Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Rhaglen

1. Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

2. Materion brys a ardystiwyd gan y Rheolwr-gyfarwyddwr dros dro neu swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

3. Cofnodion

Cyflwyno i'w cadarnhau a'u llofnodi, gofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2010.
(Papur 'A')

4. Cofnodion er gwybodaeth

Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 6 Medi 2010.
(Papur 'B')

5. Rhagolygon y Gyllideb a pharatoadau ar gyfer 2011-12 (a'r tu draw i hynny)

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid).
(Papur 'C')

6. Adroddiad Monitro Blynyddol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg 2009/10

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Papur 'CH')

7. Cynllun Gwella 2009/10

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Papur 'D')

(Gofynnir yn garedig i'r Aelodau gadw eu copi o'r adroddiad uchod a fydd yn cael sylw yn y cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Ynys MĂ´n ar 28 Hydref 2010)

8. Bwrdd Rhaglen Addysg - Prosiect Cydweithredu

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)
(Papur 'DD')

9. Polisi Adnewyddu Tai Sector Preifat a Strategaeth Cartrefi Gweigion

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol).
(Papur 'E')

10. Neuadd y Dref, Llangefni

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol)
(Papur 'F')

11. Cau allan y wasg a'r cyhoedd

Ystyried mabwysiadu'r isod:-

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Paragraff 7, Atodlen 12A y Ddeddf a'r Profion Budd y Cyhoedd eithriad ohoni”.

12. Archifdy Ynys MĂ´n - Adroddiad Gwaith 3

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)
(Papur 'FF')

(Gofynnir yn garedig i'r Aelodau gadw eu copi o'r adroddiad uchod a fydd yn cael sylw yn y cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Ynys MĂ´n ar 28 Hydref 2010)