|
|
Cyflwynwyd - yr adroddiadau canlynol mewn perthynas
â chynnydd gyda phrosiectau adfywio. Dywedodd y
Trysorydd ei bod yn ymrwymiad ar y Pwyllgor i dderbyn adroddiadau
monitro ynglyn â’r pum prosiect canlynol.
Mae’r prosiectau hyn bellach wedi dod i derfyn a mater
i’r Pwyllgor yw asesu os oeddent wedi rhoi gwerth am arian
i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dywedwyd mai pwrpas Monadfyw oedd cynnig arian cyfatebol i
bidiau Amcan 1 i ddatblygu canolfannau cymunedol amlbwrpas ac i
sefydlu’r Gronfa Buddsoddi Cymunedol. Pwrpas Monased
oedd creu cronfa allweddol y gallai Grwpiau Cymunedol, Cynghorau
Tref/Cymuned wneud cais am gyllid i wella adeiladau
cymunedol. Roedd adroddiadau terfynol ar y canlyniadau gafwyd
i Monadfyw a Monased ynghlwm wrth yr adroddiad.
|
|
|
|
Dywedodd Mr Gerallt Ll Jones, Rheolwr-gyfarwyddwr Menter
Môn mai swyddogaeth Monased oedd buddsoddi mewn asedau allan
yn y gymuned. Roedd y mwyafrif o’r safleoedd a
gefnogwyd gan y cynllun yn Fentrau Cymunedol neu Gynghorau Cymuned.
Roedd Monased wedi gwario dros £2m dros gyfnod o amser.
Roedd rhestr o’r rhai oedd wedi derbyn grantiau gan
Monased ynghlwm wrth yr adroddiad. Roedd Monadfyw yn
gysylltiedig ag arian refeniw ac arian cyfalaf, gyda rhan ohono ar
gyfer edrych am asedau economaidd newydd sy’n cael ond
ychydig ddefnydd o fewn y cymunedau. Roedd cyllid cyfalaf yn
cael ei ddefnyddio i gefnogi anghenion hyfforddiant yn
ogystal.
|
|
|
|
|
|
Roedd Mr Jones yn gobeithio bod y newidiadau a’r
gwelliannau a wnaed trwy Monadfyw a Monased yn parhau yn y
cymunedau. Roedd cynaliadwyaeth yn fater pwysig pan
fyddai’r cynlluniau’n cael eu llunio ac y byddai incwm
a gwaith yn cael eu cynhyrchu trwyddynt.
|
|
|
|
|
|
Roedd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Môn yn
falch o weld Mr Gerallt Ll Jones yn bresennol yn y cyfarfod.
Roedd yn nodi y dylai’r cynlluniau llwyddiannus hyn
gael cyhoeddusrwydd er mwyn dangos sut y mae Menter Môn
a’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi gweithio gyda’i
gilydd. Fodd bynnag, nododd ei fod yn dymuno gweld y ddwy ochr yn
cyfarfod yn fwy rheolaidd i drafod sut y mae’r cynlluniau yn
mynd yn eu blaenau.
|
|
|
|
|
|
Cyfeiriodd Mr Schofield at drosglwyddo asedau Pier
Porthaethwy a Biniau Copr Amlwch; yr oedd wedi cael ar ddeall nad
oedd y cynlluniau hyn wedi’u cwblhau; roedd arian
wedi’i roddi i’r cynlluniau hyn. Gofynnodd Mr
Schofield beth oedd yn digwydd ar hyn o bryd gyda’r
cynlluniau hyn. Dywedodd Mr Gerallt Ll Jones - o’i
safbwynt ef roedd Menter Môn wedi comisiynu gwaith dylunio
yng nghyswllt y cynlluniau hyn. Roedd tri chwarter o’r
gwaith o drosglwyddo’r asedau wedi mynd trwy’r drefn
rheolaethol o safbwynt nawdd gwladol. Roedd yr arian i
brynu’r cynlluniau hyn wedi’i drosglwyddo i gyfreithwyr
ac nid yw’r gweithredoedd am yr adeiladau wedi’u
trosglwyddo hyd yn hyn i Menter Môn. Gobeithir y bydd y
mater yn cael ei ddatrys o fewn yr ychydig wythnosau
nesaf.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd Mr Jones bod 75% o’r cyllid yn ei le i
ddatblygu Neuadd y Dref, Llangefni a bod angen tua £300k i
droi’r Neuadd yn fenter cymunedol i Ynys Môn.
Roedd Menter Môn tua 40% o’r ffordd tuag at
sicrhau cyllid i ddatblygu Porth Amlwch, ond roedd y cyllid ar
gyfer cynllun Pier Porthaethwy yn disgyn ar ôl. Mae
Llys Llywelyn wedi cael ei ddatblygu.
|
|
|
|
|
|
Mynegodd yr aelodau eu diolchgarwch i Menter Môn am
y gwaith y mae wedi’i wneud i ddenu grantiau i ardaloedd
gwledig. Mae’n bwysig cefnogi Menter Môn yn y
dyfodol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ÿ
|
derbyn yr adroddiad a diolch i Menter Môn am ei
waith yn denu grantiau i’r prosiectau y sonir amdanynt
uchod.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
bod cyhoeddusrwydd yn cael ei roddi i’r
gweithio ar y cyd sy’n digwydd rhwng yr Ymddiriedolaeth
Elusennol a Menter Môn yng nghyswllt cynlluniau Monadfyw /
Monased.
|
|
|
|
|
5.2
|
Swyddogion Datblygu Ardal
|
|
|
|
|
|
Dywedwyd bod y Fframwaith Datblygu Ardal yn darparu pump
swyddog Datblygu Ardal ar draws yr Ynys. Roedd dwy o’r
pum swydd yn cael eu hariannu gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol am
gyfnod o dair blynedd. Roedd yr arian i ddod i ben fis Awst
2007 ond fe gytunodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol i ddarparu
£277,280 tuag at y Fframwaith Datblygu Ardal. Y swm
gwirioneddol a wariwyd oedd £275,446.
|
|
|
|
|
|
Datblygwyd y Fframwaith Datblygu Ardal mewn ymateb
i’r nifer cynyddol o ffynhonnellau ariannu a’r
swyddogion sydd yn gweithredu ar yr Ynys. O ganlyniad
i’r twf yn y nifer o swyddogion, nid oedd y trefniadau gwaith
anffurfiol oedd yn bodoli yn ddigonol i sicrhau cyfathrebu a
chydweithio effeithiol ac i osgoi dyblygu ymdrech a gweithgaredd.
Mewn ymateb i’r sefyllfa, adnabu Uned Datblygu
Economaidd y Cyngor Sir, mewn partneriaeth ag Awdurdod Datblygu
Cymru, Menter Môn a Medrwn Môn, yr angen i ddatblygu
Fframwaith Ynys gyfan i wella effeithiolrwydd gweithgareddau.
Nid oedd y Fframwaith Datblygu Ardal yn creu nac yn darparu
adnoddau adfywio newydd ond yn gwella canlyniadau a’r modd o
weithredu adnoddau a gweithgareddau oedd yn bod yn barod.
Oherwydd amrywiol resymau roedd un o’r ddwy swydd
ariannwyd gan yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn wag am gyfnodau
helaeth yn ystod y dair blynedd. Gadawodd hyn arian yn
weddill yn y gyllideb ar ddiwedd Awst 2007 a chytunodd yr
Ymddiriedolaeth y gellid defnyddio hyn I ymestyn cyflogaeth tri
o’r swyddogion.
|
|
|
|
|
|
Yn ystod y cyfnod, gweithiodd y Swyddogion ariannwyd gan
yr Ymddiriedolaeth gyda phartneriaethau lleol I adnabod eu
hanghenion ac efo grwpiau cymunedol i ddatblygu a gweithredu amryw
o brosiectau ym Mhorthaethwy, Llangefni, Biwmares, Cemaes,
Llanfairpwll, Llandegfan, Amlwch, Moelfre, Benllech, Llanfechell a
Llannerchymedd. Yn ystod y cyfnod ychwanegol, parhaodd
swyddogion I weithio gyda grwpiau ar draws yr Ynys ar brosiectau
oedd wrthi’n cael eu gweithredu ac ar ddatblygu prosiectau I
gael eu gweithredu o dan y Cynllun Datblygu Gwledig. Gyda
chymorth y Swyddogion hyn sicrhawyd cyllid ar gyfer ystod eang o
weithgareddau. Mae’r rhain yn cynnwys astudiaethau
cynllunio ar arwyddion yn Amlwch; gwelliannau canol tref a meysydd
chwarae yn Llangefni; arian i adnewyddu Neuadd Bentref Llandegfan a
Neuadd Prichard Jones yn Niwbwrch. Sicrhawyd cyllid hefyd ar
gyfer nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys Gwyl y Llychlynwyr,
digwyddiadau Telford 250, Gwyl Gelf Llanfairpwll a Gwyl Hydref
Benllech. Roedd y deilliannau allweddol yn cynnwys cyfanswm o
£9,877,600 o gyllid a gafwyd i brosiectau.
|
|
|
|
|
|
Nid oes amheuaeth bod presenoldeb y Swyddogion Datblygu yn
gweithio gyda’r cymunedau I adnabod anghenion ac i weithio
gyda hwy wedi bod yn fendithiol o ran codi cynhwysedd, a darparu
cefnogaeth i ddatblygu a gweithredu prosiectau. Ymddengys bod
yr egwyddor o gael Swyddog lleol yn arwain ym mhob un o
ddatgylchoedd yr ysgolion uwchradd wedi bod yn ffordd effeithiol o
leihau dyblygu ac o ddarparu un pwynt cyswllt ar gyfer cymunedau.
Er gwaethaf cyfarfodydd rheolaidd a dulliau anffurfiol eraill
o gyfathrebu, amharwyd ar rannu gwybodaeth rhwng Swyddogion
oherwydd y ffaith eu bod wedi eu cyflogi gan dri sefydliad
gwahanol. Ni lwyddodd y Fframwaith Datblygu Ardal oresgyn yn
llwyr y gwahaniaethau mewn diwylliant rhwng y tri sefydliad
gwahanol oedd yn cymryd rhan.
|
|
|
|
|
|
O dan y rownd bresennol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd mae
gweithgareddau datblygu cymunedol yn cael eu hariannu trwy’r
Cynllun Datblygu Gwledig yn hytrach na’r Cronfeydd
Strwythurol fel o’r blaen. Mae i’r Cynllun
Datblygu Gwledig ffordd newydd o weithio gan gynnwys cydymffurfio
gyda gofynion penodol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r gofynion yma o du Llywodraeth Cynulliad Cymru yn
golygu nad yw’r Fframwaith Datblygu Ardal yn cyd-fynd
a’r Cynllun Datblygu Gwledig. Holodd Cadeirydd yr
Ymddiriedolaeth Elusennol beth oedd y rhesymau am hyn.
Dywedodd Cydlynydd Cynllun Datblygu Gwledig nad oedd y
rhwydwaith yn gydnaws; bu’r gwaith a wnaed gan y Swyddogion
Datblygu Ardal yn help mawr i symud prosiectau yn eu blaen ar gyfer
cyllid o dan y Cynllun Datblygu Gwledig. Nododd Mr Schofield
nad oedd yn barnu’r gwaith oedd wedi’i wneud yn barod
ond yn hytrach yn gofyn am i adroddiad gael ei gyflwyno mewn
cyfarfod yn y dyfodol mewn perthynas â’r rhwydwaith
cydymffurfio fel y gallai’r cyfarfod wybod pa gynlluniau
sy’n gymwys ai peidio.
|
|
|
|
|
|
Adroddwyd ymhellach - gosododd y gwaith ymgymerwyd o dan y
Fframwaith Datblygu Gwledig y sylfaen i gais llwyddiannus am
£4.2m trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer
gweithgareddau datblygu cymunedol ar Ynys Môn.
|
|
|
|
|
|
Er na lwyddodd I oresgyn y rhwystrau rhwng y tri sefydliad
oedd yn rhan ohono yn llwyr, fe lwyddodd y Fframwaith Datblygu
Ardal I wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyfathrebu
rhyngddynt; I leihau dyblygu; ac i ddarparu ffordd symlach I
gymunedau gael mynediad at gymorth. Gyda chymorth y
Swyddogion Datblygu Ardal roedd cymunedau yn gallu datblygu a
gweithredu prosiectau fyddai fel arall naill ai ddim wedi digwydd
neu fyddai wedi cymryd llawer mwy o amser I ddigwydd. Mae
newidiadau yn y cyfleoedd ariannu wedi gweithio yn erbyn parhad y
Fframwaith Datblygu Ardal, er bod elfennau yn dal i gael eu
gweithredu o dan y Cynllun Datblygu Gwledig.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd bod y cynllun hwn wedi dechrau yn
2002 ac mai’r weledigaeth oedd y byddai’r rhwydwaith
hwn o Swyddogion ar draws yr Ynys; ac y byddant yn cael eu cyflogi
gan wahanol fudiadau. Nododd bod anawsterau wedi codi yn y
cynllun wrth i un mudiad dynnu nol o’r rhaglen. Nododd bod
cofnodion y cyfarfod diwethaf yn cyfeirio at y drafodaeth ynglyn
â’r Cynllun Datblygu Gwledig lle roedd y Pwyllgor wedi
cydnabod yr angen am gyllid a chostau gweinyddol yn ogystal â
phrosiectau penodol.
|
|
|
|
|
|
Dywedodd yr Is-Gadeirydd y byddai wedi hoffi gweld beth
oedd deilliannau allweddol y cynllun o fewn yr adroddiad.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dywedwyd mai pwrpas y cyllid i’r Deyrnas Gopr oedd
rhoi arian cyfatebol ar gyfer astudiaeth dichonolrwydd i ddatblygu
Porth Amlwch a Mynydd Parys yn atyniad mawr i dwristiaid.
Roedd grant o £75,000 wedi’i roi gan yr
Ymddiriedolaeth Elusennol a £10k ychwanegol wedi’i
ryddhau yn 2005 tuag at gostau cyfreithiol.
|
|
|
|
|
|
Nododd adroddiad a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth
Treftadaeth Diwydiannol Amlwch ei fod wedi elwa’n fawr o
grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn mewn perthynas
â’i gynigion ar gyfer Mynydd Parys a Phorth Amlwch -
Prosiect y Deyrnas Gopr. Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys
Môn wedi rhoi cyllid i Ymddiriedolaeth Treftadaeth
Diwydiannol Amlwch i gefnogi datblygu eu gweledigaeth ar gyfer
Porth Amlwch a Mynydd Parys. Mae datblygu’r weledigaeth
a gafwyd yn yr adroddiadau a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth
Treftadaeth wedi eu galluogi i adnabod yn glir y posibiliadau
treftadaeth a thwristiaeth sy’n codi o hanes diwydiannol
Amlwch. O ganlyniad, mae hyn wedi arwain i gymeradwyaeth
grant Interreg gan yr Undeb Ewropeaiddd gyda gwerth o
£383k.
|
|
|
|
|
|
Defnyddiwyd yr arian hwn i uwchraddio’r cyfleusterau
a’r profiad i’r ymwelwyr yn bennaf yn y ‘Sail
Loft’. Un canlyniad ydi fod yr Ymddiriedolaeth
Treftadaeth wedi ennill achrediad VAQAS - Gwasanaeth Sicrwydd
Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr Cymru ac aelodaeth o grwp Atyniadau Ynys
Môn. Mae’r safonau hyn yn golygu profiad ymwelwyr
gwell ac yn denu ymweliadau pellach a’r dref. Yn
ddymunol, mae’r haf hwn wedi gweld cynnydd yn nifer yr
ymwelwyr a’r derbyniadau. Mae Cyngor Sir Ynys Môn
wedi cynhyrchu dogfen sy’n dangos sut mae gwaith
Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch yn hyrwyddo’r
weledigaeth o ddefnyddio treftadaeth ddiwydiannol Amlwch. Mae
hwn wedi ei fabwysiadu gan y sector gyhoeddus ac mae nawr yn cael
ei ddefnyddio fel modd o gydweithio ac ar gyfer ceisiadau am gyllid
fydd yn ystod y 12-18 mis nesaf yn gweld buddsoddiad sylweddol yn
Amlwch.
|
|
|
|
|
|
Nododd y Trysorydd bod y prosiect hwn wedi’i newid
ar sawl achlysur a bod adroddiadau wedi’u cyflwyno i’r
Pwyllgor hwn ynglyn â’r newidiadau hynny. Mae
gwaith pellach i’w wneud ym Mhorth Amlwch ar dir yr
Ymddiriedolaeth Elusennol ei hun er mwyn matsio’r cynlluniau
gwreiddiol i ddatblygu’r ardal.
|
|
|
|
|
|
Nododd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol nad oedd y
wybodaeth ynglyn â niferoedd yr ymwelwyr a’r
derbyniadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad gan
Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch; roedd yn credu y
dylai’r Ymddiriedolaeth Elusennol gael y wybodaeth oherwydd
bod yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth wedi cael grant sylweddol gan yr
Ymddiriedolaeth. Dywedodd y Trysorydd bod yr Ymddiriedolaeth
Elusennol wedi rhoi grant o £74,000 i Ymddiriedolaeth
Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch ac roedd yn cydnabod nad oedd yr
adroddiad yn rhoi’r holl wybodaeth oedd ei hangen gan yr
Ymddiriedolaeth Elusennol. Y prif ganlyniad ddaeth o’r
cynllun yw bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi derbyn Cynllun
Rheoli Cadwraeth; ymchwil oedd hwn ar yr wybodaeth hanesyddol ar
Fynydd Parys ac roedd copiau o’r Cynllun yn y llyfrgelloedd
lleol ar yr Ynys er mwyn i’r cyhoedd ei weld.
|
|
|
|
|
|
Roedd Mr Selwyn Williams yn ystyried y dylid rhoddi mwy o
wybodaeth ffeithiol i’r Ymddiriedolaeth Elusennol ynglyn
â’r cynllun hwn.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
|
|
|
5.4
|
Canolfan Sgiliau Amlwch
|
|
|
|
|
|
Adroddwyd mai pwrpas ariannu Canolfan Sgiliau Amlwch I
ddarparu hyfforddiant galwedigaethol rhagbaratoawl i bobl ifanc
mewn peryg o anniddigrwydd, rhai sy’n brin o gymhelliad ac
nad yw’r cyfleoedd hyfforddi a gwaith sy’n bodoli yn
briodol. Y grant a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolaeth
Elusennol oedd £50k.
|
|
|
|
|
|
Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd gan Canolfan Sgiliau
Amlwch yn nodi bod y Prosiect Sgiliau 16+ Amlwch sy’n cael ei
gyllido gan arian Ewropeaidd Amcan 1 ESF ac arian cyfatebol gan
Cymunedau’n Gyntaf ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys
Môn, yn disgyn o dan Hyfforddiant Parys Training Cyf., a
Phartneriaeth Adfywio Amlwch. Mae’r prosiect wedi cael
llwyddiant ysgubol, gyda’i nod o daclo materion pobl ifanc
sydd gyda hunan barch isel a’u helpu yn eu datblygiad
personol a gyda’u gyrfaoedd. Fe roddodd y prosiect ei
enw ymlaen am Wobr mewn Cystadleuaeth gan yr NSPCC ac fe lwyddodd i
gael 6 gwobr. Un o’r Prosiectau Cymunedol roedd Sgiliau
Amlwch 16+ wedi gweithio gyda hwy oedd Cyfeillion y Wiwer Goch Ynys
Môn oedd yn ymwneud ag adeiladu dros 25 o focsys nythu i
wiwerod; mae’r rhain yn awr yn cael eu defnyddio mewn
coedwigoedd ar draws Ynys Môn. Hefyd fe weithiodd Our
Patch BBC Cymru gyda Sgiliau Amlwch 16+ i lunio erthygl i’w
gwefan ar faterion cymunedol.
|
|
|
|
|
Mae’r Prosiect hefyd
wedi cysylltu ei hun gyda Chyngor Sir Ynys Môn gan gymryd
rhan mewn trafodaeth Pobl Ifanc, lle y byddai eu
safbwyntiau’n cael eu cymryd i ystyriaeth a’u defnyddio
fel topigau yn yr ysgolion lleol gan staff y Cyngor. Am y
trydydd flwyddyn yn olynol fe wnaeth y Prosiect Dorchau Nadolig ac
Addurniadau’r Bwrdd Nadolig fel rhan o waith y cwrs gan eu
dosbarthu ymysg mudiadau lleol fel gweithred ewyllys da.
|
|
|
|
Ym Mai 2008 fe roddwyd
estyniad i’r Prosiect gan WEFO hyd Rhagfyr 2008. Bydd y
newidiadau yn caniatáu i 20 ychwanegol gael budd o’r
rhaglen fydd yn ei dro yn golygu cyfanswm o 75 o gyfranogwyr.
Fe grybwyllwyd nifer o weithgareddau eraill o fewn yr
adroddiad am waith y Ganolfan Sgiliau dros y
blynyddoedd.
|
|
|
|
Roedd yr Aelodau’n
gwerthfawrogi’r adroddiad llawn a gyflwynwyd gan Ganolfan
Sgiliau Amlwch a hefyd yr hyn yr oedd y Ganolfan wedi’i
wneud. Fodd bynnag, nodwyd y byddai wedi cael ei werthfawrogi
pe bai cynrychiolydd o’r Ganolfan yn bresennol yn y cyfarfod.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad.
|
|
|
|
5.5
Cymunedau Môn - Coleg
Harlech/WEA
|
|
|
|
Adroddwyd mai pwrpas
ariannu Cymunedau Môn oedd i sefydlu rhaglen o gyrsiau byr a
chyrsiau achrededig hirach i aelodau o grwpiau cymunedol a’r
rhai sy’n helpu mewn grwpiau cymunedol. Bydd hyn yn
caniatau i aelodau o gymunedau difreintiedig ar yr Ynys weithio
gyda’u cymunedau i rhyddhau’r prosiectau yn eu
cymunedau.
|
|
|
|
Roedd yr adroddiad
gyflwynwyd gan Cymunedau Môn yn nodi bod cyrsiau megis
gwirfoddoli yn eich Cymuned, Cynllunio a Threfnu Digwyddiadau Codi
Arian a gwneud cais am gyllid i gyd yn adeiladu’n
uniongyrchol ar hunan gynaliadwyaeth y dosbarthiadau tra roedd y
dosbarthiadau adeiladu hyder yn helpu i ddatblygu unigolion o fewn
y gymuned i allu cyfranogi mwy. Roedd y prosiect yn bennaf yn
targedu rhai gyda sail sgiliau isel a rhai sy’n cael eu
heithrio’n gymdeithasol a rhai difreintiedig, a thrwy wneud
hyn mae nifer yr aelodau yn awr wedi datblygu sgiliau sy’n eu
galluogi hwy i ddod yn aelodau mwy bywiog a gweithgar yn eu
cymunedau.
|
|
|
|
Roedd y prosiect wedi
helpu i gyfrannu tuag at nodau’r SDP trwy roi i bobl a
chymunedau’r sgiliau i ymladd yn erbyn unrhyw eithrio
trwy’r nifer o gyrsiau amrywiol ond hefyd trwy’r
gefnogaeth fawr yr oedd y prosiect wedi’i chynnig i gyrsiau
yn yr iaith Gymraeg, sydd wedi helpu pobl oedd cyn hynny wedi
dioddef oherwydd y rhwystr ieithyddol ond sydd yn awr yn gallu
cyfrannu’n llawer mwy yn eu cymuned ac y mae ganddynt fwy o
hyder wrth wneud cais am waith.
|
|
|
|
Cafodd y prosiect ei
farchnata a’i ddatblygu gan Dîm Ardal Môn,
fu’n gweithio’n agos gyda’r cymunedau ar yr ynys
ac ardaloedd blaenoriaeth 3. Fe wnaethon nhw sicrhau bod
arian y prosiect wedi’i dargedu at rhai yn y gymuned oedd
angen y gefnogaeth hon i ddatblygu ei sgiliau mewn maes
arbennig.
|
|
|
|
Cynhaliwyd prosiectau
adeiladu capasiti llwyddiannus iawn ar Ynys Môn yn
cynnwys:-
|
|
|
|
Caergybi
- gweithwyd yn agos gyda Cysylltiadau Gwaith
ar fenter rhiant unigol, yn cynnig cyrsiau adeiladu hyder; gydag
Ymddiriedolaeth Cyfleon Caergybi i ddarparu sgiliau swyddi a
chyrsiau datblygiad personol i weithwyr gwirfoddol / diwaith o oed
grwp ieuengach. Bu’r prosiect yn gweithio’n agos
gyda Mind yng Nghaergybi oedd yn darparu cyrsiau Celf i oedolion
bregus.
|
|
|
|
Yn y wardiau
Cymunedau’n Gyntaf, roedd y prosiect yn abl i weithio gyda
Morlo a Porthyfelin ar eu prosiect prentisiaeth i ddarparu cwrs
gwirfoddoli cymunedol, grwp gwirfoddol ym Maeshyfryd, darparu
Sgiliau TG i wirfoddolwyr a hefyd Cymraeg i wirfoddolwyr. Ym
Morawelon, fe ddatblygwyd prosiect menter crefft.
|
|
|
|
Yn Wardiau Morawelon
a’r Dref fe ddatblygwyd rhaglen ‘Menter Twrci Nadolig /
Operation Christmas Turkey’, yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu
sgiliau coginio.
|
|
|
|
Plas Cybi - wedi gallu
cynnig ystod eang o gyrsiau i rai’n gwirfoddoli ac yn codi
arian. Morawelon - am 2 flynedd, roedd y prosiect yn gallu
cefnogi sesiynau blasu Wythnos Dysgwyr Oedolion gan annog dysgwyr
newydd i gymryd rhan.
|
|
|
|
Amlwch
- wedi gallu cefnogi grwp Ysgrifennu Creadigol
i gyhoeddi dewis o’u storïon byrion a’u
barddoniaeth mewn llyfr gafodd wedyn ei ddosbarthu am ddim ar draws
Ynys Môn.
|
|
|
|
Llangefni
- yn y Ward Cymunedau’n Gyntaf bu nifer
o brosiectau adeiladu capasiti. Mae gwaith hefyd wedi’i
wneud gyda’r Grwp Strategol Pobl Hyn ar Ynys Môn i
ddatblygu cyfres o gyrsiau gyda’r bwriad o helpu dynion dros
50 gyda’u sgiliau coginio, ac fe wnaed hyn yng Nghaergybi,
Brynteg ac Amlwch.
|
|
|
|
Cynllun hefyd yn hyrwyddo
Byw’n Iach a dysgu Cymraeg ar draws ysgolion ar Ynys
Môn yn bennaf yn Bodorgan, Bryngwran, Amlwch a Mechell gan
weithio gyda Cynllun Bro Ysgol.
|
|
|
|
PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad.
|
|
|
|
6
|
CYD-GYLLIDO RHAN 2 - CYNLLUN DATBLYGU GWLEDIG
2006/2013
|
|
|
|
|
Cyflwynwyd - gohebiaeth a
dderbyniwyd gan Menter Môn mewn perthynas â’r
posibilrwydd o gyfraniad cyllidol ar gyfer ail gyfnod y Cynllun
Datblygu Gwledig.
|
|
|
|
Dywedodd
Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn y bydd y cyfnod cyntaf
presennol yn dod i ben ddechrau 2011; roedd y Cyngor Sir wedi
cyfrannu tuag at gyfnod cyntaf Axis 4 o’r gyllideb Datblygu
Economaidd, a maent yn chwilio am swm debyg tuag at yr ail gyfnod
2011/2013. Fe gafwyd cyllid hefyd gan yr Ymddiriedolaeth
Elusennol tuag at brosiectau yn ymwneud â’r gymuned o
dan Axis 3; gofynnwyd am gyfraniad tebyg.
|
|
|
|
Nododd bod yr
Ymddiriedolaeth Elusennol wedi caniatáu grant o
£300,000 tuag at arian cyfatebol Cynllun Datblygu Gwledig
Menter Môn. Mae’r cyllid hwn wedi denu
£4.2m o ffynonellau eraill e.e. Cyllid Ewropeaidd a’r
Cynulliad. Rhai prosiectau oedd wedi elwa o’r cynllun
oedd : Mona Antiqua Restorata, Amgylchedd Tref a Pentref Prosiect,
Datblygu Gwasanaethau mewn Ardaloedd Gwledig.
|
|
|
|
Dywedodd y Trysorydd - pan
gafodd cronfeydd adfywio eu clustnodi gyntaf yn 2002 roedd
buddsoddiad yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn bell uwchben ei darged.
Fe ddisgynnodd y farchnad stoc yn sylweddol ac fe gafodd yr
arian adfywio ei rewi, wedi i’r farchnad stoc adennill
ychydig o dir fe ryddhawyd £300,000 i Cyfnod 2 y Cynllun
Datblygu Gwledig. Unwaith yn rhagor mae’r marchnadoedd
stoc wedi disgyn a bydd rhaid oedi’r cyllid adfywio. Yn
ystod yr ychydig fisoedd diwethaf mae’r buddsoddiad wedi codi
ychydig a gwerth portffoli’r Ymddiriedolaeth yw oddeutu
£12m. Oherwydd yr ansicrwydd ariannol presennol roedd y
Trysorydd yn teimlo na fyddai’n gallu argymell rhyddhau
cyllid ychwanegol i brosiectau adfywio ar hyn o bryd. Fodd
bynnag, rhaid ystyried cynlluniau wrth gefn os bydd y marchnadoedd
ariannol yn parhau i wella.
|
|
|
|
Nododd yr Is-Gadeirydd, Mr
Kenneth Hughes y byddai wedi hoffi gweld mwy o fanylion ynglyn
â Chyfnod 1 y cynllun ac ynglyn â sut yr oedd yr arian
wedi’i wario.
|
|
|
|
Cytunodd Cadeirydd yr
Ymddiriedolaeth Elusennol gyda Mr Hughes bod angen mwy o wybodaeth
ynglyn â’r cynllun. Nododd bod cyfansoddiad yr
Ymddiriedolaeth Elusennol yn dweud bod yn rhaid i werth buddsoddiad
gadw ar y blaen i’r ffactor chwyddiant o’r dechreuad.
Os bydd gwerth y gronfa wedi mynd i lawr yn unol â
graddfa chwyddiant ni fydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn gallu
rhyddhau’r arian heb newid ei gyfansoddiad. Mae yna
bwysau arall ar yr Ymddiriedolaeth i ryddhau arian ar gyfer
gweithgareddau eraill hefyd.
|
|
|
|
Nododd Mr Selwyn Williams
y byddai wedi hoffi gweld cynllun busnes a hefyd y mathau o
brosiectau cynaliadwy yr oedd Menter Môn yn eu hystyried fel
rhan o’r cynllun hwn. Dywedodd Rheolwr-gyfarwyddwr
Menter Môn mai dim ond llythyr o gyflwyniad oedd hwn
gyflwynwyd i gyfarfod heddiw, mae gwaith yn mynd ymlaen ar y
cynllun busnes rhwng Menter Môn a’r Adran Datblygu
Economaidd. Nododd y Trysorydd mai rhywbeth rhagarweiniol yw
hwn i’r Ymddiriedolaeth Elusennol. Fe ddylai’r
Ymddiriedolaeth Elusennol ystyried pa gynlluniau adfywio yr oedd yn
dymuno eu cefnogi yn y dyfodol. Dywedodd Cadeirydd yr
Ymddiriedolaeth Elusennol y dylid gweithio’n agosach gyda
Menter Môn gan y gall £1 o gyllid gan yr
Ymddiriedolaeth ddenu £14 o arian cyfatebol.
|
|
|
|
Dywedodd Mr Lewis Davies
ei fod yn cefnogi’r cynllun gan bod Menter Môn wedi
cael llwyddiant mawr yn denu cyllid ar gyfer cynlluniau gwledig
dros y blynyddoedd. Dywedodd ymhellach bod yn rhaid cymryd
mantais lawn o gyllid cynllun datblygu gwledig cyfnod 2 oherwydd na
fydd arian Ewrop ar gael mewn ychydig o flynyddoedd.
|
|
|
|
Dywedodd y Cadeirydd, Mr J
P Williams nad oedd yn dymuno gweld yr Ymddiriedolaeth yn
colli’r cyfle i ddenu mwy o arian o Ewrop. Holodd am y
posibilrwydd o gael amserlen o ddyddiau erbyn pryd y bydd yn rhaid
i’r Ymddiriedolaeth Elusennol wneud penderfyniad os oedd yn
dymuno cefnogi’r cynllun. Dywedodd y Cydlynydd Cynllun
Datblygu Gwledig bod amserlen wedi’i chyhoeddi a bod yr Uned
Ddatblygu Economaidd ar hyn o bryd yn ymchwilio i mewn i syniadau
am brosiectau i’w rhoi ymlaen i dderbyn cyllid. Rhaid
cyflwyno pob mynegiant o ddiddordeb erbyn 1 Mawrth, 2010; bydd y
prosiectau’n cael eu sgriwtineiddio i weld pa rai sy’n
cynnig y gwerth gorau ac yn sgorio orau ar wahanol feini prawf.
Bydd y Cynulliad yn cyhoeddi’r prosiectau sydd wedi’u
cymeradwyo ym Mawrth 2011.
|
|
|
|
Yn dilyn trafodaethau
pellach PENDERFYNWYD:-
|
|
|
|
Ÿ
|
nodi’r cais am gyllid tuag at Cyfnod 2 y
Cynllun Datblygu Gwledig.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
gofyn i’r Trysorydd gysylltu gyda Menter
Môn ynglyn â ffyrdd y gall dyheadau’r
Ymddiriedolaeth Elusennol gael eu gwireddu yn y math hwn o
gais.
|
|
|
Ÿ
|
adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf o’r
Ymddiriedolaeth Elusennol llawn i ddweud y bydd gwaith yn dechrau
gan y Pwyllgor hwn ar gynlluniau tebygol allai fod yn gymwys i
dderbyn cyllid o’r Cynllun Datblygu Gwledig.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
MR JOHN PENRI
WILLIAMS
|
|
CADEIRYDD
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|