Pwyllgor Safonau dogfennau , 16 Hydref 2006

Pwyllgor Safonau
Dydd Llun, 16eg Hydref, 2006

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Hydref, 2006 

 

YN BRESENNOL:

 

Dr Gwyneth Roberts (Cadeirydd)

 

Mr J Cotterell

Dr J Griffiths

Mr G Jones

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Monitro

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Cyfreithiwr (MJ)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Mrs Ceri Thomas

 

 

 

 

1

DATGANIAD O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn o'r Pwyllgor Safonau a chawsant eu cadarnhau a'u llofnodi fel cofnod cywir o'r cyfarfodydd:

 

7 Chwefror 2006 - tud 1 - 6 y Gyfrol hon

14 Chwefror 2006 - tud 7 - 11 y Gyfrol hon

 

3

CEISIADAU AM GANIATÂD ARBENNIG

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod dau gais am ganiatâd arbennig wedi'u derbyn ac i'w cyflwyno i sylw'r Pwyllgor Safonau fel a ganlyn:

 

(a) Cais am ganiatâd arbennig gan y Cynghorydd G O Parry MBE

 

Cyflwynwyd cais dyddiedig 12 Medi 2006 dan Offeryn Statudol 12001 Rhif 2279 (W169) Llywodraeth Leol Cymru.  Y seiliau statudol perthnasol y dibynnwyd arnynt oedd paragraffau 2d a 2f.

 

 

(b) Cais am ganiatâd arbennig gan y Cynghorydd C L Everett

 

 

 

Cyflwynwyd cais dyddiedig 21 Medi 2006 dan Offeryn Statudol 12001 Rhif 2279 (W169) Llywodraeth Leol Cymru.  Y seiliau statudol perthnasol y dibynnwyd arnynt oedd paragraffau 2(d) a 2(f).

 

 

 

Roedd y ddau Gynghorydd yn gofyn am ganiatâd arbennig fel bod modd iddynt fod yn aelodau o Banel Ymgynghorol Moderneiddio Tâl y Cyngor.

 

 

 

Yn achos y Cynghorydd G O Parry MBE mae ganddo ddwy ferch yn gweithio i'r Cyngor tra bo'r Cynghorydd Everett â merch a chwaer yn gweithio i'r Cyngor.

 

 

 

Roedd y ddau Gynghorydd yn gofyn am ganiatâd arbennig oherwydd:

 

 

 

"their participation in the business to which the interest related would not damage public confidence in the conduct of the relevant authority's business" a

 

 

 

"the participation of the member in the business to which the interest relates is justified by the member's particular role or expertise."

 

 

 

Credai'r Cynghorydd Parry bod ganddo arbenigedd oherwydd iddo yn y gorffennol ddal swydd Deilydd Portffolio Staff tra oedd yn Aelod o'r Pwyllgor Gwaith.  Ar y llaw arall credai'r Cynghorydd Everett bod ei brofiad fel Rheolwr gyda chyfrifoldeb am 95 o staff am gyfnod o saith mlynedd wedi rhoddi arbenigedd iddo yn y swyddogaeth fel aelod o'r Panel.

 

 

 

Rhoes y Swyddog Monitro wahoddiad i Bennaeth Gwasanaeth y Cyngor (Gwasanaethau Corfforaethol) amlinellu swyddogaethau'r Panel Ymgynghorol Moderneiddio Tâl a nodi sut y câi effaith ar waith y Cynghorwyr.

 

 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) bod y Panel wedi'i sefydlu fel Grwp Tasg a Gorffen i ystyried modelau posib i'r strwythur tâl perthnasol ac i ystyried materion perthnasol eraill megis lwfansau a thaliadau ar ffurf lwfansau shifft a hawliadau teithio etc.  Roedd y Panel yn rhoi achlust i'r trafodwyr ar gyfer trafodaethau manwl lle roedd angen barn ystyrlon y Cyngor.  Buasai aelodau'r Panel yn gweithredu fel llais i holl Grwpiau'r Cyngor ac yn ystyried siâp cyffredinol y strwythur tâl.  Y Cyngor Sir fuasai'n gwneud y penderfyniad terfynol ar y strwythur tâl newydd.  Buasai'r Panel yn "sylwebydd" ar yr hyn a gâi ei gyflwyno i'r Cyngor Sir.  Er bod yr Aelodau yn gwybod am y broses Arfarnu Swyddi a'r Sgoriau i Swyddi, ni fuasent â gwybodaeth ddigon manwl i wybod yn lle yn hollol y bydd unigolion yn sefyll nac i wybod pa lwfansau a delir iddynt.  

 

 

 

Mater i'r Swyddogion fydd penderfynu ar y Cyfraddau Tâl ond roedd modd i Swyddogion wrando ar apeliadau yng nghyswllt y tâl a dyna pryd y deuai trefn Datgan Diddordeb i mewn.  Yn fras roedd y Cyngor yn cyflogi 2000 o bobl ond mewn ambell i grwp cyffredinol roedd dros 350 o bobl yn gweithio, megis yn y grwp gofalwyr cartref.

 

 

 

Wedyn cafodd yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau i'r Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol) a chadarnhaodd y Swyddog y materion a ganlyn:

 

 

 

Ÿ

roedd hwn yn ymarferiad i Gymru Gyfan a phob Cyngor yn gorfod penderfynu ar ei Strwythur Tâl ei hun;

 

Ÿ

ar y Panel roedd Chwe Chynghorydd - a phob Cynghorydd yn cael ei enwebu gan ei Grwp;

 

Ÿ

nid y Cynghorydd Parry oedd y Deilydd Portffolio cyfredol i faterion Adnoddau Dynol;

 

Ÿ

yn yr Adain Gyllid roedd 2 Glerc Cyflogau a 4/5 o ddadansoddwyr;

 

Ÿ

nid yw swydd hyfforddai atodol yn swydd barhaol a thelir cyfradd arbennig yn ei chylch ac ni fydd yr ymarferiad yn cael unrhyw effaith ar y swydd;

 

Ÿ

roedd modd i'r Panel drafod lwfansau;

 

Ÿ

bydd y Cyngor Sir yn derbyn adroddiad a dadansoddiad manwl o gasgliadau'r Panel a bydd pob Aelod yn cael cyfle i ofyn cwestiynau ac i gyflwyno sylwadau ar y casgliadau;

 

Ÿ

roedd cyfarfodydd y Panel yn cael eu cofnodi.

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Aelodau'r Panel ymgilio i drafod y mater yn breifat a phenderfynu ar y ceisiadau.  Ar ôl dychwelyd i'r cyfarfod cyhoeddus gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiad a ganlyn ar ran y Pwyllgor :

 

 

 

PENDERFYNWYD :

 

 

 

3.1

Na chafodd y Pwyllgor Safonau ei ddarbwyllo i roddi Caniatâd Arbennig i'r Cynghorydd G O Parry MBE nac i'r Cynghorydd C L Everett.  Roedd yr arolwg hwn yn un o bwys mawr ac yn mynd i gael effaith am gyfnod hir ac o'r herwydd roedd yn rhaid iddo fod yn ddiduedd ac yn annibynnol a chreu'r argraff honno i bob grwp â diddordeb, h.y. y cyhoedd, y Cyngor Sir fel corff a'i holl weithwyr.

 

 

 

3.2

Na wyddai'r Pwyllgor am unrhyw reswm, o gofio am gyfansoddiad y Panel, pam na fedrai'r Panel benderfynu ar aelodaeth gwbl ddiduedd.

 

3.3

Nad oedd y Pwyllgor wedi'i ddarbwyllo bod gan yr Aelodau hyn arbenigedd sy'n hanfodol i wneud gwaith y Panel yn briodol.

 

 

 

4

CWYN YN ERBYN CYNGHORYDD CYMUNED

 

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gwyn yn erbyn y Cynghorydd J R Owen ac eglurodd nad diben y cyfarfod oedd gwneud penderfyniad ar y gwyn ond, yn hytrach, benderfynu pa gamau y dylai'r Pwyllgor Safonau eu cymryd yn seiliedig ar Adroddiad yr Ombwdsmon.  Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i'r Swyddog Monitro annerch y cyfarfod.

 

 

 

Cyfeirio a wnaeth y Swyddog Monitro at Adroddiad dyddiedig 27 Gorffennaf 2006 yr Ombwdsmon; yn hwnnw cyflwynwyd ei gasgliadau ynghylch haeriad bod y Cynghorydd J R Owen wedi torri'r Côd Ymddygiad mewn cyfarfod o Gyngor Cymuned Aberffraw ar 5 Ebrill 2006 pan bleidleisiodd i gyfethol ei fab ei hun yn aelod o'r Cyngor Cymuned.

 

 

 

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod gan y Cynghorydd Owen ddiddordeb personol dan y Côd Ymddygiad oherwydd i'w fab gael budd o bleidlais ei dad.  Roedd hi'n ddyletswydd ar y Cynghorydd Owen i ddatgan diddordeb a gadael y cyfarfod.

 

 

 

Dan Adran 69 Deddf Llywodraeth Leol 2000 daeth yr Ombwdmson i'r casgliad y dylai gyflwyno'i adroddiad i'r Swyddog Monitro ar gyfer sylw'r Pwyllgor Safonau.  Yn awr roedd gofyn i'r Pwyllgor Safonau wneud penderfyniad cychwynnol ar yr Adroddiad, un ai:

 

 

 

Ÿ

trwy ddod i'r casgliad nad oedd yma ddigon o dystiolaeth neu wrthod yr haeriad

 

 

 

neu

 

 

 

Ÿ

ddod i'r casgliad ei fod yn fodlon bod yma achos i'w ateb a gohirio cynnal gwrandawiad llawn er mwyn rhoddi digon o amser i'r Cynghorydd Owen gyflwyno sylwadau un ai'n ysgrifenedig neu'n bersonol

 

 

 

a

 

 

 

Ÿ

phenderfynu a oedd am i ymchwilydd yr Ombwdsmon fynychu'r gwrandawiad ai peidio, a phetai'n mynychu, pa faterion a gâi sylw.

 

 

 

Aeth y Pwyllgor i sesiwn breifat i ystyried ei benderfyniad ac ar ôl dychwelyd i'r sesiwn gyhoeddus cyhoeddodd y Cadeirydd y penderfyniad fel a ganlyn

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 

 

4.1

cynnal gwrandawiad llawn i'r mater;

 

 

 

4.2

nad oedd y Pwyllgor am i ymchwilydd yr Ombwdsmon fynychu'r gwrandawiad ond gofyn, yn hytrach i'r Swyddog Monitro ofyn i'r Ombwdsmon am gopi o'r haeriad yn erbyn y Cynghorydd Owen a chopïau o unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig a wnaed gan dystion.

 

 

 

4.3

cynnal gwrandawiad ar ddydd Iau 9 Tachwedd 2006 yn Siambr y Cyngor am 6.00 p.m.

 

 

 

 

 

 

 

DR GWYNETH ROBERTS

 

CADEIRYDD