Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. dogfennau , 14 Tachwedd 2007

Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr.
Dydd Mercher, 14eg Tachwedd, 2007

YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN

 

PWYLLGOR ADFYWIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Tachwedd, 2007.  

 

YN BRESENNOL:

 

J.M. Davies, P.J. Dunning, C.Ll. Everett, P.M. Fowlie, D.R. Hughes, Fflur M. Hughes, T.H. Jones, Bryan Owen, G.O. Parry MBE,

J. Arwel Roberts, Hefin W. Thomas, W.J. Williams MBE.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Trysorydd,

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Keith Evans

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr. John Byast - Is-Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn

 

1

CADEIRYDD

 

Etholwyd Mr. C.Ll. Everett yn Gadeirydd.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Etholwyd Mr. J. Arwel Roberts yn Is-Gadeirydd.

 

3

DATGANIAD O DIDDORDEB

 

Datganodd Mr. C.Ll. Everett ddiddordeb oherwydd ei fod, yn rhinwedd ei swydd fel Clarc Cyngor Tref Caergybi, wedi cyflwyno cais am arian o’r Ymddiriedolaeth.

 

Datganodd Mr. Everet ddiddordeb hefyd yn Eitem 5 - Cynllun Datblygu Gwledig a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a bleidlais arni.

 

Datganodd Mr. D.R. Hughes ddiddordeb yn Eitem 7 - Fframwaith Datblygu Ardal a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a bleidlais arni.

 

Datganodd Mr. W.J. Williams MBE ddiddordeb yn Eitem 5 - Cynllun Datblygu Gwledig a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a bleidlais arni.

 

4

COFNODION

 

 

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror, 2007 fel rhai cywir.

 

 

 

YN CODI

 

 

 

Coleg Harlech - WEA - Cymunedau Môn

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan Goleg Harlech - WEA mewn perthynas â’r uchod.

 

 

 

Nododd y Trysorydd nad oedd cynrychiolwyr o Coleg Harlech - WEA yn gallu bod yn bresennol.  Dywedodd hefyd iddo gael cyfarfod gyda chynrychiolwyr Coleg Harlech - WEA ac roedd yn gallu rhoddi gwybodaeth cefndirol ynglyn â’r cwrs oedd yn cael ei gynnig gan Coleg Harlech - WEA.  

 

Dywedwyd mae nod y brosiect i’w cynnig amrediad o gyrsiau achrededig i aelodau cymunedau ar draws Ynys Môn, gan ganolbwyntio yn benodol ar gymunedau difreintiedig trwy ddarparu cyrsiau sgiliau adeiladu capasiti.  Mae’n edrych ar gynnal adwyedd tymor hir y cymunedau trwy weithio gyda dysgwyr â sgiliau isel, ac wedi ei heithrio/anfanteision genedlaethol neu sydd mewn risg o gynhwysiad cymdeithasol a thrwy roi cyfleon dysgu i’r aelodau hyn a’u galluogi i ddod yn fwy gweithgar o fewn ei cymunedau/ neu grwpiau gwirfoddol.  Mae’r cyrsiau am ddim i ddysgwyr sydd yn gymwys ynghyd a chefnogaeth tuag at ofal plant.

 

 

 

Rhai sydd wedi elwa o’r cyrsiau i’w :-

 

 

 

Ÿ

Grwpiau Gofalwyr

 

Ÿ

Wardiau Cymunedau’n Gyntaf

 

Ward Tudur

 

Morlo

 

Ward Maeshyfryd/Tref

 

Porthyfelin

 

Porth Amlwch

 

Ÿ

Pobl Hyn

 

Ÿ

Rhiant Unigol

 

Ÿ

Y Di-waith

 

Ÿ

Dysgwyr Cymraeg

 

Ÿ

Pobl Anabl

 

Ÿ

Grwpiau Cymunedol/Gwirfoddol

 

 

 

Mae’r grwp rhiant unigol wedi ennill hyder o ddilyn cyrsiau coginio a bu yn ymwneud â nifer o brosiectau cymunedol.  Mae’r grwp hefyd wedi dilyn Glendid Bwyd CIEH sydd yn golygu y gallant baratoi bwyd i’r cyhoedd.  

 

 

 

Yn dilyn llwyddiant y dosbarthiadau coginio i riant unigol, mae Coleg Harlech wedi gweithio gyda strategaeth bobl hyn yr awdurdod lleol â thim ‘Calon Lân’ y Bwrdd Iechyd leol i redeg cwrs penodol i ddynion 50 oed.  Roedd y cwrs wedi ei fwriadau i ddenu’r dynion dros 50 oedd wedi colli ei partneriaid neu yn byw ar bennau eu hunain, ac a allai fod yn gyndyn o goginio iddynt eu hunain gan arwain at fwyta deiet gwael, a hynny wedyn yn cael effaith ar eu iechyd.  Nodwyd ymhellach bod cwrs Trefnu Blodauwedi cael ei drefnu ac wedi bod yn hynod o lwyddiannus i drigolion Ward Cymunedau’n Gyntaf Ward Tudur.

 

 

 

Dywedwyd bod gan y prosiect ar hyn o bryd dros 50 o ddysgwyr gydag anableddau, ar cyfan yn dod o fewn darpariaeth Coleg Harlech - WEA , a hefyd roedd gan bob lleoliad fynediad anabl ac wedi derbyn asesiad risg.  Roedd y prosiect hwn wedi galluogi i Coleg Harlech - WEA ddarparu cyrsiau Cymraeg i hyrwyddo cyfartaledd a chyfle ar yr Ynys, sydd yn holl bwysig i ddyfodol yr iaith.  

 

 

 

Roedd Mrs. Fflur M. Hughes yn dymuno mynegi ei gwerthfawrogiad i Goleg Harlech am gynnig y cyrsiau, ac iddynt fod yn llwyddiannus iawn yn y ward mae hi yn ei gynrychioli.  Nododd Mrs. Hughes y dylid anfon llythyr o’r Pwyllgor hwn i Goleg Harlech.  Nododd ymhellach y dylai’r ddogfen oedd ynghlwm gan Coleg Harlech fod wedi bod yn un ddwyieithog a dywedodd y dylid dweud wrth Coleg Harlech-WEA fod yn rhaid i unrhyw ohebiaeth fod yn ddwyieithog yn y dyfodol.

 

 

 

Roedd Mr. D.R. Hughes yn dymuno llongyfarch Coleg Harlech am ei waith ond nododd y gallai ardaloedd eraill ar yr ynys elwa o’r cyrsiau a ddarparir ganddo.  Dywedodd y Trysorydd ma esiamplau yn unig oedd wedi eu roi yn y cyflwyniad, ac iddo gael rhestr o brosiectau eraill oedd yn digwydd mewn lleoliadau gwahanol ar draws yr ynys.

 

 

 

Nododd Mr. P.M. Fowlie y dylai cynrychiolwyr o’r Pwyllgor hwn ymweld â’r cyrsiau sydd yn cael eu darparu gan Coleg Harlech - WEA er mwyn dangos cefnogaeth ac i roddi cyhoeddusrwydd i gyllid yr Ymddiriedolaeth Elusennol tuag at brosiectau o’r fath.

 

Nododd Mr. Bryan Owen i’r cyrsiau TG yn Ward Tudur fod yn llwyddiant aruthrol.  Ni fyddai gan y bobl oedd wedi mynychu’r cyrsiau unrhyw hyder fel arall i fynd i’r coleg lleol.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod llythyr yn cael ei anfon i Coleg Harlech - WEA i’w llongyfarch ar y cyrsiau a ddarpariwyd.   

 

 

 

5

CYNLLUN DATBLYGU GWLEDIG

 

 

 

Datganodd y Cadeirydd ddiddordeb yn yr eitem etholwyd Mr. D.R. Hughes yn Gadeirydd ar gyfer yr eitem hon.

 

 

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd ei fod wedi adrodd ym mis Tachwedd 2006, rhoes y Pwyllgor hwn gyfanswm o £300,000 i Menter Môn i gefnogi cynigion y fenter yng nghyswllt y Cynllun Datblygu Gwledig ac fel cyllid cyfatebol i arain o gronfa Ewrop.  

 

 

 

Mae’r datblygiadau diweddaraf ym mholisïau elusennau’n gyffredinol - pwnc a cyflwynwyd adroddiad arno i’r Ymddiriedolaeth Elusennol - yn pwysleisio fwyfwy bod angen didoli swyddogaethau’r Ymddiriedolaeth Elusennol oddi wrth y Cyngor fel Ymddiriedolwr.  Gyda hyn mewn golwg, rhoddwyd cyngor i’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn 2006 y dylid mabwysiadu rhagdybiaeth, wrth rannu rhagor o arian adfywio yn y dyfodol, o blaid rhoddi’r arian hwn i gyrff trydydd parti, nid i gynlluniau y mae’r Cyngor ei hun yn gofalu amdanynt.

 

 

 

Hefyd penderfynodd yr Ymddiroedoaleth Elusennol yn 2006 y buasai’n dibynnu ar gyngor gan swyddogion Adain Datblygu Economaidd y Cyngor ar gynlluniau adfywio yn y dyfodol gyda golwg ar lunio rhestr fer o gynlluniau addas heb orfod hysbysebu.  Trwy wneud hyn roeddem am ddibynnu ar yr arbenigedd oedd ganddynt ac osgoi dyblygu gwaith.

 

 

 

Hwn oedd y llwybr a gymerwyd i ganiatáu £300,000 i Menter Môn yng nghyswllt cyfraniad y fenter i’r Cynllun Datblygu Gwledig yn Nhachwedd 2007.

 

 

 

Yn ystod 2007 roedd rhagor o fanylion yn dechrau cyrraedd yng nghyswllt y broses a fwriadwyd gan Lywodraeth Cynllulliad Cymru i bwrpas comisiynu prosiectau Cynllun Datblygu Gwledig.  Roedd y Llywodraeth yn tybio y buasai partneriaeth leol, gan ddibynnu ar un corff yn arwain, yn gweinyddu’r arian dan Axis 3 y cynllun Datblygu Gweledig, ac yn gwadd bidiau ar gyfer prosiectau ac yn dyfarnu arian.  Yn lleol roedd hi’n deg tybio y buasai Partneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn (y Bartneriaeth), corff eisoes wedi’i sefydlu, yn gweithredu fel partneriaeth leol a’r Cyngor Sir, fel darparwyr gweinyddiaeth, yn gweithredu fel corff arweiniol.

 

 

 

Y mae dau fodel posib sydd o ddiddordeb i’r Ymddiriedolaeth Elusennol - dau o blith y nifer o bosibiliadau a ystyriwyd fel rhan o’r broses hon - roedd diagram o’r model ynghlwm i’r adroddiad.

 

 

 

Dan Fodel 1, buasai’r Bartneriaeth yn comisiynu prosiectau o blith sawl cystadleuwr posib.  Gallai Menter Môn fod yn un ymgeisydd ac yn bidio ar ôl sicrhau arian cyfatebol o gronfa’r Ymddiriedolaeth Elusennol - sefyllfa a fydd, yn ddiau, o gymorth i fid y fenter.  Os ydyw Menter Môn yn llwyddo i ddenu arian Ewropeaidd, gallai wedyn symud ymlaen i dynnu arian yr Ymddiriedolaeth Elusennol.  Hwn oedd y model a ragwelwyd adeg cyflwyno’r cais gwreiddiol i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

 

 

Yn yr Haf 2007 roedd hi’n ymddangos y buasai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gorfodi Model 2, a dan hwn buasai’r cyfan o’r arian cyfatebol ync ael ei sianelu drwy Gorff Arweiniol ar ran y Bartneriaeth.  Petai hyn yn digwydd, ni allai Menter Môn dynnu arian cyfatebol i lawr yn uniongyrchol, ond gallai’r Bartneriaeth gyflwyno cais newydd i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.  Efallai bod y dull hwn yn cynnig manteision i’r Ymddiriedolaeth Elusennol oherwydd y cyfle i fod yn rhan o’r broses fidio dan arweiniad y Bartneriaeth a thrwy hynny gael manteision cystadleuaeth agored, a hynny heb ffafrio un bidiwr dros y llall.

 

Ond y mae y dull hwn yn creu problem gan fod y Bartneriaeth, yn ymarferol, yn cael ei rhedeg gan y Cyngor fel corff arweiniol, a chan nad yw’r Bartneriaeth yn endid cyfreithiol, buasai’r trafodion hyn yn mynd trwy lyfrau’r Cyngor.  O’r herwydd buasai’r dyfarniad yn ddyfarniad gan yr Elusen i’w hymddiriedolwr ei hun, sef hunan hyrwyddo, gweithred y mae cyfraith elusennol yn ei gwahardd oni cheir caniatâd y Llys neu ganiatâd y Comisiwn Elusennau.   Nododd y Trysorydd ei fod wedi gohebu gyda’r Comisiwn Elusennau a chael gwybod ganddynt y buasai hyn yn cyfateb i hunan-hyrwyddo.  Cyflwynodd iddynt yr esboniadau eglurhaol a ganlyn :-

 

 

 

Ÿ

na fuasai yr un grant a ddeuai trwy’r Bartneriaeth yn cael ei wario ar borosiect y mae’r Cyngor ei hun yn ei redeg;

 

Ÿ

y buasai swyddogion gwahanol o’r Cyngor yn cynghori’r Ymddiriedolaeth a’r Bartneriaeth;

 

Ÿ

petai unrhyw wrthdaro yn codi câi hynny sylw trwy ddatgan diddordeb - yn benodol trwy i aelodau’r Bartneriaeth ddatgan diddordeb a gadael cyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

 

 

Gyda’r esboniadau hyn cytunodd y Comisiwn Elusennau y buasai trefniadau cyllidol Model 2 yn dderbyniol heb orfod gofyn am ganiatâd arall.

 

 

 

Ond, yn yr achos hwn, buasai gofyn wedyn i’r Ymddiriedolaeth Elusennol wyrdroi penderfyniadau a wnaed yn 2006, yn gyntaf er mwyn medru rhoddi arian i’r Cyngor fel corff arweiniol i’r Bartneriaeth.  Ac yn ail, yn lle gofyn i swyddogion Datblygu Economaidd am gyngor, buasai’n rhaid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol sicrhau cyngor yn annibynnol ar swyddogion Datblygu Economaidd gan eu bod nhw yn cynghori’r Bartneriaeth.

 

 

 

Ni chafodd y mater hwn ei setlio tan 31 Hydref pryd y cafwyd briffio gyda swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru - y swyddogion sy’n gweinyddu’r Cynllun Datblygu Gwledig.  Cafwyd arweiniad clir yn y sesiwn, pryd yr oedd fersiwn ddrafft o’r canllawiau ar gael, bod Model 1 wedi’r cyfan yn debygol o fod yn dderbyniol.  O’r herwydd mae’r caniatâd gwreiddiol a roddwyd i gyllido Menter Môn yn dal i sefyll ac ni fydd raid mynd ar drywydd llwybr mwy eithafol Model 2.

 

 

 

Fodd bynnag, bu’r drafodaeth gyda’r Comisiwn Elusennau yn ddefnyddiol oherwydd yr eglurhad a gafwyd ar rai materion sy’n cael effaith, mewn ffyrdd eraill, ar yr Ymddiriedolaeth Elusennol :-

 

 

 

Ÿ

dylid parhau i drin yr esboniadau uchod fel ymarfer da - hyd yn oed yng nghyd-destun Model 1.   Ni fedrwn, mae’n ymddangos, barhau i ofyn cyngor gan swyddogion sydd hefyd yn cynghori’r Bartneriaeth neu mi fyddwn yn creu’r argraff bod y penderfyniad eisoes wedi’i wneud gan y naill gorff neu’r llall.  Pan yn dyfarnu arian yn y dyfodol, bydd raid sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol un ai yn gofalu am ei phroses fidio ei hun, neu’n cymryd cyngor annibynnol neu o bosib yn gwneud y naill beth a’r llall.  

 

Ÿ

efallai y bydd raid dal i ddefnyddio dull Model 2 i ddibenion cyllid cydgyfeiriant.

 

Ÿ

mae’r ohebiaeth yn gymorth i ddeall agwedd y Comisiwn Elusennau tuag at hunan-hyrwyddo’n gyffredinol, sy’n ymwneud â’r cwestiwn anodd o gyllido prosiectau’r Cyngor meysydd eraill.

 

 

 

Ar 7 Tachwedd rhoes y Bartneriaeth sylw i nifer o syniadau am Brosiectau yng nghyswllt y Cynllun Datblygu Gwledig - yn eu plith roedd cynigion gan Menter Môn a oedd eisoes wedi llwyddo gyda chesiadau am arian yr Ymddiriedolaeth hon.  Y canlyniad oedd i gymeradwyo’r cyfan o’r prosiectau hyn ar gyfer y Cynllun Busnes.

 

 

 

Yn awr bydd y Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru erbyn 30 Tachwedd, ac wedyn mae’n debyg y bydd trafodaeth ar gynigion penodol sy’n arwain, gobeithio, at dderbyn caniatâd i’r cynllun ym mis Mawrth 2008.  Gellid dechrau gwario yn Ebrill 2008.

 

 

 

Mewn trafodaeth o’r fath, oherwydd natur y drafodaeth, mae’n bosib y bydd cynigion penodol yn cael eu diwygio wrth i sylw gael ei roddi i gyfraniad y partneriaid.  Bydd raid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol fodloni’i hun bod y prosiectau sy’n derbyn nawdd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i gwrdd â’i hamcanion a’i blaenoriaethau.  Adeg rhoddi’r caniatâd gwreiddiol ym mis Tachwedd 2006 rhoddwyd sylw i’r prosiectau dan y Cynllun Datblygu Gwledig a chynghori’r Pwyllgor sut y gallai’r prosiectau asio gyda dibenion elusennol.  Mewn Gohebiaeth ddiweddar gyda’r comisiwn Elusennol holodd swyddogion y Comisiwn am y mater hwn ac roedd o gymorth bod mewn sefyllfa i gyfeirio ato.  Mae’r cynigion a gyflwynwyd gan Menter Môn i’r Bartneriaeth wedi’i geirio’n wahanol ond, yn eu hanfod, roedd y Trysorydd yn fodlon mai yr un un ydynt.  Ond with i’r cynigion ddatblygu a mynd yn fanylach efallai y bydd raid i’r Pwyllgor hwn oruchwylio’r newidiadau.

 

 

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

6

CYLLID ADFYWIO

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

      

 

     Adroddodd y Trysorydd bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn wedi ystyried sut y gallai ryddhau £2 miliwn ychwanegol o waddol yr Ymddiriedolaeth tuag at amcanion adfywio, i helpu gydag arian cyfatebol cyllid Cydgyfeiriant Ewropeaidd.  

 

      

 

     Ers y cyfarfod mis Chwefror, bu cryn ganolbwyntio ar ffyrdd y gellid rhyddhau cyllid Cynllun Datblygu Gwledig, oherwydd fod y parodrwydd i wario a’r amserlen ar gyfer cymeradwyo cyllid yn fwy tyn.  Yn y cyfamser, sefydlwyd y canlynol :-

 

      

 

Ÿ

fe bery angen i wario ar unwaith ar adfywiad cymdeithasol ac economaidd Ynys Môn, yr un sydd â’r gwerth ychwanegol gros (GVA) isaf y pen yng Nghymru ac yn llawer is na’r cyfartaleddau Ewropeaidd.  Disgwylir i rai, ond nid y cyfan o’r prosiectau hyn fod yn gymwys am arian elusennol ac i gyfarfod ag amcanion yr Ymddiriedolaeth.

 

 

 

Ÿ

mae i brosiectau Cynllun Datblygu Gwledig yr Undeb Ewropeaidd (CDG) bwyslais ar adfywio cymunedol mewn ardaloedd gwledig (sy’n cynnwys y cyfan o Ynys Môn).  Mae’r rhain yn debygol o fod yn cydgyffwrdd yn dda gydag amcanion yr Ymddiriedolaeth Elusennol.  Mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol eisoes yn cyllido rhai prosiectau CDG ac fe all rhai eraill ddod ymlaen.

 

 

 

Ÿ

mae cyllid Cydgyfeiriant yn dod o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (Gronfa Cymdeithasol Ewropeaidd a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) ac mae disgwyl iddo fod ag agwedd fwy strategol a rhanbarthol.  Ni fydd pob prosiect cyllid Cydgyfeiriant yn cydgyffwrdd ag amcanion yr Ymddiriedolaeth Elusennol ac eithrio ym maes Datblygu Economaidd Cymunedol.  

 

 

 

Ÿ

Mae llythyru gyda’r Comisiwn Elusennol wedi cadarnhau’r angen i’r Ymddiriedolaeth Elusennol ystyried yn ofalus y ffordd y mae y cyllido yn cytuno â’i amcanion.  Nis gellir ond gwneud hyn pan yn ystyried ceisiadau pendol i ddarparu canlyniadau penodol.

 

 

 

Ÿ

Nid oes unrhyw geisiadau penodol gerbron yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar hyn o bryd.  Mae’r paratoadau ar gyfer cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig a Chydgyfeiriant yn ddigon aeddfed ar hyn o bryd fel y gellid gwahodd ceisiadau o roi ddigon o rybudd i’r cyrff ymgeisio tebygol.

 

 

 

Ÿ

Mae arfer dda yn awgrymu gosod hysbyseb agored am geisiadau yn hytrach na dibynnu yn unig ar i bersonel y Cyngor nodi prosiectau.

 

 

 

Ÿ

Mae £178k yn parhau heb ei ddyrannu allan o’r £1.8 miliwn a ryddhawyd yn 2002.

 

 

 

Ÿ

Roedd buddsoddiadau’r Ymddiriedolaeth Elusennol rhyw £2.6 miliwn yn uwch na tharged buddsoddi tymor hir yr Ymddiriedolaeth ar 31 Mawrth, 2007.  O ystyried natur newidiol buddsoddiadau’n gyffredinol, ni allwn gefnogi rhyddhau £2 filiwn (fel awgrymwyd yn yr Ymddiriedolaeth lawn) ar hyn o bryd.

 

 

 

Ÿ

Mae llif arian y symiau a ryddhawyd yn 2002 yn awgrymu y bydd cyllid adfywio, yn ymarferol, yn cael ei wario dros nifer o flynyddoedd.

 

 

 

Ÿ

Mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn parhau i gael anawsterau i gyfarfod â’r disgwyliadau am grantiau blynyddol o’i gyllideb refeniw.  Byddai gwario o’r gwaddol, yn y tymor hir, yn lleihau incwm buddsoddi, ac mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol eisoes wedi ymrwymo £150k pellach tuag at Oriel Syr Kyffin Williams RA.

 

 

 

Ÿ

Rhoddwyd ystyriaeth i’r posibilrwydd y gallai rhai categorïau o grant flynyddol gael eu newid am gyllid Cynllun Datblygu Wledig, er enghraifft.  Nid yw’r mannau lle ceir gorgyffwrdd yn ddigonol i gael unrhyw effaith sylweddol.

 

      

 

     Mae dau o benderfyniadau i’w gweld yma :-

 

      

 

Ÿ

ryddhau cyllido waddol yr Ymddiriedolaeth, mae angen mwyafrif o ddwy ran o dair.  Nid yw rhyddhau cyllid yn gofyn am i’r rhain gael eu hymrwymo i brosiectau penodol.

 

 

 

Ÿ

mae angen i’r Ymddiriedolaeth ystyried ceisiadau gan brosiectau penodol ac ystyried y graddau y mae’r rhain yn cyfarfod â’i amcanion eu hun.

 

      

 

     Yn 2002, fe wnaed y penderfyniad cyntaf am £1.8m ac mae’r ail ddosbarth o benderfyniadau wedi dilyn ar gyfer prosiectau unigol.  Mae’r swm o £178k yn parhau ac wedi ei ollwng yn ôl y penderfyniad cyntaf, ond nid yw wedi ei ymrwymo hyd yn hyn.  Mewn cymhariaeth, fe aeth y penderfyniad ar gyfer Oriel Syr Kyffin Williams RA drwy’r ddau gam ar yr un pryd.

 

      

 

     Dywedwyd y gallai’r amser fod yn iawn yn awr i’r Ymddiriedolaeth Elusennol ryddhau swm pellach o £322k trwy’r mwyafrif angenrheidiol o ddwy ran o dair.  Byddai hyn yn dod â’r cyfanswm nad yw wedi ei ymrwymo ac sydd ar gael i gynlluniau adfywio i £0.5 miliwn crwn.  Byddai’n gadael y gweddill o werth y gronfa uwchben y targed hir dymor ar £2.3 miliwn.   Os caiff y swm ei ryddhau, fe ddylai’r Ymddiriedolaeth Elusennol hysbysebu er mwyn gwahodd ceisiadau.  

 

      

 

     Nododd yr Aelodau bod y cyfarfod nesaf o’r Ymddiriedolaeth lawn wedi ei drefnu ar gyfer 6 Rhagfyr a dylai llythyr gael ei anfon at yr holl aelodau gyda’r rhaglen i dynnu eu sylw at yr angen i sicrhau bod 27 aelod o blaid, ond pe na bai hynny’n bosibl, fel ellid gofyn i’r cyfarfod gael ei ohirio hyd 13 Rhagfyr.  

 

      

 

     Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn bod £322k pellach yn cael ei ryddhau tuag at gynlluniau adfywio.

 

      

 

      

 

     EITEM YCHWANEGOL

 

      

 

7

FFRAMWAITH DATBLYGU ARDAL

 

      

 

     Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) mewn perthynas â’r uchod.

 

      

 

     Adroddodd y Trysorydd bod Fframwaith Datblygu Ardal wedi darparu rhwydwaith o bump o Swyddogion Datblygu Ardal llinell flaen ar draws yr Ynys.  Mae dwy allan o’r pum swydd wedi eu hariannu gan yr Ymddiriedolaeth am gyfnod o dair blynedd.  Roedd y cyllid hwn i fod i orffen ym mis Awst 2007.  Fe ddaeth cyllid ar gyfer dwy swydd arall dan ofal Menter Môn ac wedi ei gysylltu i brosiectau Amcan 1 UE hefyd i ben ddiwedd mis Gorffennaf.

 

      

 

     Bu un o’r ddwy swydd sy’n cael ei hariannu gan yr Ymddiriedolaeth yn wag am gyfnodau sylweddol yn ystod y dair blynedd, a hynny am nifer o resymau.  Canlyniad hyn fu tanwariant yn y gyllideb o £67,186 ar hyn o bryd.  

 

      

 

      

 

     Mae’r tanwariant o fewn Cyllideb y Gronfa Datblygu Ardal yn ddigon i dalu am y gofynion a ragwelir ac mae’n gynnig cyfle i gadw’r arbenigedd hwn, a chaniatáu i brosiectau newydd o dan y Rhaglen Datlbygu Gwledig ddechrau mewn da bryd.

 

      

 

     PENDERFYNWYD bod y tanwariant o fewn y fframwaith Datblygu Ardal yn cael ei gadw hyd ddechrau’r Rhaglen Datblgu Gwledig.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     MR. C.LL. EVERETT

 

     CADEIRYDD