Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.
Rhaglen
1. Datganiad o ddiddordeb
2. Cofnodion
Cadarnhau Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2011.
(Papur A)
3. Proses gosod tai
Adroddiad gan Pennaeth Gwasanaeth Tai par: Gosod Tai a'r Datganiad drafft sydd i'w gyflwyno i'r cyhoedd mewn eglurhad o rôl yr Aelod etholedig mewn cysylltiad a gosod tai efo'r pwyslais ar y ffaith nad yw Cynghorwyr mwynach efo mewnbwn i'r broses osod tai.
(Papur B)
4. Cwynion am ymddygiad i'r Ombwdsmon
Bydd matrics wedi ei ddiweddaru yn cael ei ddarparu i sylw'r Pwyllgor gan y Swyddog Gofal Cwsmer. Er gwybodaeth a chwestiynau.
(Papur C)
5. Crynodeb o benderfyniadau panel dyfarnu Cymru
Adroddiad yn cael ei gyflwyno gan y Swyddog Gofal Cwsmer.
(Papur CH)
6. Cynllun datblygu aelodau
Adroddiad diweddaru ar faterion yn codi o'r Cynllun Datblygu Aelodau ac o'r Grŵp Datblygu Aelodau gan y Prif Swyddog Datblygu.
(Papur D)
7. Cyflwyno adolygiadau datblygu personol ar gyfer aelodau
Adroddiad ar Adolygiadau Datblygu Personol ar gyfer Aelodau ac ar Grŵp Datblygu Aelodau gan y Prif Swyddog Datblygu.
(Papur DD)
8. Y sefyllfa gyfredol ynglŷn â chyhoeddi cofrestrau statudol ar lein
Adroddiad ynglÅ·n ag ymestyn cyhoeddi ar lein Datganiadau Diddordeb Aelodau i gynnwys ffurflenni datgan rhoddion a lletygarwch a hefyd ffurflenni datgan diddordeb mewn cyfarfodydd, ac i alluogi ffurflenni rhoddion a lletygarwch a hefyd y cofrestrau sefydlog gael eu diweddaru'n rhyngweithiol.
(Papur E)
9. Prosiect rheoli cwynion
Adroddiad gan y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol i gynghori'r Pwyllgor ynglŷn â Prosiect Rheoli Cwynion i gynnwys Gofal y Cwsmer/Dangos y ffordd.
(Papur F)
10. Adolygiad o'r protocol i'r berthynas rhwng aelodau / swyddogion
I gynnwys y canlyniad o gynnal peilot i'r Protocol Hunanreoli. Adroddiad gan Gyfreithiwr y Swyddog Monitro.
(Papur FF)
11. Themâu llywodraethu corfforaethol
Adroddiad gan Gyfreithiwr y Swyddog Monitro.
(Papur G)
12. Cynhadledd pwyllgorau safonau 5/10/2011
Adroddiad ar lafar gan Gynghorydd Trefor Lloyd Hughes.
13. Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru - cyfarfod 01/11/2011
Amgaeedig mae Cofnodion Pwyllgor 01/11/2011. Bydd y Cadeirydd Jeff Cotterell yn cyflwyno adroddiad ar lafar a bydd trafodaeth yn dilyn.
(Papur NG)
14. Recriwtio'r pwyllgor safonau newydd
Bydd copi o'r Adroddiad gan Gyfreithiwr y Swyddog Monitor a gyflwynir i'r Cyngor ar 8 Rhagfyr 2011, ar gael i'r Pwyllgor.
(Papur H)
15. Y rhaglen waith
Copi er gwybodaeth.
(Papur I)