Y sawl sy'n gwneud penderfyniad : Pwyllgor Gwaith
Statws Penderfyniad : Argymhellion wedi cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd –
· Nodi’r prif ddatganiadau ariannol (heb eu harchwilio) ar gyfer 2020/21.
· Nodi’r sefyllfa o ran y balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a chymeradwyo creu’r cronfeydd wrth gefn a nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad yn gwneud cyfanswm o £5,181,646.
· Nodi’r sefyllfa o ran balansau ysgolion.
· Cymeradwyo cynyddu isafswm Balans y Gronfa Gyffredinol i £9m. Adolygir y swm eto wrth osod cyllideb refeniw 2022/23.
· Cymeradwyo creu Cronfeydd Gwasanaeth gwerth cyfanswm o £1.376m yn unol â Thabl 3, Atodiad 1 yr adroddiad.
· Awdurdodi mewn egwyddor, defnyddio hyd at £3.471m (£1.217m o falans y Gronfa Gyffredinol a £2.254m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig nad ymrwymwyd) i gyllido prosiectau penodol sydd wedi’u cynllunio i gwrdd â’r risgiau a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r holl brosiectau newydd cyn iddynt gychwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 12/07/2021
Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/07/2021 - Pwyllgor Gwaith
Dogfennau Cefnogol: