Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
-
Nodi'r sefyllfa a ddisgrifir yn Atodiadau A a B yr
adroddiad o ran perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro
a ddisgwylir ar gyfer 2020/21.
-
Nodi'r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer
2020/21 y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.
-
Nodi sefyllfa'r rhaglenni buddsoddi i arbed yn
Atodiad CH yr adroddiad.
-
Nodi'r sefyllfa mewn perthynas â'r arbedion
effeithlonrwydd ar gyfer 2020/21 yn Atodiad D yr
adroddiad
-
Nodi monitro costau asiantaethau ac ymgynghori ar
gyfer 2020/21 yn Atodiadau DD, E ac F yr adroddiad.
-
Bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor Gwaith
at Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru i ofyn
am arweiniad ynghylch cynlluniau ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer
llywodraeth leol am y 3 blynedd nesaf er mwyn cynorthwyo cynghorau
i gynllunio’n fwy strategol am y tymor canol.
Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 21/06/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/06/2021 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: