Pwyllgor Safonau dogfennau , 9 Tachwedd 2006

Pwyllgor Safonau
Dydd Iau, 9fed Tachwedd, 2006

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar   9 Tachwedd 2006

 

YN BRESENNOL:

 

Dr. Gwyneth Roberts (Cadeirydd)

 

Mr. J. Cotterell

Dr. J. Griffiths

Mr G. Jones

Mrs Ceri Thomas

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Monitro,

Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Corfforaethol)

Cyfreithiwr (MJ)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Dr. J. Popplewell

 

 

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Y Cynghorydd J. R. Owen (cyfeiriad ato yn Eitem 3 o'r Cofnodion)

Y Cynghorydd C. G. Topps (cyfeiriad ato yn Eitem 3 o'r Cofnodion)

Y Cynghorydd B. Durkin (cyfeiriad ato yn Eitem 4 o'r Cofnodion)

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Roedd Mrs Ceri Thomas wedi dweud na fedrai gymryd rhan yn y trafodaethau oherwydd tybio ei bod yn adnabod y Cynghorydd J. R. Owen y cyfeirir ato yn eitem 3 y cofnodion.  Fodd bynnag, canfu iddi wneud camgymeriad ac nad oedd yn adnabod y Cynghorydd Owen ac o'r herwydd buasai modd iddi fynychu.

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan Mr. J. Cotterell yn eitem 4 y cofnodion gan fod yr achwynydd a'r Cynghorydd dan sylw yn byw yn yr un pentref â Mr. Cotterell.

 

(Sylwer:  cafodd eitem rhif 3 ar y Rhaglen ei thrafod fel eitem rhif 4 yn y cyfarfod ac mae'n ymddangos fel eitem rhif 4 yn y cofnodion).

 

Gwnaeth y Swyddog Monitro ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 4 y cofnodion gan fod Mr. Durkin wedi cyflwyno cwyn yn erbyn y Swyddog Monitro ac roedd gofyn i'r Pwyllgor Safonau gwneud penderfyniad ar y pwnc.  (Gweler penderfyniad dan Eitem 4 y Cofnodion).

 

2

COFNODION

 

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn o'r Pwyllgor Safonau :

 

16 Hydref 2006 - tudalennau 81-83 o'r Gyfrol hon

23 Hydref 2006 - tudalennau 84-85 o'r Gyfrol hon

 

 

 

Gwnaeth y Cadeirydd gyhoeddiad, gyda chaniatâd y Pwyllgor, y buasai eitemau 3 a 4 ar y Rhaglen yn cael eu gwyrdroi oherwydd bod Mr. Durkin wedi codi nifer o faterion a allai gymryd amser.  Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn y newid.

 

 

 

3

CWYN YN ERBYN CYNGHORYDD CYMUNED

 

 

 

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem hon trwy atgoffa pawb fod y cyfarfod yn wrandawiad llawn oherwydd bod y Cynghorydd J. R. Owen wedi torri'r Côd Ymddygiad a rhoes wahoddiad i'r Swyddog Monitro annerch y cyfarfod.                                                                                   

 

 

 

 

 

Tynnodd y Swyddog Monitro sylw'r Pwyllgor at adroddiad dyddiedig 27 Gorffennaf 2006 gan yr Ombwdsmon a'i gasgliad yn yr adroddiad bod y Cynghorydd Owen wedi torri paragraff 16 (3) y Côd Ymddygiad ac yn ei gasgliadau, dan Adran 69 Deddf Llywodraeth Leol 2000, roedd wedi trosglwyddo'i adroddiad i'r Swyddog Monitro i bwrpas ei gyflwyno i sylw Pwyllgor Safonau'r Cyngor.

 

 

 

Yn ei gyfarfod ar 16 Hydref 2006 penderfynodd y Pwyllgor Safonau nad oedd yma achos i'w ateb a bod angen cynnal gwrandawiad arall.  Yn dilyn hynny cafwyd sylwadau gan y Cynghorydd J. R. Owen ac oddi wrth y Cynghorydd C. G. Topps, Cadeirydd Cyngor Cymuned Aberffraw, a oedd hefyd yn gweithredu fel cynrychiolydd i'r Cynghorydd Owen.

 

 

 

Yn ei lythyr dyddiedig 23 Hydref 2006 roedd y Cynghorydd J. R. Owen yn derbyn casgliadau'r adroddiad ac yn ymddiheuro'n llaes oherwydd yr hyn a wnaeth yn ddifeddwl.  O'r herwydd roedd gofyn i'r Pwyllgor Safonau benderfynu a oedd am gosbi y Cynghorydd Owen a'i peidio.

 

 

 

Darllenwyd llythyr oddi wrth Ms. Emma Roberts, yr Achwynydd, a rhannwyd copi ohono yn y cyfarfod.  Ynddo dywed Ms. Roberts bod rhai aelodau o'r Cyngor Cymuned yn fwriadol wedi ceisio sicrhau na chaiff sedd ar y Cyngor Cymuned, ac yn arbennig felly y Cynghorydd J. R. Owen a fethodd â datgan diddordeb yn ôl gofynion y Côd ac roedd wedi pleidleisio o blaid ei fab ei hun i fod yn aelod o'r Cyngor Cymuned.  Daeth i'r casgliad bod y mater hwn wedi ei phoeni'n fawr a theimlai hi bod aelodau oedd i fod yn arweinwyr cadarn yn y gymuned wedi gwneud sbort o'r system.

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i'r Cynghorydd Topps, fel un yn gweithredu ar ran y Cynghorydd Owen, i annerch y Pwyllgor.  Unwaith yn rhagor cadarnhaodd y Cynghorydd Topps bod y Cynghorydd Owen yn derbyn casgliadau'r adroddiad yn llawn.  Ond credai fod un sylw annheg yn yr adroddiad sef y cyfeiriad at "personal fiefdom".  Dywedodd bod y Cynghorydd Owen yn uchel ei barch fel aelod o'r gymuned, roedd ar Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Aberffraw ac yn aelod o'r Cynllun Tro Da.  Roedd mewn oed ac yn ddyn gwylaidd.  Ychwanegodd hefyd bod aelodau'r Cyngor Cymuned wedi eu camarwain a phetaent yn gwybod ar y pryd yr hyn  a wyddent yn awr buasent wedi ymddwyn yn wahanol.

 

 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau dywedodd y Cynghorydd Topps bod y Cyngor Cymuned yn dibynnu ar arweiniad Clarc y Cyngor ond ar yr achlysur penodol hwn ni fedrai'r Clarc fod o gymorth.  O'r herwydd gofynnwyd i'r Cynghorydd Sir Lleol am ei gyngor.  Nid oedd yma unrhyw fwriad i fod yn dwyllodrus.  Roedd pob aelod o'r Cyngor Cymuned yn rhoi yn wirfoddol o'i amser heb unrhyw gydnabyddiaeth ariannol o gwbl.  Nid oedd etholiadau cyhoeddus byth yn cael eu cynnal yn Aberffraw a rhan fwyaf o'r aelodau wedi eu cyfethol i'r Cyngor Cymuned. Ni chredai fod unrhyw fudd personol i'r sawl oedd ar y Cyngor Cymuned a chredai fod pob peth yn iawn i'r Cynghorydd Owen bleidleisio gan y buasai, pe cynhelid etholiad wedi pleidleisio i'w fab a hefyd iddo'i hun.  O edrych yn ôl, sylweddolai fod hwn yn gamgymeriad ac yn y dyfodol buasai'n gohirio'r cyfarfod i bwrpas cael cyngor cyfreithiol dibynadwy.  Ailadroddodd bod gwersi gwerthfawr wedi eu dysgu.

 

 

 

Hefyd cafwyd cadarnhad gan y Cynghorydd Topps fod holl aelodau'r Cyngor wedi llofnodi'r Côd Ymddygiad a'r run ohonynt wedi gofyn am hyfforddiant ychwanegol ynghylch unrhyw agwedd ar y Côd.

 

Ymneilltuodd y Pwyllgor i sesiwn breifat i ystyried ei benderfyniad.

 

 

 

Dychwelodd y Pwyllgor i Sesiwn Gyhoeddus a chyhoeddodd y Cadeirydd ei benderfyniad yn seiliedig ar y ffeithiau.

 

 

 

Cred y Pwyllgor bod hon yn enghraifft glir ac agored iawn o dorri’r Côd Ymddygiad.  Mae’r Pwyllgor Safonau yn nodi bod y Cynghorydd Owen wedi derbyn casgliadau’r Ombwdsmon.  Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn pryderu am y goblygiadau i’r achwynydd, Mrs Emma Roberts, ac yng nghyswllt yr ymddiriedaeth a’r hyder y mae gan y gymuned leol yr hawl i’w disgwyl gan ei Chyngor Cymuned a’i Aelodau.  Petai’r Cynghorydd Owen wedi datgan  

 

diddordeb a thynnu yn ôl o’r cyfarfod mae’r Pwyllgor Safonau o’r farn y buasai’n bur debygol i Mrs Roberts gael ei hethol i’r Cyngor Cymuned yn lle mab y Cynghorydd Owen.

 

 

 

O’r herwydd mae’r ymddygiad, y gwnaed y cwyn yn ei gylch yn fater mwy na nam technegol oherwydd iddo greu anghyfiawnder parhaus i drydydd parti a hefyd oherwydd iddo beri risg ddifrifol i enw da Cyngor Cymuned Aberffraw.

 

 

 

Nid oes gan y Pwyllgor Safonau bwerau uniongyrchol i wneud iawn am yr anghyfiawnder ond mae ganddo swyddogaeth ymgynghorol ac yn y swyddogaeth honno mae’n argymell y dylai’r Cynghorydd Cymuned Barry Owen ystyried yn ddifrifol iawn ymddiswyddo fel aelod o Gyngor Cymuned Aberffraw er mwyn creu is-etholiad.  Wrth gwrs buasai’r Cynghorydd Barry Owen a’r hawl i sefyll eto mewn etholiad o’r fath.

 

 

 

Er na all y Pwyllgor Safonau orfodi hyn mae’n credu mai hon yw’r unig ffordd o sicrhau canlyniad teg ac adfer ffydd y cyhoedd yn y broses.

 

 

 

Oherwydd y goblygiadau i Mrs Roberts cred y Pwyllgor hefyd na fuasai cerydd yn ddigonol ac felly mae’n rhoddi cyfarwyddyd i atal y Cynghorydd Cymuned J. R. Owen rhag bod yn aelod o Gyngor Cymuned Aberffraw am 3 mis a’r cyfnod hwnnw yn dechrau ar ddiwedd y cyfnod o 20 diwrnod o heddiw ymlaen ond hyn oll yn dibynnu ar gasgliadau unrhyw apêl a gyflwynir.

 

 

 

Mae gan y Cynghorydd Owen hawl i apelio i’r Panel Dyfarnu yn erbyn y penderfyniad hwn.  Bydd raid i apêl o’r fath gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig gan y Cynghorydd Owen i’r Cofrestrydd, Ystafell G.076, Pwyllgor Dyfarnu Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ cyn pen 28 diwrnod i heddiw.

 

 

 

Yn ogystal mae’r Pwyllgor yn dymuno ychwanegu ei bryderon ynghylch yr haeriadau a wnaed gan Mrs Roberts yn ei llythyr – os ydyw’r haeriadau hynny’n gywir maent yn cyfateb i gamweinyddu.

 

 

 

Gofynnir i Glercod yr holl Cynghorau Cymuned nodi y bydd Côd Ymddygiad newydd yn dod i rym yn ystod 2007 a bydd y Pwyllgor Safonau yn disgwyl i pob Clerc fynychu’r hyfforddiant a gynigir gan y Pwyllgor Safonau a’r Swyddog Monitro.

 

 

 

Bydd raid i holl brif unigolion yr achos hwn, h.y. y Cynghorydd Topps, y Cynghorydd J. R. Owen a’r Cynghorydd O. Glyn Jones sicrhau eu bod yn cynefino unwaith yn rhagor gyda’r Côd Ymddygiad.

 

 

 

4   CWYN YN ERBYN CYNGHORYDD CYMUNED

 

 

 

Fel a nodwyd yn eitem 1 uchod gwnaeth Mr. J. Cotterell ddatganiad o ddiddordeb yn yr eitem a ganlyn a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth arni.

 

 

 

Hefyd gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y mater o rhagfarn.

 

 

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor bod Mr. Durkin wedi cyflwyno nifer o faterion ar ôl gyrru'r Rhaglen allan.  Un o'r materion hyn oedd y posibilrwydd o ragfarn gan y Swyddog Monitro - mater y buasai'n rhaid i'r Pwyllgor Safonau benderfynu arno.  Darllenodd y Cadeirydd gopi o lythyr a anfonwyd gan Mr. Durkin at y Pwyllgor Safonau a rhannodd gopïau yn y cyfarfod.  Yn y llythyr hwnnw cyfeiriodd Mr. Durkin at y Swyddog Monitro gan haeru "that it appears she has already given untrue and misleading information in a letter to all County Councillors, tantamount to calling me a liar, making her position and that of her staff untenable when it comes to advising the committee".  Yn ychwanegol, ysgrifennodd Mr. Durking "..... the report itself from the Ombudsman generates so much prejudice, it all most beggars belief...."

 

 

 

Wedyn rhoes y Cadeirydd groeso i Mr. Meirion Jones, Cyfreithiwr y Swyddog Monitro, adrodd ar y cefndir a dywedodd :-

 

 

 

Ÿ

Bod y Cynghroydd Peter Rogers, mewn cyfarfod o'r Cyngor Sir ar 19 Medi, wedi gofyn a oedd y Cynghorydd D. E. Lewis-Roberts â'r hawl i ddefnyddio'r llythrennau ar ôl ei enw;

 

Ÿ

Doedd a wnelo'r cwestiwn ddim â'r mater gerbron y Pwyllgor Safonau, h.y. Atodiad A adroddiad yr Ombwdsmon sy'n cyfeirio'n unig at Seland Newydd a materion cynllunio;

 

Ÿ

Cyflwynodd y Cynghorydd Lewis-Roberts i'r Swyddog Monitro dystysgrifau yn cadarnhau cywirdeb y llythrennau a gofynnod am anfon llythyr at yr holl Gynghorwyr yn cadarnhau fod hyn yn gywir gan fod y mater wedi ei godi mewn Cyfarfod o'r Cyngor Sir;

 

Ÿ

Anfonwyd llythyr gan y Swyddog Monitro at yr holl Gynghorwyr ar 4 Hydref 2006 ac yn datgan "I have seen Councillor Lewis-Roberts who produced to me certification confirming the accuracy of these deisgnatory letters and accordingly he has requested me to write to all Members to confirm".

 

Ÿ

Nid yw'r Swyddog Monitro yn cyfeirio at Mr. Durkin yn ei llythyr at y Cynghorwyr Sir ac o'r herwydd doedd y wybodaeth ddim yn anwir nac yn gamarweiniol ac nid oedd yn tanseilio ei sefyllfa.

 

Ÿ

Yng nghyswllt yr awgrym fod adroddiad yr Ombwdsmon yn rhagfarnllyd roedd yn rhaid cydnabod ei fod yn un negyddol neu fel arall ni fuasai wedi dod gerbron y Pwyllgor Safonau.  Os oedd Mr. Durkin am wneud sylwadau ychwanegol ar yr adroddiad yna dylai anfon sylwadau at yr Ombwdsmon.  

 

 

 

Wedyn cafwyd cyngor gan Mr. Meirion Jones fod y Pwyllgor Safonau yn ymneilltuo i sesiwn breifat i ystyried a oedd y Swyddog Monitro wedi bod yn rhagfarnllyd a'i peidio.

 

 

 

Wedi dychwelyd i Sesiwn Gyhoeddus, dywedodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn unfrydol ei farn nad oedd y Swyddog Monitro wedi bod yn rhagfarnllyd a hynny am y rhesymau a ganlyn :-

 

 

 

1.

Nid oedd sôn am enw Mr. Durkin yn y llythyr gan y Swyddog Monitro i holl Aelodau'r Cyngor Sir , ac

 

2.

Ym marn y Pwyllgor Safonau, mae'r llythyr yn ddatganiad o'r ffeithiau.

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i'r Swyddog Monitro ddychwelyd i'r cyfarfod.  Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor bod raid iddo benderfynu a ddylid cynnal gwrandawiad i'r gwyn ai peidio a gofynnodd i'r Swyddog Monitro gyflwyno adroddiad yr Ombwdsmon.  

 

 

 

Dygodd y Swyddog Monitro sylw at adroddiad yr Ombwdsmon dyddiedig 20 Gorffennaf 2006 ac yn arbennig at baragraff 23 yr adroddiad  a ddywed : "Councillor Durkin has failed to heed the warning in my earlier report and as a consequence has behaved in a manner which is in breach of both paragraphs 4(a) and 6(1)(b) of the Council's Code of Conduct".

 

 

 

Casgliad yr Ombwdsmon yn unol ag Adran 69 Deddf Llywodraeth Leol 2000 ydi y dylid cyfeirio ei adroddiad ar yr ymchwiliad i'r Swyddog Monitro i'w ystyried gan Bwyllgor Safonau'r Cyngor.  Roedd angen yn awr i'r Pwyllgor Safonau ddod i benderfyniad cychwynnol ar adroddiad drwy naill ai :

 

 

 

Ÿ

casglu nad oes digon o wybodaeth a gwrthod yr haeriad

 

 

 

Ÿ

neu

 

 

 

Ÿ

casglu ei fod yn fodlon fod achos i'w ateb a gohirio i wrandawiad pellach er mwyn caniatáu i Mr. Durkin ac/neu ei gyfreithiwr/bargyfreithiwr wneud sylwadau

 

 

 

Ÿ

a

 

 

 

Ÿ

penderfynu a ydyw'n dymuno i ymchwilydd yr Ombwdmon fynychu'r gwrandawiad ai peidio ac os ydyw, pa faterion y byddai angen iddo fo/hi roddi sylw iddynt.

 

 

 

Aeth y Pwyllgor i sesiwn breifat i ystyried ei benderfyniad.  Wedi dychwelyd i sesiwn gyhoeddus, cyhoeddodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor wedi :-

 

 

 

PENDERFYNWYD :

 

 

 

1.1

cynnal gwrandawiad pellach i'r mater

 

1.2

nad oedd y Pwyllgor yn dymuno i ymchwilydd yr Ombwdsmon fynychu.

 

 

 

Wrth benderfynu ar ddyddiad ar gyfer cynnal gwrandawiad, cyfeiriwyd at e-bost a dderbyniwyd gan Mr. Durkin a rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Durkin annerch y Pwyllgor ynglyn â'r mater hwn.  

 

 

 

Diolchodd Mr. Durkin i'r Pwyllgor am benderfynu y dylid cyfeirio'r mater i wrandawiad llawn.  Mewn perthynas â'r cynnig ynghylch dyddiad ar gyfer gwrandawiad o'r fath, dywedodd Mr. Durkin ei fod wedi siarad gyda'i gyfreithiwr ddau ddiwrnod ynghynt ac wedi cael cyngor y byddai'n ddiwedd Ionawr 2007 o leiaf cyn y byddai bargyfreithiwr mewn sefyllfa i gyflwyno ei amddiffyniad.  Gofynnodd am gael cynnal y gwrandawiad ar ddyddiad yn ddiweddarach oherwydd y  byddai hynny o fudd i'r Pwyllgor.

 

 

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn ymatal i sesiwn breifat i ystyried cais Mr. Durkin.

 

 

 

Dychwelodd y Pwyllgor i Sesiwn Gyhoeddus lle cyhoeddodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn bryderus ynghylch yr estyniad amser y gofynnwyd amdano gan Mr. Durkin ac yn gofyn iddo ddarparu rhestr ysgrifenedig o ddyddiadau pryd y byddai ei gynrychiolwyr cyfreithiol ar gael hyd at ddiwedd Ionawr 2007 i'r Swyddog Monitro erbyn dim hwyrach na'r diwrnod gwaith olaf ym mis Tachwedd 2006.  NI fyddai'r Pwyllgor yn dymuno i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn hwyrach na 31 Ionawr 2007.

 

 

 

Ychwanegodd y Cadeirydd, oherwydd cynnwys e-bost Mr. Durkin dyddiedig 8 Tachwedd 2006, bod y Pwyllgor Safonau yn dymuno achub ar y cyfle i egluro mai'r mater y bydd y Pwyllgor yn rhoddi sylw iddo yn y gwrandawiad ydi a oedd Mr. Durkin, trwy gyhoeddi'r llyfryn yn Atodiad A yn Adroddiad yr Ombwdsmon, wedi torri'r Côd Ymddygiad.

 

 

 

Cynghorwyd Mr. Durkin i edrych ar frawddeg olaf paragraff 21 Adroddiad yr Ombwdsmon dyddiedig 20 Mehefin 2006.  Ni fydd gan y Pwyllgor Safonau ddiddordeb mewn cyflwyniadau ynghylch a oedd haeriadau Mr. Durkin yn wir ai peidio.  Mae hyn yn amherthnasol i'r penderfyniad y bydd raid i'r Pwyllgor ei wneud.

 

 

 

Ni fydd y Pwyllgor Safonau yn caniatáu i'w weithgareddau gael eu defnyddio fel modd i fynd ar ôl haeriadau yn erbyn yr achwynydd.

 

 

 

Os oes gan Mr. Durkin dystiolaeth yn erbyn y Cynghorydd David Lewis-Roberts, yna'r peth priodol iddo ef ei wneud ydi cyflwyno'r dystiolaeth honno i'r Ombwdsmon.

 

 

 

 

 

DR. GWYNETH ROBERTS

 

CADEIRYDD