Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. dogfennau , 28 Medi 2005

Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr.
Dydd Mercher, 28ain Medi, 2005

YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN

 

PWYLLGOR ADFYWIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2005.

 

YN BRESENNOL:

 

Y Mri. J.M. Davies, P.J. Dunning, J. Arwel Edwards, Keith Evans, C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hadley, Derlwyn R. Hughes, Hefin W. Thomas, W.J. Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Trysorydd,

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Mr. Bryan Owen.

 

 

 

 

1

CADEIRYDD

 

Etholwyd Mr. C.Ll. Everett yn Gadeirydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor am eu hymddiriedolaeth ynddo.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Etholwyd Mr. J. Arwel Edwards yn Is-Gadeirydd.

 

3

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Datganodd Mr. C.Ll. Everett ddiddordeb yn iddo wneud ceisiadau i Gronfeydd Monadfyw a Monased ar ran Cyngor Tref Caergybi fel Clerc y Cyngor Tref.

 

Datganodd Mr. D.R. Hughes ddiddordeb yn Eitem 6 - Y Deyrnas Gopr gan ei fod yn aelod o un o'r Is-Bwyllgorau sydd ag ymwneud yn y cynllun.  Datganodd Mr. Hughes ddiddordeb yn Eitem5 - y Swyddog Datblygu Ardal gan fod un o'r Swyddogion wedi'i leoli yn Medrwn Môn.  Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau hyn.

 

Datganodd Mr. W.J. Williams ddiddordeb yn Eitem 7 - Monadfyw a Monased gan ei fod yn Aelod o Bwyllgor Rheoli Menter Môn a gadawodd y cyfarfod yn ystod trafod yr eitem.

 

4

COFNODION

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, 2004.

 

 

 

5

SWYDDOGION DATBLYGU ARDAL

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd ar gynnydd gyda'r Fframwaith Datblygu Ardal o'i dechreuad yn 2002 ynghyd ag esiamplau o ganlyniadau allweddol yn deillio o weithgareddau'r Swyddogion.

 

 

 

Nododd mai'r Swyddogion Datblygu yw'r pwynt cyswllt cyntaf i grwpiau a thrigolion o fewn yr ardal y maent yn gweithio.  Mae eu hardaloedd daearyddol wedi'u diffinio yn unol ag ardaloedd dalgylch Ysgolion Uwchradd yr Ynys.  Mae'r Grwp Llywio Datblygu Ardal (gyda chynrychiolaeth Swyddogion o Uned Datblygu Economaidd y Cyngor Sir, Menter Môn, Medrwn Môn a'r ADC), yn darparu cyfarwyddyd strategol i'r Swyddogion Datblygu ac yn gwerthuso effaith y gweithgareddau.  Darperir adroddiadau chwarterol gan y Swyddogion Datblygu Ardal i'r Grwp Llywio.   Mae system fonitro newydd wedi'i rhoi yn ei lle.

 

 

 

Er gwaethaf problemau dechreuol gyda recriwtio'r pump Swyddog Datblygu Ardal, mae'r pump i gyd yn awr yn eu swyddi.  Fel canlyniad uniongyrchol, fe lansiwyd y Fframwaith Datblygu Ardal yn swyddogol yn Sioe Môn.  Hefyd fe ddyrannwyd £5,000 y flwyddyn gan yr Uned Ddatblygu Economaidd i bob un o'r ddau Swyddog a gyllidir gan yr Ymddiriedolaeth i hwyluso datblygiad prosiect.  Roedd y swyddog o fewn Medrwn Môn wedi defnyddio'r £5,000 hwn yn ystod y flwyddyn gyntaf.  Nid oedd y Swyddog arall sy'n seiliedig yn ardal Amlwch wedi defnyddio yr arian gan mai dim ond am chwe mis y mae wedi bod yn ei swydd.  Nid yw'r arian hwn ar gael i Swyddogion a gyllidir gan Menter Môn/UE yn gweithredu yn ardal dalgylch Llangefni a Bodedern nac i'r swyddog sydd yng Nghaergybi.

 

 

 

Mae'r pecyn cyllido newydd ar gyfer y Swyddog sydd yng Nghaergybi yn cynnwys tua £60,000/ cyllideb refeniw blynyddol all gael ei ddefnyddio i hwyluso gweithgareddau adfywio yn ymwneud â refeniw yng nghanol y dref.  Yn ychwanegol mae £5,000 y flwyddyn wedi'i ddyrannu gan yr Uned Datblygu Economaidd i bob un o'r swyddogion a gyllidir gan yr Ymddiriedolaeth i'r un pwrpas.  Nid oes gan y ddau swyddog arall gyllideb hwyluso.  Mae'r cyllid ar gyfer y ddwy swydd sydd wedi'u cysylltu i brosiect Ewropeaidd yn cael eu gweinyddu gan Menter Môn ac maent yn dod i ben ym Mawrth 2006.  Rydym yn chwilio am ffynonellau i gyllido'r swyddi hyn ymhellach.  Mae sicrhau cyllid ychwanegol yn hanfodol os yw'r fframwaith i barhau ac i ddatblygu i fod yn gerbyd darparu cryfach a mwy dynamig.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

6

Y DEYRNAS GOPR

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd yn ymwneud â'r uchod.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd - yn dilyn penderfyniadau cynharach yr Ymddiriedolaeth Elusennol, fod cymeradwyaeth i gyllido £65,000 tuag at :-

 

 

 

Ÿ

lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth y Deyrnas Gopr;

 

 

 

Ÿ

ddatblygu Cynllun Busnes ddylai yn ei dro helpu i ystyried y dichonolrwydd o ddatblygu ymhellach a chynnal ceisiadau pellach am gyllid.

 

 

 

Mae'r Cynllun Rheoli Cadwraeth yn ddogfen sylweddol o ddiddordeb hanesyddol a gwyddonol ac fe ellir ei ystyried fel allbwn ynddo'i hun i fodloni'r amcanion elusennol.  Roedd copi ar gael gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol, ond nid yw ar gael eto yn y llyfrgelloedd cyhoeddus (amod o'r cyllido).  Mae'r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi penderfynu cyn hyn y bydd raid cwblhau hyn cyn rhyddhau cyllid pellach.

 

 

 

Mae'r Cynllun Busnes (oedd yn cael ei ddisgwyl ar y cychwyn ddiwedd 2004/2005 cynnar) hefyd yn ddogfen sylweddol.  Mae'n amlwg bod datblygu prosiect y Deyrnas Gopr ymhellach yn brosiect uchelgeisiol fydd angen cyfraniad sawl partner ac ariannu cyhoeddus sylweddol tuag at gostau refeniw a chyfalaf.  Mae'r Cynllun Busnes yn canolbwyntio'i sylw ar ddatblygu Porth Amlwch fel cyrchfan.  Mae'n amlwg fod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn oherwydd ei fod yn berchen y tir ar ochr orllewinol Porth Amlwch yn gorfod bod yn un o'r partneriaid datblygu.  Byddai unrhyw benderfyniad i ryddhau'r tir hwn, ac ar ba dermau, yn gorfod cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn.  

 

 

 

Byddai datblygu'r tir fel y bwriedir gan brosiect y Deyrnas Gopr yn unol ag amcanion yr Ymddiriedolaeth Elusennol, trwy ei fod yn gweld y tir fel lle i'w fwynhau gan fuddiolwyr yr Ymddiriedolaeth ac nid fel buddsoddiad.  Os yw'r prosiect i fynd ymhellach, bydd raid ystyried pwy yw sponsor y prosiect - Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch yn ei ffurf bresennol, neu rhyw gorff arall, a'i berthynas gyda phartneriaid prosiect arall.

 

 

 

Nododd y Swyddog bod Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch wedi gofyn i'r Ymddiriedolaeth Elusennol ystyried rhyddhau'r balans o £48,800 a glustnodwyd ar y dechrau ar gyfer y prosiect hwn.  Os caiff hwn ei wario ar yr astudiaeth dichonolrwydd, fel gyda phob gwaith dichonolrwydd, fe fydd risg, os na fydd y prosiect yn ddichonadwy, ac felly ni cheir unrhyw ganlyniad.

 

 

 

Nododd mai rhan o'r cynnig yw defnyddio'r swm a glustnodwyd tuag at welliannau penodol ar dir yr Ymddiriedolaeth Elusennol sydd hefyd yn gydnaws gyda chynlluniau'r Deyrnas Gopr.  Yn eu hadroddiad, roedd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch yn gofyn am £38k tuag at uwchraddio'r safle a llwybrau ar y West Quay, £5k tuag at gostau cyfreithiol drafftio les am Fynydd Parys a £5k tuag at gostau refeniw Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Ynys Môn.

 

 

 

Awgrymodd y Trysorydd y gellid rhyddhau £5k tuag at ddrafftio les am Fynydd Parys a £5k tuag at gronfa pethau annisgwyl tuag at gostau refeniw Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch e.e. Swyddog Prosiect, gyda'r arian sydd yn weddill yn cael ei glustnodi i'w ddefnyddio gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol ei hun i wneud gwelliannau i dir yr Ymddiriedolaeth Elusennol sydd yn gydnaws gyda phrosiect y Deyrnas Gopr.

 

 

 

Dywedodd Mr. P.M. Fowlie y dylai'r les am y safle gael ei datrys cyn gollwng y balans.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

6.1

rhyddhau £10k i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch tuag at gostau cyfreithiol a chostau refeniw, i'w rhyddhau yn amodol ar beri fod copïau o'r Cynllun Rheoli Cadwraeth ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yn unol â'r hyn y gofynnwyd amdano cyn hynny.  

 

 

 

6.2

clustnodi'r balans o £38k i'w ddefnyddio gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol ei hunan ar ei dir ym Mhorth Amlwch mewn ffordd sydd yn unol â phrosiect y Deyrnas Gopr.

 

 

 

6.3

mynegi i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn dymuno gweld mater y les am y tir yn cael ei ddwyn i ben os yw am barhau i gefnogi'r prosiect hwn.

 

 

 

7

MONADFYW A MONASED

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd gan y Trysorydd yn ymwneud â'r uchod.

 

 

 

Yn ôl y Trysorydd, pan gafodd y prosiect Monased ei gymeradwyo yn 2004, fe ofynnwyd am swm o £390,000 ar gyfer tair blynedd.  Torrwyd y cyllid i £260,000 ar gyfer dwy flynedd yn unig, oherwydd nad oedd yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar y pryd yn gallu dyrannu'r swm llawn ac roedd y cais yn caniatáu am ddyraniad pro rata.  Byddai Menter Môn yn dymuno ar i'r Ymddiriedolaeth Elusennol ddyfarnu balans y cyllid.  Nodwyd y byddai'r prosiect yn creu Cronfa Allweddol y gallai Grwpiau Cymunedol, Cynghorau Cymuned a Thref wneud cais am arian ohono i wella adeiladau cymunedol.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd i Ganolfan Sgiliau Amlwch gael ei chefnogi gan gynllun Monased a hynny yn dilyn derbyn adroddiad monitro.  Nododd fod y Ganolfan Sgiliau hefyd wedi'i chefnogi yn uniongyrchol gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.   Yn dilyn arolygu'r cais gwreiddiol gan Menter Môn a bod dim yn yr amodau osodwyd ar y pryd sydd yn anghydnaws ac nad yw yn torri unrhyw un o'r amodau a osodwyd.

 

 

 

Gofynnodd P.M. Fowlie am fwy o wybodaeth ynglyn â phrosiect Llys Llywelyn.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gofyn am i fwy o wybodaeth ynglyn â phrosiect Llys Llywelyn fod ar gael i aelodau o'r Is-Bwyllgor hwn.

 

 

 

8

CANOLFAN SGILIAU AMLWCH

 

 

 

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan y Trysorydd yn ymwneud â'r uchod.  

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd i Ganolfan Sgiliau Amlwch gael ei sefydlu i ddarparu hyfforddiant gyrfaol cyn baratoadol i bobl ifanc anfodlon a'r rhai sydd gyda chymhelliant isel ac i'r rhai nad yw'r cyfleon hyfforddi a chyflogaeth sydd ar gael yn briodol.

 

 

 

Mae'r grantiau a adolygwyd ar gyfer y prosiect hwn fel a ganlyn:

 

 

 

2005/2006

2006/2007

2007/2008

CYFANSWM

 

12,500

26,258

11,242

50,000

   

 

Y grant a hawliwyd yn go iawn ynglyn â'r cynllun hwn hyd yma yw £12,500.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

9

COLEG HARLECH - WEA - CYMUNEDAU MÔN

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd gan y Trysorydd ynglyn â'r uchod.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd bod WEA Coleg Harlech yn ddiweddar wedi derbyn cymeradwyaeth oddi wrth WEFO i'r prosiect CymunedauMôn.  Bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant adeiladu capasiti i aelodau grwp cymunedol a'r unigolion sy'n cefnogi ac yn rhoddi cymorth i grwpiau cymunedol dderbyn y sgiliau sydd ei hangen fel y gallant asesu a mynd i'r afael ag anghenion eu cymunedau.  Bydd hyn yn adeiladu capasiti cymunedau difreintiedig ar Ynys Môn fel y gallant weithredu drostynt eu hunain a bydd yn sicrhau cynaliadwyaeth tymor hir y cymunedau ar Ynys Môn.  Cyfanswm cost y prosiect yw £178,080 a bydd o fudd i 300 o unigolion.  

 

 

 

Bydd y prosiect yn weithredol yn y 3 ward blaenoriaeth ar Ynys Môn a bydd yn cael ei farchnata a'i hyrwyddo gan y Swyddogion Datblygu Ardal.  Mae cyrsiau hyfforddi i ddechrau ar unwaith.  Bydd yn angenrheidiol ailbroffilio yr amserlen wario i fatsio'r gwariant a ddisgwylir.

 

 

 

Adroddodd y Trysorydd fod disgwyl adroddiadau monitro ynglyn â'r cynllun yn y man.

 

 

 

Dywedodd yr Aelodau fod Prifysgol Cymru, Bangor, Coleg Menai a Hyfforddiant Môn a Mudiadau eraill yn cynnig cyfleusterau tebyg i'r WEA.  Nodwyd fod y cymunedau gwledig yn colli allan a dywedwyd y gallai'r Swyddogion Datblygu Ardal nodi'r angen am hyfforddiant o fewn eu cymunedau.  Ystyriwyd y byddai'n well rhannu y grant oedd ar gael yn hytrach na'i rhoi i un mudiad penodol.  

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd fod y prosiect, fel ei disgrifiwyd yn y cais, wedi'i gymeradwyo ond dywedodd y byddai yn pasio safbwyntiau'r Aelodau ymlaen i gynrychiolwyr y prosiect.

 

 

 

PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.

 

 

 

10

Y RHAGOLWG AM FLOC CYLLIDO AR GYFER ADFYWIO

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd am yr uchod.

 

      

 

     Dywedodd y Trysorydd i'r Ymddiriedolaeth Elusennol yn 2002 ryddhau swm o £1.8m o dwf yn y gorffennol yng nghyfalaf yr Ymddiriedolaeth, i'w ddefnyddio tuag at ariannu cynlluniau adfywio.  Gan ei fod yn dod o gyfalaf yr Ymddiriedolaeth, ac nid yr incwm buddsoddiad blynyddol, yr oedd yn benderfyniad unigryw ac roedd angen mwyafrif o ddwy ran o dair o'r aelodaeth ac fe gafwyd hyn.

 

     Roedd swm o £0.82m wedi'i gymeradwyo yn 2002 tuag at dri chynllun penodol h.y. Swyddogion Datblygu Ardal, Monadfyw, y Deyrnas Gopr.  Roedd y gostyngiad sylweddol yng ngwerth buddsoddiadau'r farchnad stoc yn 2002 a 2003 bron iawn wedi dileu twf cyfalaf yr Ymddiriedolaeth yn y gorffennol.  Arweiniodd hyn at benderfyniad i 'rewi' gweddill y £1.8m yn y gobaith y byddai cyflwr y farchnad yn gwella.

 

      

 

     Yn 2004, yn dilyn cynnydd yn y farchnad, cafwyd cyngor bod rhan o'r swm oedd wedi'i rewi, a swm pellach o £0.35m wedi'i ddyrannu i dri phrosiect pellach (Monased, Canolfan Sgiliau Amlwch, CymunedauMon).  Ar y pryd yr amcangyfrif oedd bod gwerth yr Ymddiriedolaeth yn £11.3m a rhan yn unig o'r gofer uwch na'r targed a ryddhawyd.

 

      

 

     Yn dilyn gwelliant pellach yng nghyflwr y farchnad stoc aeth gwerth buddsoddiadau'r Ymddiriedolaeth i fyny i £12.8m ar 30 Mehefin, 2005.  Yn dilyn rhesymu tebyg i'r hyn gafwyd ar Mawrth 2004, rhoddwyd cyngor y gallai gweddill o'r £0.61m gael ei ryddhau, heb i'r gwerth presennol ddisgyn yn is na'r targed twf tymor hir.  Yn amlwg mae hyn yn ymwneud â gwerthoedd presennol ac mae yn destun i'r rhybuddion arferol y gall y farchnad ddisgyn unwaith yn rhagor.

 

      

 

     Pan ryddhawyd y £1.8m yn 2002, roedd i'w ddefnyddio'n benodol gydag arian cyfatebol Amcan Un yr UE.  Bydd Amcan Un yn dod i ben yn 2006.  Ni fu'n bosibl gwario'r cyfan o'r £1.8m yn ystod y cyfnod hwn, yn bennaf oherwydd i'r farchnad stoc ddisgyn a hyn yn arwain at rewi cynlluniau newydd, ond hefyd oherwydd fod cynlluniau oedd wedi'u cymeradwyo yn fwy araf na'r hyn oedd wedi'i gynllunio'n wreiddiol.  Oherwydd lefel isel GDP yr Ynys, bydd goblygiadau a chanlyniadau methiant presennol yr UE i gytuno ei becyn ariannol i'r dyfodol yn fwy nag mewn gwledydd eraill mwy ffyniannus.  Fe all y sefyllfa hon greu gofyn am arian ar gyfer gweithgareddau adfywio yn y bwlch rhwng Amcan Un ac unrhyw beth a ddaw ar ei ôl, galw a allai gael ei gyflenwi, o bosibl gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol os daw prosiectau addas yn amlwg.  Dywedodd fod Menter Môn wedi ysgrifennu i wneud cais am arian o'r fath.

 

      

 

     Nododd y Trysorydd ymhellach i'r Ymddiriedolaeth Elusennol yn Ebrill 2005 ystyried ffyrdd posibl o ariannu'r cyfraniad arfaethedig o £250,000 i Gemau'r Ynysoedd.  Yn anffodus, roedd bid Gemau'r Ynysoedd yn aflwyddiannus ac un opsiwn oedd wedi'i ystyried ar y pryd oedd y gallai cyfraniad gael ei ddefnyddio i ariannu gwelliannau i Ganolfannau Hamdden y Cyngor.  Nododd y Trysorydd fod cyfathrebu gyda'r Comisiwn Elusennol ynglyn a Gemau'r Ynysoedd a datblygiadau tebyg i Ganolfannau Hamdden yr Awdurdod Lleol yn awgrymu fod y Comisiwn Elusennol wedi newid eu safbwynt ar yr hyn y maent yn ei alw yn 'ryddhau ymrwymiad statudol'.  Fe allai hyn gael effaith ar y defnydd o gronfeydd adfywio, a chronfeydd eraill.  Mae'r mater yn cael ei ystyried a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn ym mis Rhagfyr.

 

      

 

     Dywedodd y Trysorydd, fel yr adroddir yn y rhaglen, mai defnydd arall posibl o'r gronfa adfywio fyddai ymestyn neu barhau prosiectau presennol:-

 

      

 

Ÿ

Monased - disgwylir cais am £130,000 pellach am flwyddyn arall.

 

 

 

Ÿ

Y Deyrnas Gopr - bydd angen cyfraniad mwy sylweddol tuag at y prosiect mwy.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

10.1

nodi'r adroddiad.

 

      

 

10.2

cymeradwyo'r dyraniad i Monased o gyfraniad pellach o £130,000 fel Rhan III o'r cynllun, yn amodol ar i Menter Môn yn gyntaf ymgynghori gyda'r Trysorydd cyn cefnogi unrhyw gynllun sydd hefyd yn cael ei ariannu yn uniongyrchol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

 

      

 

10.3

y dylid ymchwilio i mewn i brosiectau eraill ar gyfer ariannu posibl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn sydd i'w gynnal ddechrau'r flwyddyn newydd.

 

 

 

 

 

 

 

Y CYNGHORYDD C.LL. EVERETT

 

CADEIRYDD