir unrhyw ganlyniad.
|
|
|
|
Nododd mai rhan o'r cynnig yw defnyddio'r swm
a glustnodwyd tuag at welliannau penodol ar dir yr Ymddiriedolaeth
Elusennol sydd hefyd yn gydnaws gyda chynlluniau'r Deyrnas Gopr.
Yn eu hadroddiad, roedd Ymddiriedolaeth Treftadaeth
Ddiwydiannol Amlwch yn gofyn am £38k tuag at uwchraddio'r
safle a llwybrau ar y West Quay, £5k tuag at gostau
cyfreithiol drafftio les am Fynydd Parys a £5k tuag at gostau
refeniw Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Ynys
Môn.
|
|
|
|
Awgrymodd y Trysorydd y gellid rhyddhau
£5k tuag at ddrafftio les am Fynydd Parys a £5k tuag at
gronfa pethau annisgwyl tuag at gostau refeniw Ymddiriedolaeth
Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch e.e. Swyddog Prosiect, gyda'r arian
sydd yn weddill yn cael ei glustnodi i'w ddefnyddio gan yr
Ymddiriedolaeth Elusennol ei hun i wneud gwelliannau i dir yr
Ymddiriedolaeth Elusennol sydd yn gydnaws gyda phrosiect y Deyrnas
Gopr.
|
|
|
|
Dywedodd Mr. P.M. Fowlie y dylai'r les am y
safle gael ei datrys cyn gollwng y balans.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
|
|
|
|
6.1
|
rhyddhau £10k i Ymddiriedolaeth Treftadaeth
Diwydiannol Amlwch tuag at gostau cyfreithiol a chostau refeniw,
i'w rhyddhau yn amodol ar beri fod copïau o'r Cynllun Rheoli
Cadwraeth ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn unol â'r
hyn y gofynnwyd amdano cyn hynny.
|
|
|
|
|
6.2
|
clustnodi'r balans o £38k i'w ddefnyddio gan yr
Ymddiriedolaeth Elusennol ei hunan ar ei dir ym Mhorth Amlwch mewn
ffordd sydd yn unol â phrosiect y Deyrnas Gopr.
|
|
|
|
|
6.3
|
mynegi i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol
Amlwch bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn dymuno gweld
mater y les am y tir yn cael ei ddwyn i ben os yw am barhau i
gefnogi'r prosiect hwn.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd gan y Trysorydd yn ymwneud
â'r uchod.
|
|
|
|
|
|
Yn ôl y Trysorydd, pan gafodd y prosiect Monased ei
gymeradwyo yn 2004, fe ofynnwyd am swm o £390,000 ar gyfer
tair blynedd. Torrwyd y cyllid i £260,000 ar gyfer dwy
flynedd yn unig, oherwydd nad oedd yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar
y pryd yn gallu dyrannu'r swm llawn ac roedd y cais yn
caniatáu am ddyraniad pro rata. Byddai Menter
Môn yn dymuno ar i'r Ymddiriedolaeth Elusennol ddyfarnu
balans y cyllid. Nodwyd y byddai'r prosiect yn creu Cronfa
Allweddol y gallai Grwpiau Cymunedol, Cynghorau Cymuned a Thref
wneud cais am arian ohono i wella adeiladau cymunedol.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd i Ganolfan Sgiliau Amlwch gael ei
chefnogi gan gynllun Monased a hynny yn dilyn derbyn adroddiad
monitro. Nododd fod y Ganolfan Sgiliau hefyd wedi'i chefnogi
yn uniongyrchol gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Yn dilyn
arolygu'r cais gwreiddiol gan Menter Môn a bod dim yn yr
amodau osodwyd ar y pryd sydd yn anghydnaws ac nad yw yn torri
unrhyw un o'r amodau a osodwyd.
|
|
|
|
|
|
Gofynnodd P.M. Fowlie am fwy o wybodaeth ynglyn â
phrosiect Llys Llywelyn.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gofyn am i fwy o
wybodaeth ynglyn â phrosiect Llys Llywelyn fod ar gael i
aelodau o'r Is-Bwyllgor hwn.
|
|
|
|
|
8
|
CANOLFAN SGILIAU AMLWCH
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan y Trysorydd yn ymwneud
â'r uchod.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd i Ganolfan Sgiliau Amlwch gael ei
sefydlu i ddarparu hyfforddiant gyrfaol cyn baratoadol i bobl ifanc
anfodlon a'r rhai sydd gyda chymhelliant isel ac i'r rhai nad yw'r
cyfleon hyfforddi a chyflogaeth sydd ar gael yn briodol.
|
|
|
|
|
|
Mae'r grantiau a adolygwyd ar gyfer y prosiect hwn fel a
ganlyn:
|
|
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd bod WEA Coleg Harlech yn ddiweddar
wedi derbyn cymeradwyaeth oddi wrth WEFO i'r prosiect
CymunedauMôn. Bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant
adeiladu capasiti i aelodau grwp cymunedol a'r unigolion sy'n
cefnogi ac yn rhoddi cymorth i grwpiau cymunedol dderbyn y sgiliau
sydd ei hangen fel y gallant asesu a mynd i'r afael ag anghenion eu
cymunedau. Bydd hyn yn adeiladu capasiti cymunedau
difreintiedig ar Ynys Môn fel y gallant weithredu drostynt eu
hunain a bydd yn sicrhau cynaliadwyaeth tymor hir y cymunedau ar
Ynys Môn. Cyfanswm cost y prosiect yw £178,080 a
bydd o fudd i 300 o unigolion.
|
|
|
|
|
|
Bydd y prosiect yn weithredol yn y 3 ward blaenoriaeth ar
Ynys Môn a bydd yn cael ei farchnata a'i hyrwyddo gan y
Swyddogion Datblygu Ardal. Mae cyrsiau hyfforddi i ddechrau
ar unwaith. Bydd yn angenrheidiol ailbroffilio yr amserlen
wario i fatsio'r gwariant a ddisgwylir.
|
|
|
|
|
|
Adroddodd y Trysorydd fod disgwyl adroddiadau monitro
ynglyn â'r cynllun yn y man.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd yr Aelodau fod Prifysgol Cymru, Bangor, Coleg
Menai a Hyfforddiant Môn a Mudiadau eraill yn cynnig
cyfleusterau tebyg i'r WEA. Nodwyd fod y cymunedau gwledig yn
colli allan a dywedwyd y gallai'r Swyddogion Datblygu Ardal nodi'r
angen am hyfforddiant o fewn eu cymunedau. Ystyriwyd y
byddai'n well rhannu y grant oedd ar gael yn hytrach na'i rhoi i un
mudiad penodol.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd fod y prosiect, fel ei disgrifiwyd yn
y cais, wedi'i gymeradwyo ond dywedodd y byddai yn pasio
safbwyntiau'r Aelodau ymlaen i gynrychiolwyr y prosiect.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
|
|
|
10
|
Y RHAGOLWG AM FLOC CYLLIDO AR GYFER
ADFYWIO
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd am yr
uchod.
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd i'r
Ymddiriedolaeth Elusennol yn 2002 ryddhau swm o £1.8m o dwf
yn y gorffennol yng nghyfalaf yr Ymddiriedolaeth, i'w ddefnyddio
tuag at ariannu cynlluniau adfywio. Gan ei fod yn dod o
gyfalaf yr Ymddiriedolaeth, ac nid yr incwm buddsoddiad blynyddol,
yr oedd yn benderfyniad unigryw ac roedd angen mwyafrif o ddwy ran
o dair o'r aelodaeth ac fe gafwyd hyn.
|
|
Roedd swm o £0.82m
wedi'i gymeradwyo yn 2002 tuag at dri chynllun penodol h.y.
Swyddogion Datblygu Ardal, Monadfyw, y Deyrnas Gopr. Roedd y
gostyngiad sylweddol yng ngwerth buddsoddiadau'r farchnad stoc yn
2002 a 2003 bron iawn wedi dileu twf cyfalaf yr Ymddiriedolaeth yn
y gorffennol. Arweiniodd hyn at benderfyniad i 'rewi'
gweddill y £1.8m yn y gobaith y byddai cyflwr y farchnad yn
gwella.
|
|
|
|
Yn 2004, yn dilyn cynnydd
yn y farchnad, cafwyd cyngor bod rhan o'r swm oedd wedi'i rewi, a
swm pellach o £0.35m wedi'i ddyrannu i dri phrosiect pellach
(Monased, Canolfan Sgiliau Amlwch, CymunedauMon). Ar y pryd
yr amcangyfrif oedd bod gwerth yr Ymddiriedolaeth yn £11.3m a
rhan yn unig o'r gofer uwch na'r targed a ryddhawyd.
|
|
|
|
Yn dilyn gwelliant pellach
yng nghyflwr y farchnad stoc aeth gwerth buddsoddiadau'r
Ymddiriedolaeth i fyny i £12.8m ar 30 Mehefin, 2005. Yn
dilyn rhesymu tebyg i'r hyn gafwyd ar Mawrth 2004, rhoddwyd cyngor
y gallai gweddill o'r £0.61m gael ei ryddhau, heb i'r gwerth
presennol ddisgyn yn is na'r targed twf tymor hir. Yn amlwg
mae hyn yn ymwneud â gwerthoedd presennol ac mae yn destun
i'r rhybuddion arferol y gall y farchnad ddisgyn unwaith yn
rhagor.
|
|
|
|
Pan ryddhawyd y
£1.8m yn 2002, roedd i'w ddefnyddio'n benodol gydag arian
cyfatebol Amcan Un yr UE. Bydd Amcan Un yn dod i ben yn 2006.
Ni fu'n bosibl gwario'r cyfan o'r £1.8m yn ystod y
cyfnod hwn, yn bennaf oherwydd i'r farchnad stoc ddisgyn a hyn yn
arwain at rewi cynlluniau newydd, ond hefyd oherwydd fod cynlluniau
oedd wedi'u cymeradwyo yn fwy araf na'r hyn oedd wedi'i gynllunio'n
wreiddiol. Oherwydd lefel isel GDP yr Ynys, bydd goblygiadau
a chanlyniadau methiant presennol yr UE i gytuno ei becyn ariannol
i'r dyfodol yn fwy nag mewn gwledydd eraill mwy ffyniannus.
Fe all y sefyllfa hon greu gofyn am arian ar gyfer
gweithgareddau adfywio yn y bwlch rhwng Amcan Un ac unrhyw beth a
ddaw ar ei ôl, galw a allai gael ei gyflenwi, o bosibl gan yr
Ymddiriedolaeth Elusennol os daw prosiectau addas yn amlwg.
Dywedodd fod Menter Môn wedi ysgrifennu i wneud cais am
arian o'r fath.
|
|
|
|
Nododd y Trysorydd
ymhellach i'r Ymddiriedolaeth Elusennol yn Ebrill 2005 ystyried
ffyrdd posibl o ariannu'r cyfraniad arfaethedig o £250,000 i
Gemau'r Ynysoedd. Yn anffodus, roedd bid Gemau'r Ynysoedd yn
aflwyddiannus ac un opsiwn oedd wedi'i ystyried ar y pryd oedd y
gallai cyfraniad gael ei ddefnyddio i ariannu gwelliannau i
Ganolfannau Hamdden y Cyngor. Nododd y Trysorydd fod
cyfathrebu gyda'r Comisiwn Elusennol ynglyn a Gemau'r Ynysoedd a
datblygiadau tebyg i Ganolfannau Hamdden yr Awdurdod Lleol yn
awgrymu fod y Comisiwn Elusennol wedi newid eu safbwynt ar yr hyn y
maent yn ei alw yn 'ryddhau ymrwymiad statudol'. Fe allai hyn
gael effaith ar y defnydd o gronfeydd adfywio, a chronfeydd eraill.
Mae'r mater yn cael ei ystyried a bydd adroddiad yn cael ei
gyflwyno i'r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn ym mis
Rhagfyr.
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd, fel
yr adroddir yn y rhaglen, mai defnydd arall posibl o'r gronfa
adfywio fyddai ymestyn neu barhau prosiectau presennol:-
|
|
|
|
Ÿ
|
Monased - disgwylir cais am £130,000 pellach am
flwyddyn arall.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Y Deyrnas Gopr - bydd angen cyfraniad mwy sylweddol tuag
at y prosiect mwy.
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD
|
|
|
|
|
|
|
|
10.2
|
cymeradwyo'r dyraniad i Monased o gyfraniad pellach o
£130,000 fel Rhan III o'r cynllun, yn amodol ar i Menter
Môn yn gyntaf ymgynghori gyda'r Trysorydd cyn cefnogi unrhyw
gynllun sydd hefyd yn cael ei ariannu yn uniongyrchol gan
Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.
|
|