|
|
|
|
Roedd Meirion Jones, Cyfreithiwr i'r Swyddog Monitro, wedi
ymchwilio i'r haeriad o dorri'r côd a hefyd wedi cyflwyno'r
papurau priodol i'r Pwyllgor wneud penderfyniad a oedd yna ddigon o
dystiolaeth ai peidio i symud ymlaen i Wrandawiad llawn.
|
|
|
|
|
|
Dygodd sylw at y pwyntiau a ganlyn:
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Bod Mr Richard Pritchard a Mrs Dionne Louise Pritchard
wedi cyflwyno cwyn yn erbyn Mr Bernard Summerfield, a oedd ar y
pryd yn aelod o Gyngor Cymuned Llanfaelog, ac wedi llofnodi a
derbyn y Côd Ymddygiad ar 28 Tachwedd 2001. Wedyn roedd
wedi ymddiswyddo o'r Cyngor Cymuned ym mis Mai 2003. Er nad
oedd Mr Summerfield bellach yn Gynghorydd Cymuned nid oedd hynny'n
berthnasol i benderfyniad y Pwyllgor i fwrw ymlaen i Wrandawiad
Llawn ai peidio.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Yn y gwyn haerir nad oedd Mr Summerfield wedi datgan
diddordeb personol a'i fod hefyd wedi bod yn rhan o gyfarfod o'r
Cyngor Cymuned ac wedi gwrthwynebu cynnig, a phetai'r cynnig hwnnw
wedi'i wrthod gallai hynny fod wedi arwain at fanteision cyllidol a
masnachol iddo. Yn arbennig roedd wedi mynychu a bod yn rhan
o gyfarfod o Gyngor Cymuned Llanfaelog ar ddydd Mercher 23 Hydref
2002. Yn y cyfarfod hwnnw "y prif bwnc dan drafodaeth oedd y
bwriad i ddiddymu darn o lwybr ynghlwm wrth lwybr 4a yn Nhy'n Pwll
Bach, Rhosneigr" a fu'n fater o anghydfod rhyngddo ef a'i
gymdogion, Mr a Mrs Pritchard o Dy'n Pwll Bach.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Un mater o bwys i'w nodi yma yw bod rhifiant y Model o
Gôd Ymddygiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac
a gafodd ei dderbyn gan y Cyngor Sir yn wahanol i'r fersiwn a
dderbyniwyd gan Gyngor Cymuned Llanfaelog a gofynnwyd, o'r herwydd,
i'r aelodau sicrhau eu bod bob amser yn cyfeirio at y Côd
cywir.
|
|
|
|
|
Ÿ
|
Rhannwyd, ymhlith yr aelodau, gopi o gofnodion cyfarfod
Cyngor Cymuned Llanfaelog a gyfarfu ar ddydd Mercher, 27 Tachwedd
2002. Nodwyd yn benodol nad oedd yr un cyfeiriad at gofnodion
y cyfarfod cynt. Fodd bynnag, roedd y Clarc i'r Cyngor
Cymuned wedi dangos y nodiadau ysgrifenedig oedd ganddo i'r
cyfarfod ac yn cynnwys y sylw: "Minutes - OK". Dyma
gadarnhad bod y cofnodion i'r cyfarfod a gafwyd ar 23 Hydref 2002,
ac yn dangos bod Mr Summerfield yn bresennol ac wedi bod y rhan o'r
trafodaethau, yn gywir. At hyn, nid oedd yr un cyfeiriad at
lwybrau troed yn "2.0 MATTERS ARISING".
|
|
|
|
|
Cafwyd cynnig bod y Pwyllgor Safonau yn symud
ymlaen i gynnal gwrandawiad llawn. Ond, roedd anhawster
ceisio penderfynu yn lle yn hollol yr oedd yr adeiladau a'r llwybr
y cyfeiriwyd atynt yn y papurau a gyflwynwyd ac o'r herwydd
gofynnwyd am gyflwyno mapiau manylach o safon uchel i'r Pwyllgor
a'r rheini yn dangos yr holl adeiladau a'r holl lwybrau perthnasol.
Yn ogystal gofynnwyd am y wybodaeth ychwanegol a
ganlyn:-
|
|
|
|
3.1
|
beth yw swyddogaethau'r Cynghorau Cymuned a'u pwerau yng
nghyswllt llwybrau;
|
|
|
3.2
|
os achoswyd anfanteision i'r achwynwyr beth oedd y
rheini;
|
|
|
3.3
|
pa gyfleon sydd ar gael i Gynghorwyr Cymuned ddatgan
diddordeb ac a ydyw'n ddyletswydd gyfreithiol arnynt i wneud
hynny;
|
|
|
3.4
|
yr hyfforddiant sydd ar gael i Gynghorwyr
Cymuned.
|
|
|
|
|
Er mwyn caniatáu digon o amser i
hel y dystiolaeth ychwanegol ynghyd, PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal
Gwrandawiad llawn ar ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2006 i'r haeriad o
dorri'r Côd Ymddygiad.
|
|
|
|
4
|
CWYN YN ERBYN CYNGHORYDD SIR
|
|
|
|
|
|
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yr Ombwdsmon ar
ddwy gwyn yn haeru i'r Cynghorydd Robert Lloyd Hughes fethu â
datgan diddordeb mewn dau gais cynllunio a gyflwynwyd gan Mr a Mrs
Wood yn 2003 yng nghyswllt Tan y Felin a'r Felin, Llangoed.
Ar 3 Rhagfyr roedd y Cynghorydd Hughes wedi cadeirio'r
Pwyllgor Cynllunio a heb ddatgan diddordeb pan oedd y ceisiadau
gerbron.
|
|
|
|
|
|
Ni chanfu'r Ombwdsmon dystiolaeth bod y Cynghorydd Hughes
wedi torri paragraffau 5.1.3.1 na 5.1.3.2 Côd Ymddygiad y
Cyngor yng nghyswllt cais cynllunio Mr a Mrs Woods yng nghyd-destun
y datblygiad yn Nhan y Felin ac nid oedd wedi cefnogi'r agwedd
honno o'u haeriad.
|
|
|
|
|
|
Ond canfu'r Ombwdsmon bod y Cynghorydd Hughes wedi torri
paragraffau 5.1.3.1 a 5.1.3.2 Côd Ymddygiad y Cyngor oherwydd
methu â datgan diddordeb personol a pheidio â gadael y
Pwyllgor Cynllunio ar 3 Rhagfyr 2003 pan oedd sylw'n cael ei roddi
i gais cynllunio Mr a Mrs Woods yng nghyswllt y Felin; dan adran
69(4)(c) Deddf Llywodraeth Leol 2000, roedd wedi trosglwyddo yr
achos o dorri'r côd i'r Swyddog Monitro ac i bwrpas ei roddi
gerbron Pwyllgor Safonau'r Cyngor.
|
|
|
|
|
|
Felly roedd yn rhaid i'r Pwyllgor Safonau ystyried a oedd
am weithredu ar gosb a pha gosb yng nghyswllt y torri. Ond,
dan y rheolau, roedd yn rhaid i'r Pwyllgor ohirio'r drafodaeth tan
gyfarfod gwrandawiad yn y dyfodol lle y câi'r Cynghorydd
Hughes yr hawl i ymateb un ai yn ysgrifenedig neu ar lafar i
gasgliadau'r Ombwdsmon. Hefyd rhoddwyd gwybod i'r Cynghorydd
Hughes bod ganddo'r hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol ond
ychwanegwyd nad oedd gan y Pwyllgor Safonau y pwer i wneud
gorchymyn yng nghyswllt dyfarnu costau cyfreithiol. Yn
ogystal dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor bod yr achwynwyr
yn dymuno gwneud cyflwyniadau ysgrifenedig i'r Pwyllgor ar gyfer y
gwrandawiad.
|
|
|
|
|
|
PENDERFYNWYD cynnal gwrandawiad cosbi i gasgliadau'r
Ombwdsmon ar dydd Mawrth, 14 Chwefror 2006.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|