Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â Chwrs Golff Llangefni a’r Llain Ymarfer ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. Cyfeiriodd yr adroddiad at y sefyllfa bresennol o ran y trefniadau o redeg a rheoli’r Cwrs Golff; roedd yn crynhoi canlyniad ymarfer gwerthuso opsiynau mewn perthynas â dyfodol y Cwrs Golff ac yn nodi’r argymhellion ar gyfer camau gweithredu.
Siaradodd y Cynghorydd Dylan Rees ar y mater fel Aelod Lleol a siaradodd i’r perwyl bod angen i unrhyw gynlluniau ar gyfer yr ardal ystyried anghenion adfywio tref Llangefni.
Penderfynwyd symud ymlaen yn unol ag argymhellion yr adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 21/05/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/05/2018 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: