Ynglyn

Dydd Llun, 5 o Fedi 2011, 10am.
Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Mae'r cyfarfod yn agor i'r cyhoedd.

Noder: Oherwydd natur rhai o'r dogfennau isod, nid yw pob un yn hollol ddwyieithog nac yn hollol hygyrch i bobl gydag amhariadau gweledol, ac ni fydd modd defnyddio 'darllenwr sgrin' i ddarllen y dogfennau hyn.

Comisiynwyr:

Alex Aldridge
Byron Davies
Margaret Foster
Mick Giannasi
Gareth Jones

Copi er gwybodaeth:

I aelodau'r Cyngor Sir.
Bydd aelod sydd ddim ar y Pwyllgor Gwaith yn cael gwahoddiad i'r cyfarfod i siarad (ond nid i bleidleisio) os ydy o/hi wedi gofyn am gael rhoddi eitem ar y rhaglen dan Reolau Gweithdrefn y Pwyllgor Gwaith. Efallai bydd Bwrdd y Comisiynwyr yn ystyried ceisiadau gan aelodau sydd ddim ar y Pwyllgor Gwaith i siarad ar faterion eraill

Rhaglen

1. Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn
perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

2. Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

3. Cofnodion

Cyflwyno, i'w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd o'r Bwrdd Comisiynwyr a
gynhaliwyd ar :-

4. Cofnodion er gwybodaeth

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfodydd o'r Pwyllgorau isod a gynhaliwydar y dyddiadau a ganlyn:-

5. Adroddiad blynyddol ar reoli'r trysorlys 2010/11

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
(Papur 'D') - Adroddiad wedi'i ohirio.

6. Adroddiad blynyddol drafft 2011/12 gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
(Papur 'DD')

7. Cyllideb 2011/12 - Chwarter 1 - Refeniw

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)
(Papur 'E')

8. Cyllideb 2011/12 - Chwarter 1 - Cyfalaf

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)
(Papur 'F')

9. Cyllideb 2011/12 - Chwarter 1 - Rheoli'r Trysorlys

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid)
(Papur 'FF')

10. Strategaethau Ymgysylltiad Cymunedol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Papur 'G')

11. Strategaethau Adnewyddiad Democratiaeth

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Papur 'NG')

12. Adroddiad monitro perfformiad chwarterol - Chwarter 1 2011-12

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Papur 'H')

13. Cytundebau canlyniadau

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi)
(Papur 'I')

14. Mater a gyfeirwyd yn ôl i'r Bwrdd Comisiynwyr gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - datganiad sefyllfa ar reoli risg

(a) Adrodd bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2011 wedi penderfynu fel a ganlyn:-” cefnogi fersiwn 1 y Strategaeth Ddrafft yn amodol ar ei diwygio er mwyn gwahaniaethu'n glir rhwng gwendidau mewnol a bygythiadau allanol a'i chyflwyno i'r Bwrdd Comisiynwyr wedi hynny”.
(b) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Cyllid) fel y cyflwynwyd ef i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 22 Mehefin, 2011.
(Papur 'L')

15. Newid i'r cyfansoddiad, Mesur Llywodraeth Leol 2011 a chyfethol aelodau lleyg - newidiadau mae angen eu gwneud i'r cyfansoddiad a chymeradwyo'r datganiad cyfrifon.

(a) Adrodd bod y Pwyllgor Archwilio, yn ei gyfarfod ar 25 Gorffennaf 2011, wedi penderfynu fel a ganlyn:-“Derbyn y newidiadau i'r Cyfansoddiad fel y cânt eu nodi yn Atodiad A yr adroddiad, a'u hanfon ymlaen i'r Bwrdd Comisiynwyr gyda'r amod bod y drefn ddirprwyo gyfredol dan 3.4.8.1 (xi) yn weithredol drwy gydol 2011”.
(b) Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid) fel y cyflwynwyd ef i'r Pwyllgor Archwilio ar 25 Gorffennaf, 2011.
(Papur 'LL')

Strategol

16. Mater a gyfeirwyd yn ôl i'r Bwrdd Comisiynwyr gan y Pwyllgor Sgriwtini Amgylcheddol a Gwasanaethau Technegol - adolygu mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael ag yfed dan oed yn Ynys Môn.

Cyflwyno, i'w ystyried, adroddiad terfynol y pwyllgor uchod.
(Papur 'M')

17. Achos busnes ynni adnewyddadwy - Stoc y Cyngor

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Tai)
(Papur 'N')

Gweithredol

18. Unedau adennill gwres - Canolfannau Hamdden

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Addysg a Hamdden)
(Papur 'O')