|
|
Nodwyd fod amcanion Ymddiriedolaeth Treftadaeth
Diwydiannol Amlwch yn cynnwys gwarchodaeth a chadwraeth ac yn
bwysicach hyrwyddo gwell gwerthfawrogiad gan y cyhoedd o'r
adfeilion diwydiannol unigryw ac arwyddocaol yn Mynydd Parys a
Phorth Amlwch. Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol
Amlwch yn gweld treftadaeth 'Y Deyrnas Gopr' fel ased bwysig i Ynys
Môn.
|
|
|
|
|
|
I gydfynd â'i amcanion mae Ymddiriedolaeth
Treftadaeth Diwydiannol Amlwch wedi sicrhau Cynllun Rheoli
Cadwraeth, wedi'i gyllido'n rhannol gan y £113.8k oedd wedi'i
ddyrannu gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Mae'r
Cynllun Rheoli Cadwraeth wedi galluogi arbenigwyr i asesu
pwysigrwydd adfeilion archeolegol diwydiannol a nodweddion
hanesyddol, daearegol a biolegol (mewn rhai achosion yn cael eu
hystyried i fod o 'Bwysigrwydd Rhyngwladol') ac i adnabod sut y
dylai'r asedion hyn gael eu rheoli.
|
|
|
|
|
|
|
|
Hefyd,
mae cyllid ychwanegol gan yr Ymddiriedolaeth
Elsuennol wedi helpu i sicrhau Cynllun Busnes ar gyfer prosiect Y
Deyrnas Gopr. (£15k gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol). Bydd y
Cynllun Rheoli Cadwraeth a’r Cynllun Busnes yn cael eu
defnyddio fel sail i fid i Gronfa Treftadaeth y Loteri. Yn y
cyfamser mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch wedi
sicrhau £383k o gyllid o gronfa Interreg IIIa (Cyllid
Ewropeaidd) ar gyfer prosiect ar y cyd gyda phartneriaid yn Avoca,
Co. Wicklow yn Iwerddon. Mae’r prosiect hwn, wedi ei seilio
ar flaenoriaethau strategol gafodd eu hadnabod yn y Cynllun Busnes,
yn darparu ar gyfer gwell isadeiladwaith, er enghraifft arwyddion
ffyrdd a gwybodaeth i dwristiaeth; datblygu pecyn addysgol,
gweithio’n agos gyda ysgolion a chynllun marchnata sylweddol
ar gyfer y Deyrnas Gopr i ddigwydd dros yr 18 mis nesaf. Mae arian
yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi talu am ran o gyflog swyddog rhan
amser Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch, heb ei
wasanaeth ni allai’r prosiect fod wedi symud
ymlaen.
|
|
|
|
|
|
Yn olaf, gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Elusennol,
mae’r Ymddiriedolaeth Treftadaeth wedi sicrhau les 35 mlynedd
ar Fynydd Parys, sy’n hanfodol i gynnigion yr Ymddiridolaeth
Treftadaeth. Mae elfennau eraill o’r cyllid wedi eu clustnodi
ar gyfer gwariant i wella’r isadeiladwaith ym Mhorth Amlwch.
Cadarnhaodd y Trysorydd ei fod wedi gweld dogfennau'r les a'i
fod yn awr yn fodlon bod hyn wedi'i gwblhau. Mynegodd
Aelodau'r Pwyllgor eu boddhad bod y les yn awr wedi'i harwyddo yng
nghyswllt Mynydd Parys.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd bod ansicrwydd ynglyn â ffurf y
prosiect hwn yn y dyfodol, ond nododd, fodd bynnag, fod y Cynllun
Rheoli Cadwraeth luniwyd gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth
Diwydiannol Amlwch wedi bod yn ddogfen o ddiddordeb gwyddonol a
hanesyddol sylweddol i'r ynys, gyda chopïau o'r ddogfen mewn
llyfrgelloedd lleol.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd ynglyn â'r
uchod.
|
|
|
|
|
|
Roedd y diweddariadau a'r prosiectau a disgrifiadau o'r
prosiectau wedi'u nodi yn yr adroddiad yng nghyswllt y cynlluniau
canlynol:-
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Neuadd y Dref Caergybi Cam 2
|
|
|
|
Neuadd y Pentref Rhosneigr
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Neuadd Pritchard Jones, Niwbwrch
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Neuadd yr Eglwys, Gwalchmai
|
|
|
|
|
|
Safle'r Stestion Llannerch-y-medd
|
|
|
|
Neuadd y Pentref Rhosneigr
|
|
|
|
Meithrinfa Camau Cyntaf - Amlwch
|
|
|
|
|
|
Parc y Twr, Llaingoch, Caergybi
|
|
|
|
|
|
ynghyd â grantiau llai a roddwyd o'r Gronfa Cyswllt
Cymunedol tuag at
|
|
|
|
|
|
Institiwt Pritchard Jones, Niwbwrch
|
|
|
|
Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rhosyr
|
|
|
|
|
|
Neuadd Community Guide, Caergybi
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Amgueddfa Forwrol Caergybi
|
|
|
|
Cymunedau'n Gyntaf Caergybi
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nododd Mr C Ll Everett bod Neuadd y Dref yng Nghaergybi
wedi elwa oddi wrth y cynlluniau hyn gyda gwasanaethau hanfodol yn
cael eu cynnig o fewn un adeilad.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|
|
|
|
|
6
|
CANOLFAN SGILIAU AMLWCH
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd yng nghyswllt yr
uchod. Roedd adroddiad cynnydd gan Hyfforddiant Parys
Training ynghlwm wrth yr adroddiad.
|
|
|
|
|
|
Nodwyd fod Hyfforddiant Parys Training wedi gofyn am
estyniad i ddyddiad gorffen y prosiect. Cytunwyd ar hyn mewn
egwyddor gyda'r Cyllidwyr Ewropeaidd. Bydd ymestyn y dyddiad
terfynu yn galluogi i'r prosiect gynyddu eu deilliannau o fewn y
cyllid a gymeradwywyd yn wreiddiol.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Trysorydd i ymestyn dyddiad gorffen y
prosiect.
|
|
|
|
|
7
|
COLEG HARLECH - WEA - CYMUNEDAU MÔN
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd yng nghyswllt yr
uchod. Adroddodd y Trysorydd fod Coleg Harlech WEA wedi
derbyn cymeradwyaeth yn ddiweddar gan WEFO i brosiect Cymunedau
Môn. Bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant i aelodau
o grwpiau cymunedol ac i'r unigolyn hynny sy'n helpu a chefnogi'r
grwpiau i ennill y sgiliau sydd eu hangen fel eu bod yn gallu asesu
ac ateb gofynion eu cymunedau. Bydd hyn yn cynyddu'r gallu
yng nghymunedau difreintiedig Ynys Môn i weithredu drostynt
eu hunain ac i sicrhau cynaliadwyaeth cymunedau Ynys Môn.
Cyfanswm cost y prosiect yw £178,080 a bydd 300 o
unigolion yn cael budd ohono.
|
|
|
|
|
|
Bydd y prosiect yn weithredol yn y 3 ward flaenoriaeth ar
Ynys Môn a bydd yn cael ei farchnata a'i hyrwyddo gan y
Swyddogion Datblygu Rhanbarth.
|
|
|
|
|
|
Argymhellodd Aelodau'r Pwyllgor y dylid gofyn i
gynrychiolwyr o Goleg Harlech WEA fynychu'r Pwyllgor i ddweud pa
fanteision oedd yn deillio o'r cynllun hwn i bobl Ynys
Môn.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gofyn i
gynrychiolwyr o Goleg Harlech WEA fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor
hwn.
|
|
|
|
|
8
|
RHAGOLYGON AR GYFER Y BLOC ADFYWIO
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas
â'r uchod.
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth
Elusennol lawn wedi gofyn i'r Pwyllgor hwn ystyried clustnodi swm o
gyfalaf yr Ymddiriedolaeth at brosiectau adfywio Cydgyfeiriant, yn
yr un modd ag a glustnodwyd £1.8 miliwn at brosiectau adfywio
Amcan Un. Dynodwyd y swm o £2 filiwn fel targed i'w
ystyried. Talwyd allan £778,255 o'r £1.8 miliwn
hyd yma, a bod £178,920 o'r swm gwreiddiol heb ei
ymrwymo.
|
|
|
|
Yr hyn sy'n gyrru'r strategaeth buddsoddi yw'r
angen i gynnal gwerth y buddsoddiadau i gadw i fyny â
chwyddiant, a'r angen i gynhyrchu incwm buddsoddi digonol i gynnal
gwariant refeniw yr Ymddiriedolaeth. Mae'r nôd cyntaf
wedi ei adlewyrchu mewn targed tymor hir o ran gwerth y
buddsoddiadau. Adeg y penderfyniad i neulltuo'r £1.8
miliwn yn 2002, roedd gwerth y buddsoddiadau bron i £5 miliwn
uwchlaw'r targed, felly roedd yn ymddangos bod modd gwario'r
£1.8 miliwn heb beryglu'r targed. Ond nid felly y bu,
bu cwymp sylweddol yn y farchnad stoc yn gorfodi rhewi rhan o'r
£1.8 miliwn nes daeth yr adferiad.
|
|
|
|
Adroddwyd fod yr Ymddiriedolaeth wedi
adolygu'r targed tymor hir mor ddiweddar â 2005, yn y diwedd
yn cadarnhau bod y targed dal yn briodol. Ar hyn o bryd mae
gwerth y buddsoddiadau tua £3 miliwn uwchlaw'r targed.
Er bod lle yma i neilltuo £2 filiwn, yn amlwg mae'r
risg bod cwymp arall yn y farchnad stoc yn peryglu cyflawniad y
targed yn uwch.
|
|
|
|
Mae ail nôd, sef cynhyrchu incwm
blynyddol o £400,000, wedi bod yn anodd ei gyrraedd.
Mewn blynyddoedd diweddar mae'r Ymddiriedolaeth wedi gorfod
cyfyngu ar ei wariant blynyddol, ac wedi cael hi'n anodd gwneud
hynny ac yn rhannol wedi tynnu ar arian wrth gefn.
|
|
|
|
Mae'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau, gyda
chymorth ymgynghorwyr allanol, newydd gwblhau adolygiad o'r holl
drefniadau buddsoddi. Yr amcan oedd cael strategaeth fyddai'n
cwrdd orau â'r ddau nôd uchod. Canlyniad yr
ymarferiad oedd cadarnhau yn fras y dyraniad asedau, ac
ail-benodi'r rheolwyr buddsoddi ond gyda thîm newydd ac
amcanion newydd i ran sylweddol o'r portffolio.
|
|
|
|
Roedd yr adolygiad hefyd wedi cadarnhau bod y
nôd o gynnal gwerth yr asedau a'r nôd o gynhyrchu incwm
blynyddol o £400,000 at ei gilydd yn uchelgeisiol. Y
ffordd o gyflawni'r rhain yw rhoi cyfran uchel o'r portffolio mewn
ecwitiau, ac o fewn hynny anelu at or-berfformio'r farchnad trwy
ddethol stociau. Mae'r dulliau hyn yn golygu risg uwch y gall
y portffolio tan-berfformio mewn unrhyw un blwyddyn - hynny yw,
strategaeth sy'n anghyson â neilltuo £2 filiwn ar gyfer
adfywio a chwrdd â'r targed tymor hir. Dylid nodi
hefyd, bod y penderfyniad i roi £0.15 miliwn at Oriel Syr
Kyffin Williams hefyd wedi goddiweddyd y strategaeth buddsoddi a
lleihau gwerth y gronfa).
|
|
|
|
|
Rhoddodd y Trysorydd amlinelliad o'r opsiynau posibl
fyddai'n caniatáu neilltuo £2 miliwn heb fynd yn erbyn
polisïau neu arferion arall fel oedd wedi'i nodi yn ei
adroddiad, ond nododd hefyd fod anfanteision i bob un ohonynt ac na
allai argymell yr un ohonynt. O ystyried amseriad y gwario
o'r dyraniad a wnaed yn 2002, hwyrach bod modd ailedrych ar hwn o
safbwynt y galwad ar lif-arian yr Ymddiriedolaeth dros
gyfnod hwy. Roedd angen i'r Pwyllgor hefyd ystyried cyngor ar
y galw tebygol a'r llif-arian ar gyfer arian Cydgyfeiriant.
Awgrymwyd y gallai, yn y man, gyfarfod ar y cyd o
gynrychiolwyr o'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a'r Pwyllgor hwn
drafod y mater a gofyn i'r Rheolwyr Buddsoddi fodelu rhai
dewisiadau amgen.
|
|
|
|
|
|
Nododd Mr Everett bod gwir angen rhyddhau cyfalaf o'r
Ymddiriedolaeth Elusennol tuag at brosiectau adfywio Cydgyfeiriad
yn y dyfodol ac roedd yn croesawu sefydlu cyfarfod ar y cyd rhwng
cynrychiolwyr o'r Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor Buddsoddi a
Chontractau.
|
|
|
|
|
Cytunodd Mr D R Hughes fod
angen rhyddhau cyfalaf tuag at brosiectau adfywio a nododd y dylid
cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor hwn gan yr Adran Datblygu
Economaidd yng nghyswllt cynlluniau posibl allai fanteisio o
ryddhau cyfalaf o'r Ymddiriedolaeth Elusennol.
|
|
|
|
Nododd y Trysorydd y
gellid defnyddio rôl y Swyddogion Datblygu Rhanbarth yn yr
ardaloedd difreintiedig er mwyn helpu cynlluniau lleol i
wella eu cynlluniau tebygol ar gyfer arian
Cydgyfeiriant.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad ac y dylid trefnu cyfarfod pellach i ystyried y galw
a'r amseriad ar gyfer arian Cydgyfeiriant, ac yn dilyn hynny fe all
y bydd angen ystyried yr effaith ar y strategaeth fuddsoddi ar y
cyd gyda'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau.
|
|
|
|
|
|
J ARWEL
EDWARDS
|
|
IS-GADEIRYDD YN Y
GADAIR
|