|
|
|
|
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20
Chwefror, 2007 fel rhai cywir.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Coleg Harlech - WEA - Cymunedau Môn
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan Goleg Harlech - WEA mewn
perthynas â’r uchod.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Trysorydd nad oedd cynrychiolwyr o Coleg Harlech
- WEA yn gallu bod yn bresennol. Dywedodd hefyd iddo gael
cyfarfod gyda chynrychiolwyr Coleg Harlech - WEA ac roedd yn gallu
rhoddi gwybodaeth cefndirol ynglyn â’r cwrs oedd yn
cael ei gynnig gan Coleg Harlech - WEA.
|
|
|
|
Dywedwyd mae nod y brosiect i’w cynnig amrediad o
gyrsiau achrededig i aelodau cymunedau ar draws Ynys Môn, gan
ganolbwyntio yn benodol ar gymunedau difreintiedig trwy ddarparu
cyrsiau sgiliau adeiladu capasiti. Mae’n edrych ar
gynnal adwyedd tymor hir y cymunedau trwy weithio gyda dysgwyr
â sgiliau isel, ac wedi ei heithrio/anfanteision genedlaethol
neu sydd mewn risg o gynhwysiad cymdeithasol a thrwy roi cyfleon
dysgu i’r aelodau hyn a’u galluogi i ddod yn fwy
gweithgar o fewn ei cymunedau/ neu grwpiau gwirfoddol.
Mae’r cyrsiau am ddim i ddysgwyr sydd yn gymwys ynghyd
a chefnogaeth tuag at ofal plant.
|
|
|
|
|
|
Rhai sydd wedi elwa o’r cyrsiau i’w
:-
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Wardiau Cymunedau’n Gyntaf
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Grwpiau Cymunedol/Gwirfoddol
|
|
|
|
|
|
Mae’r grwp rhiant unigol wedi ennill hyder o ddilyn
cyrsiau coginio a bu yn ymwneud â nifer o brosiectau
cymunedol. Mae’r grwp hefyd wedi dilyn Glendid Bwyd
CIEH sydd yn golygu y gallant baratoi bwyd i’r cyhoedd.
|
|
|
|
|
|
Yn dilyn llwyddiant y dosbarthiadau coginio i riant
unigol, mae Coleg Harlech wedi gweithio gyda strategaeth bobl hyn
yr awdurdod lleol â thim ‘Calon Lân’ y
Bwrdd Iechyd leol i redeg cwrs penodol i ddynion 50 oed.
Roedd y cwrs wedi ei fwriadau i ddenu’r dynion dros 50
oedd wedi colli ei partneriaid neu yn byw ar bennau eu hunain, ac a
allai fod yn gyndyn o goginio iddynt eu hunain gan arwain at fwyta
deiet gwael, a hynny wedyn yn cael effaith ar eu iechyd.
Nodwyd ymhellach bod cwrs Trefnu Blodauwedi cael ei drefnu ac
wedi bod yn hynod o lwyddiannus i drigolion Ward Cymunedau’n
Gyntaf Ward Tudur.
|
|
|
|
|
|
Dywedwyd bod gan y prosiect ar hyn o bryd dros 50 o
ddysgwyr gydag anableddau, ar cyfan yn dod o fewn darpariaeth Coleg
Harlech - WEA , a hefyd roedd gan bob lleoliad fynediad anabl ac
wedi derbyn asesiad risg. Roedd y prosiect hwn wedi galluogi
i Coleg Harlech - WEA ddarparu cyrsiau Cymraeg i hyrwyddo
cyfartaledd a chyfle ar yr Ynys, sydd yn holl bwysig i ddyfodol yr
iaith.
|
|
|
|
|
|
Roedd Mrs. Fflur M. Hughes yn dymuno mynegi ei
gwerthfawrogiad i Goleg Harlech am gynnig y cyrsiau, ac iddynt fod
yn llwyddiannus iawn yn y ward mae hi yn ei gynrychioli.
Nododd Mrs. Hughes y dylid anfon llythyr o’r Pwyllgor
hwn i Goleg Harlech. Nododd ymhellach y dylai’r ddogfen
oedd ynghlwm gan Coleg Harlech fod wedi bod yn un ddwyieithog a
dywedodd y dylid dweud wrth Coleg Harlech-WEA fod yn rhaid i unrhyw
ohebiaeth fod yn ddwyieithog yn y dyfodol.
|
|
|
|
|
|
Roedd Mr. D.R. Hughes yn dymuno llongyfarch Coleg Harlech
am ei waith ond nododd y gallai ardaloedd eraill ar yr ynys elwa
o’r cyrsiau a ddarparir ganddo. Dywedodd y Trysorydd ma
esiamplau yn unig oedd wedi eu roi yn y cyflwyniad, ac iddo gael
rhestr o brosiectau eraill oedd yn digwydd mewn lleoliadau gwahanol
ar draws yr ynys.
|
|
|
|
|
|
Nododd Mr. P.M. Fowlie y dylai cynrychiolwyr o’r
Pwyllgor hwn ymweld â’r cyrsiau sydd yn cael eu darparu
gan Coleg Harlech - WEA er mwyn dangos cefnogaeth ac i roddi
cyhoeddusrwydd i gyllid yr Ymddiriedolaeth Elusennol tuag at
brosiectau o’r fath.
|
|
|
|
Nododd Mr. Bryan Owen i’r cyrsiau TG yn Ward Tudur
fod yn llwyddiant aruthrol. Ni fyddai gan y bobl oedd wedi
mynychu’r cyrsiau unrhyw hyder fel arall i fynd i’r
coleg lleol.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod llythyr yn
cael ei anfon i Coleg Harlech - WEA i’w llongyfarch ar y
cyrsiau a ddarpariwyd.
|
|
|
|
|
5
|
CYNLLUN DATBLYGU GWLEDIG
|
|
|
|
|
|
Datganodd y Cadeirydd ddiddordeb yn yr eitem etholwyd Mr.
D.R. Hughes yn Gadeirydd ar gyfer yr eitem hon.
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas
â’r uchod.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd ei fod wedi adrodd ym mis Tachwedd
2006, rhoes y Pwyllgor hwn gyfanswm o £300,000 i Menter
Môn i gefnogi cynigion y fenter yng nghyswllt y Cynllun
Datblygu Gwledig ac fel cyllid cyfatebol i arain o gronfa Ewrop.
|
|
|
|
|
|
Mae’r datblygiadau diweddaraf ym mholisïau
elusennau’n gyffredinol - pwnc a cyflwynwyd adroddiad arno
i’r Ymddiriedolaeth Elusennol - yn pwysleisio fwyfwy bod
angen didoli swyddogaethau’r Ymddiriedolaeth Elusennol oddi
wrth y Cyngor fel Ymddiriedolwr. Gyda hyn mewn golwg,
rhoddwyd cyngor i’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn 2006 y dylid
mabwysiadu rhagdybiaeth, wrth rannu rhagor o arian adfywio yn y
dyfodol, o blaid rhoddi’r arian hwn i gyrff trydydd parti,
nid i gynlluniau y mae’r Cyngor ei hun yn gofalu
amdanynt.
|
|
|
|
|
|
Hefyd penderfynodd yr Ymddiroedoaleth Elusennol yn 2006 y
buasai’n dibynnu ar gyngor gan swyddogion Adain Datblygu
Economaidd y Cyngor ar gynlluniau adfywio yn y dyfodol gyda golwg
ar lunio rhestr fer o gynlluniau addas heb orfod hysbysebu.
Trwy wneud hyn roeddem am ddibynnu ar yr arbenigedd oedd
ganddynt ac osgoi dyblygu gwaith.
|
|
|
|
|
|
Hwn oedd y llwybr a gymerwyd i ganiatáu
£300,000 i Menter Môn yng nghyswllt cyfraniad y fenter
i’r Cynllun Datblygu Gwledig yn Nhachwedd 2007.
|
|
|
|
|
|
Yn ystod 2007 roedd rhagor o fanylion yn dechrau cyrraedd
yng nghyswllt y broses a fwriadwyd gan Lywodraeth Cynllulliad Cymru
i bwrpas comisiynu prosiectau Cynllun Datblygu Gwledig. Roedd
y Llywodraeth yn tybio y buasai partneriaeth leol, gan ddibynnu ar
un corff yn arwain, yn gweinyddu’r arian dan Axis 3 y cynllun
Datblygu Gweledig, ac yn gwadd bidiau ar gyfer prosiectau ac yn
dyfarnu arian. Yn lleol roedd hi’n deg tybio y buasai
Partneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn (y Bartneriaeth),
corff eisoes wedi’i sefydlu, yn gweithredu fel partneriaeth
leol a’r Cyngor Sir, fel darparwyr gweinyddiaeth, yn
gweithredu fel corff arweiniol.
|
|
|
|
|
|
Y mae dau fodel posib sydd o ddiddordeb i’r
Ymddiriedolaeth Elusennol - dau o blith y nifer o bosibiliadau a
ystyriwyd fel rhan o’r broses hon - roedd diagram o’r
model ynghlwm i’r adroddiad.
|
|
|
|
|
|
Dan Fodel 1, buasai’r Bartneriaeth yn comisiynu
prosiectau o blith sawl cystadleuwr posib. Gallai Menter
Môn fod yn un ymgeisydd ac yn bidio ar ôl sicrhau arian
cyfatebol o gronfa’r Ymddiriedolaeth Elusennol - sefyllfa a
fydd, yn ddiau, o gymorth i fid y fenter. Os ydyw Menter
Môn yn llwyddo i ddenu arian Ewropeaidd, gallai wedyn symud
ymlaen i dynnu arian yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Hwn oedd y
model a ragwelwyd adeg cyflwyno’r cais gwreiddiol i’r
Ymddiriedolaeth Elusennol.
|
|
|
|
|
|
Yn yr Haf 2007 roedd hi’n ymddangos y buasai
Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gorfodi Model 2, a dan hwn
buasai’r cyfan o’r arian cyfatebol ync ael ei sianelu
drwy Gorff Arweiniol ar ran y Bartneriaeth. Petai hyn yn
digwydd, ni allai Menter Môn dynnu arian cyfatebol i lawr yn
uniongyrchol, ond gallai’r Bartneriaeth gyflwyno cais newydd
i’r Ymddiriedolaeth Elusennol. Efallai bod y dull hwn
yn cynnig manteision i’r Ymddiriedolaeth Elusennol oherwydd y
cyfle i fod yn rhan o’r broses fidio dan arweiniad y
Bartneriaeth a thrwy hynny gael manteision cystadleuaeth agored, a
hynny heb ffafrio un bidiwr dros y llall.
|
|
|
|
Ond y mae y dull hwn yn creu problem gan fod y
Bartneriaeth, yn ymarferol, yn cael ei rhedeg gan y Cyngor fel
corff arweiniol, a chan nad yw’r Bartneriaeth yn endid
cyfreithiol, buasai’r trafodion hyn yn mynd trwy
lyfrau’r Cyngor. O’r herwydd buasai’r
dyfarniad yn ddyfarniad gan yr Elusen i’w hymddiriedolwr ei
hun, sef hunan hyrwyddo, gweithred y mae cyfraith elusennol yn ei
gwahardd oni cheir caniatâd y Llys neu ganiatâd y
Comisiwn Elusennau. Nododd y Trysorydd ei fod wedi gohebu
gyda’r Comisiwn Elusennau a chael gwybod ganddynt y buasai
hyn yn cyfateb i hunan-hyrwyddo. Cyflwynodd iddynt yr
esboniadau eglurhaol a ganlyn :-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
na fuasai yr un grant a ddeuai trwy’r Bartneriaeth
yn cael ei wario ar borosiect y mae’r Cyngor ei hun yn ei
redeg;
|
|
|
Ÿ
|
y buasai swyddogion gwahanol o’r Cyngor yn
cynghori’r Ymddiriedolaeth a’r Bartneriaeth;
|
|
|
Ÿ
|
petai unrhyw wrthdaro yn codi câi hynny sylw trwy
ddatgan diddordeb - yn benodol trwy i aelodau’r Bartneriaeth
ddatgan diddordeb a gadael cyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth
Elusennol.
|
|
|
|
|
|
Gyda’r esboniadau hyn cytunodd y Comisiwn Elusennau
y buasai trefniadau cyllidol Model 2 yn dderbyniol heb orfod gofyn
am ganiatâd arall.
|
|
|
|
|
|
Ond, yn yr achos hwn, buasai gofyn wedyn i’r
Ymddiriedolaeth Elusennol wyrdroi penderfyniadau a wnaed yn 2006,
yn gyntaf er mwyn medru rhoddi arian i’r Cyngor fel corff
arweiniol i’r Bartneriaeth. Ac yn ail, yn lle gofyn i
swyddogion Datblygu Economaidd am gyngor, buasai’n rhaid
i’r Ymddiriedolaeth Elusennol sicrhau cyngor yn annibynnol ar
swyddogion Datblygu Economaidd gan eu bod nhw yn cynghori’r
Bartneriaeth.
|
|
|
|
|
|
Ni chafodd y mater hwn ei setlio tan 31 Hydref pryd y
cafwyd briffio gyda swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru - y
swyddogion sy’n gweinyddu’r Cynllun Datblygu Gwledig.
Cafwyd arweiniad clir yn y sesiwn, pryd yr oedd fersiwn
ddrafft o’r canllawiau ar gael, bod Model 1 wedi’r
cyfan yn debygol o fod yn dderbyniol. O’r herwydd
mae’r caniatâd gwreiddiol a roddwyd i gyllido Menter
Môn yn dal i sefyll ac ni fydd raid mynd ar drywydd llwybr
mwy eithafol Model 2.
|
|
|
|
|
|
Fodd bynnag, bu’r drafodaeth gyda’r Comisiwn
Elusennau yn ddefnyddiol oherwydd yr eglurhad a gafwyd ar rai
materion sy’n cael effaith, mewn ffyrdd eraill, ar yr
Ymddiriedolaeth Elusennol :-
|
|
|
|
|
Ÿ
|
dylid parhau i drin yr esboniadau uchod fel ymarfer da -
hyd yn oed yng nghyd-destun Model 1. Ni fedrwn, mae’n
ymddangos, barhau i ofyn cyngor gan swyddogion sydd hefyd yn
cynghori’r Bartneriaeth neu mi fyddwn yn creu’r argraff
bod y penderfyniad eisoes wedi’i wneud gan y naill gorff
neu’r llall. Pan yn dyfarnu arian yn y dyfodol, bydd
raid sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol un ai yn gofalu am ei
phroses fidio ei hun, neu’n cymryd cyngor annibynnol neu o
bosib yn gwneud y naill beth a’r llall.
|
|
|
Ÿ
|
efallai y bydd raid dal i ddefnyddio dull Model 2 i
ddibenion cyllid cydgyfeiriant.
|
|
|
Ÿ
|
mae’r ohebiaeth yn gymorth i ddeall agwedd y
Comisiwn Elusennau tuag at hunan-hyrwyddo’n gyffredinol,
sy’n ymwneud â’r cwestiwn anodd o gyllido
prosiectau’r Cyngor meysydd eraill.
|
|
|
|
|
|
Ar 7 Tachwedd rhoes y Bartneriaeth sylw i nifer o syniadau
am Brosiectau yng nghyswllt y Cynllun Datblygu Gwledig - yn eu
plith roedd cynigion gan Menter Môn a oedd eisoes wedi
llwyddo gyda chesiadau am arian yr Ymddiriedolaeth hon. Y
canlyniad oedd i gymeradwyo’r cyfan o’r prosiectau hyn
ar gyfer y Cynllun Busnes.
|
|
|
|
|
|
Yn awr bydd y Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno i
Lywodraeth Cynulliad Cymru erbyn 30 Tachwedd, ac wedyn mae’n
debyg y bydd trafodaeth ar gynigion penodol sy’n arwain,
gobeithio, at dderbyn caniatâd i’r cynllun ym mis
Mawrth 2008. Gellid dechrau gwario yn Ebrill 2008.
|
|
|
|
|
|
Mewn trafodaeth o’r fath, oherwydd natur y
drafodaeth, mae’n bosib y bydd cynigion penodol yn cael eu
diwygio wrth i sylw gael ei roddi i gyfraniad y partneriaid.
Bydd raid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol fodloni’i
hun bod y prosiectau sy’n derbyn nawdd yr Ymddiriedolaeth yn
parhau i gwrdd â’i hamcanion a’i blaenoriaethau.
Adeg rhoddi’r caniatâd gwreiddiol ym mis Tachwedd
2006 rhoddwyd sylw i’r prosiectau dan y Cynllun Datblygu
Gwledig a chynghori’r Pwyllgor sut y gallai’r
prosiectau asio gyda dibenion elusennol. Mewn Gohebiaeth
ddiweddar gyda’r comisiwn Elusennol holodd swyddogion y
Comisiwn am y mater hwn ac roedd o gymorth bod mewn sefyllfa i
gyfeirio ato. Mae’r cynigion a gyflwynwyd gan Menter
Môn i’r Bartneriaeth wedi’i geirio’n
wahanol ond, yn eu hanfod, roedd y Trysorydd yn fodlon mai yr un un
ydynt. Ond with i’r cynigion ddatblygu a mynd yn
fanylach efallai y bydd raid i’r Pwyllgor hwn
oruchwylio’r newidiadau.
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad.
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan
y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.
|
|
|
|
Adroddodd y Trysorydd bod
yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn wedi ystyried sut y gallai
ryddhau £2 miliwn ychwanegol o waddol yr Ymddiriedolaeth tuag
at amcanion adfywio, i helpu gydag arian cyfatebol cyllid
Cydgyfeiriant Ewropeaidd.
|
|
|
|
Ers y cyfarfod mis
Chwefror, bu cryn ganolbwyntio ar ffyrdd y gellid rhyddhau cyllid
Cynllun Datblygu Gwledig, oherwydd fod y parodrwydd i wario
a’r amserlen ar gyfer cymeradwyo cyllid yn fwy tyn. Yn
y cyfamser, sefydlwyd y canlynol :-
|
|
|
|
Ÿ
|
fe bery angen i wario ar unwaith ar adfywiad cymdeithasol
ac economaidd Ynys Môn, yr un sydd â’r gwerth
ychwanegol gros (GVA) isaf y pen yng Nghymru ac yn llawer is
na’r cyfartaleddau Ewropeaidd. Disgwylir i rai, ond nid
y cyfan o’r prosiectau hyn fod yn gymwys am arian elusennol
ac i gyfarfod ag amcanion yr Ymddiriedolaeth.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
mae i brosiectau Cynllun Datblygu Gwledig yr Undeb
Ewropeaidd (CDG) bwyslais ar adfywio cymunedol mewn ardaloedd
gwledig (sy’n cynnwys y cyfan o Ynys Môn).
Mae’r rhain yn debygol o fod yn cydgyffwrdd yn dda
gydag amcanion yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Mae’r
Ymddiriedolaeth Elusennol eisoes yn cyllido rhai prosiectau CDG ac
fe all rhai eraill ddod ymlaen.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
mae cyllid Cydgyfeiriant yn dod o Gronfeydd Strwythurol
Ewropeaidd (Gronfa Cymdeithasol Ewropeaidd a Chronfa Datblygu
Rhanbarthol Ewropeaidd) ac mae disgwyl iddo fod ag agwedd fwy
strategol a rhanbarthol. Ni fydd pob prosiect cyllid
Cydgyfeiriant yn cydgyffwrdd ag amcanion yr Ymddiriedolaeth
Elusennol ac eithrio ym maes Datblygu Economaidd Cymunedol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Mae llythyru gyda’r Comisiwn Elusennol wedi
cadarnhau’r angen i’r Ymddiriedolaeth Elusennol
ystyried yn ofalus y ffordd y mae y cyllido yn cytuno
â’i amcanion. Nis gellir ond gwneud hyn pan yn
ystyried ceisiadau pendol i ddarparu canlyniadau
penodol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Nid oes unrhyw geisiadau penodol gerbron yr
Ymddiriedolaeth Elusennol ar hyn o bryd. Mae’r
paratoadau ar gyfer cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig a
Chydgyfeiriant yn ddigon aeddfed ar hyn o bryd fel y gellid gwahodd
ceisiadau o roi ddigon o rybudd i’r cyrff ymgeisio
tebygol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Mae arfer dda yn awgrymu gosod hysbyseb agored am
geisiadau yn hytrach na dibynnu yn unig ar i bersonel y Cyngor nodi
prosiectau.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Mae £178k yn parhau heb ei ddyrannu allan o’r
£1.8 miliwn a ryddhawyd yn 2002.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Roedd buddsoddiadau’r Ymddiriedolaeth Elusennol rhyw
£2.6 miliwn yn uwch na tharged buddsoddi tymor hir yr
Ymddiriedolaeth ar 31 Mawrth, 2007. O ystyried natur newidiol
buddsoddiadau’n gyffredinol, ni allwn gefnogi rhyddhau
£2 filiwn (fel awgrymwyd yn yr Ymddiriedolaeth lawn) ar hyn o
bryd.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Mae llif arian y symiau a ryddhawyd yn 2002 yn awgrymu y
bydd cyllid adfywio, yn ymarferol, yn cael ei wario dros nifer o
flynyddoedd.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn parhau i gael
anawsterau i gyfarfod â’r disgwyliadau am grantiau
blynyddol o’i gyllideb refeniw. Byddai gwario o’r
gwaddol, yn y tymor hir, yn lleihau incwm buddsoddi, ac mae’r
Ymddiriedolaeth Elusennol eisoes wedi ymrwymo £150k pellach
tuag at Oriel Syr Kyffin Williams RA.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Rhoddwyd ystyriaeth i’r posibilrwydd y gallai rhai
categorïau o grant flynyddol gael eu newid am gyllid Cynllun
Datblygu Wledig, er enghraifft. Nid yw’r mannau lle
ceir gorgyffwrdd yn ddigonol i gael unrhyw effaith
sylweddol.
|
|
|
|
|
Mae dau o benderfyniadau
i’w gweld yma :-
|
|
|
|
Ÿ
|
ryddhau cyllido waddol yr Ymddiriedolaeth, mae angen
mwyafrif o ddwy ran o dair. Nid yw rhyddhau cyllid yn gofyn
am i’r rhain gael eu hymrwymo i brosiectau
penodol.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
mae angen i’r Ymddiriedolaeth ystyried ceisiadau gan
brosiectau penodol ac ystyried y graddau y mae’r rhain yn
cyfarfod â’i amcanion eu hun.
|
|
|
|
|
Yn 2002, fe wnaed y
penderfyniad cyntaf am £1.8m ac mae’r ail ddosbarth o
benderfyniadau wedi dilyn ar gyfer prosiectau unigol.
Mae’r swm o £178k yn parhau ac wedi ei ollwng yn
ôl y penderfyniad cyntaf, ond nid yw wedi ei ymrwymo hyd yn
hyn. Mewn cymhariaeth, fe aeth y penderfyniad ar gyfer Oriel
Syr Kyffin Williams RA drwy’r ddau gam ar yr un
pryd.
|
|
|
|
Dywedwyd y gallai’r
amser fod yn iawn yn awr i’r Ymddiriedolaeth Elusennol
ryddhau swm pellach o £322k trwy’r mwyafrif
angenrheidiol o ddwy ran o dair. Byddai hyn yn dod
â’r cyfanswm nad yw wedi ei ymrwymo ac sydd ar gael i
gynlluniau adfywio i £0.5 miliwn crwn. Byddai’n
gadael y gweddill o werth y gronfa uwchben y targed hir dymor ar
£2.3 miliwn. Os caiff y swm ei ryddhau, fe
ddylai’r Ymddiriedolaeth Elusennol hysbysebu er mwyn gwahodd
ceisiadau.
|
|
|
|
Nododd yr Aelodau bod y
cyfarfod nesaf o’r Ymddiriedolaeth lawn wedi ei drefnu ar
gyfer 6 Rhagfyr a dylai llythyr gael ei anfon at yr holl aelodau
gyda’r rhaglen i dynnu eu sylw at yr angen i sicrhau bod 27
aelod o blaid, ond pe na bai hynny’n bosibl, fel ellid gofyn
i’r cyfarfod gael ei ohirio hyd 13 Rhagfyr.
|
|
|
|
Yn dilyn
trafodaethau PENDERFYNWYD argymell
i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn bod £322k pellach yn
cael ei ryddhau tuag at gynlluniau adfywio.
|
|
|
|
|
|
EITEM
YCHWANEGOL
|
|
|
|
7
|
FFRAMWAITH DATBLYGU ARDAL
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - adroddiad gan
y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) mewn perthynas
â’r uchod.
|
|
|
|
Adroddodd y Trysorydd bod
Fframwaith Datblygu Ardal wedi darparu rhwydwaith o bump o
Swyddogion Datblygu Ardal llinell flaen ar draws yr Ynys. Mae
dwy allan o’r pum swydd wedi eu hariannu gan yr
Ymddiriedolaeth am gyfnod o dair blynedd. Roedd y cyllid hwn
i fod i orffen ym mis Awst 2007. Fe ddaeth cyllid ar gyfer
dwy swydd arall dan ofal Menter Môn ac wedi ei gysylltu i
brosiectau Amcan 1 UE hefyd i ben ddiwedd mis
Gorffennaf.
|
|
|
|
Bu un o’r ddwy swydd
sy’n cael ei hariannu gan yr Ymddiriedolaeth yn wag am
gyfnodau sylweddol yn ystod y dair blynedd, a hynny am nifer o
resymau. Canlyniad hyn fu tanwariant yn y gyllideb o
£67,186 ar hyn o bryd.
|
|
|
|
|
|
Mae’r tanwariant o
fewn Cyllideb y Gronfa Datblygu Ardal yn ddigon i dalu am y
gofynion a ragwelir ac mae’n gynnig cyfle i gadw’r
arbenigedd hwn, a chaniatáu i brosiectau newydd o dan y
Rhaglen Datlbygu Gwledig ddechrau mewn da bryd.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD bod y
tanwariant o fewn y fframwaith Datblygu Ardal yn cael ei gadw hyd
ddechrau’r Rhaglen Datblgu Gwledig.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
MR. C.LL.
EVERETT
|
|
CADEIRYDD
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|