PWYLLGOR ADFYWIO |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 29 MAWRTH, 2006 |
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd bod gohebiaeth wedi ei dderbyn gan y Grwp Annibynnol Gwreiddiol yn nodi y byddai Mr. E. Schofield yn cynrychioli'r Grwp ar y Pwyllgor hwn yn lle Mr Bryan Owen. |
|
|
|
Etholwyd Mr. P.M. Fowlie fel Cadeirydd. |
|
Roedd Mr. C.Ll. Everett yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod wedi cynnig Mr. E. Schofield fel Cadeirydd y Pwyllgor. Dywedodd Mr. Schofield nad oedd yn dymuno cael ei ystyried fel Cadeirydd. |
|
Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mrs. Sasha Davies, Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) i'r cyfarfod. |
|
|
|
Etholwyd Mr. J. Arwel Edwards fel Is-Gadeirydd. |
|
|
|
Datganodd Mr. C.Ll. Everett diddordeb gan ei fod yn Glerc i Gyngor Tref Caergybi a'i fod wedi gwneud cais am gyllid i'r Ymddiriedolaeth ar ran Cyngor y Dref. |
|
Datganodd Mr. W.J. Williams MBE ddiddordeb mewn trafodaethau oedd yn ymwneud â chynlluniau Menter Môn gan ei fod yn Aelod o Bwyllgor Rheoli Menter Môn. Gadawodd Mr. Williams y cyfarfod yn ystod trafod yr eitem. |
|
|
|
Cadarnhawyd ac arwyddwyd cofnodion y cyfarfod gynhaliwyd ar 28 Medi, 2005. Gofynodd Mr. Schofield gwestiynau ynglyn â nifer y Canolfannau Hyfforddi oedd yn derbyn cymorth ariannol gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Nododd y dylai adroddiadau monitro rheolaidd gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor hwn yn amlinellu'r cyfleusterau oedd ar gael a chostau rhedeg y canolfannu. Ymatebodd y Trysorydd fod monitro cynlluniau o'r fath o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor hwn. Roedd yn cytuno y dylai adroddiadau monitro gael eu hystyried gan y Pwyllgor ac i adroddiadau o'r fath gale eu hystyried yn y cyfarfod diwethaf. |
|
Roedd Mr. Schofield am wybod os oedd y balans o £48,000 wedi ei ollwng a hwnnw wedi ei glustnodi'n wreiddiol tuag at prosiect Y Deyrnas Gopr a gofynodd os oedd y les wedi ei harwyddo. Dywedodd y Trysorydd y byddai'n gwneud ymholiadau ynglyn â'r brydles cyn gollwng y balans llawn. |
|
Holodd y Cadeirydd am y posibilrwydd o drefnu ymweliad safle i Llys Llywelyn sydd yn rhan o Gynllun Monadfyw. Cytunodd y Pwyllgor ar drefnu ymweliad safle i Lys Llywelyn, Aberffraw. |
(Roedd Mr. W.J. Williams MBE yn dymuno iddo gael ei gofnodi na wnaeth bleidleisio ar y mater hwn). |
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi rhyddhau swm o £1.8m yn 2002 allan o'r twf fu yn y gorffennol yng nghyfalaf yr Ymddiriedolaeth er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer ariannu cynlluniau adfywio. Fodd bynnag, roedd y disgyn sylweddol yng ngwerth buddsoddiadau'r farchnad stoc yn 2002 a 2003 wedi dileu'r twf hwn a fu yng gnhyfalaf yr Ymddiriedolaeth. Arweiniodd hyn at benderfyniad i 'rewi' gweddill y £1.8m yn y gobatih y byddai cyflwr y farchnad yn gwella. Bu gwelliant yng nghyflwr y farchnad stoc yn ystod 2004 ac fe ddyfarnwyd £0.35m i dri phrosiect h.y. Monased, Canolfan Sgiliau Amlwch a Chymunedau Môn. |
|
Pan ryddhawyd y £1.8m yn 2002, yr oedd i'w ddefnyddio'n benodol gydag arian cyfatebol Amcan Un UE. Nodwyd y bydd Amcan Un yn dod i ben yn 2006. |
|
Nododd y Trysorydd ymhellach i'r Ymddiriedolaeth Elusennol yn Ebrill 2005 ystyried ffyrdd posibl o ariannu'r cyfraniad arfaethedig o £250,000 i Gemau'r Ynysoedd. Roedd bid Gemau'r Ynysoedd yn aflwyddiannus ond mae gwir angen adnewyddu canolfannau hamdden y Cyngor Sir. |
|
Nododd hefyd bod cyfanswm o £480,000 ar gael oherwydd yr adfywiad yn y farchand stoc ac nid yw hwn wedi ei ddyrannu i unrhyw gynllun. |
|
|||
Dywedodd y Trysorydd i gyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn benderfynu y dylid chwilio i mewn i brosiectau eraill ar gyfer cyllido posibl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn sydd i'w gynnal ddechrau'r flwyddyn newydd. |
|||
|
|||
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) fod Cronfeydd Cydgyfeiriad UE (cyllid Amcan Un newydd) wedi eu sefydlu yn awr ac y bydd newidiadau yn y meini prawf cymhwyster, er nad ydynt ar gael hyd yn hyn. Nododd hefyd y bydd cynlluniau yn fwy strategol ac efallai bydd prosiectau yn seiliedig ar y Gymuned yn gorfod dod gerbron yr Ymddiriedolaeth Elusennol am gymorth ariannol a pheidio â dibynnu ar gyllid Cydgyfeiriad. Cafwyd amlinelliad gan y Pennaeth Gwasanaeth o'r adnoddau cyllido gwahanol. Fodd bynnag, nid oes ar hyn o bryd unrhyw gyfarwyddyd swyddogol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â'r mathau o gynlluniau y gellir eu cyllido o dan y cronfeydd UE newydd (Cydgyfeiriad, Datblygu Gwledig ac Interreg). |
|||
|
|||
Nododd Mr. W.J. Williams y bydd yn rhaid i gynlluniau nawr ddod o fewn Agenda Lisbon sydd yn canolbwyntio ar Addysg, Sgiliau, Economi yn seiliedig ar Wybodaeth. |
|||
|
|||
Dywedodd Mr. D. Hadley fod gwneud paratoadau ar gyfer ieuenctid Ynys Môn yn hanfodol gan fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem fawr a bod cefnogaeth y cynlluniau Tref/Cymunedol yn hanfodol. |
|||
|
|||
Dywedodd Mr. C.Ll. Everett nad yw Cynghorau Tref/Cymuned yn gallu derbyn arian o gronfeydd Cymunedau'n Gyntaf. Nododd ymhellach y gallai cynlluniau Monadfyw ddenu hyd at 70% o grantiau tuag at gynlluniau. |
|||
|
|||
Cafwyd cyngor gan y Trysorydd y gallai cynlluniau a noddir gan Menter Môn megis Monadfyw, wario llawer o'r £480,000 sydd ar ôl. Fodd bynnag, os rhoddir blaenoriaeth i'r rhain, fe allai hynny fod ar gorn cynlluniau eraill nad ydynt yn barod ar hyn o bryd i roi cais i mewn am gyllid. Roedd Menter Môn wedi ceisio trafod eu sefyllfa yn y dyfodol agos ac roeddent mae'n debyg mewn sefyllfa yn y dyfodol agos ac roeddent mae'n debyg mewn sefyllfa i gyflwyno cynigion penodol ar gyfer gwario cronfeydd adfywio. |
|||
|
|||
Roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai cynlluniau tebygol ar gyfer arian posibl gale eu cyflwyno i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor hwn ar ddiwedd y mis nesaf. |
|||
|
|||
PENDERFYNWYD |
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
|
|||
P.M. FOWLIE |
|||
CADEIRYDD |