Pwyllgor Safonau dogfennau , 23 Hydref 2006

Pwyllgor Safonau
Dydd Llun, 23ain Hydref, 2006

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 23 Hydref, 2006 

 

YN BRESENNOL:

 

Dr Gwyneth Roberts (Cadeirydd)

 

Aelodau Lleyg

Mr J Cotterell

Dr John Griffiths

Mr Gwynfor Jones

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Monitro (LB)

Cyfreithiwr (MJ)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd Gareth Winston Roberts, OBE

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol

 

 

 

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd  allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraffau 7 a 9 Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni.”

 

1

CAIS AM GANIATÂD ARBENNIG

 

Cyflwynwyd - cais dyddiedig 17 Hydref 2006 am ganiatâd arbennig dan Offeryn Statudol 2001 Rhif 2279 (W 169) Llywodraeth Leol, Cymru gan y Cynghorydd Gareth Winston Roberts OBE yng nghyswllt diddordeb y cyfeirir ato ym Mharagraffau 5.1.3.4 (ix) y Côd "any visit outside the United Kingdom for which the Authority has paid or will pay."

 

Eglurodd y Swyddog Monitro mai cais oedd hwn am ganiatâd arbennig i Arweinydd y Cyngor fod yn rhan o drafodaethau ac o'r broses bleidleisio yn y Pwyllgor Gwaith ac yn y Cyngor llawn, yng nghyswllt materion yn ymwneud â datblygiad busnes arfaethedig ac roedd y manylion ynghlwm wrth y cais.

 

Y diddordeb penodol gan yr Arweinydd oedd y bwriad i deithio i "X" fel rhan o ddirprwyaeth o Swyddogion ac o gynrychiolwyr y Cynulliad, i gwrdd â datblygwyr arfaethedig.  Y Cyngor oedd yn talu am yr ymweliad.  Roedd hyn yn creu diddordeb personol dan y Côd.  Cais oedd yma am ganiatâd arbennig i siarad a phleidleisio ar y mater, nid caniatâd arbennig i fynd ar yr ymweliad.

 

Y Seiliau Statudol yr oedd yr Arweinydd yn gofyn am ganiatâd arbennig danynt oedd un ai:-

 

(i)     bod ei gyfraniad yn cael ei gyfiawnhau oherwydd ei swyddogaeth benodol neu oherwydd ei           arbenigedd penodol;

(ii)     bod y busnes y mae'r diddordeb yn ymwneud â fo yn mynd i gael sylw gan y Pwyllgor                Trosolwg a Sgriwtini ac nid yw'r diddordeb yn un ariannol

(iii)     bod y Pwyllgor yn credu, er budd pobl Môn y dylid cael gwared o'r cyfyngiad.

 

Wedyn cafodd yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Cyngor ac i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol i bwrpas egluro mwy ar y cais.  Wedyn aeth y Pwyllgor i sesiwn breifat i'w ystyried ac ar ôl dychwelyd i'r sesiwn gyhoeddus cyhoeddodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor wedi gwneud penderfyniad unfrydol yng nghyswllt y cais am ganiatâd arbennig a chyhoeddwyd fel a ganlyn:

 

PENDERFYNWYD:-

 

Dan baragraffau 2(f) (g) (i) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2279 (W 169) Llywodraeth Leol Cymru Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Caniatâd Arbennig) (Cymru) 2001 rhoddi Caniatâd Arbennig i'r Cynghorydd Gareth Winston Roberts OBE, Arweinydd y Cyngor Sir, drafod a/neu bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith ac yn y Cyngor llawn ar faterion yn codi o unrhyw ymweliad/ymweliadau neu yn sgil ymweliad/ymweliadau arfaethedig â "X" i bwrpas trafod neu symud ymlaen gyda'r datblygiad y mae'r cais yn ymwneud â fo.

 

Ar ran y Pwyllgor Safonau dymunodd y Cadeirydd ymweliad llwyddiannus i Arweinydd y Cyngor a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol.

 

 

DR GWYNETH ROBERTS

CADEIRYDD