Pwyllgor Safonau dogfennau , 5 Gorffennaf 2007

Pwyllgor Safonau
Dydd Iau, 5ed Gorffennaf, 2007

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2007.

 

YN BRESENNOL:

 

Dr Gwyneth Roberts (Cadeirydd)

 

Dr John Griffiths

Mr Gwynfor Jones

Dr J Popplewell

Mrs Ceri Thomas

 

 

 

WRTH LAW:

 

Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (RJ)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (MJ)

Swyddog Pwyllgor (MEH)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Mr Jeffrey Cotterell

 

HEFYD YN BRESENNOL:

 

Mr Colin Crawford

Mr B Durkin

Mr Dafydd Roberts - yn cynrychioli Mr Durkin 

Mr Guto Aaron - yn cynrychioli Mr Durkin

 

 

1

DATGAN O DDIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd a llofnodwyd fel rhai cywir,  gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2007. (Cofnodion y Cyngor 06.03.2007, tud 86 - 87)

 

3

CWYN YN ERBYN CYNGHORYDD CYMUNED

 

Dywedodd y Cadeirydd beth oedd swyddogaeth y cyfarfod, sef cynnal gwrandawiad llawn yn unol â’r Rheoliadau perthnasol yn dilyn gwrandawiad cychwynnol a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, 2006.  Cynhaliwyd y gwrandawiad hwnnw o ganlyniad i benderfyniad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i dderbyn cwyn a gyflwynwyd gan y Cynghorydd D A Lewis-Roberts, Cyngor Sir Ynys Môn bod Mr Durkin wedi methu glynu wrth y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau pan oedd o’n aelod o Gyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf.

 

Rôl y Pwyllgor Safonau yn y lle cyntaf oedd penderfynu a ddylid cadarnhau’r gwyn bod Mr Durkin wedi methu cydymffurfio gyda’r Cod Ymddygiad yn unol â Rheoliad 9(1) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2281 (W. 171) sy’n darllen fel a ganlyn:-

 

“(9)(1) Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu:

 

 

(a)  nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ac felly nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â’r materion sy’n destun yr ymchwiliad;

 

 

 

(b)  bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ond nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â’r methiant hwnnw;

 

 

 

(c)  bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o’r awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei geryddu;”

 

 

 

Petai’r Pwyllgor yn penderfynu peidio â chadarnhau’r gwyn, dyna fyddai diwedd y mater.  Fodd bynnag, os oedd y Pwyllgor yn penderfynu cadarnhau’r gwyn, byddai’r penderfyniad hwnnw, ynghyd â’r rhesymau amdano, yn cael eu cyhoeddi.  Yna, byddai’n gofyn i unrhyw faterion gael eu hystyried a fyddai’n lliniaru unrhyw gosb posibl.

 

 

 

Nododd y Cadeirydd bod y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro yn cyflwyno adroddiad yr Ombwdsmon i’r Pwyllgor a bod Mr Colin Crawford (yn gweithredu ar gyfarwyddiadau’r Dirprwy Swyddog Monitro) yn cynghori’r Pwyllgor yn ystod y gwrandawiad.  Nodwyd bod Mr Dafydd Roberts (Cwnsler ar gyfer Mr Durkin) a Mr Guto Aaron (Cyfreithiwr) yn cynrychioli Mr Durkin.

 

 

 

Fel rhan o’r papurau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor gyda’r Rhaglen, roedd y canlynol wedi’u cynnwys:-

 

      

 

Ÿ

Offerynnau Statudol 2001 Rhif 2281 (Cy. 171);

 

Ÿ

Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf;

 

Ÿ

Adroddiad yr Ombwdsmon dyddiedig 20 Gorffennaf, 2006;

 

Ÿ

Adroddiad yr Ombwdsmon dyddiedig 8 Rhagfyr, 2005 (cyfeirir ato ym mharagraff 18 Papur 3 uchod);

 

Ÿ

Llythyr yr Ombwdsmon i’r Swyddog Monitro a Chyfreithwyr Mr Durkin dyddiedig 18 Ionawr, 2007;

 

Ÿ

Llythyr yr Ombwdsmon i Mr Durkin dyddiedig 18 Ionawr,  2005;

 

Ÿ

Llythyr yr Ombwdsmon i’r Swyddog Monitro a Chyfreithwyr Mr Durkin dyddiedig 4 Ebrill, 2007;

 

Ÿ

Cofnodion Pwyllgor Safonau 9 Tachwedd, 2006.

 

 

 

Cyhoeddodd Mr Dafydd Roberts y byddai’n cyfeirio at y dogfennau isod a oedd wedi’u cynnwys yn y pentwr dogfennau a gyflwynwyd ar ran Mr Durkin :-

 

 

 

Ÿ

Adroddiad yr Ombwdsmon dyddiedig 20 Gorffennaf, 2006

 

Ÿ

Adroddiad yr Ombwdsmon dyddiedig 8 Rhagfyr, 2005 ac 8 Awst, 2006 (yn ymwneud â chanfyddiadau cwynion tebyg yn erbyn Mr Durkin.  Roedd o’n awgrymu bod anghysonderau yn y canfyddiadau);

 

Ÿ

Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf;

 

Ÿ

Y ddogfen ‘Nice Work if you can get it’;

 

Ÿ

Llythyrau dyddiedig 21 a 26 Ebrill, 2006 gan Mr Durkin (Tudalennau 67 a 68 o’r bwndel);

 

Ÿ

Y ddogfen ‘In touch special’ (testun adroddiad yr Ombwdsmon Rhagfyr 2005)(Tudalen 85 y bwndel);

 

Ÿ

Copi o Gyfansoddiad y Cyngor yn ymwneud â’r Polisi ar gyfer Atal Twyll a Llygredd.

 

 

 

Enciliodd y Pwyllgor i sesiwn breifat i ystyried y cais gan gynrychiolydd Mr Durkin mewn perthynas â’r dogfennau hyn.

 

 

 

Wedi i’r Pwyllgor ddychwelyd, cyhoeddodd y Cadeirydd eu bod yn barod i gymryd i ystyriaeth y dogfennau ac eithrio’r llythyrau dyddiedig 21 a 26 Ebrill, 2006 a dim ond pe bai’r Pwyllgor yn mynd i sesiwn breifat y gellid darllen y ddogfen ‘In touch special’.  Yna rhoes Mr Roberts wahoddiad i’r Pwyllgor ystyried a darllen drwy’r dogfennau hyn wedi iddo encilio.

 

 

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i’r Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro gyflwyno adroddiad yr Ombwdsmon dyddiedig 20 Gorffennaf, 2006.  Cyfeiriodd Mr Jones at y materion perthnasol yn yr adroddiad hwnnw a’i gasgliadau sef bod Mr Durkin wedi ymddwyn mewn modd a oedd yn torri paragraffau 4(a) a 6(1)(b) o Gôd Ymddygiad Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf.  Cyfeiriwyd yr ymchwiliad i Swyddog Monitro Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer ei ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.  

 

 

 

 

 

 

 

Ar ran Mr Durkin, gofynnodd Mr Roberts i’r Pwyllgor ystyried y rhesymau pam y cyhoeddodd Mr Durkin y dogfennau perthnasol, sef cael gwared o arferion drwg ar Ynys Môn.  Cylchrediad cyfyngedig iawn oedd i’r dogfennau hyn.  Hefyd, roedd cwynion a wnaed gan y Cynghorydd Lewis-Roberts ynglyn â’r mater hwn i’r heddlu a’r Comisiwn Etholiadol wedi cael eu gwrthod.  Roedd y gwyn dyddiedig 8 Mawrth, 2006 yn dweud bod Mr Durkin wedi torri Côd Ymddygiad Ynys Môn, ond Côd Ymddygiad Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf oedd yr un yr oedd Mr Durkin wedi ymrwymo iddo.  Beth bynnag, roedd Rhan 2 y Côd hwnnw yn cyfyngu ei ddefnyddio i weithgareddau Cynghorwyr tra’n ymddwyn yn eu capasiti swyddogol ac roedd paragraff 4 o’r Côd a oedd yn cyfeirio at ‘dangos parch a bod yn ystyriol o eraill’ yn berthnasol i aelod pan oedd yn gweithredu mewn capasiti swyddogol yn unig.  Cyfeiriodd Mr Roberts hefyd at Baragraff 5 y Côd Ymddygiad ac at adroddiad yr Ombwdsmon dyddiedig 20 Gorffennaf, 2006 lle dywedir ym mharagraff 15: “the Clerk to the Council told me that her council did not wish to comment on the matter as Councillor Durkin was not considered to be acting in his official capacity as community councillor”.  Fodd bynnag, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, er gwaethaf sylwadau Clarc y Cyngor, bod Mr Durkin wedi gweithredu mewn capasiti swyddogol a bod paragraff 4 felly yn berthnasol.  Gofynnodd Mr Roberts i’r Pwyllgor gymharu hyn yn ofalus iawn gyda chanfyddiadau’r Ombwdsmon yn ei adroddiad dyddiedig 8 Awst, 2006 a oedd yn benderfyniad syml iawn.  Roedd yr Ombwdsmon wedi derbyn gwybodaeth gan y Clerc nad oedd Mr Durkin yn gweithredu yn ei gapasiti swyddogol ac, bryd hynny, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd paragraff 4 yn berthnasol.  Nid yw llofnodi’r ddogfen fel Cyngor Cymuned ynddo’i hun yn golygu fod Mr Durkin yn gweithredu mewn capasiti swyddogol.  Yn ei adroddiad dyddiedig Awst, 2006 canfu’r Ombwdsmon unwaith eto nad oedd Mr Durkin yn gweithredu mewn capasiti swyddogol.  O’r herwydd, nid oedd paragraff 4 yn berthnasol.  Gofynnodd Mr Roberts hefyd i’r Pwyllgor beidio â rhoddi pwysau ar y paragraff lle ‘roedd yr Ombwdsmon yn credu bod y ddogfen yn enllibus.  Dywedwyd bod Mr Durkin wedi methu rhoi sylw i’r rhybudd yn adroddiad cynharach yr Ombwdsmon.  Roedd modd dadlau hynny.  Beth bynnag, daethpwyd i’r penderfyniad nad oedd angen cymryd unrhyw gamau.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymharu iaith y dogfennau perthnasol a gylchredwyd gan Mr Durkin.  Roedd Mr Durkin wedi dewis y gair “corruption” yn benodol a hynny yn wyneb Adran 5.6 Cyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn a’r hyn yr oedd o yn ei gredu oedd yn mynd ymlaen.

 

 

 

Cyfeiriodd Mr Roberts at Erthygl 10 y Ddeddf Hawliau Dynol a mater cymesuredd yng nghyswllt cylchrediad cyfyngedig y ddogfen berthnasol.  Roedd rhaid i’r Pwyllgor benderfynu a oedd y ddogfen yn gyfystyr â thorri’r Cod Ymddygiad yn wyneb Erthygl 10, a’r ffaith bod Mr Durkin yn rhydd, yn amodol ar brif ddeddfwriaeth i ddweud a gwneud fel y mynnai mewn perthynas â rhai materion.  Daeth Mr Roberts a’i gyflwyniad i ben drwy wahodd y Pwyllgor i ddod i’r casgliad yn wyneb paragraff 4 a’r holl faterion y cyfeiriwyd atynt a’r rhesymau y tu ôl i ddatgeliadau a bwriadau Mr Durkin, nad oedd Mr Durkin wedi torri’r Côd wrth lofnodi’r ddogfen yn unig.  Dylid rhoddi arwyddocâd digonol i sylwadau Clerc y Cyngor Cymuned nad oedd Mr Durkin yn gweithredu yn eu gapasiti swyddogol.  Mewn perthynas â pharagraff 6(1), nid oedd o wedi mynd dros ben llestri ond wedi codi materion a oedd yn ei bryderu o.  Roedd o hefyd wedi cyfyngu ar gylchrediad y ddogfen.  Eto, rhoes Mr Roberts wahoddiad i’r Pwyllgor hwn ddod i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth bod Mr Durkin wedi torri amodau’r paragraff hwnnw.

 

 

 

Wedyn, ar wahoddiad y Cadeirydd, cododd aelodau’r Pwyllgor nifer o faterion gyda Mr Roberts er mwyn eglurhad.

 

 

 

Yna rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr Roberts wneud unrhyw sylwadau pellach os oedd yn dymuno gwneud hynny.  Nid oedd gan Mr Roberts unrhyw sylwadau pellach i’w gwneud.

 

 

 

Enciliodd y Pwyllgor i sesiwn breifat i ystyried ei benderfyniad.

 

 

 

Dyma oedd penderfyniad y Pwyllgor :-

 

 

 

Wrth ddod i’w benderfyniad ynghylch a oedd Mr Durkin, pan oedd yn Gynghorydd Cymuned, wedi torri Côd Ymddygiad Llanfair Mathafarn Eithaf, cymerodd y Pwyllgor i ystyriaeth adroddiad yr Ombwdsmon a’r dogfennau ychwanegol a gyflwynwyd i ni gan gynrychiolydd Mr Durkin.  Ar sail y rheini, daeth i’r casgliad bod Mr Durkin wedi torri Paragraffau 4(a) a 6(1)(b) y Côd perthnasol.

 

 

 

 

 

Mewn perthynas â thorri Paragraff 4(a), daeth y Pwyllgor i’w benderfyniad ar y sail bod Mr Durkin yn gweithredu mewn capasiti swyddogol wrth rhyddhau’r ddogfen ‘Nice Work if you Can Get It’. Cymerodd y Pwyllgor i ystyriaeth farn Clerc Cyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf nad oedd y Cynghorydd Durkin yn gweithredu mewn capasiti swyddogol wrth gylchredeg y ddogfen berthnasol.  Fodd bynnag, rydym o’r farn nad oedd barn y Clerc yn benderfynodol yn y cyswllt hwn, er i’r farn gael ei mynegi ar dri achlysur ar wahân.  Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod Mr Durkin, ar ddau achlysur ar wahân, wedi gweithredu mewn capasiti swyddogol.  Wrth lofnodi’r ddogfen fel Cynghorydd Cymuned, roedd yn cynnwys ei hun yn y Côd Ymddygiad.  Mewn perthynas â’r drydedd ddogfen, nid oedd wedi’i llofnodi fel Cynghorydd Cymuned, ac roedd hyn, ynghyd â’i chylchrediad cyfyng yn gwneud hyn yn eithriad.

 

 

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod y dewis o iaith a’r modd y bu i Mr Durkin fynegi ei hun yn torri’r rhan honno o’r Côd sy’n cyfeirio at ‘dangos parch a bod yn ystyriol o eraill’.  Clywsom hefyd yr hyn a ddywedwyd am y mater yn ymwneud â llygredd ond yn teimlo nad yw’r ffaith y cyfeirir at y gair yng Nghyfansoddiad Ynys Môn yn cyfiawnhau ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwn.

 

 

 

Rydym hefyd o’r farn bod Mr Durkin wedi torri Paragraff 6(1)(b) y Côd Ymddygiad sef ‘rhaid i Gynghorwyr yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio ag ymddwyn mewn dull y gellid yn rhesymol ei ystyried fel sy’n dwyn anfri ar swydd aelod neu ar yr awdurdod’.  Yn y cyswllt hwn, nid oes rhaid dangos bod Cynghorydd yn gwithredu neu ddim yn gweithredu mewn capasiti swyddogol.  Beth bynnag, rydym eisoes wedi canfod bod Mr Durkin wedi torri Paragraff 4(a) y Côd.  Rydym o’r farn y bu i Mr Durkin ddwyn anfri ar yr awdurdod drwy fynegi ei hun yn y modd y gwnaeth.  Hyd yn oed os oedd Mr Durkin o’r farn honno, gallai fod wedi mynegi ei hun mewn modd oedd ddim yn torri’r Côd.

 

 

 

Clywodd y Pwyllgor gyflwyniadau ynghylch is-baragraffau eraill o Baragraff 6 y Côd Ymddygiad ond ni ddaeth i unrhyw gasgliad ar unrhyw un o’r rhain ac o’r herwydd ni chawsant eu hystyried ymhellach.

 

 

 

Mewn perthynas â’r cyflwyniadau eraill a wnaed ar ran Mr Durkin, gofynnwyd i ni gymharu’r adroddiad hwn gydag adroddiadau eraill yr Ombwdsmon.  Hoffem ddatgan mai ein prif gonsyrn ni oedd adroddiad penodol yr Ombwdsmon a oedd gerbron y Pwyllgor ar yr adeg hon.  Mewn perthynas â hyn, mae’r Ombwdsmon wedi cadarnhau’r gwyn.  Nid mater i ni oedd ystyried a oedd yr adroddiadau eraill yn gywir neu’n anghywir.  

 

 

 

Clywsom hefyd y cyflwyniad ar berthnasedd y gyfraith yn ymwneud ag enllib a ph’un a oedd adroddiad cyntaf yr Ombwdsmon yn cyfateb i rybudd i’r Cynghorydd Durkin ai peidio.  Fodd bynnag, nid oedd y naill neu’r llall o’r materion hyn yn rhan hanfodol o’n rhesymu ni ac er y bu i ni wrando ar y cyflwyniadau pellach a wnaed i ni, nid oes angen i ni eu hystyried yn fanylach ar hyn o bryd.  

 

 

 

Gofynnwyd i ni hefyd ystyried defnyddio Erthygl 10 Deddf Hawliau Dynol 1989 yn yr achos hwn, ac yn arbennig felly yr angen i gyrraedd penderfyniad cymesur.  Mae hawl Mr Durkin i siarad yn hawl amodol dan Erthygl 10 a chadarnhawyd yn achos Sanders v. Kingston bod y Côd ei hun yn ymateb cymesur os caiff ei ddefnyddio’n iawn.  Yn yr achos hwn, rydym o’r farn bod y Côd wedi cael ei ddefnyddio’n iawn am y rhesymau a roddir uchod.

 

 

 

Mae mater cymesuredd hefyd yn ymestyn i gosb dan Baragraff 9(1) y Rheoliadau.

 

 

 

Yna, aeth Mr Durkin a’i gynrychiolwyr allan o’r Siambr i ystyried cyflwyniadau’r Pwyllgor Safonau.

 

 

 

Wedi i Mr Durkin a’i gynrychiolwyr ddychwelyd, cyhoeddodd y Cadeirydd y derbyniwyd llythyr gan y Cynghorydd Lewis-Roberts a oedd newydd gael ei ddwyn at sylw aelodau’r Pwyllgor.  Rhoes y Cadeirydd sicrwydd y byddai’r Pwyllgor yn edrych ar y ddogfen hon yr un mor fanwl â’r ddogfennau eraill a gyflwynwyd yn y gwrandawiad.

 

 

 

Dywedodd Mr Roberts nad oedd Mr Durkin yn derbyn cynnwys y llythyr ac nad oedd yn berthnasol i’r mater o gosb.  Gwrthodwyd yn bendant yr haeriadau ynddo ac os oeddynt am gael eu hystyried, roedd Mr Durkin yn dymuno cael cyfle i’w gwrthbrofi.  Awgrymodd Mr Roberts yn barchus y dylai’r Pwyllgor ddweud ‘Let sleeping dogs lie’.  Roedd y mater hwn drosodd.  Nid oedd y Cynghorydd bellach wedi ymrwymo i’r Côd.  Nid oedd y Pwyllgor yn awr yn le priodol i gymryd unrhyw gamau.  Rhoes Mr Roberts wahoddiad i’r Pwyllgor gymryd dim camau pellach mewn perthynas â’r mater hwn.

 

 

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn encilio i ystyried y cyflwyniadau uchod.

 

 

 

Dychwelodd y Pwyllgor i sesiwn gyhoeddus a chyhoeddodd y Cadeirydd ei benderfyniad yn seiliedig ar ffeithiau :-    

 

 

 

Wrth wneud ei gasgliadau mewn perthynas â chosb, cymerodd y Pwyllgor i ystyriaeth lythyr a gyflwynwyd gan y Cynghorydd D Lewis-Roberts ond penderfynwyd peidio â rhoddi llawer o arwyddocâd iddo oherwydd bod y rhan fwyaf o’r materion y cyfeirir atynt ynddo yn amherthnasol wrth ddod i benderfyniad ar y mater o gosb.  Fodd bynnag, cymerodd y Pwyllgor i ystyriaeth y cyflwyniadau a wnaed ar ran Mr Durkin.

 

 

 

Gyda’r pwerau a oedd ar gael i’r Pwyllgor, roedd ganddo ddewis o ddau bosibilrwydd.  Dewisodd roi cosb ar y sail bod y Pwyllgor o’r farn nad oedd yn anghymesur mewn perthynas â pherson oedd ddim yn cydnabod eu bod wedi torri’r Côd.

 

 

 

Roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod Mr Durkin efallai yn llawn bwriadau da wrth wneud fel y gwnaeth, ond roedd hefyd o’r farn y dylai, fel cyn aelod o’r cyngor, gael ei geryddu yn unol â Pharagraff 9(1)(c) y Rheoliadau, sef y gosb leiaf i gofrestru difrifoldeb torri’r Cod.

 

 

 

Wrth ddod i’r canlyniad hwnnw, cymerodd y Pwyllgor i ystyriaeth fater cymesuredd ond roedd o’r farn bod y mater o gymesuredd eisoes wedi cael ei gymryd i ystyriaeth pan gafodd adroddiad yr Ombwdsmon ei anfon am benderfyniad gan y Pwyllgor Safonau o fewn ei amrediad mwy cyfyng o gosbau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

DR GWYNETH ROBERTS

 

CADEIRYDD