Pwyllgor Safonau dogfennau , 29 Tachwedd 2007

Pwyllgor Safonau
Dydd Iau, 29ain Tachwedd, 2007

PWYLLGOR SAFONAU

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd, 2007.

 

YN BRESENNOL:

 

Dr Gwyneth Roberts (Cadeirydd)

 

Mr Jeffrey Cotterell

Mr Gwynfor Jones

Mrs Ceri Thomas (ar gyfer eitemau 1 a 2 yn unig)

 

 

 

WRTH LAW:

 

Swyddog Monitro (LB)

Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro (MJ)

Swyddog Pwyllgor (JMA)

 

 

 

YMDDIHEURIADAU:

 

Dr J Popplewell

 

 

 

 

 

1

DATGAN DIDDORDEB

 

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb gan nac Aelod na Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

 

2

COFNODION

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gafwyd o’r Pwyllgor Safonau ar 5 Gorffennaf, 2007 a’u derbyn fel rhai cywir. (Cofnodion y Cyngor 13.12.2007, tud 140 - 144)

 

3

GOHEBIAETH - ER GWYBODAETH YN UNIG

 

Cyflwynwyd - er gwybodaeth yn unig, ac ar gais Rheolwr-gyfarwyddwr y Cyngor, ganlyniadau’r cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn erbyn y Cynghorydd Sir Elwyn Schofield.  Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i’r Swyddog Monitro annerch y Pwyllgor ynghylch cefndir ffeithiol y mater.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod yr eitem ar y rhaglen yn ôl dymuniad Rheolwr-gyfarwyddwr y Cyngor a hefyd gyda chytundeb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Unison.  Er gwybodaeth yn unig y cyflwynwyd yr eitem ac nid oedd yn gyfeiriad statudol gan yr Ombwdsmon ac o’r herwydd nid oedd gan y Pwyllgor Safonau unrhyw hawliau i wneud penderfyniad ar y mater.

 

Roedd yr eitem yn cyfeirio at ddwy gwyn, yn ymwneud â materion gwahanol, ac a gyflwynwyd i’r Ombwdsmon yn haeru bod y Cynghorydd Sir Elwyn Schofield wedi torri y Cod Ymddygiad i aelodau etholedig.

 

Y Swyddog Monitro a gyflwynodd yr haeriad cyntaf i’r Ombwdsmon a hynny ar 31 Awst 2005 yng nghyswllt digwyddiad ar 3 Mai 2005.

 

 

Cyn Reolwr-gyfarwyddwr y Cyngor Sir gyflwynodd yr ail gwyn i’r Ombwdsmon - sef Geraint Edwards ar 2 Medi 2005 yng nghyswllt digwyddiad ar 10 Awst 2005.

 

 

 

Mewn adroddiadau a ymddangosodd yn y wasg dywedwyd bod cwyn y Rheolwr-gyfarwyddwr yn ymwneud â dogfennau cyfrinachol a baratowyd gan y Cyngor ac a adawyd yn nhoiledau’r Cyngor.  Nid oedd y wybodaeth honno’n gywir.  Mewn gwirionedd roedd y wybodaeth yn cynnwys nifer fawr iawn o daflenni, tua 179 o dudalennau i gyd, yn gwneud haeriadau difrifol digefnogaeth yn erbyn Cynghorwyr Sir.  Gadawyd bwndel o’r taflenni ym mhob uned un o doiledau’r Cyngor ar y llawr cyntaf.  

 

Yn amlwg roedd y weithred hon wedi’i bwriadu gyda golwg ar rannu’r taflenni yn adeilad y Cyngor a hefyd o bosib yn ehangach.

 

 

 

Cafodd cwynion y Swyddog Monitro a chyn Reolwr-gyfarwyddwr y Cyngor eu derbyn gan yr Ombwdsmon ac edrychwyd arnynt gan ymchwilydd a benodwyd gan yr Ombwdsmon o’i swyddfa ei hun.   Edrychwyd ar y ddau fater yn ofalus dros ben a chwblhawyd yr ymholiadau.   Ymholiadau a oedd yn tynnu 20 o weithwyr y Cyngor i mewn - rhai a holwyd ac a gyflwynodd dystiolaeth.

 

 

 

Wedyn cyhoeddwyd fersiwn ddrafft o adroddiadau gan yr Ombwdsmon a’u rhannu ymhlith y partïon perthnasol a rhoi’r cyfle iddynt gyflwyno sylwadau.  Ond oherwydd gwaeledd nid ymatebodd y Cynghorydd Schofield i’r fersiynau drafft hyn ac felly penderfynodd yr Ombwdsmon beidio â chyhoeddi ei adroddiadau terfynol; hefyd penderfynodd beidio â chymryd camau pellach.  Roedd penderfyniadau’r Ombwdsmon yn ymddangos yn ei lythyrau dyddiedig 22 Mawrth 2007 ac a gyflwynwyd i’r Pwyllgor fel rhan o’r Rhaglen ar gyfer y cyfarfod.

 

 

 

Yn achos y ddau ymchwiliad penderfynodd yr Ombwdsmon bod yr haeriadau yn cael cefnogaeth tystiolaeth, a’r ymchwiliadau yn dangos bod y dystiolaeth yn sefyll, ac o’r herwydd roedd y Rheolwr-gyfarwyddwr presennol yn pryderu ynghylch y casgliadau a gofynnodd i’r Ombwdsmon ddal y ddau adroddiad yn ôl hyd oni fuasai’r Cynghorydd Schofield wedi gwella.  Ond gwrthod a wnaeth yr Ombwdsmon ac ailgydiodd y Cynghorydd Schofield yn ei ddyletswyddau fel Cynghorydd ar 8 Awst 2007 neu o gwmpas hynny.  

 

 

 

Roedd Unison, undeb yn cynrychioli nifer o  weithwyr a oedd yn rhan o’r ymchwiliadau, wedi mynegi pryderon ynghylch lles aelodau’r undeb ar ddechrau’r ymholiadau yn 2005 ac yn fwy diweddar pan gawsant wybod bod y ddau Adroddiad wedi’u rhoddi o’r neilltu a’r Cynghorydd Schofield wedi ailgydio yn ei ddyletswyddau fel Cynghorydd heb orfod ateb y naill achos na’r llall yn ei erbyn, er gwaethaf casgliadau’r Ombwdsmon bod y ddau haeriad yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth ac yn cael eu hategu, i raddau helaeth, gan yr ymchwiliadau.

 

 

 

O’r herwydd ysgrifennodd y Rheolwr-gyfarwyddwr at yr Ombwdsmon ar 22 Hydref 2007 (roedd copi o’r llythyr ynghlwm wrth y Rhaglen i’r cyfarfod) gan ddweud, er ei fod yn gyfrifol am les ei staff, nad oedd ganddo bwerau i ddelio gydag ymddygiad Cynghorwyr ac felly yn gorfod dibynnu ar yr Ombwdsmon i ymgymryd â’r ddyletswydd honno.  Ond yn yr achos hwn roedd yr Ombwdsmon wedi penderfynu peidio â defnyddio’i bwerau a chredai’r Rheolwr-gyfarwyddwr mai’r dull gorau o ddiogelu lles y staff oedd cyflwyno cymaint o wybodaeth ag oedd yn gyfreithiol bosib i’r maes cyhoeddus.  i gyflawni y nod hwn awgrymodd y Rheolwr-gyfarwyddwr i’r Ombwdsmon mai un dull priodol fyddai cyflwyno eitem er gwybodaeth ar Raglen y Pwyllgor Safonau.  

 

 

 

Cytunodd yr Ombwdsmon i hyn ac o’r herwydd ysgrifennodd y Rheolwr-gyfarwyddwr at yr holl staff perthnasol yn egluro y buasai eitem yn ymddangos ar Raglen y Pwyllgor, er nad oedd y Pwyllgor Safonau â’r hawl i wneud penderfyniad yng nghyswllt y mater.  Roedd Unison wedi chwarae rhan gyflawn yn y broses ac ymgynghorwyd gyda nhw yng nghyswllt llythyr y Rheolwr-gyfarwyddwr at yr  Ombwdsmon a’r llythyr wedyn at y staff.  

 

 

 

Wrth gloi dywedodd y Swyddog Monitro mai hyn a hyn yn unig yr oedd yr Ombwdsmon yn ei ganiatáu i’w ryddhau i’r cyhoedd ac er ei bod yn hapus ceisio ateb unrhyw gwestiwn ynghylch ffeithiau roedd, fodd bynnag, yn credu yn credu y buasai’n rhaid i’r Pwyllgor fynd i sesiwn breifat i drafod manylion y mater.  A hyd yn oed mewn sesiwn breifat dim ond hyn a hyn o wybodaeth y gellid ei ryddhau, hyd yn oed i’r Pwyllgor Safonau, a hynny oherwydd gwaharddiadau statudol ar ryddhau tystiolaeth yn codi ar ôl ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon.

 

 

 

Ar ôl gwrando ar adroddiad y Swyddog Monitro gofynnodd y Cadeirydd i aelodau’r Pwyllgor Safonau a oeddynt yn dymuno mynd i sesiwn breifat i drafod manylion y mater.  Cytunwyd yn unfrydol bod y Pwyllgor yn mynd i sesiwn breifat.

 

 

 

Ar ôl dychwelyd i’r sesiwn gyhoeddus, cyhoeddodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor wedi penderfynu’n unfrydol fel a ganlyn:-

 

Gan fod yr Ombwdsmon wedi cytuno i ryddhau y papurau mae hynny’n golygu ei fod wedi caniatáu i’r Pwyllgor ystyried y ddwy gwyn.

 

 

 

Yn unfrydol mae’r Pwyllgor yn mynegi pryderon dwys ynghylch y ddwy gwyn a gafodd, mae’n ymddangos, eu rhoi o’r neilltu yn rhy gynnar.  

 

 

 

Am y rheswm hwn, penderfynodd y Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cynulliad Cymru gan roddi copi i’r Aelod Cynulliad lleol, yr Aelod Seneddol Lleol a hefyd i Archwiliwr yr Ombwdsmon yn mynegi pryderon y Pwyllgor.

 

 

 

Hefyd bydd y llythyr yn cael ei ryddhau i’r maes cyhoeddus.

 

 

 

Mae’r Pwyllgor yn teimlo bod y ddau benderfyniad wedi tanseilio nodau sefydlog y Pwyllgor Safonau yn Ynys Môn, sef bod yn deg, yn wrthrychol ac yn rhesymol wrth iddo wneud ei benderfyniadau.

 

 

 

Hefyd cred y Pwyllgor nad yw hyn o gymorth i fod yn dryloyw ac yn methu, yn lân, a chynnal ffydd y cyhoedd yn y system bresennol.

 

 

 

Cyn cloi’r cyfarfod soniodd y Cadeirydd mai hwn oedd y cyfarfod diwethaf o’r hen Bwyllgor Safonau a’i bod yn dymuno diolch o waelod calon ar ran aelodau’r Pwyllgor, i holl staff y Cyngor am eu cymorth i’r Pwyllgor a hwnnw wedi’i roddi mewn ffordd broffesiynol a chyfeiriodd yn benodol at y Swyddog Monitro a’i staff yn yr Adran Gyfreithiol a hefyd y Swyddog Pwyllgor diwyd, Jan Adams a staff yr Adain Gyfieithu.

 

 

 

Fel Cadeirydd, roedd yn dymuno diolch yn bersonol i’w chyd-aelodau ar y Pwyllgor am eu cyfraniadau ac am eu cymorth iddi dros y blynyddoedd.  Roedd yn dymuno rhoi sicrwydd i bobl Ynys Môn - ac yn dweud hyn ar ôl bod yn aelod o’r Pwyllgor am gyfnod o naw mlynedd - bod pob un o aelodau’r Pwyllgor wedi trin ei ddyletswyddau’n gydwybodol a hefyd wedi ystyried pob mater yn gwbl wrthrychol ac yn gwbl gydwybodol.  Amcan y Pwyllgor hwn bob amser oedd hyrwyddo democratiaeth gref ac iach ar yr Ynys.  Cyn terfynu dymunodd i’r Pwyllgor Safonau newydd bob llwyddiant yn ei waith.

 

 

 

Mewn ymateb diolchodd y Swyddog Monitro i’r Cadeirydd ac i Aelodau’r Pwyllgor am eu gwaith caled a’u cefnogaeth.  Er efallai nad hwn oedd y prysuraf o’r Pwyllgorau roedd, serch hynny, wedi mynd trwy gyfnodau anodd ac wedi wynebu materion dyrys.  Diolchodd i bob un ohonynt am eu dyfalbarhad a’u hymrwymiad i’r Pwyllgor a diolchodd hefyd am y cyngor ac am y gefnogaeth a roddwyd iddi hi ac i Mr Meirion Jones, Cyfreithiwr y Swyddog Monitro dros y tair blynedd diwethaf.

 

Cadarnhaodd y bydd y Pwyllgor Safonau newydd yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir ar 13 Rhagfyr 2007 ac yn olaf diolchodd i’r Pwyllgor am sefydlu safonau mor uchel fel esiampl ragorol i’r Pwyllgor newydd.

 

 

 

Wedyn dywedodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor wedi dod i ben a diolchodd i bawb am fynychu.

 

 

 

 

 

 

 

DR GWYNETH ROBERTS

 

CADEIRYDD