Pwyllgor Safonau dogfennau , 31 Ionawr 2007

Pwyllgor Safonau
Dydd Mercher, 31ain Ionawr, 2007

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 31 January, 2007

 

YN BRESENNOL:

 

Dr Gwyneth Roberts (Cadeirydd);

 

Mr J. Cotterell;

Dr John Griffiths;

Mr Gwynfor Jones;

Dr J. Popplewell.

 

 

 

WRTH LAW:

 

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (MJ);

Arweinydd Tim y Prosiect (GE);

Swyddog Pwyllgor (JMA).

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod hwnnw o’r Pwyllgor Safonau a gafwyd ar 9 Tachwedd, 2006 a llofnodwyd nhw fel cofnod cywir o’r cyfarfod. (Cofnodion y Cyngor 14.12.2006, tud 88 - 92).

 

3

CAIS AM GANIATÂD ARBENNIG

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro yn gofyn am ganiatâd arbennig i Lywodraethwyr Ysgolion.

 

Yn yr adroddiad nodwyd bod ar y Cyngor Sir 40 o Aelodau a 36 ohonynt yn Llywodraethwyr Ysgolion.  Ar hyn o bryd roedd y Cyngor yng nghanol trafodaethau ynghylch rhesymoli’r ddarpariaeth ysgolion ym Môn ac Arfon a hefyd yn trafod Cynllun Braenaru - sef opsiynau ar gyfer darparu addysg i rai 16 - 18 oed.  Bydd y pynciau hyn yn cael sylw gan y Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg Iechyd a Lles, gan y Prif Bwyllgor Sgriwtini, gan y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Sir.

 

Roedd hwn yn gais am ganiatâd arbennig i’r Aelodau hynny sydd ar Gyrff Llywodraethol yr ysgolion fel bod modd iddynt fod yn rhan o’r drafodaeth a phleidleisio ar y Cynllun Trefniadau Ysgolion a’r opsiwn ynghylch darparu addysg i rai 16 - 18 oed, pa un a fydd yr ysgol y maent hwy yn llywodraethwr ynddi yn cael sylw manwl ai peidio, ond ni fydd y caniatâd arbennig yn cynnwys trafodaethau na phleidleisio ar ysgolion y maent hwy yn aelodau o’u Cyrff Llywodraethol.

 

 

Yn ogystal y mae’r Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg Iechyd a Lles wedi cyfethol pedwar aelod gyda’r hawl i bleidleisio, sef dau gynrychiolydd i’r Eglwys yng Nghymru, i’r Eglwys Babyddol  a dau o rieni Llywodraethwyr, un yn gynrychiolydd ysgolion cynradd a’r llall  yn gynrychiolydd ysgolion uwchradd.  Roeddid yn gofyn am ganiatâd arbennig i’r pedwar aelod cyfetholedig fel bod modd iddynt fod yn rhan o’r trafodaethau a phleidleisio ar y Cynllun Trefniadau Ysgolion, a hefyd yng nghyswllt daraparu addysg i rai 16 - 18 oed yn y Pwyllgor Trosolwg.

 

 

 

 

 

Mae’r Côd Ymddygiad yn nodi ym mharagraff 5.1.3.3.(iii) bod raid i aelodau ystyried bod ganddynt ddiddordeb personol mewn mater i’r graddau y mae a wnelo â’r corff y cawsant eu penodi iddo neu eu henwebu arno gan yr Awdurdod fel cynrychiolydd.  Rhaid i Aelodau â diddordeb dan Baragraff 5.1.3.3.(iii), pan fônt yn bresennol mewn cyfarfod a’r mater gerbron ynddo, ddatgelu bodolaeth a natur y diddordeb ar ddechrau’r drafodaeth a chânt siarad ar y mater ond heb yr hawl i bleidleisio 5.1.3.7(i).

 

 

 

Dyma’r rheswm statudod pam y gofynnir am y caniatâd arbennig i Aelodau:-

 

 

 

mae o leiaf hanner aelodau’r Awdurdod neu o bwyllgor yr Awdurdod (fel y bo’r achos) fydd yn ystyried y busnes, â diddordeb sy’n berthnasol i’r busnes hwnnw;

 

 

 

Yn achos Aelodau Cyfetholedig o’r Pwyllgor Trosolwg Polisi Addysg Iechyd a Lles mae’r ddarpariaeth hon yn berthnasol:-

 

 

 

mae’r busnes yr ymwna’r diddordeb â fo yn mynd i gael ei drafod gan bwyllgor trosolwg a sgriwtini’r Awdurdod perthnasol ac nid yw diddordeb yr Aelod yn ddiddordeb ariannol.  

 

 

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau i’r swyddog a benodwyd i  gydlynu’r broses resymoli ar y darpariaethau ysgolion.

 

 

 

Ganddo cafwyd cadarnhad y bydd y broses yn un hir - yn un y bydd raid gwneud gwaith ymgynghori manwl arni a chynnal trafodaethau manwl dros nifer o flynyddoedd.

 

 

 

Yn unfrydol PENDERFYNODD y Pwyllgor roddi caniatâd arbennig i:-

 

 

 

3.1

holl Aelodau’r Cyngor Sir sydd hefyd yn Llywodraethwyr Ysgolion, yn rhinwedd iddynt gael eu henwebu fel cynrychiolwyr y Cyngor, dan gymal 5.1.3.3.(iii) o’r Côd Ymddygiad, i’w galluogi i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau a phleidleisio mewn perthynas â’r Cynllun Trefniadau Ysgolion a Darparu Addysg i Bobl Ifanc 16 - 18 oed, ond nid yw’r caniatâd yn cynnwys trafodaethau na phleidleisio ar ysgolion penodol y maent yn aelodau o’u Cyrff Llywodraethol;

 

 

 

3.2

Aelodau Cyfetholedig sydd gyda phleidlais ar y Pwyllgor Trosolwg Addysg Iechyd a Lles mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth ar Gynllun Trefniadaeth Ysgolion a Darparu Addysg i Bobl Ifanc 16 - 18 oed, ond heb gynnwys trafodaethau na phleidleisio ar yr ysgolion penodol hynny y maent yn aelodau o’u Cyrff Llywodraethol.

 

 

 

 

 

 

 

DR GWYNETH ROBERTS

 

CADEIRYDD