Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. dogfennau , 11 Tachwedd 2009

Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr.
Dydd Mercher, 11eg Tachwedd, 2009

YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN

 

PWYLLGOR ADFYWIO

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Tachwedd, 2009  

 

YN BRESENNOL:

 

Y Mri. Lewis Davies, Kenneth P. Hughes, G.O. Parry MBE,

J. Arwel Roberts, John Penri Williams, Selwyn Williams.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Trysorydd,

Cydlynydd Cynllun Datblygu Gwledig (EJ),

Swyddog Pwyllgor (MEH).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Mr. C.Ll. Everett, Mrs. Fflur M. Hughes, Mr. Bryan Owen.

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr. Elwyn Schofield - Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn,

Mr. Gerallt Ll. Jones - Rheolwr-gyfarwyddwr (Menter Môn).

 

1

CADEIRYDD

 

Ail-etholwyd Mr. John Penri Williams yn Gadeirydd.

 

2

IS-GADEIRYDD

 

Ail-etholwyd Mr. Kenneth P. Hughes yn Is-Gadeirydd.

 

3

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Datganodd Mr. J. Arwel Roberts ddiddordeb yn Eitem 5(a) gan ei fod yn Aelod o Morlo sydd wedi derbyn grantiau gan Menter Môn.

 

4

COFNODION

 

Cadarnhawyd - cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr, 2009 fel rhai cywir.

 

5

PROSIECTAU ADFYWIO - CYNNYDD

 

 

Cyflwynwyd - yr adroddiadau canlynol mewn perthynas â chynnydd gyda phrosiectau adfywio.  Dywedodd y Trysorydd ei bod yn ymrwymiad ar y Pwyllgor i dderbyn adroddiadau monitro ynglyn â’r pum prosiect canlynol.  Mae’r prosiectau hyn bellach wedi dod i derfyn a mater i’r Pwyllgor yw asesu os oeddent wedi rhoi gwerth am arian i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

 

 

5.1

Monadfyw/Monased

 

 

 

Dywedwyd mai pwrpas Monadfyw oedd cynnig arian cyfatebol i bidiau Amcan 1 i ddatblygu canolfannau cymunedol amlbwrpas ac i sefydlu’r Gronfa Buddsoddi Cymunedol.  Pwrpas Monased oedd creu cronfa allweddol y gallai Grwpiau Cymunedol, Cynghorau Tref/Cymuned  wneud cais am gyllid i wella adeiladau cymunedol.  Roedd adroddiadau terfynol ar y canlyniadau gafwyd i Monadfyw a Monased ynghlwm wrth yr adroddiad.  

 

Dywedodd Mr Gerallt Ll Jones, Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn mai swyddogaeth Monased oedd buddsoddi mewn asedau allan yn y gymuned.  Roedd y mwyafrif o’r safleoedd a gefnogwyd gan y cynllun yn Fentrau Cymunedol neu Gynghorau Cymuned.  Roedd Monased wedi gwario dros £2m dros gyfnod o amser.  Roedd rhestr o’r rhai oedd wedi derbyn grantiau gan Monased ynghlwm wrth yr adroddiad.  Roedd Monadfyw yn gysylltiedig ag arian refeniw ac arian cyfalaf, gyda rhan ohono ar gyfer edrych am asedau economaidd newydd sy’n cael ond ychydig ddefnydd o fewn y cymunedau.  Roedd cyllid cyfalaf yn cael ei ddefnyddio i gefnogi anghenion hyfforddiant yn ogystal.

 

 

 

Roedd Mr Jones yn gobeithio bod y newidiadau a’r gwelliannau a wnaed trwy Monadfyw a Monased yn parhau yn y cymunedau.  Roedd cynaliadwyaeth yn fater pwysig pan fyddai’r cynlluniau’n cael eu llunio ac y byddai incwm a gwaith yn cael eu cynhyrchu trwyddynt.

 

 

 

Roedd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Môn yn falch o weld Mr Gerallt Ll Jones yn bresennol yn y cyfarfod.  Roedd yn nodi y dylai’r cynlluniau llwyddiannus hyn gael cyhoeddusrwydd er mwyn dangos sut y mae Menter Môn a’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi gweithio gyda’i gilydd. Fodd bynnag, nododd ei fod yn dymuno gweld y ddwy ochr yn cyfarfod yn fwy rheolaidd i drafod sut y mae’r cynlluniau yn mynd yn eu blaenau.

 

 

 

Cyfeiriodd Mr Schofield at drosglwyddo asedau Pier Porthaethwy a Biniau Copr Amlwch; yr oedd wedi cael ar ddeall nad oedd y cynlluniau hyn wedi’u cwblhau; roedd arian wedi’i roddi i’r cynlluniau hyn.  Gofynnodd Mr Schofield beth oedd yn digwydd ar hyn o bryd gyda’r cynlluniau hyn.  Dywedodd Mr Gerallt Ll Jones - o’i safbwynt ef roedd Menter Môn wedi comisiynu gwaith dylunio yng nghyswllt y cynlluniau hyn.  Roedd tri chwarter o’r gwaith o drosglwyddo’r asedau wedi mynd trwy’r drefn rheolaethol o safbwynt nawdd gwladol.  Roedd yr arian i brynu’r cynlluniau hyn wedi’i drosglwyddo i gyfreithwyr ac nid yw’r gweithredoedd am yr adeiladau wedi’u trosglwyddo hyd yn hyn i Menter Môn.  Gobeithir y bydd y mater yn cael ei ddatrys o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

 

 

 

Dywedodd Mr Jones bod 75% o’r cyllid yn ei le i ddatblygu Neuadd y Dref, Llangefni a bod angen tua £300k i droi’r Neuadd yn fenter cymunedol i Ynys Môn.  Roedd Menter Môn tua 40% o’r ffordd tuag at sicrhau cyllid i ddatblygu Porth Amlwch, ond roedd y cyllid ar gyfer cynllun Pier Porthaethwy yn disgyn ar ôl.  Mae Llys Llywelyn wedi cael ei ddatblygu.

 

 

 

Mynegodd yr aelodau eu diolchgarwch i Menter Môn am y gwaith y mae wedi’i wneud i ddenu grantiau i ardaloedd gwledig.  Mae’n bwysig cefnogi Menter Môn yn y dyfodol.

 

 

 

PENDERFYNWYD

 

 

 

Ÿ

derbyn yr adroddiad a diolch i Menter Môn am ei waith yn denu grantiau i’r prosiectau y sonir amdanynt uchod.

 

 

 

Ÿ

bod cyhoeddusrwydd yn cael ei roddi i’r gweithio ar y cyd sy’n digwydd rhwng yr Ymddiriedolaeth Elusennol a Menter Môn yng nghyswllt cynlluniau Monadfyw / Monased.

 

 

 

5.2

Swyddogion Datblygu Ardal

 

 

 

Dywedwyd bod y Fframwaith Datblygu Ardal yn darparu pump swyddog Datblygu Ardal ar draws yr Ynys.  Roedd dwy o’r pum swydd yn cael eu hariannu gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol am gyfnod o dair blynedd.  Roedd yr arian i ddod i ben fis Awst 2007 ond fe gytunodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol i ddarparu £277,280 tuag at y Fframwaith Datblygu Ardal.  Y swm gwirioneddol a wariwyd oedd £275,446.

 

 

 

Datblygwyd y Fframwaith Datblygu Ardal mewn ymateb i’r nifer cynyddol o ffynhonnellau ariannu a’r swyddogion sydd yn gweithredu ar yr Ynys.  O ganlyniad i’r twf yn y nifer o swyddogion, nid oedd y trefniadau gwaith anffurfiol oedd yn bodoli yn ddigonol i sicrhau cyfathrebu a chydweithio effeithiol ac i osgoi dyblygu ymdrech a gweithgaredd.  Mewn ymateb i’r sefyllfa, adnabu Uned Datblygu Economaidd y Cyngor Sir, mewn partneriaeth ag Awdurdod Datblygu Cymru, Menter Môn a Medrwn Môn, yr angen i ddatblygu Fframwaith Ynys gyfan i wella effeithiolrwydd gweithgareddau.  Nid oedd y Fframwaith Datblygu Ardal yn creu nac yn darparu adnoddau adfywio newydd ond yn gwella canlyniadau a’r modd o weithredu adnoddau a gweithgareddau oedd yn bod yn barod.  Oherwydd amrywiol resymau roedd un o’r ddwy swydd ariannwyd gan yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn wag am gyfnodau helaeth yn ystod y dair blynedd.  Gadawodd hyn arian yn weddill yn y gyllideb ar ddiwedd Awst 2007 a chytunodd yr Ymddiriedolaeth y gellid defnyddio hyn I ymestyn cyflogaeth tri o’r swyddogion.

 

 

 

Yn ystod y cyfnod, gweithiodd y Swyddogion ariannwyd gan yr Ymddiriedolaeth gyda phartneriaethau lleol I adnabod eu hanghenion ac efo grwpiau cymunedol i ddatblygu a gweithredu amryw o brosiectau ym Mhorthaethwy, Llangefni, Biwmares, Cemaes, Llanfairpwll, Llandegfan, Amlwch, Moelfre, Benllech, Llanfechell a Llannerchymedd.  Yn ystod y cyfnod ychwanegol, parhaodd swyddogion I weithio gyda grwpiau ar draws yr Ynys ar brosiectau oedd wrthi’n cael eu gweithredu ac ar ddatblygu prosiectau I gael eu gweithredu o dan y Cynllun Datblygu Gwledig.  Gyda chymorth y Swyddogion hyn sicrhawyd cyllid ar gyfer ystod eang o weithgareddau.  Mae’r rhain yn cynnwys astudiaethau cynllunio ar arwyddion yn Amlwch; gwelliannau canol tref a meysydd chwarae yn Llangefni; arian i adnewyddu Neuadd Bentref Llandegfan a Neuadd Prichard Jones yn Niwbwrch.  Sicrhawyd cyllid hefyd ar gyfer nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys Gwyl y Llychlynwyr, digwyddiadau Telford 250, Gwyl Gelf Llanfairpwll a Gwyl Hydref Benllech.  Roedd y deilliannau allweddol yn cynnwys cyfanswm o £9,877,600 o gyllid a gafwyd i brosiectau.

 

 

 

Nid oes amheuaeth bod presenoldeb y Swyddogion Datblygu yn gweithio gyda’r cymunedau I adnabod anghenion ac i weithio gyda hwy wedi bod yn fendithiol o ran codi cynhwysedd, a darparu cefnogaeth i ddatblygu a gweithredu prosiectau.  Ymddengys bod yr egwyddor o gael Swyddog lleol yn arwain ym mhob un o ddatgylchoedd yr ysgolion uwchradd wedi bod yn ffordd effeithiol o leihau dyblygu ac o ddarparu un pwynt cyswllt ar gyfer cymunedau.  Er gwaethaf cyfarfodydd rheolaidd a dulliau anffurfiol eraill o gyfathrebu, amharwyd ar rannu gwybodaeth rhwng Swyddogion oherwydd y ffaith eu bod wedi eu cyflogi gan dri sefydliad gwahanol.  Ni lwyddodd y Fframwaith Datblygu Ardal oresgyn yn llwyr y gwahaniaethau mewn diwylliant rhwng y tri sefydliad gwahanol oedd yn cymryd rhan.

 

 

 

O dan y rownd bresennol o gyllid yr Undeb Ewropeaidd mae gweithgareddau datblygu cymunedol yn cael eu hariannu trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig yn hytrach na’r Cronfeydd Strwythurol fel o’r blaen.  Mae i’r Cynllun Datblygu Gwledig ffordd newydd o weithio gan gynnwys cydymffurfio gyda gofynion penodol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae’r gofynion yma o du Llywodraeth Cynulliad Cymru yn golygu nad yw’r Fframwaith Datblygu Ardal yn cyd-fynd a’r Cynllun Datblygu Gwledig.  Holodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol beth oedd y rhesymau am hyn.  Dywedodd Cydlynydd Cynllun Datblygu Gwledig nad oedd y rhwydwaith yn gydnaws; bu’r gwaith a wnaed gan y Swyddogion Datblygu Ardal yn help mawr i symud prosiectau yn eu blaen ar gyfer cyllid o dan y Cynllun Datblygu Gwledig.  Nododd Mr Schofield nad oedd yn barnu’r gwaith oedd wedi’i wneud yn barod ond yn hytrach yn gofyn am i adroddiad gael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol mewn perthynas â’r rhwydwaith cydymffurfio fel y gallai’r cyfarfod wybod pa gynlluniau sy’n gymwys ai peidio.  

 

 

 

Adroddwyd ymhellach - gosododd y gwaith ymgymerwyd o dan y Fframwaith Datblygu Gwledig y sylfaen i gais llwyddiannus am £4.2m trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer gweithgareddau datblygu cymunedol ar Ynys Môn.  

 

 

 

Er na lwyddodd I oresgyn y rhwystrau rhwng y tri sefydliad oedd yn rhan ohono yn llwyr, fe lwyddodd y Fframwaith Datblygu Ardal I wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyfathrebu rhyngddynt; I leihau dyblygu; ac i ddarparu ffordd symlach I gymunedau gael mynediad at gymorth.  Gyda chymorth y Swyddogion Datblygu Ardal roedd cymunedau yn gallu datblygu a gweithredu prosiectau fyddai fel arall naill ai ddim wedi digwydd neu fyddai wedi cymryd llawer mwy o amser I ddigwydd.  Mae newidiadau yn y cyfleoedd ariannu wedi gweithio yn erbyn parhad y Fframwaith Datblygu Ardal, er bod elfennau yn dal i gael eu gweithredu o dan y Cynllun Datblygu Gwledig.

 

 

 

Dywedodd y Trysorydd bod y cynllun hwn wedi dechrau yn 2002 ac mai’r weledigaeth oedd y byddai’r rhwydwaith hwn o Swyddogion ar draws yr Ynys; ac y byddant yn cael eu cyflogi gan wahanol fudiadau.  Nododd bod anawsterau wedi codi yn y cynllun wrth i un mudiad dynnu nol o’r rhaglen. Nododd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn cyfeirio at y drafodaeth ynglyn â’r Cynllun Datblygu Gwledig lle roedd y Pwyllgor wedi cydnabod yr angen am gyllid a chostau gweinyddol yn ogystal â phrosiectau penodol.

 

 

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd y byddai wedi hoffi gweld beth oedd deilliannau allweddol y cynllun o fewn yr adroddiad.  

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

5.3

Y Deyrnas Gopr

 

 

 

Dywedwyd mai pwrpas y cyllid i’r Deyrnas Gopr oedd rhoi arian cyfatebol ar gyfer astudiaeth dichonolrwydd i ddatblygu Porth Amlwch a Mynydd Parys yn atyniad mawr i dwristiaid.  Roedd grant o £75,000 wedi’i roi gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol a £10k ychwanegol wedi’i ryddhau yn 2005 tuag at gostau cyfreithiol.

 

 

 

Nododd adroddiad a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch ei fod wedi elwa’n fawr o grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn mewn perthynas â’i gynigion ar gyfer Mynydd Parys a Phorth Amlwch - Prosiect y Deyrnas Gopr.  Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi rhoi cyllid i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch i gefnogi datblygu eu gweledigaeth ar gyfer Porth Amlwch a Mynydd Parys.  Mae datblygu’r weledigaeth a gafwyd yn yr adroddiadau a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth wedi eu galluogi i adnabod yn glir y posibiliadau treftadaeth a thwristiaeth sy’n codi o hanes diwydiannol Amlwch.  O ganlyniad, mae hyn wedi arwain i gymeradwyaeth grant Interreg gan yr Undeb Ewropeaiddd gyda gwerth o £383k.

 

 

 

Defnyddiwyd yr arian hwn i uwchraddio’r cyfleusterau a’r profiad i’r ymwelwyr yn bennaf yn y ‘Sail Loft’.  Un canlyniad ydi  fod yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth wedi ennill achrediad VAQAS - Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr Cymru ac aelodaeth o grwp Atyniadau Ynys Môn.  Mae’r safonau hyn yn golygu profiad ymwelwyr gwell ac yn denu ymweliadau pellach a’r dref.  Yn ddymunol, mae’r haf hwn wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a’r derbyniadau.  Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cynhyrchu dogfen sy’n dangos sut mae gwaith Ymddiriedolaeth Treftadaeth Diwydiannol Amlwch yn hyrwyddo’r weledigaeth o ddefnyddio treftadaeth ddiwydiannol Amlwch.  Mae hwn wedi ei fabwysiadu gan y sector gyhoeddus ac mae nawr yn cael ei ddefnyddio fel modd o gydweithio ac ar gyfer ceisiadau am gyllid fydd yn ystod y 12-18 mis nesaf yn gweld buddsoddiad sylweddol yn Amlwch.  

 

 

 

Nododd y Trysorydd bod y prosiect hwn wedi’i newid ar sawl achlysur a bod adroddiadau wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor hwn ynglyn â’r newidiadau hynny.  Mae gwaith pellach i’w wneud ym Mhorth Amlwch ar dir yr Ymddiriedolaeth Elusennol ei hun er mwyn matsio’r cynlluniau gwreiddiol i ddatblygu’r ardal.

 

 

 

Nododd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol nad oedd y wybodaeth ynglyn â niferoedd yr ymwelwyr a’r derbyniadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch; roedd yn credu y dylai’r Ymddiriedolaeth Elusennol gael y wybodaeth oherwydd bod yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth wedi cael grant sylweddol gan yr Ymddiriedolaeth.  Dywedodd y Trysorydd bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi rhoi grant o £74,000 i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Ddiwydiannol Amlwch ac roedd yn cydnabod nad oedd yr adroddiad yn rhoi’r holl wybodaeth oedd ei hangen gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.  Y prif ganlyniad ddaeth o’r cynllun yw bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi derbyn Cynllun Rheoli Cadwraeth; ymchwil oedd hwn ar yr wybodaeth hanesyddol ar Fynydd Parys ac roedd copiau o’r Cynllun yn y llyfrgelloedd lleol ar yr Ynys er mwyn i’r cyhoedd ei weld.

 

 

 

Roedd Mr Selwyn Williams yn ystyried y dylid rhoddi mwy o wybodaeth ffeithiol i’r Ymddiriedolaeth Elusennol ynglyn â’r cynllun hwn.

 

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

 

5.4

Canolfan Sgiliau Amlwch

 

 

 

Adroddwyd mai pwrpas ariannu Canolfan Sgiliau Amlwch I ddarparu hyfforddiant galwedigaethol rhagbaratoawl i bobl ifanc mewn peryg o anniddigrwydd, rhai sy’n brin o gymhelliad ac nad yw’r cyfleoedd hyfforddi a gwaith sy’n bodoli yn briodol.  Y grant a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol oedd £50k.

 

 

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd gan Canolfan Sgiliau Amlwch yn nodi bod y Prosiect Sgiliau 16+ Amlwch sy’n cael ei gyllido gan arian Ewropeaidd Amcan 1 ESF ac arian cyfatebol gan Cymunedau’n Gyntaf ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, yn disgyn o dan Hyfforddiant Parys Training Cyf., a Phartneriaeth Adfywio Amlwch.  Mae’r prosiect wedi cael llwyddiant ysgubol, gyda’i nod o daclo materion pobl ifanc sydd gyda hunan barch isel a’u helpu yn eu datblygiad personol a gyda’u gyrfaoedd.  Fe roddodd y prosiect ei enw ymlaen am Wobr mewn Cystadleuaeth gan yr NSPCC ac fe lwyddodd i gael 6 gwobr.  Un o’r Prosiectau Cymunedol roedd Sgiliau Amlwch 16+ wedi gweithio gyda hwy oedd Cyfeillion y Wiwer Goch Ynys Môn oedd yn ymwneud ag adeiladu dros 25 o focsys nythu i wiwerod; mae’r rhain yn awr yn cael eu defnyddio mewn coedwigoedd ar draws Ynys Môn.  Hefyd fe weithiodd Our Patch BBC Cymru gyda Sgiliau Amlwch 16+ i lunio erthygl i’w gwefan ar faterion cymunedol.

 

      

 

     Mae’r Prosiect hefyd wedi cysylltu ei hun gyda Chyngor Sir Ynys Môn gan gymryd rhan mewn trafodaeth Pobl Ifanc, lle y byddai eu safbwyntiau’n cael eu cymryd i ystyriaeth a’u defnyddio fel topigau yn yr ysgolion lleol gan staff y Cyngor.  Am y trydydd flwyddyn yn olynol fe wnaeth y Prosiect Dorchau Nadolig ac Addurniadau’r Bwrdd Nadolig fel rhan o waith y cwrs gan eu dosbarthu ymysg mudiadau lleol fel gweithred ewyllys da.

 

      

 

     Ym Mai 2008 fe roddwyd estyniad i’r Prosiect gan WEFO hyd Rhagfyr 2008.  Bydd y newidiadau yn caniatáu i 20 ychwanegol gael budd o’r rhaglen fydd yn ei dro yn golygu cyfanswm o 75 o gyfranogwyr.  Fe grybwyllwyd nifer o weithgareddau eraill o fewn yr adroddiad am waith y Ganolfan Sgiliau dros y blynyddoedd.

 

      

 

     Roedd yr Aelodau’n gwerthfawrogi’r adroddiad llawn a gyflwynwyd gan Ganolfan Sgiliau Amlwch a hefyd yr hyn yr oedd y Ganolfan wedi’i wneud.  Fodd bynnag, nodwyd y byddai wedi cael ei werthfawrogi pe bai cynrychiolydd o’r Ganolfan yn bresennol yn y cyfarfod.  

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

5.5     Cymunedau Môn - Coleg Harlech/WEA

 

      

 

     Adroddwyd mai pwrpas ariannu Cymunedau Môn oedd i sefydlu rhaglen o gyrsiau byr a chyrsiau achrededig hirach i aelodau o grwpiau cymunedol a’r rhai sy’n helpu mewn grwpiau cymunedol.  Bydd hyn yn caniatau i aelodau o gymunedau difreintiedig ar yr Ynys weithio gyda’u cymunedau i rhyddhau’r prosiectau yn eu cymunedau.

 

      

 

     Roedd yr adroddiad gyflwynwyd gan Cymunedau Môn yn nodi bod cyrsiau megis gwirfoddoli yn eich Cymuned, Cynllunio a Threfnu Digwyddiadau Codi Arian a gwneud cais am gyllid i gyd yn adeiladu’n uniongyrchol ar hunan gynaliadwyaeth y dosbarthiadau tra roedd y dosbarthiadau adeiladu hyder yn helpu i ddatblygu unigolion o fewn y gymuned i allu cyfranogi mwy.  Roedd y prosiect yn bennaf yn targedu rhai gyda sail sgiliau isel a rhai sy’n cael eu heithrio’n gymdeithasol a rhai difreintiedig, a thrwy wneud hyn mae nifer yr aelodau yn awr wedi datblygu sgiliau sy’n eu galluogi hwy i ddod yn aelodau mwy bywiog a gweithgar yn eu cymunedau.  

 

      

 

     Roedd y prosiect wedi helpu i gyfrannu tuag at nodau’r SDP trwy roi i bobl a chymunedau’r sgiliau i ymladd yn erbyn unrhyw eithrio trwy’r nifer o gyrsiau amrywiol ond hefyd trwy’r gefnogaeth fawr yr oedd y prosiect wedi’i chynnig i gyrsiau yn yr iaith Gymraeg, sydd wedi helpu pobl oedd cyn hynny wedi dioddef oherwydd y rhwystr ieithyddol ond sydd yn awr yn gallu cyfrannu’n llawer mwy yn eu cymuned ac y mae ganddynt fwy o hyder wrth wneud cais am waith.  

 

      

 

     Cafodd y prosiect ei farchnata a’i ddatblygu gan Dîm Ardal Môn, fu’n gweithio’n agos gyda’r cymunedau ar yr ynys ac ardaloedd blaenoriaeth 3.  Fe wnaethon nhw sicrhau bod arian y prosiect wedi’i dargedu at rhai yn y gymuned oedd angen y gefnogaeth hon i ddatblygu ei sgiliau mewn maes arbennig.

 

      

 

     Cynhaliwyd prosiectau adeiladu capasiti llwyddiannus iawn ar Ynys Môn yn cynnwys:-

 

      

 

     Caergybi - gweithwyd yn agos gyda Cysylltiadau Gwaith ar fenter rhiant unigol, yn cynnig cyrsiau adeiladu hyder; gydag Ymddiriedolaeth Cyfleon Caergybi i ddarparu sgiliau swyddi a chyrsiau datblygiad personol i weithwyr gwirfoddol / diwaith o oed grwp ieuengach.  Bu’r prosiect yn gweithio’n agos gyda Mind yng Nghaergybi oedd yn darparu cyrsiau Celf i oedolion bregus.

 

      

 

     Yn y wardiau Cymunedau’n Gyntaf, roedd y prosiect yn abl i weithio gyda Morlo a Porthyfelin ar eu prosiect prentisiaeth i ddarparu cwrs gwirfoddoli cymunedol, grwp gwirfoddol ym Maeshyfryd, darparu Sgiliau TG i wirfoddolwyr a hefyd Cymraeg i wirfoddolwyr.  Ym Morawelon, fe ddatblygwyd prosiect menter crefft.

 

      

 

     Yn Wardiau Morawelon a’r Dref fe ddatblygwyd rhaglen ‘Menter Twrci Nadolig / Operation Christmas Turkey’, yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau coginio.

 

      

 

     Plas Cybi - wedi gallu cynnig ystod eang o gyrsiau i rai’n gwirfoddoli ac yn codi arian.  Morawelon - am 2 flynedd, roedd y prosiect yn gallu cefnogi sesiynau blasu Wythnos Dysgwyr Oedolion gan annog dysgwyr newydd i gymryd rhan.

 

      

 

     Amlwch - wedi gallu cefnogi grwp Ysgrifennu Creadigol i gyhoeddi dewis o’u storïon byrion a’u barddoniaeth mewn llyfr gafodd wedyn ei ddosbarthu am ddim ar draws Ynys Môn.  

 

      

 

     Llangefni - yn y Ward Cymunedau’n Gyntaf bu nifer o brosiectau adeiladu capasiti.  Mae gwaith hefyd wedi’i wneud gyda’r Grwp Strategol Pobl Hyn ar Ynys Môn i ddatblygu cyfres o gyrsiau gyda’r bwriad o helpu dynion dros 50 gyda’u sgiliau coginio, ac fe wnaed hyn yng Nghaergybi, Brynteg ac Amlwch.

 

      

 

     Cynllun hefyd yn hyrwyddo Byw’n Iach a dysgu Cymraeg ar draws ysgolion ar Ynys Môn yn bennaf yn Bodorgan, Bryngwran, Amlwch a Mechell gan weithio gyda Cynllun Bro Ysgol.

 

      

 

     PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

      

 

6

CYD-GYLLIDO RHAN 2 - CYNLLUN DATBLYGU GWLEDIG 2006/2013

 

      

 

     Cyflwynwyd - gohebiaeth a dderbyniwyd gan Menter Môn mewn perthynas â’r posibilrwydd o gyfraniad cyllidol ar gyfer ail gyfnod y Cynllun Datblygu Gwledig.

 

      

 

     Dywedodd Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn y bydd y cyfnod cyntaf presennol yn dod i ben ddechrau 2011; roedd y Cyngor Sir wedi cyfrannu tuag at gyfnod cyntaf Axis 4 o’r gyllideb Datblygu Economaidd, a maent yn chwilio am swm debyg tuag at yr ail gyfnod 2011/2013.  Fe gafwyd cyllid hefyd gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol tuag at brosiectau yn ymwneud â’r gymuned o dan Axis 3; gofynnwyd am gyfraniad tebyg.

 

      

 

     Nododd bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi caniatáu grant o £300,000 tuag at arian cyfatebol Cynllun Datblygu Gwledig Menter Môn.  Mae’r cyllid hwn wedi denu £4.2m o ffynonellau eraill e.e. Cyllid Ewropeaidd a’r Cynulliad.  Rhai prosiectau oedd wedi elwa o’r cynllun oedd : Mona Antiqua Restorata, Amgylchedd Tref a Pentref Prosiect, Datblygu Gwasanaethau mewn Ardaloedd Gwledig.

 

      

 

     Dywedodd y Trysorydd - pan gafodd cronfeydd adfywio eu clustnodi gyntaf yn 2002 roedd buddsoddiad yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn bell uwchben ei darged.  Fe ddisgynnodd y farchnad stoc yn sylweddol ac fe gafodd yr arian adfywio ei rewi, wedi i’r farchnad stoc adennill ychydig o dir fe ryddhawyd £300,000 i Cyfnod 2 y Cynllun Datblygu Gwledig.  Unwaith yn rhagor mae’r marchnadoedd stoc wedi disgyn a bydd rhaid oedi’r cyllid adfywio.  Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf mae’r buddsoddiad wedi codi ychydig a gwerth portffoli’r Ymddiriedolaeth yw oddeutu £12m.  Oherwydd yr ansicrwydd ariannol presennol roedd y Trysorydd yn teimlo na fyddai’n gallu argymell rhyddhau cyllid ychwanegol i brosiectau adfywio ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, rhaid ystyried cynlluniau wrth gefn os bydd y marchnadoedd ariannol yn parhau i wella.

 

      

 

     Nododd yr Is-Gadeirydd, Mr Kenneth Hughes y byddai wedi hoffi gweld mwy o fanylion ynglyn â Chyfnod 1 y cynllun ac ynglyn â sut yr oedd yr arian wedi’i wario.

 

      

 

     Cytunodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol gyda Mr Hughes bod angen mwy o wybodaeth ynglyn â’r cynllun.  Nododd bod cyfansoddiad yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn dweud bod yn rhaid i werth buddsoddiad gadw ar y blaen i’r ffactor chwyddiant o’r dechreuad.  Os bydd gwerth y gronfa wedi mynd i lawr yn unol â graddfa chwyddiant ni fydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn gallu rhyddhau’r arian heb newid ei gyfansoddiad.  Mae yna bwysau arall ar yr Ymddiriedolaeth i ryddhau arian ar gyfer gweithgareddau eraill hefyd.  

 

      

 

     Nododd Mr Selwyn Williams y byddai wedi hoffi gweld cynllun busnes a hefyd y mathau o brosiectau cynaliadwy yr oedd Menter Môn yn eu hystyried fel rhan o’r cynllun hwn.  Dywedodd Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn mai dim ond llythyr o gyflwyniad oedd hwn gyflwynwyd i gyfarfod heddiw, mae gwaith yn mynd ymlaen ar y cynllun busnes rhwng Menter Môn a’r Adran Datblygu Economaidd.  Nododd y Trysorydd mai rhywbeth rhagarweiniol yw hwn i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.  Fe ddylai’r Ymddiriedolaeth Elusennol ystyried pa gynlluniau adfywio yr oedd yn dymuno eu cefnogi yn y dyfodol.  Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol y dylid gweithio’n agosach gyda Menter Môn gan y gall £1 o gyllid gan yr Ymddiriedolaeth ddenu £14 o arian cyfatebol.

 

      

 

     Dywedodd Mr Lewis Davies ei fod yn cefnogi’r cynllun gan bod Menter Môn wedi cael llwyddiant mawr yn denu cyllid ar gyfer cynlluniau gwledig dros y blynyddoedd.  Dywedodd ymhellach bod yn rhaid cymryd mantais lawn o gyllid cynllun datblygu gwledig cyfnod 2 oherwydd na fydd arian Ewrop ar gael mewn ychydig o flynyddoedd.

 

      

 

     Dywedodd y Cadeirydd, Mr J P Williams nad oedd yn dymuno gweld yr Ymddiriedolaeth yn colli’r cyfle i ddenu mwy o arian o Ewrop.  Holodd am y posibilrwydd o gael amserlen o ddyddiau erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol wneud penderfyniad os oedd yn dymuno cefnogi’r cynllun.  Dywedodd y Cydlynydd Cynllun Datblygu Gwledig bod amserlen wedi’i chyhoeddi a bod yr Uned Ddatblygu Economaidd ar hyn o bryd yn ymchwilio i mewn i syniadau am brosiectau i’w rhoi ymlaen i dderbyn cyllid.  Rhaid cyflwyno pob mynegiant o ddiddordeb erbyn 1 Mawrth, 2010; bydd y prosiectau’n cael eu sgriwtineiddio i weld pa rai sy’n cynnig y gwerth gorau ac yn sgorio orau ar wahanol feini prawf. Bydd y Cynulliad yn cyhoeddi’r prosiectau sydd wedi’u cymeradwyo ym Mawrth 2011.

 

      

 

     Yn dilyn trafodaethau pellach PENDERFYNWYD:-

 

      

 

Ÿ

nodi’r cais am gyllid tuag at Cyfnod 2 y Cynllun Datblygu Gwledig.

 

 

 

Ÿ

gofyn i’r Trysorydd gysylltu gyda Menter Môn ynglyn â ffyrdd y gall dyheadau’r Ymddiriedolaeth Elusennol gael eu gwireddu yn y math hwn o gais.

 

Ÿ

adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf o’r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn i ddweud y bydd gwaith yn dechrau gan y Pwyllgor hwn ar gynlluniau tebygol allai fod yn gymwys i dderbyn cyllid o’r Cynllun Datblygu Gwledig.

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

      

 

     MR JOHN PENRI WILLIAMS

 

     CADEIRYDD